SAIN 2018: Los Blancos

GETHIN GRIFFITHS
Sain Sigrid fydd yn nodweddu cerddoriaeth 2018 yn ôl y BBC, ond ar ôl rhoi gwobr i Los Blancos fel band i’w gwylio yn ystod y flwyddyn i ddod, eu sain nhw sydd yn denu sylw SaS!

_61C0273.jpg

Ers y tro cyntaf i ni glywed Los Blancos yn yr Hen Lew Du, Aberystwyth, fis Chwefror diwethaf, roeddem ni’n gwybod yn syth eu bod nhw’n wahanol. Roedd ‘na gymhariaethau cyffrous yn sbarduno ein trafodaeth yn syth.. Radiohead cynnar.. ‘Dy nhw’n fwy punky na hynny? Grunge? Beth bynnag yr oedd o, roedd o’n gwneud rhywbeth i ni…


YR AELODAU

Fel aelod o Y Gwyryf a Tymbal, mae Gwyn Rosser, yn gerddor cyfarwydd i’r dilynwyr mwyaf craff, ac er i Alffa ddatgan yn gyson mai Tymbal yw un o’u prif ddylanwadau nhw fel band, mae Los Blancos yn gyfle iddo gyrraedd clustiau mwy o wrandawyr nac erioed o’r blaen. Mae ei lais, ei leferydd a’r ffordd y mae’n ymestyn ei eiriau’n cynnig ei hun yn berffaith i’r sain slacyr hwn, fydd yn ôl ein gwobrau ni, yn dod i amlygrwydd pellach yn ystod y flwyddyn fawr sydd o’n blaenau.

Mae unig aelod arall Tymbal, Emyr, yn ogystal â Dewi ac Osian, yn ymuno â Gwyn fel pedwar o ffrindiau ers dyddiau ysgol. Er ein bod ni wedi penderfynu eu bod yn creu synau slac, mae yna baradocs yn y ffaith bod eu cyfeillgarwch yn tynnhau’r holl beth, yn dechnegol os nad yn gysyniadol.

_61C0373.jpg


EU CANEUON HYD YN HYN

Unwaith eto, nid yw’r gair slacyr yn rhoi digon o glod i’r pedwar am eu gallu i ysgrifennu ac adeiladu caneuon. Mae ‘na rywbeth ffres am y ffordd y maen nhw’n strwythuro eu caneuon ac yn cuddio’r hooks yn y mannau perffaith ar gyfer chwarae a’n disgwyliadau. Mae pawb wedi bod yn barod iawn i’w cymharu â’r Velvet Underground yn ddiweddar, hefyd, a lle’r ydw i’n deall hynny, mae dylanwad y Velvets yn tueddu i effeithio ar bob band indie o’r math hwn. I mi, mae’r sain yn ffres ac yn gyffrous, ac am fod yn nodweddu 2018, gobeithio.

Mae pedair cân, ar ryw ffurf neu’i gilydd, ar gael i’w clywed ar SoundCloud.

Clarach

Os ydych chi’n ymlacio ar draeth Clarach, ger Aberystwyth, rhywbryd dros yr haf, rhowch y gân yma yn eich clustiau. Hon oedd y gân gyntaf i ni ei chlywed ar record ganddynt, ac mi’r oedd clywed y sain hamddenol yma am y tro cyntaf yn dal dychymyg yn syth. Fodd bynnag, mae ‘na ryw sinigaeth eironig yn perthyn i’r geiriau, sydd yn gwneud i chi feddwl ychydig yn ddyfnach. Mae’n anodd credu mai demo ydy hon!

Mae’n Anodd Deffro Un

Roedd 2017 yn flwyddyn dda am lyrics clyfar, bachog, ac mae hon yn ffitio yn y categori hwnnw yn berffaith. Uchafbwynt y gân, heb os, yw’r linell, ‘Mae’n anodd deffro un sy’n esgus cysgu’. A dweud y gwir, mae’n anodd prosesu’r fath ddatganiad, ac mae’n gwneud i chi ystyried os yw’n golygu rhywbeth o gwbl, ond mae’n adlewyrchu eironi crafog y band yn berffaith. Hon oedd y gân gyntaf i ni ei chlywed ganddynt ar sianel SoundCloud Libertino, ac mae disgrifiad y label o’r band ac o’r gân yn werth i’w ddarllen. 

 

Datgysylltu

Er mai ‘Aros o Gwmpas’ gan Omaloma ennillodd ein gwobr fel cân orau 2017, ac yn gwbl haeddiannol o wobr Selar fis nesaf (gobeithio), hon oedd y gân gafodd y mwyaf o argraff arna’ i yn ystod y flwyddyn. Mae hynny’n ddatganiad mawr i’w ddweud, yn enwedig gan mai ym mis Rhagfyr y bu iddi gael ei uwchlwytho ar SoundCloud, ond mae hon yn gwneud rhywbeth i mi nad ydw i’n gallu ei egluro. Mae ‘na rywbeth am y ffordd y maen nhw’n adeiladu tensiwn anhygoel drwy’r gân, a’r groove llac cyffredinol sydd yn rhedeg drwyddi, yn gwneud hon yn glasur yn barod. Fedra’ i ddim disgwyl clywed hon yn fyw.

 

Chwarter i Dri

Mae ‘na rai sydd eisiau bod yn wahanol, does, ac mae ‘na rai, heb os, am ddweud ‘Well gen i Chwarter i Dri, fy hun’. Byddwch fel ‘na, ‘ta. ‘Dw i’m yn gweld bai arna chi, gan bod yr ochr arall i’r sengl ddwbl yn cynnig rhywbeth gwahanol i Datgysylltu. Mae ‘na naws fwy hwyliog i hon, ac er nad oes geiriau i’r gytgan, mae modd canu hefo hi os ewch chi ar fws heb do o gwmpas y ddinas ac anghofio am eich bywyd a’ch poenau. Fodd bynnag, unwaith eto, mae’r geiriau’n llawer tywyllach na’r disgwyl, ac mae’n apelio at yr athronwyr mwy dwys yn ein plith, yn ogystal â’r indie kid arwynebol.


EU LABEL

Ers sefydlu eu hunain fel Decidedly Records yn ystod misoedd olaf 2016, mae label Libertino wedi datblygu i fod yn label anhygoel o gyffrous. Ers ail sefydlu o dan yr enw newydd, ac ers iddynt arwyddo nifer fawr o artistiaid gwych dros y flwyddyn ddiwethaf, mae eu hagwedd a’u hallbwn wedi creu argraff ar y cyfryngau a’r gynulleidfa fel ei gilydd. Mae’r bartneriaeth rhwng Libertino a Los Blancos yn un perffaith, gan bod y ddau yn cynrychioli meddylfryd eang a blaengar sydd wedi trawsnewid y ffordd y mae rhywun yn meddwl am gerddoriaeth yn y presennol. Mae Los Blancos yn ymuno ag artistiaid fel Adwaith, Argrph a Papur Wal i enwi dim ond rhai, ac mae’n rhaid iddynt ryddhau mwy o bethau ar ffurfiau ehangach na SoundCloud dros y misoedd nesaf i fwy o bobl gael mwynhau eu cynnyrch anhygoel ar raddfa fwy.

Libertino


BETH SYDD I DDOD?

Er bod Datgysylltu a Chwarter i Dri i’w clywed ar SoundCloud yn barod, bydd y band yn ail ryddhau’r sengl ddwbl fel rhan o Ddydd Miwsig Cymru, ar y 9fed o Chwefror eleni. Yna, yn ôl Libertino, bydd yna ddwy sengl i ddod dros yr haf, ac albwm, gobeithio, erbyn diwedd y flwyddyn. Os y daw’r holl gynnyrch yma i gyd allan yn ystod y flwyddyn, does gen i ddim amheuaeth mai sain Los Blancos fydd sain 2018.

Los Blancos.jpg

Lluniau o Los Blancos gan The Shoot

Os ydych chi yn ardal Caerdydd ac eisiau profi sain 2018 yn fyw, ewch i Glwb Ifor bach nos Iau yma! Bydd Los Blancos yn rhannu llwyfan â Breichiau Hir, Y Sybs a DJ Break My Heel.

Adolygiad: Gig Band Pres Llareggub, Omaloma a Ffracas yn Neuadd Ogwen, 27/12/17

GETHIN GRIFFITHS

Band Pres Llareggub.jpg

Llun gan Fand Pres Llareggub

Rhwng y Nadolig a’r flwyddyn newydd, mae’r byd yn stopio. Dydy o ddim, wrth gwrs, ond mae o. Mi wnes i ddisgwyl ychydig cyn ysgrifennu adolygiad i wneud yn siŵr nad oeddwn i’n dioddef o’r syndrom sydd yn dod yn sgil y cyfnod trachwantus yma. Ond, ydy hynny’n beth da? Wedi’r cyfan, cynhaliwyd y gig yn fwriadol i ffitio yn y cyd destun hwnnw. Mae’n debyg mai’r hyn y buaswn i wedi ei ysgrifennu y diwrnod wedyn oedd ‘WAAAAW CLASS, ‘DOLIG, WOOO’, tra’n paratoi gwydraid o brosecco ar gyfer y bore wedyn. Fuasai hynny ddim yn ddiddorol i unrhyw un, am wn i. Felly, ydy, mae werth gadael pethau am ychydig. Am wn i.


Un peth y galla’ i ei ddatgan gyda sicrwydd yw mai Neuadd Ogwen yw’r lleoliad gorau, yn nhermau’r berthynas rhwng y sain, yr ystafell a’r ymdeimlad cyffredinol o amgylch y lle, i gynnal gig yng Ngwynedd. Mae hanes cerddorol cyfoethog Bethesda a chymeriad y gymuned yn sicr yn ychwanegu at yr holl beth yn yr isymwybod, ond mae’n ffitio’n berffaith yn y canol rhwng gig ‘mawr’ a gig ‘agos’, os yw hynny’n gwneud unrhyw synnwyr o gwbl.

Roedd dau allan o dri o’r artistiaid yn rai oedd yn chwarae yn y gig yn Pontio ym mis Hydref, sef Ffracas ac Omaloma, ac o gofio’r hyn yr oeddwn yn ei deimlo am eu perfformiadau nhw bryd hynny, roedd y penderfyniad o’u cyfuno nhw â Band Pres Llareggub yn teimlo’n un od o flaen llaw. A dweud y gwir, o ran ymdeimlad, egni a chysondeb, mi’r ydw i dal yn teimlo felly, ‘dw i’n meddwl.


Mae ‘na rywbeth diddorol iawn am Ffracas. Er nad oedd eu EP diwethaf, Maer nos yn glos ond mae ffos rhyngtha ni, yn cynnwys yr un ymdeimlad amrwd a chyffrous â’r EP cyntaf a wnaed ganddynt flwyddyn ynghynt, maent yn parhau i ddal fy sylw, diolch i’w hagwedd a’u hedrychiad ar y llwyfan. Gallwch ddyfalu pwy yw’r brêns, pwy yw’r un mwyaf hyderus, pwy yw’r cerddor gorau, a gallwch gael trafodaeth ddiddorol am y berthynas y maen nhw’n ei harddangos wrth chwarae’n fyw. Mae’n gwbl amlwg eu bod nhw wedi arfer gweithio â’i gilydd yn aml, drwy ymarfer neu drwy gigio, er eu bod nhw’n dal i fod mor ifanc. Mae hynny’n dangos, ac roedd eu perfformiad nhw mor dynn unwaith eto. Chefais i erioed mo’r fraint o weld Ffa Coffi Pawb yn chwarae’n fyw ym Methesda, gan fy mod i’n rhy ifanc o lawer, ond mi gefais i ddychmygu fy mod i wedi gwneud hynny am dri chwarter awr, diolch i Ffracas.


Omaloma, Omaloma, Omaloma. Y ffenomen a ddaeth o nunlle, ond eto’n ffenomen sydd yn ddiolch i ddatblygiad graddol George Amor fel cerddor ers dyddiau Sen Segur. Roedd pawb yn ymwybodol nad oedd George, fel ei gyd-Seguryddion sydd bellach wedi ffurfio grwpiau eraill, yn gerddor arferol o bell ffordd, ond feddyliodd ‘na neb, erioed, bod yna ‘Aros o Gwmpas’ rownd y gornel. Ac felly, yn naturiol, roedd dyfodiad Omaloma fel band byw yn un hir ddisgwyliedig. Mae’r grŵp yn cynnwys rhai o’r cerddorion gorau all Cymru ei gynnig, does dim dadlau yn erbyn hynny, ac maen nhw’n tried and tested erbyn hyn. Ond, i mi, ‘dw i’n credu bod yr anthemau arallfydol yma’n gofyn am berfformiadau sydd ychydig yn fwy corfforol ‘na’r hyn y maen nhw’n ei gynnig. Mae popeth ychydig yn rhy debyg i’r traciau ar y radio, ac o edrych ar berfformiadau Mac DeMarco o ganeuon eithaf tebyg, ‘dw i’n gweld lle i fwy o arbrofi’n theatrig hefo’r holl beth. ‘Dw i’n deall apêl shoegaze, a pan mae’n effeithiol, mae’n effeithiol, ond alla’ i ddim helpu meddwl bod ‘Ha Ha Haf’ a ‘Cŵl ac yn Rad’ yn cynnwys digon o bop pur i ofyn am fwy o gysylltiad rhwng y gynulleidfa a’r artist. Mi’r oedd y set yn berffaith, ond doedd ‘na ddim digon o gyffro i mi yn perthyn iddo fo. Drwy gigio’n gyson, mewn lleoliadau amrywiol, ‘dw i’n gobeithio y bydd hynny’n rhywbeth y bydd y pedwar yn gweithio arno fo yn y dyfodol.

Rhaid cofio, fodd bynnag, nad oedd yr artist olaf i ymddangos ar y llwyfan yn lawer o help i berfformiad Omaloma. Mewn gig ‘chydig mwy quirky, mi fuaswn i wedi bod yn hapusach fy myd o lawer hefo hynny, ond mi’r oeddwn i mor ymwybodol o’r chwistrelliad o egni ac adrenalin oedd o fy mlaen. Wrth adolygu eu halbwm newydd ar gyfer y Selar a Radio Cymru yn ddiweddar, mi oeddwn i’n feirniadol o’r ffaith nad oedd y recordiadau’n cyrraedd uchelfannau eu perfformiadau byw, a heb os nac oni bai, dim ond cefnogi fy natganiad wnaeth perfformiad Band Pres Llareggub fel headliners. Nid gallu firtwosig y cerddorion sydd yn sefyll allan yn unig, ond eu gallu i gynnal egni a brwdfrydedd am amser hir drwy greu sioe weledol anhygoel yn ogystal ag un clywedol. A dweud y gwir, does dim angen lleisydd arnyn nhw gan eu bod nhw’n medru cyfleu alawon rhai o’n hoff ganeuon mor gelfydd. Ond, wedi dweud hynny, ni chafwyd siom wrth i Alys Williams eu hymuno nhw… a doedd neb yn disgwyl iddi ganu ‘You Got the Love’. Pwy feiddia fod yn Candi Staton? Pwy feiddia fod yn Florence? Alys wnaeth, ac Alys lwyddodd. Ar ôl hit ar ôl hit, cover ar ôl cover, mewn set oedd yn llifo mor wych nad ydw i’n cofio’r gerddoriaeth yn stopio rhwng bob cân, beth ar wyneb y ddaear oedd y tu ôl i’r penderfyniad i chwarae Thrift Shop?! Ond, mi’r oedd hi’n ‘Ddolig, a fi oedd ffan mwyaf Macklemore am bum munud. (Mi ‘naethon nw ryddhau llwythi o falŵns enfawr i mewn i’r gynulleidfa ‘fyd.. a mi nesh i gyrraedd un, unwaith. O’dd hynny jest yn wych.) Es i Fangor wedyn i chwilio am glwb i gario ‘mlaen. Doedd ‘na nunlle yn ‘gorad. Ond mi achosodd Band Pres Llareggub i fi golli fy ngallu i resymu am un noson ym mis Rhagfyr.

Pwy a ŵyr be’ fuaswn i’n ei feddwl o’r un gig mewn unrhyw fis arall o’r flwyddyn, ond a’ i ddim i feddwl am hynny rwan. Only got twenty dollars in my pocket

Welodd ‘na neb 2017 yn dod… ac oes modd rhagweld 2018?

GETHIN GRIFFITHS

‘Da ni’n siarad mewn seiniau. Space Pop. Slacker Rock. ‘Da ni’n siarad am Gaerfyrddin, am Llanrwst, am Gaerdydd. ‘Da ni’n sôn am Libertino. ‘Da ni’n sôn am Neb, ond yn sôn am bawb, yn cynnwys merched. ‘Da ni’n sôn am Aros o Gwmpas, heb aros yn ein hunfan. ‘Da ni’n sôn am ddyfodol Ffarout, yn nwylo Los Blancos, Cadno a Hyll. ‘Da ni’n sôn am sîn sydd yn adnewyddu ei hun, Adwaith ar ôl Adwaith. ‘Da ni’n sôn am Ani Glass. Class. ‘Da ni’n sôn am y Pasta, y Pys a’r Papur, yr Alffa a’r Omaloma. Does neb yn ein rheoli ni, a ni sydd yn gyfrifol am ein ffawd ein hunain. Chwalu bob dim. Smash ‘em. Mae unrhyw beth yn bosib. Mi allwch chi wneud deg sigarét bara’ am byth, hyd yn oed. Mae’r allt, hir, serth, a’r pwysau trwm yn eich dwylo yn Hen Hanes, ac mae egni newydd, gobeithiol 2017 yn barod i’w orfodi ei hun ar gynfas wag 2018. Achw met.


Welodd ‘na neb 2017 yn dod. Heblaw am isymwybod Gruff Libertino, efallai. Mae popeth yn teimlo’n ffres, a’r peth gorau am yr holl beth yw’r ffaith nad yw’r gorau y tu ôl i ni. Mae mwy i ddod gan y don newydd o artistiaid sydd yn brwydro’n galed i fod yn gyfoes ac yn gyfredol, ac yn gwrthod setlo ar hen soffa gyfarwydd SRG y blynyddoedd a fu. Lle awn ni rwan, ar ôl cyrraedd y ‘brig’? Newid y ‘brig’, dyna be’. Dydy popeth ddim yn berffaith ac yn bur, ac mae dylanwadau artistiaid fel Tame Impala a Mac DeMarco mor amlwg â theulu o bengwins yn y Sahara, ond ‘da ni’n mynd i rywle. Efallai fy mod i wedi cyffroi’n ormodol am ambell artist, ond dyna sy’n wych. Mae artistiaid yn chwilio am eich emosiynau chi ac yn barod i’ch tywys ar daith, nid yn barod i gyfeilio eich taith flynyddol i gae’r Eisteddfod. Lle awn ni rwan? Dim syniad. Mae angen mwy o gigs, mae angen mwy o gyfleoedd i glywed y cyffro a sbardunodd y newid yn 2017 yn fyw o’n blaenau. Mae angen mwy o albyms, mae angen mwy o back catalogue i sbio’n ôl mewn pum mlynedd. Dw i isio barnu pumed albwm Los Blancos am fod yn rhy poppy yn 2025. Dw i isio canmol Adwaith am gofleidio hip hop yn eu pedwerydd albwm. Dw i isio clywed albwm back to basics Yr Eira, dw i isio clywed Fleur De Lys yn troi pennau’r beirniaid mwyaf llym ar ôl rhyddhau eu seithfed albwm gysyniadol. Dw i isio gweld pethau’n Datblygu ac yn adnewyddu cyn chwalu. Dw i isio casau, dw i isio gwironi.


‘Dw i wedi ceisio gorfodi rhyw naratif ar y flwyddyn, fel ymateb, ac fel gwrthwyneb i’r hyn a fu, ac efallai nad ydych yn cytuno. Efallai eich bod yn meddwl bod 2017 wedi bod yn flwyddyn ‘ddiddorol’, ac yn flwyddyn o ambell diwn. Gwych, cawn adael 2017 yn y fan a’r lle. Ond i mi, mi fuaswn i wrth fy modd yn meddwl  ein bod ni wedi dechrau rhywbeth pwysig a chyffrous, a mewn gwirionedd, os mae ‘na ddigon o bobl yn barod i wthio’r naratif hwn ac yn barod i brofi hyn yn wir, dyma’n union wnaiff ddigwydd. Dim amheuaeth. ‘Alla i ddim meddwl am 2017 heb feddwl am y dyfodol. Ym mhob ffordd, mi o’n i’n caru, casau a theimlo dim byd am 2017.

Efo be? Efo chips.


Yn ôl yr arfer, bydd Chris yn ceisio ateb cwestiynau Geth ac yn rhagweld beth fydd yn digwydd yn 2018 yn fuan… Beth ydych chi’n ei feddwl??

Gwobrau SaS 2017!


Gyda blwyddyn arall wedi mynd heibio, mae’n amser dilyn trywydd traddodiadol a gwobrwyo ein hoff bethau o 2017. Cafwyd nifer o senglau ac EPs gan fandiau newydd a chyffrous, tra’r oedd rhai o’r artistiaid mwyaf profiadol yn rhyddhau albyms gwych. ‘Doedd pob penderfyniad ddim yn hawdd o bell ffordd, a gallwch wylio Chris a Geth yn dadlau trafod y categorïau draw ar ein tudalen Facebook ni.


Dyma ni! Enillwyr Gwobrau SaS 2017:

Albwm y Flwyddyn: Toddi gan Yr Eira

Lyric y Flwyddyn: “Mae gen i ddeg sigaret i bara am byth os da chi’n credu mewn hud a lletwith” o Efrog Newydd Efrog Newydd gan Hyll

Cover y Flwyddyn: Ar Draws y Gofod Pell gan Yucatan (fersiwn o Across The Universe gan The Beatles)

Digwyddiad Byw y Flwyddyn: Gig FEMME yn Y Parrot Caerfyrddin gyda Ani Glass, Adwaith a Chroma

Band i’w Gwylio yn 2018: Los Blancos

Arwr y Flwyddyn: Labeli bychan Cymru!

Record Fer y Flwyddyn: Hyll gan Hyll

Cân y Flwyddyn: Aros o Gwmpas gan Omaloma

Artist y Flwyddyn: Adwaith

Pedwar i’w Gwylio – Nadolig 2017

CHRIS ROBERTS

4ig dolig.jpg

Gyda’r diwrnod mawr drosodd am flwyddyn arall, mae hi’n bryd i ni ddechrau meddwl am sut i lenwi’r amser yn y bit bach od ‘na rhwng ‘Dolig a’r flwyddyn newydd. Ar hyd a lled Cymru wsos yma ma ‘na lwythi o gigs gwych yn digwydd i’n diddanu. Dyma bedwar o fy mhigion i!


Y Reu, Alffa, Gwilym

Clwb Cymdeithasol Llanberis 28.12.17 19:00

Oce, ella mod i ‘chydig bach yn biased efo hon, ond dwi wir yn meddwl y bydd hi’n noson wych. Mae Y Reu yn un o fandiau byw mwyaf trydanol y sîn ar hyn o bryd ac ma’ hon yn gyfle eithaf prin i’w gweld nhw yn chwarae. Alffa enillodd Brwydr y Bandiau Maes B ‘leni ac fel pob band da ma’r deuawd blws-roc yn gwella gyda phob gig. Band diweddaraf label Côsh ydi Gwilym ac mae hon yn gyfle da i gael cip ar y band newydd. Hefyd, mi fydda i a Geth yn sbinio tiwns rhwng y bandia – mi fydd o’n wych!


Omaloma, Phalcons, Lastigband, Serol Serol, Bitw

Clwb Llanrwst 28.12.17 19:00

Space pop oedd y gair ar wefusau pob ffan o gerddoriaeth Gymraeg yn 2017, a dyma gyfle i weld rhai o’r bandiau sydd ar flaen y gad yn y maes hwnnw. ‘Aros o Gwmpas‘ ydi’r gân sydd wedi dod a Omaloma i sylw’r genedl eleni, ond nid one hit wonder mohonynt o bell ffordd. Byddwch yn barod am set llawn o bop perffaith. Un o fy hoff ganeuon i o 2017 ydi ‘Idle Ways‘ gan Phalcons, ac i ddweud y gwir, dydw i ddim yn gwybod rhyw lawer amdanynt. Maen nhw’n ymddangos i fod yn ychydig o supergroup felly dwi’n siŵr y byddan nhw werth eu gweld. Fel y ddau sydd yn chwarae ar eu hôl nhw, band arall o lwch Sen Segur ydi Lastigband. Mae eu roc arbrofol fel y clywir ar eu EP, Torpido am wneud set ddiddorol. Prin yw’r cyfleoedd wedi bod i weld Serol Serol ers ymddangosiad y band dros yr haf felly pam ddim manteisio ar y siawns i’w gweld nhw’n chwarae ar dir cartref? Yr artist a atgyfododd Clwb Senglau Sain, Bitw fydd yn agor y noson. Lein-yp enfawr yn Llanrwst, 5 band am £10! Bargen os fuodd yno un erioed!


Ffug, Hyll, Los Blancos

Y Parrot, Caerfyrddin 29.12.17 19:30

Oes mai space pop fydd yn cynhyrfu Llanrwst, pync-roc fydd sŵn Caerfyrddin nos Wener. Ffug ydi prif fand y noson ac mae’u cyfuniad o gerddoriaeth felodig a geiriau craff Iolo James bob amser yn gwneud set gofiadwy. Cyfuniad tebyg ydi apêl Hyll, mae eu EP nhw yn un o uchafbwyntiau cerddorol y flwyddyn ac yn werth ei weld yn fyw. Los Blancos fydd yn agor y noson, dwi heb stopio gwrando ar eu sengl ddwbl ddiweddar Datgysylltu/Chwarter i Dri ers iddo ddod allan, mae’r band yn addo bod mwy i ddod yn 2018 felly bydd hon yn gyfle da i’w gweld nhw cyn y bydd pawb arall yn siarad amdanynt!


Yr Eira, Fleur De Lys, Cpt.Smith

Canolfan Hermon, 29.12.17 20:00

Ma’ na rhywbeth bach i bawb ar y lein-yp yma yn Hermon. Yn cloi blwyddyn arbennig iddynt ar ôl rhyddhau eu albym cyntaf bydd Yr Eira yn camu i’r llwyfan gyda’r sŵn indie enfawr maent wedi bod yn ei berffeithio dros y ha’. Mae Fleur De Lys yn cynnig caneuon pop bachog a digon o showmanship gan eu prif leisydd Rhys Edwards. Bydd pync-roc Cpt Smith yn agor y noson, ac yn siŵr o wneud i galonnau a meddyliau Sir Benfro rasio!


Dipyn o ddewis yma i chi felly, a llawer mwy yn digwydd ar hyd y wlad hefyd. Os nad ydych chi yn gallu ffeindio rwbath ‘da chi isio’i weld yna dwi’m yn rhy siŵr pam eich bod chi’n darllen hwn, i fod yn onest!

 

Ydym ni wedi anghofio am yr opera roc orau a gafodd ei hysgrifennu erioed?

GETHIN GRIFFITHS

Er bod sianel Ffarout wedi hwyluso pethau wrth edrych am gerddoriaeth Gymraeg o’r amser a fu, mae’n amlwg bod yna ambell berl yn parhau i fod yn cuddio o dan y rwbel. Ar ôl iddi gael ei darganfod yn gynharach eleni, bydd rhaglen Huw Stephens yn darlledu opera roc ar Radio Cymru am y tro cyntaf ers 1982, ac nid opera roc arferol mohoni.

Nia Ben Aur

Un o brif ffurfiau cerddorol y genhedlaeth honno o fandiau cenedlaetholgar a gododd yn ystod y saithdegau oedd yr ‘opera roc’, oedd yn gyfle gwych i gyfuno hen chwedlau Cymraeg â cherddoriaeth roc gwerinol ei naws, ac mae’r cyfuniad hwnnw wedi dod yn chwedlonol ei hun erbyn hyn. Drwy ail ymweld â hen straeon y Cymry, a’u cyfuno â gweledigaeth gerddorol newydd, roedd modd ail ystyried yr hyn yr oedd cenedlaetholdeb yn ei olygu i genhedlaeth newydd o Gymry ifanc.  Fodd bynnag, mae un opera roc, na chlywyd ers 35 o flynyddoedd, wedi cael ei darganfod eleni mewn archif, ac nid yw’n opera roc arferol, o gwbl. Y tro hwn, nid yw’r neges genedlaetholgar mor glir, ac mae’n ymddangos mai dyfodoliaeth Islwyn Ffowc Elis ac Owain Owain oedd y prif ddylanwad y tu ôl i’r opera hon. Fel Gwenno flynyddoedd cyn Gwenno, a Back to the Future 2 cyn Back to the Future 2, mae’n anodd credu bod GADEWAIST, rhywsut, wedi syrthio drwy fysedd haneswyr diwylliannol Cymru.

Rydym wedi clywed droeon am Endaf Emlyn a’i allu blaengar i ysgrifennu campweithiau fel Melltith ar y Nyth. Ond, ydym ni’n trafod Elfed Saunders Jones ar yr un anadl? Yr ateb, wrth gwrs, yw nac ydym. Fodd bynnag, mae Elfed yn sicr yn haeddu llawer mwy o glod. Efallai bod ambell ran o GADEWAIST yn swnio’n union fel cerddoriaeth Edward H. a bandiau’r degawd a fu, ond ambell dro, mae’r defnydd celfydd o dechnoleg y cyfnod, a synau syntheseisiedig, yn rhagflaenu’r sain amlwg hwnnw ddaeth i nodweddu’r wythdegau. Efallai mai dyma’n union pam na dderbyniwyd yr opera fel y bu i’r genedl dderbyn Nia Ben Aur a Melltith ar y Nyth.

Efallai nad oedd Cymru’n barod am neges yr opera, ‘chwaith. Ceir yma hanes Deiniol, mathemategydd o Brifysgol Bangor, a’i deithiau drwy amser. Er mwyn newid ffawd y genedl, mae Deiniol yn mynd yn ôl i 1282 i achub Llywelyn Ein Llyw Olaf rhag cael ei ladd. Wedi iddo ddychwelyd i’r fersiwn newydd o 1982, y mae Deiniol yn sylweddoli nad oedd y dyfodol yr hyn yr oedd yn ei ddisgwyl, o gwbl. Ni chafodd Cymru ei threchu, ac felly crëwyd ymerodraeth Gymraeg, Cymru Fawr, sef y wlad mwyaf pwerus yn y byd. Ar ôl sylweddoli bod yr hen 1982 yn well na’r hyn a greodd drwy newid cwrs hanes, mae’n rhaid iddo fynd yn ôl i ddadwneud ei gamgymeriad.

Os oes gennych chi unrhyw ddiddordeb mewn hanes cerddoriaeth Gymraeg, mae’n rhaid i chi glywed hon. Mae’n bosib mynd mor bell â honni, efallai, mai dyma oedd yr opera roc orau i gael ei chyfansoddi erioed yn yr iaith Gymraeg. Ac o hyn ymlaen, oes modd i ni wneud yn siŵr nad yw’r darnau anhygoel hyn o gelfyddyd byth yn mynd yn angof?

Bydd rhaglen Huw Stephens yn darlledu’r opera roc yn ei chyfanrwydd nos Iau yma rhwng 7 a 10. Gwrandewch yn fyw, neu yma ar iPlayer.

O Na! Mai’n Ddolig Eto – Ydy caneuon Nadoligaidd yn hapus, go iawn?

GETHIN GRIFFITHS

Hanner Pei

Mae ‘na rai yn honni nad oes yna ddigon o feirniadu’n digwydd rhwng cloriau Y Selar. Beth bynnag ddywedwch chi, mae adolygiad Gwilym ‘Herod’ Dwyfor o gân Nadolig Glain Rhys yn y rhifyn diwethaf yn brathu’r cig oddi ar y twrci ac yn ei boeri’n ôl i’r ceirw. Yn gwbl ddi-flewyn-ar-dafod, mae Gwilym yn penderfynu gwneud yr union beth sydd ddim yn digwydd yn ddigon aml mewn beirniadaeth o ganeuon Cymraeg, sef cymryd rôl gwbl hunanol ac unigolyddol a dweud ‘Dydw i ddim yn hoffi hwn’, ‘Dydy hon ddim ar fy nghyfer i’. Efallai bod y frawddeg ar y diwedd sydd yn sôn am lwyddiant tebygol y gân ar y radio yn dangos nad yw ei gydwybod yn gwbl glir, ond yn sicr dyma ni gam i’r cyfeiriad cywir. Beth sydd ei angen rwan ydi rhywun sydd yn caru’r gân i ysgrifennu un arall a chwalu Ebeneser Dwyfor yn racs.

Fodd bynnag, ydi Glain Rhys yn stwffio’r twrci â’r stwffin anghywir gyda ‘Adre dros ‘Dolig’? Ydy ei thaith i fyny’r A470 i fwynhau holl clichés yr Ŵyl yn rhy gyfleus ac yn rhy hapus i wneud cân Nadolig dda? Boed eich bod yn grefyddol neu beidio, mae pobl wedi chwilio am esgus i anghofio am galedwch y gaeaf a diwrnodau byrraf y flwyddyn ers erioed. Mae pobl yn gwneud ati i fod yn hapus, i fwyta ac i yfed gwerth eu pwysau eu hunain o fwyd a diod, er mwyn creu ymdeimlad ffantasïol o ddathlu. Nid yw’n syndod, felly, nad caneuon arferol y flwyddyn sydd yn cael eu chwarae yr adeg yma, ond caneuon Nadoligaidd glam rock â’u cytganau enfawr. Ond wrth fwynhau’r caneuon hyn tra’n gwenu a dawnsio’n braf, ydym ni’n anwybyddu gwir emosiwn yr anthemau hyn?

Sylwch ar rai o’r ffefrynnau… Beth am ‘Last Christmas’? Cân am rywun sydd wedi ymddiried mewn rhywun sydd wedi eu gadael nhw i lawr, siawns? W – festive. Er mai dim ond ‘ti’ mae Mariah Carey eisiau dros y Nadolig, mae’n swnio’n debyg iawn na fyddi ‘di’ yno iddi hi y Nadolig hwn. ‘I Wish it Could Be Christmas Every Day’ medd Wizzard – yr hyn a gaiff ei amlygu yma yw’r ffaith NAD ydy hi’n ‘Ddolig bob dydd. Dymunwn. Dydy’r Waitresses ddim yn swnio fel eu bod nhw’n mwynhau’r holl lapio ‘na ‘chwaith.

Beth am y gân y mae Glain Rhys yn ddyledus iddi, ‘Driving Home for Christmas’?. Er y gerddoriaeth lounge-aidd, mae Chris Rea yn sownd o’i goryn i’w sawdl mewn tagfeydd (ddim hanner mor catchy â ‘top to toe in tailbacks’), ac yn gorfod canu iddo’i hun i achub ei hun rhag road rage. Mae Glain yn cyfeirio ei hun at ‘Blue Christmas’, Elvis Presley. Dydi Elvis ddim yn swnio’n rhy hapus i fi. Ble mae dechrau hefo ‘Fairytale of New York’? Chwerw-felys, ta be’? Does ‘na ddim llawer o ddathlu’n digwydd wrth i’r Pogues a Kirsty MacColl daflu geiriau dadleuol ar ei gilydd am bedwar munud a hanner.

Dydy Frizbee ddim yn dal eu hunain yn ôl wrth ddatgan ‘O Na! Mai’n Ddolig Eto’, chwaith. Rhaid oedd i Hanner Pei wenwyno eu hunain gyda top shelf cyfan yn ‘Nadolig Alcoholig’. Mae’r Bandana, hyd yn oed, yn lladd Siôn Corn.

Er yr holl ganeuon trist sydd wedi eu gorchuddio mewn mins peis a chaws, mae yna ambell eithriad, wrth gwrs. Does ‘na’m llawer o falais yn cuddio wrth i Slade a Shaky ddymuno Nadolig Llawen, nac wrth i Cliff Richard odli ‘Wine’ hefo ‘Rhyme’. Eironi. Does ‘na ddim llawer o dristwch yn perthyn i lawer o ganeuon ysgafn y traddodiad Americanaidd, chwaith, gyda ‘White Christmas’, ‘Winter Wonderland’ a ‘Santa Claus is Coming To Town’ yn cyflwyno breuddwydion Nadoligaidd, Disney-aidd i glustiau cenedl ifanc oedd yn byw’r freuddwyd ffug o ddydd i ddydd. Efallai, fodd bynnag, bod eironi yn perthyn i’r rhain, hyd yn oed, gan ein bod yn gwybod mai ffantasi siwgrllyd yw’r cyfan. Efallai bod Nadolig Gwilym Dwyfor yn rhy debyg i Nadolig Glain Rhys iddo ddarganfod rhywbeth newydd yn y gân?

Mae hyn yn profi, felly, bod angen ychydig o edge i gân Nadolig chwedlonol o dda, sydd yn gwneud yn siŵr bod y Scrooges sych, yn ogystal â’r rhai ohonom sydd yn cerdded i lawr y stryd fawr â het santa, siwmper â golau arni, yn bwyta mins peis, yn cael ein cyffroi ganddi. Dydw i ddim am frysio i awgrymu ein bod ni angen mwy o ganeuon Nadoligaidd ‘chwaith…

Traciau Amgen Criw SaS!

Ar ôl yr holl drafod am gerddoriaeth amgen, mae’n bryd i gyfranwyr Sôn am Sîn roi eu pennau ar y bloc a phleidleisio ar gyfer Siart Amgen Rhys Mwyn. Nid yw’n syndod eu bod i gyd wedi mynd ar drywydd gwbl wahanol i’w gilydd…

Y Cyrff.jpg

Y Cyrff oedd enillwyr y llynedd, gyda’u hanthem amrwd ‘Anwybyddwch Ni‘ (Llun: BBC).


Aled Huw Russell

OSHH – Hen Hanesion

Dwi’n caru’r gân yma gan bod dylanwad fy hoff fand Cymraeg yn treiddio drwyddi. Gallaf glywed y tebygrwydd rhwng Hen Hanesion a chân fel ‘Cau Dy Lygaid’ gan Yr Ods, cân arafach y mae Osian yn ei harwain, tra bod Griff Lynch yn tueddu tuag at ddylanwadau mwy synth-pop. Mae awyrgylch chwedlaidd Big Leaves i’w deimlo yn y gân, ond er hyn, mae’r alawon synth yr ydym ni’n eu cysylltu hefo’r Ods yn amlwg i’w clywed.


Bethany Celyn

Gwenno – Chwyldro

Lle mae dechrau sôn am Gwenno? Ymestynna ei dylanwad tu hwnt i Gymru gyda nifer yn gwirioni ar yr hyn mae hi wedi cyflawni. A be mae Gwenno Saunders wedi cyflawni, gofynnwch chi? Mae hi wedi creu soundscape unigryw ei hun, bron fel byd cerddorol arall lle y gallai herio patriarchaeth a thraddodiad a myfyrio sut brofiad yw byw o fewn cymdeithas leiafrifol. A theimlwn wefr y campwaith hwn ar ei ucha’ yn Chwyldro, cȃn gyffrous sy’n sicr yn haeddu ei lle ar siart amgen.


Chris Roberts

FFUG – Llosgwch y Ty i Lawr

Fe wnaeth Ffug (neu Y Ffug fel yr oeddent yn galw eu hunain bryd hynny) gorddi’r dyfroedd cryn dipyn wedi iddynt ennill Brwydr y Bandiau C2 yn 2013. Tra bod eu beirniadaeth o’r gymdeithas Gymraeg yn Cariad Dosbarth Canol Cymru wedi denu’r penawdau, Llosgwch y tŷ i Lawr ydi’r gân sydd yn sefyll allan i mi ar yr EP Cofiwch Dryweryn. Maent yn sianelu ysbryd punk rock bandiau fel y Clash wrth i’r gerddoriaeth upbeat, poppy wrthgyferbynnu yn llwyr gyda chyfarwyddiadau tywyll y prif leisydd. Clywir hefyd rwystredigaeth Iolo hefo’r disgwyliadau uchel sydd yn cael ei roi arno – “cofiwch wneud pob peth sy’n dda a dim byd anghywir.” Fel gweddill yr EP, dwi’n teimlo fod Llosgwch y Tŷ i Lawr yn dal yn berffaith y cyfnod anodd o drio ffurfio hunaniaeth eich hun yn eich arddegau wrth sylweddoli na allwch chi blesio pawb. Mae’n hawdd anghofio gymaint oedd yr Cofiwch Dryweryn yn sefyll allan ar y pryd o ran yr hyn oedd gan y band i’w ddweud – fe agorodd Ffug y drws i lawer o fandiau’r sîn heddiw fel Hyll a Adwaith i allu canu yn ddi-flewyn-ar-dafod. Mae’r gân hon yn un o’n caneuon amgen gorau gan ei bod hi’n llawn agwedd, ddim yn cymryd ei hun ormod o ddifri, ac wedi cael effaith wirioneddol ar y sîn yng Nghymru.


Elan Grug Muse

Anweledig – 6.5.99

Dwi’n rhy ifanc i gofio y bleidlais dros ddatganoli, a sefydlu’r senedd, ac eto mae’r state-of-the-union, llif yr ymwybod yma wastad yn gneud i fi aros a gwrando. Mae hi’n bryfoclyd a gonest, yn anesmwytho ac yn herio. I fi, mae hi’n dal rhywfaint o’r cymhlethdod, rhwystredigaeth a’r gwrthddeud hynny sydd ynghlwm â bod yn Gymro neu Gymraes.


Elin Wyn Erfyl

Adwaith – Lipstick Coch

Mae Adwaith yn arbennig. Ers gweld nhw’n perfformio yn un o nosweithiau Twrw yn Clwb Ifor Bach dwi’n hooked. Dyma fand ifanc ac unigryw gyda cherddoriaeth llond Ohrwurms a geiriau clyfar – fedrai’m disgwyl iddyn nhw ryddhau mwy.


Gethin Griffiths

Tynal Tywyll – Y Bywyd Braf

Mae’r ymdeimlad o nostalgia yn un od. Yn enwedig pan nad ydy o’n eich tywys chi i rywle penodol yn eich hanes. Fel milenydd (os oes yna ffasiwn air), mae pellafion fy nghof yn ymestyn i droad y mileniwm, ac am ryw reswm, mae meddwl am y cyfnod hwnnw’n gwneud i mi deimlo’n reit od. Y darlun erchyll hwnnw o Blair a’r frenhines yn croesi eu dwylo ar nos galan, llinynnau oesol John Barry yn cael eu bastardeiddio gan Robbie Williams, a chyfnod newydd o obaith ffug.

Yn fwy penodol a mwy cerddorol na hynny, un offeryn sydd yn fy atgoffa o’r cyfnod hwn yw’r piano. Nid baledi cawslyd na solos jazzy hir, chwaith, ond stabs cordiol dros gerddoriaeth ddawns. Unwaith eto, wrth gwrs, roedd cerddoriaeth House, a cherddoriaeth Piano House yn benodol, yn perthyn i hanner cyntaf a chanol y nawdegau, efallai, sydd yn ychwanegu at yr ymdeimlad hwn o ‘nostalgia ffug’ heb un ‘amser penodol’. Wel, mae’r gân hon yn dod o 1992 – cyn i mi gael fy ngeni, felly mae’n rhaid iddo fo fod yn ffug! Y gân, yw ‘Y Bywyd Braf’ gan Tynal Tywyll, er ei bod hi’n rhoi nod go amlwg i’r Happy Mondays.

I unrhyw un arall, mae’r uchod yn swnio fel nonsens llwyr. Ond dyma all cerddoriaeth amgen wneud weithiau… Gan nad yw ‘Bywyd Braf’ yn cael ei chwarae hyd syrffed gan y byd a’i gi, mae modd iddi olygu rhywbeth personol i mi, na chaiff fyth ei ddifetha gan wrandawyr carioci y 40 mawr.


Rhys Dafis

Los Blancos – Clarach

Gallen i fod wedi dewis cân gan rywun fel Ffa Coffi Pawb, Jarman, Datblygu neu hyd yn oed Meic Stevens, ond gan taw ‘nghwyn mwyaf i am y ‘40 Mawr’ yw bod nhw’n ailadrodd yr un hen crap flwyddyn ar ôl blwyddyn yn hytrach na cherddoriaeth gan fandie ifanc, bydde hynny ychydig yn rhagrithiol. Felly dwi wedi penderfynu mynd am gân gan un o fandie newydd mwya cyffrous y sîn ar y funud, sef Clarach gan Los Blancos, cynnyrch diweddara indie production line Caerfyrddin. Maen nhw wedi bod yn y stiwdio yn ddiweddar a dwi’n edrych mlaen yn arw i glywed y stwff newydd.

Dwi’n hoffi’r sengl newydd, ‘Mae’n Anodd Deffro Un’, ond fy hoff gân i heb os yw ‘Clarach’. Mae hi’n gân digon syml, ond mae ganddi gytgan ffantastig a geirie gwych. Dwi’n methu helpu ei chymharu hi ychydig gyda ‘Far Rockaway’ gan Iwan Llwyd yn y ffordd mae hi’n creu darlun ffantasïol o rywle sydd mewn gwirionedd yn ychydig o dwll. Ac am hynny’n unig, mae’n haeddu lle ar y siart.


Marged Gwenllian

Anelog – Melynllyn

Mae’r gân i gyd yn llifo’n ddiymdrech, ac mai’n llwyddo i fy ngwneud i’n hollol ymlaciedig bob tro. Mae’r gitârs a’r lleisiau meddal yn plethu’n wych, a’r “www”s yn freuddwydiol a hyfryd. Mae hi’n datblygu rhywfaint wrth fynd ymlaen, drwy ehangu ar y riffs yn lle’r ailadrodd hamddenol a geir ar y cychwyn, ond ddim yn ormodol chwaith nes ei bod hi’n mynd yn rhy brysur a byrlymus. Maen nhw hefyd yn cyflwyno mwy o offerynnau electronig wrth fynd ymlaen sy’n rhoi sŵn gwahanol a newydd i’r gân, ac mae’n sicr yn gweithio. Nid yw’r offerynnau’n tynnu sylw fel synau anarferol o gwbl, oni bai dy fod ti’n gwrando allan amdanynt yn y cefndir. Mae’n bosib nad ydy’r clashes yn harmoni’r “www”s yn cael eu llwyr werthfawrogi tan y’i ceir nhw’n acapella ar y diwedd, ac mae’r rheiny’n hyfryd ar y diwedd yn coroni cân wych.


Miriam Elin Jones

Llwybr Llaethog ac Ifor ap Glyn – Fydd y Chwyldro Ddim ar y Teledu, Gyfaill

Does yna’r un siart amgen yn gyflawn heb brenhinoedd amgen y sin gerddorol Gymraeg, sef Llwybr Llaethog. Dewisais hon am ei bod yn addasiad Cymreig o feirniadaeth Gil Scott-Heron o’n byd materol ac am ei bod yn dy gicio’n galed yn dy gylla dosbarth canol gyda sass yn diferu o berfformiad spoken word Ifor ap Glyn.


Owain Williams

Hyll – Efrog Newydd, Efrog Newydd

Yn ffres ar gyfer Haf 2017, oedd EP y band roc amrwd a chyfoes o’r ddinas fawr, Hyll. Er bod sawl cân wedi fy nharo’n syth, y tiwn ‘Efrog Newydd, Efrog Newydd’ sy’n sefyll allan fwyaf. Mae’r arddull yn fy atgoffa o The Strokes neu’r Libertines, ac mae’r alaw fachog a chofiadwy yn ei gwneud hi’n anodd osgoi chwibanu’r tiwn ar ôl y gwrandawiad cyntaf.  ‘Dw i’n gefnogwr mawr o’r cyfuniad clyfar rhwng y naws hafaidd, cynnes, a’r geiriau treiddgar a gobeithiol. Mae’r geiriau hynny, i mi, yn cyfleu’r thema o ddianc, ac mae’r llinell ‘Dwi ‘di deud o’r blaen does dim byd yn digwydd, ysmygu trwy’r dydd yn siarad am y tywydd’ yn sicr yn dal sylw. Gobeithio bod albwm ar y gorwel gan y dinasyddion.


Ydych chi’n cytuno? Ydy’ch hoff gân amgen chi wedi cael ei hanwybyddu? Cofiwch adael i ni wybod isod, a chofiwch adael i griw rhaglen Recordiau Rhys Mwyn wybod drwy ebostio rhysmwyn@bbc.co.uk.

Y Sôn #3: Ma’ hon yn garreg filltir bersonol i ni…

Cofiwch danysgrifio i’n ffrwd ar iTunes!

Coeliwch neu beidio, rydym ni wedi recordio trydydd pennod Y Sôn! Y tro hwn bydd Chris a Geth yn trafod cerddoriaeth amgen a thraciau agoriadol albyms, yn ogystal â’r dadansoddiadau arferol o’r cynnyrch diweddaraf!

Chwiliwch allan am fwy nac un podlediad gwahanol ym mis Rhagfyr!


Dyma restr chwarae Spotify o’r caneuon a drafodwyd yn ystod y podlediad:

Er mwyn tanysgrifio i’n podlediadau, dilynwch y cyfarwyddiadau yma