Mae Sôn am Sîn yn dair oed bellach, ac erbyn hyn yn cyhoeddi erthyglau a blogs, yn ogystall â phodlediadau rheolaidd. Chris Roberts a Gethin Griffiths sydd yn gyfrifol am olygu a rhedeg y blog yn gyffredinol dros y tair blynedd, ond erbyn hyn, mae SaS yn llwyddo i berswadio ambell i awdur ifanc arall i gyfrannu.
Mae gan Chris brofiad mewn darlledu radio, drwy ei sioe ar orsaf radio Prifysgol Reading, Junction11, yn ogystal â Mon FM. Cerddor yw Gethin yn bennaf, ac mae’n hoff o ddadansoddi a gwerthuso pob math o gerddoriaeth.
Geeks ydyn nhw- a dim byd arall.
Mae’r ddau yn cynnal pob mathau o weithgareddau sydd yn ymwneud â’r blog hefyd, o weithdai blogio i setiau DJ – cysylltwch yma os oes gennych chi unrhyw ddiddordeb!