Oes gan gerddorion Cymru dueddiad i’w chwarae hi’n saff er mwyn plesio eraill?

Mae’r drafodaeth am gyflwr beirniadaeth gerddorol yng Nghymru yn parhau, ac mae Elis Derby yn defnyddio ei erthygl gyntaf ar gyfer SaS er mwyn ei dweud hi fel y mae hi am y mater.

Elis Derby.jpg

ELIS DERBY

Heb amheuaeth bu 2017 yn flwyddyn hynod ffrwythlon i gerddoriaeth Gymraeg, o gyweithiau newydd gan rai o’n grwpiau mwyaf adnabyddus (Yws Gwynedd a’r Eira yn enghreifftiau), i’r holl fandiau newydd cyffrous ddaeth i’r amlwg, megis Serol Serol, Pasta Hull, Adwaith, a Gwilym; beth fydd gan 2018 i’w gynnig felly?

Wrth gwrs, wrth greu a rhyddhau cynnyrch, mae ymateb cynulleidfa yn cael ei ystyried o ddifrif gan y mwyafrif o artistiaid – boed ar ffurf ffigyrau gwerthiant, nifer y gwrandawiadau ar safleoedd ffrydio, neu faint y dorf sydd yn mynd i gigs. Does dim modd osgoi beirniadaeth, boed yn bositif neu negatif, ond dwi’n teimlo ar adegau bod gennym dueddiad fel Cymry i ganmol artistiaid am eu gwaith, heb boeni llawer am ei ansawdd, ‘oherwydd ei fod o’n Gymraeg’, a dyma sy’n codi’r cwestiwn; oes rhaid i hyn fod?

Mae’r Gymraeg yn un o ieithoedd hynaf Ewrop ac yn hollbwysig i’n hunaniaeth fel cenedl, felly yn naturiol, mae sicrhau ei pharhad yn flaenoriaeth, e.e. drwy gefnogi mentrau iaith, busnesau Cymraeg lleol, ac wrth gwrs, drwy ei defnyddio o ddydd i ddydd. Mae hi’n ymddangos bod annog a chefnogi artistiaid Cymraeg yn hanfodol i sicrhau ei pharhad. Ydi hi felly yn anfoesol i gyflwyno beirniadaeth negyddol, neu fynd yn erbyn cynnyrch a gyflwynir yn y Gymraeg? Mewn gwlad mor fach gyda diwylliant mor gyfoethog, a ddylsen ni fod yn cefnogi ac edrych allan am ein gilydd yn hytrach ‘na ffeindio esgus i wrthdaro?

O brofiad personol yn perfformio/recordio yn y Gymraeg, rwy’n gallu gwerthfawrogi beirniadaeth, hyd yn oed os yw’n anffafriol. Wedi’r cyfan, mae gan bawb yr hawl i leisio barn, a gall beirniadaeth wael arwain at eich datblygiad fel cerddor, a’ch galluogi i ddysgu o’ch camgymeriadau. Mae gan yr agwedd bod angen cefnogi a chanmol rhywbeth ar y sail ei fod o yn Gymraeg y potensial i fod yn hynod niweidiol i ddiwylliant Cymru, gyda’r cyfryngau yn dueddol o anwybyddu neu hyd yn oed geisio tawelu unrhyw un sy’n lleisio barn sydd yn groes i beth maent eisiau ei glywed. Un enghraifft sydd wedi ei drafod ar y blog yma yn barod yw’r stŵr yn dilyn uwchlwythiad ‘Geith Bryn Fon Fynd i Ffwcio’ i Soundcloud gan Pasta Hull. Roedd yr ymateb yn un cymysg: nifer yn diawlio unrhyw un oedd â’r wyneb i ddweud gair drwg am “Bryn ni”, ac eraill yn ei ystyried fel chwa o awyr iach am beidio’i chwarae hi’n saff drwy greu cynnyrch ‘radio gyfeillgar’.

Wrth edrych ar hanes cerddoriaeth yr ugeinfed ganrif yn gyffredinol, roedd y genres cerddoriaeth sy’n cael eu hystyried erbyn heddiw fel rhai hanfodol i’r holl ddatblygiad, ar y pryd yn mynd yn groes i’r ‘prif lif’. Er enghraifft, roedd caneuon Roc a Rol y 50au ar y pryd yn cael eu gweld yn rhywbeth bygythiol i’r genhedlaeth hŷn, ond yn eithriadol o gyffrous i bobl yn eu harddegau. Roedd hi’n sefyllfa debyg pan ymddangosodd cerddoriaeth punk ynghanol y 70au, ac yn y 90au roedd yna bwysau i ddewis ar ochr pwy yr oeddech chi; Blur ta Oasis?

Gwrthdaro a thrafodaeth o fewn y sin gerddorol sy’n ei gwneud yn ddifyr ac yn iach, gan ei fod o leiaf yn ysbrydoli mwy i gyfrannu, gan achosi esblygiad cyson. Hyd yn oed yng Nghymru, motif band fel Edward H. Dafis oedd bod yn wrthbwynt i’r caneuon acwstig poblogaidd oedd o gwmpas ar y pryd, gan synnu cynulleidfaoedd gyda’u perfformiadau bywiog, eu synau gitar trwm a’u lyrics awgrymog. Ac yn ddiweddarach, ymddangosodd bandiau fel yr Anrhefn i drio ‘topio’ hynny gyda lyrics mwy eithafol. Erbyn hyn wrth gwrs, mae’r ddau fand hwn yn cael eu hystyried fel rhai o fandiau gorau Cymru erioed. Daw enghraifft mwy diweddar o Ŵyl Gwydir 2014 (heddwch i’w llwch): clywed Iwan Fôn o’r Reu yn sgrechian i’r meic yn ystod eu perfformiad, “Pwy sy’n licio Bromas? ACHOS DWI FFOCIN DDIM!”, gan gyfeirio at y band o Gaerfyrddin. Mewn gwlad sydd ar adegau yn ymddangos fel cenedl sy’n gaeth i nostalgia, mi ddylien ni fod yn croesawu syniadau newydd yn hytrach na’u distewi. Gallwch hyd yn oed ei ddehongli fel codi ymwybyddiaeth! Pam bod angen mynd dros ben llestri pan gyflwynir barn sydd yn mynd yn erbyn y graen? Cyn belled â bod artistiaid Cymraeg dal i ryddhau cynnyrch, be di’r otch?