Trac y Dydd #28 – Petula gan Hanner Pei

Rydw i’n hoff iawn o gyfuno cerddoriaeth a chomedi erioed. Mae pawb yn gwybod mai cyfrinach jôc dda yw’r amseru – onid oes modd dweud yr un peth am gerddoriaeth? Os ydych chi’n meddwl am y peth, mae’r modd y mae cerddoriaeth yn gosod ac yn adeiladu disgwyliadau, gan eu chwalu’n llwyr wedyn, yn debyg iawn i strwythur jôc a’r punchline.

Meddyliwch am limrig. Nid yw limrig yn gwbl effeithiol os nad yw rhythmau’r llinellau yn iawn, ac os nad yw’r geiriau’n syrthio i’w lle yn naturiol, nid yw’r punchline yn effeithiol, a dydy’ chi ddim yn chwerthin.

Mae gan Hanner Pei y gallu i greu caneuon doniol, stand-upaidd, sydd yn codi gwên. Cymysgwch yr hiwmor hwn ag arddulliau fel ffync, ska, ac yn yr achos hwn, jazz bossa nova ei naws, a cewch yma adloniant pur.

Wrth gwrs, mae hiwmor sych, gritty, Caerdydd y nawdegau yn bresennol, ac rwy’n siŵr y bydd ambell atgof yn llifo yn ôl i’ch côf, chwi gyn-fyfyrwyr y ddinas, wrth glywed llais nodweddiadol Matthew Glyn yn canu am Petula – sydd â chorff fatha bildar.

Ond falle fod hi’n hyll.. ond fydd y plant lot gwell.

Trac y Dydd #27 – Mor Ddrwg â Hynny gan Cowbois Rhos Botwnnog

CHRIS ROBERTS

COWBOIS.png

O’r holl fandiau gwych yn y SRG ar hyn o bryd, Cowbois Rhos Botwnnog yw’r un o’r rhaid sydd a’r lyrics mwyaf barddonol. Mae geiriau Iwan Huws yn hiraethus. Maent gyda naws hen ffasiwn iddynt fatha bod y canwr o oes wahanol, ond, eto, mae yno dal rhyw elfen sydd yn ei gysylltu hefo’r dydd presennol.  Mae ganddo ddoethineb amdano, fel person sydd yn hên cyn ei amser, ond nid y chwaith yn out of touch. Dyna sydd yn fy ngyrru i nôl at gerddoriaeth Cowbois eto ac eto.

Mae albwm diweddara’ y band, IV yn eu gweld nhw’n arbrofi hefo’u sŵn ychydig gan gyflwyno ystod ehangach o offerynnau yn eu caneuon. Mae’n braf gweld band yn gwthio eu ffiniau ychydig a trio gwneud rhywbeth gwahanol ond uchafbwynt yr albwm i mi ydi Mor Ddrwg â Hynny, cân sydd yn debycach i’r sŵn rydym ni wedi arfer ei glywed gan y band. Mae neges gryf yma am y byd modern. Cymdeithas lle rydym ni’n cau’r byd allan ac yn teimlo’n annobeithiol am y problemau mawr a ddim yn gwybod lle i ddechrau trio eu datrys. Rydym yn aml yn ei gweld hi’n haws cysuro ein hunain hefo pleserau syml  “mae’r byd lawr y lôn ond mae’r teledu’n y gwely”. Ond, nid beirniadaeth o gymdeithas sydd yma ond cyfaddefiant y gall y canwr, fel ni gyd, wneud mwy. Dwi’n teimlo rhywstredigaeth y canwr ac mae’r offerynau yn atgyfnerthu’r teimlad yn berffaith.  Cân i wneud ni feddwl yw ein Trac y Dydd heddiw.

Trac y Dydd #26 – Yn Harbwr San Francisco gan Gwyneth Glyn


Mae hi’n hwyr ar nos Lun a does dim ond llais sydd yn addas i’ch paratoi at ddydd Mawrth – Gwyneth Glyn.

Mae J Glynne Davies yn gyfrifol am rai o’n clasuron mwyaf enwog – Fflat Huw Puw yn enghraifft cymwys iawn. Roedd yn ysgrifennu geiriau i hen alawon, ac yn creu priodas berffaith rhyngddynt. Efallai nad yw Harbwr San Francisco yn un o’r rhai mwyaf enwog, ond mae’n sicr yn un o’r hyfrytaf.

Mae gan Gwyneth Glyn allu i ganu set byw ar ei phen ei hun, gan wneud i dri chwarter awr deimlo fel munud. Dwi’n cofio clywed y gân hon yn fyw am y tro cyntaf mewn rhyw ‘Steddfod ne’i gilydd a trio cofio am amser maith be odd hi. Pan nes i ddod ar ei thraws ar albwm ‘Codi Angor’ – teyrnged i J Glynne, heddiw, doedd gen i ddim dewis ond ei phenodi’n drac y dydd #26.

Trac y Dydd #25 – How to recognise a work of art gan Meilyr Jones

CHRIS ROBERTS

meilyr_jones_jan16

Mae Trac y Dydd heddiw yn dod oddi ar 2013 gan Meilyr Jones, enillydd y Welsh Music Prize eleni.  Mae’r wobr yn gwbl haeddianol. Mae 2013 yn gampwaith hollol epig, gyda’r sŵn cerddorfaol cyfoethog yn gowbrwyo’r rheini sydd yn mynd yn ôl i’r albwm i wrando tro ar ôl tro.

Cafodd 2013 ei ysbrydoli gan yr amser a dreuliodd Meilyr yn Rhufain ar ôl i Race Horses ddod i ben. Mae’n amlwg bod ystod eang o ddylanwadau ar yr albwm gyda cyfeiriadaeth di-ri  tuag at bob math o gerddoriaeth pop a clasurol drwyddi draw sydd yn ei gnweud hi’n dipyn o helfa drysor i geeks cerddorol. Dim rhyfedd felly iddo gael adolygiadau cadarnhaol o lefydd megis The Guardian a Clash. Nid yw hyn yn golygu ei bod hi’n albwm anodd o bell ffordd ac mae digon i gael eich dannedd mewn iddo yn syth bin!

Un o’r caneuon mwyaf poplyd ar yr albwm ydi’r gân agoridadol ‘How to Recognise a Work of Art’. Mae’r gân yn eich tynnu chi mewn o’r cychwyn wrth iddo gyflwyno ei hun mewn llais pwysig gyda acen received pronunciation. Mae llawer o’r adolygiadau yn cymharu sŵn y gân yma hefo Dexy’s Midnight Runners ar eu gorau, dipyn o ganmoliaeth! Mae’r gerddoriaeth yn eniwedig sŵn y prês yn llawn hwyl ac yn sicr o rhoi gwen ar wyneb unrhyw un.

Ond, wrth wrando yn astud ar y geiriau mae Meilyr yn amwlg i weld mewn trafferth yma.  Mae’r lyrics yn sôn am y frwydr i fod yn authentic yn y byd sydd ohoni ac hefyd pa môr barod ydi eraill i drio tywllo!  Mae’r themau o fame culture a celf sydd yn boblogaidd heddiw ond ddim hefo gwerth hir dymor (Here today gone tomorrow) yn rhai sydd yn codi dro ar ôl tro yn yr albwm ac mae Meilyr Jones yn cyfrannu at y sgwrs ehangach rydym ni fel diwylliant yn ei gael ar hyn o bryd am natur celf.  Mae dyfnder amlwg yn yn 2013 yn gerddorol ac yn y geiriau.

Mae cyfle i weld Meilyr Jones yn fyw yn y dyfodol agos! Mae’r holl dyddiadau i’w gweld ar ei wefan  ond yn Ngymru mae’n perfformio yn Pontio ar y 10fed o Ragfyr ac yn Caerdydd ar yr 8fed o Fawrth! Dwi wedi bod yn torri bol i weld sut mae’r albwm yn gweddu’n fyw ers ei chlywed am y tro cyntaf ar gychwyn y flwyddyn, gobeithio na gai fy siomi!

 

Trac y Dydd #24 – Chwarae dy Gêm gan Anweledig

GETHIN GRIFFITHS

anweledig

Yn ystod ymarferion sioe ieuenctid Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012, Sbri!, oedd y tro cyntaf i mi glywed y gân hon gan Anweledig. A minnau’n gyfarwyddwr cerdd ar drydydd sioe y gyfres, Sbri! 3, mae’r gân hon yn addas i mi ei gwneud yn drac y dydd rhif 24.

O’r cord major seventh cyntaf, mae’n mynd â fi yn ôl i’r cyfnod hwnnw o ddysgu llinellau fy nghymeriad yn y sioe, yn ogystal â cheisio adolygu at fy arholiadau Lefel A. Ar un llaw, roedd yn gyfnod o bwysau mawr ar ein hysgwyddau ni i gyd, ond eto, mae ‘na rywbeth melys am y cyfnod y buaswn i’n hoffi ei gael yn ôl, rywsut. Mae caneuon yn medru gwneud hynny i chi, yn dydy? Mae’n mynd â fi yn ôl i gyfnod penodol, ac nid y gân a’i thestun sy’n gwneud hynny, ond yr ystyr newydd yr ydym, fel gwrandawyr, yn rhoi iddi. Mae’r modd yr ydym ni’n derbyn ac yn ystyried caneuon mor hanfodol â’r gân ei hun, a dyma sydd yn sicrhau bod cerddoriaeth, neu unrhyw gelfyddyd, yn ran holl bwysig o’n bywydau ni i gyd.

Mae’r geiriau mor ymosodol, mor anifeilaidd, ac mae’r synnwyr o rwystredigaeth i’w deimlo wrth i un ‘edrych i fyw llygaid’ y llall, a’i gyhuddo/ei chyhuddo o ystyried teimladau’r cymeriad fel rhywbeth i chwarae â hwy. Mae’r holl ddarluniau a grëir drwy’r gân yn fyw, ac yn hawdd i’w dychmygu.

Yn ogystal â hynny, mae’r gwrthgyferbyniad cryf rhwng ysgafnder ffwrdd-â-hi y bennill, sydd bron yn jazz o ran ei naws, ac ymosodiad cadarn y gytgan heintus, sydd yn bloeddio ‘Ti’n licio chwara’ dy gem!’. Yn sicr, mae’r mwyafrif ohonom yn adnabod Anweledig am eu caneuon ysgafn, reggae neu ska-aidd, ‘Pawb yn deud bo hi’n bwrw glaw’, a.y.y.b. Ond, dyma yw’r gân, i mi, sydd yn dangos gwir ddyfnder a sylwedd y grŵp ar ei orau.

Diolchwch i fi wedyn.

Trac y Dydd #23 – Lliwiau gan 9bach

CHRIS ROBERTS

9bach-1024x1024-400x400

Mae 9bach yn fand arbennig. Mae’r ffordd y maent yn plethu traddodiad gwerin Cymru hefo dylanwadau eraill o ar draws y byd, traddodiadol a modern yn unigryw.  Mae llwyddiant y band wedi eu caniatau i deithio y byd i chwarae eu cerddoriaeth, mae hyn wedyn wedi caniatau iddynt brofi diwyllianau eraill sydd yn dylanwadu ar eu cerddoriaeth.

Daeth llwyddiant mwyaf y band hyd yma yn y Radio 2 Folk Awards yn 2015 pan ddaru eu ail albwm Tincian ennill y wobr am yr albwm orau, a gafodd y band berfformio i gloi’r seremoni yn Nghaerdydd. Trac y Dydd heddiw, Lliwiau yw’r gân agoriadol ar yr albwm yma. Cân am rhoi genedigaeth i’w phlentyn yw Lliwiau, mae Lisa Jên wedi disgrifio’r profiad fel un pleserus, arallfydol ac mae’n disgrifio’r holl beth mewn manylder yn y gân.  Tra fod llais Lisa Jên yn ganolbwynt i’r gân mae’r offerynau eraill yn gwneud rhythmau diddorol, anghyfarwydd ac ymlaciol yn y cefndir.  I ryw raddau efallai bod yn bosib dweud nad yw’r gerddoriaeth yn arwain i unrhyw le, ddim yn cyraedd ei uchafbwynt, ond tydi hynny ddim yn ddrwg o beth, mae Lliwiau yn gân intriguing sydd yn gadael y grandawr yn eisiau clywed mwy, lwcus felly bod albym cyfan i’w fwynhau!

Trac y Dydd #22 – Pan Ddaw Yfory gan Bando

GETHIN GRIFFITHS

img_0551

Yn rhagair cyfrol Hefin Wyn, Ble Wyt Ti Rhwng?, dywed yr Athro Pwyll ap Siôn nad oedd wedi meddwl y buasai cerddoriaeth gymhleth, soffistigedig, yn gallu bodoli drwy gyfrwng y Gymraeg – tan iddo glywed Bando. Nid sylw uchel ael mo hynny, chwaith, ond teyrnged i allu anhygoel Bando, fel grŵp o gerddorion galluog, i greu cerddoriaeth â chymhlethdod yn bodoli ynddi.

Nid oedd bywyd Bando yn hawdd, o bell ffordd, gan nad oeddent yn ffitio’r mowld rhywsut. Erbyn eu cyfnod hwy, ar droad degawd yr wythdegau, roedd ‘na unigolion a grwpiau yn dyfod o du ôl i’r mwg, o’r ddinas fawr. Y broblem fawr oedd nad oedd y grwpiau ‘dinesig’ hyn yn cyd-fynd â’r feddylfryd wledig iwtopaidd a ddyfeiswyd gan fudiadau fel Adfer, ac roedd anghydweld rhwng dilynwyr pybyr y mudiad a’r rhai oedd yn dadlau bod modd i’r dinasoedd fod mor ‘Gymreig’ â chefn gwlad. Yn ychwanegol i hynny, roedd grwpiau’r ddinas, yn aml, yn cynnwys cerddorion di-Gymraeg, ac roedd hynny’n ddieflig, wrth gwrs.

Mae’r gwahaniaeth hwn i’w glywed yn y gerddoriaeth ei hun. Nid blŵs 12-bar ailadroddus sydd yma, nid atsain o roc-a-rôl y pumdegau na chaneuon gwerin wedi eu ‘moderneiddio’, ond rhywbeth agosach at Steely Dan a’u harmonïau estynedig a’u cordiau annisgwyl. Roedd gallu y cerddorion hyn, sydd yn fwy o gerddorion ‘sesiwn’ na cherddorion amaturaidd, ysgol-uwchraidd ambell i grŵp yn y cyfnod, yn galluogi iddynt wneud hynny. Nid unawd gitâr gwbl ar-hap â llond amp o distortion a geir gan Myfyr Isaac, ond yn hytrach, ceir yma unawd firtiwosig a chynnil, gyda phob nodyn yn dod o ryw raddfa na chlywir yn aml y tu allan i’r ysgolion cerdd a’r clybiau jazz.

Ond does ‘na ddim pwynt medru chwarae gitâr i safon byd-eang, na gallu creu gweadau cerddorol diddorol heb allu i ysgrifennu cân dda. Dyma yw cryfder ‘Pan Ddaw Yfory’, fel nifer o ganeuon Bando. Mae gan Caryl Parry Jones y gallu i gyfansoddi cân gwbl syml i’w chanu a’i chofio, sydd hefyd â seiliau mwy cymhleth o chordiau a harmonïau. Mae’r modd y mae’r gân (er iddi gael ei newid i’r cyweirnod mwyaf o’r cyweirnod lleiaf) yn gweithio mor dda yn arddull Yws Gwynedd hefyd yn brawf o hyn.

Baled epig o rhyw sioe radio o’r Mid-West yn America yw ‘Pan Ddaw Yfory’, ac mae hynny’n blydi grêt.

Trac y Dydd #21 – Disgyn Amdanat Ti gan Catrin Herbert

CHRIS ROBERTS

herbertx

Ar ddiwrnod oer a gwlyb mae Trac y Dydd heddiw ‘Disgyn Amdanat Ti’ gan Catrin Herbert fel cwtch cerddorol. Er mai dim ond pum mlynedd sydd wedi pasio ers rhyddhau’r EP ‘Y Gwir. Y Gau a Phopeth Rhwng y Ddau’ mae’n barod yn swnio o’i chyfnod. Mae estheteg un merch, gitâr a homemade backing track yn nodweddiadol o’r adeg pan mai MySpace oedd y lle i fynd i ffeindio’ch hoff artist newydd. Efallai bod y gân yn swnio gymaint o’i chyfnod i fi hefyd gan bod y lyrics yn cyfleu’r teimlad o gael crush yn eich harddegau cynnar yn berffaith.  Weithiau mae’n neis gallu meddwl yn ôl at yr adeg pan mai’r unig beth oedd yn eich poeni chi oedd bod Sara ddim yn sbio arno chi ddwywaith yn y cantîn a bod Lois ddim yn ateb eich negeseuon MSN!  Mae’r gân yma fel y fersiwn cerddorol o comfort food i mi, union be’ sydd ei angen ar ddiwrnod fel heddiw!

Gyda’r holl ail-adrodd a’r la la la’s heintus mae Disgyn Amdanat Ti yn gân hawdd iawn i wrando arni ac i gael yn sownd yn eich pen. Mae’n rhaid i mi gyfaddef mai un rheswm i mi ddewis hon fel Trac y Dydd heddiw ydi gan fy mod i wedi ei chlywed ar y radio bore ‘ma a rwan dwi methu anghofio amdani. Ymddiheuriadau mawr os ydi’r ‘run peth yn digwydd i chi!

 

Trac y Dydd #20 – Sylvia gan Georgia Ruth

georgia-ruth

Yn aml iawn, yn y car fydda i pan fydda i’n gallu gwrando ar gerddoriaeth yn iawn. Dyma lle’r oeddwn i pan glywais i y fersiwn hon o glasur Meic Stevens. Roeddwn i’n gwybod mai cân Meic oedd hi, ac yn adnabod llais Georgia Ruth yn syth, ond doeddwn i ddim yn barod am yr hyn oeddwn i am ei glywed am y pum munud nesaf. Mae picio cyson ar y gitâr drydan yn sŵn mor nodedig erbyn hyn, diolch i Iwan Huws a Cowbois Rhos Botwnnog, ac mae eu trefniannau a’u offerynniaeth ysgafn hwy yn gyfeiliant hyfryd i unrhyw gân. Ond, am ryw reswm, mae rhywbeth am Sylvia sydd yn cynnig ei hun yn berffaith i ymdriniaeth Georgia o’i chaneuon.

Mae’r gytgan yn cyrraedd rhyw uchafbwynt od, sensual, ar y geiriau ‘fel diferyn o ddŵr’, ac mae hynny’n ran o gyfrinach Meic Stevens, heb os. Mewn nifer o’i ganeuon, mae ei benillion geiriog yn gwneud lle i gytgan hollol syml, effeithiol ac i’r pwynt. Beth am Victor Parker? Pa mor syml ydi ‘Gwin a mwg a merched drwg, o ie, o ie, o ie?’. Mae wedi perffeithio’r balans rhwng eglurder y bennill a symlder y gytgan, yn sicr. Pwy well i amlygu hyn na Georgia Ruth? Ydi, mae ‘diferyn o ddŵr’ yn rhoi ias wrth i Meic ei ganu, ond am ryw reswm, mae llais unionsyth, gwerinol, di-ffws Georgia yn mynd â’r uchafbwynt hwn i uchelfannau eraill.

Roeddwn i wrthi yn harmoneiddio fel dyn gwirion wrth glywed y gân am y tro cyntaf ac yn eithaf gutted nad oedd na unrhyw harmonïau ar y trac ei hun, er mwyn i mi gyflawni’r harmonïau mwy cymhleth. Roeddwn i’n teimlo hyn, yn enwedig, yn y gytgan olaf pan mae Georgia ei hun yn ‘harmoneiddio’ heb yr alaw. Ond, wedi meddwl, mae rhywbeth gwbl hudol am un llais yn traethu, yn enwedig y llais unigol hwn.

Mae’r trac wedi ei gynnwys ar albwm ddiweddaraf Georgia, Fossil Scale (2016). Mae’n sefyll allan gan mai dyma’r unig drac Cymraeg, ac yn wrthgyferbyniad cryf â chaneuon mwy egnïol ac arbrofol fel ‘Fossil Scale’. Prynwch – ond peidiwch â disgwyl Week of Pines rhif 2!

Trac y Dydd #19 Isho bod yn rhywun gan Cofi Bach a Tew Shady

CHRIS ROBERTS

img_0551

Mae’n teimlo fel bod Mr Phormula ar ben ei hun y dyddiau yma yn chwifio’r faner ar gyfer hip-hop Cymraeg. Ond nid felly y mae hi wedi bod erioed, roedd hip-hop Cymraeg yn ei anterth yn y noughties ac roedd Cofi bach a Tew Shady yn nghanol y bwrlwm.

Mae cerddoriaeth y ddeuawd yma o Gaernarfon yn llwyddo i gyfleu bywyd yn y dre’ yn ffantastig. Mae’u geiriau nhw yn gritty ar adegau ond tydyn nhw byth yn gor-ddeud eu rhwystrau ac mae bob tro’n dda gweld cerddorion sydd ddim yn ofn cymryd siot tuag at y sefydliad. Hiwmor y cofi sydd yn serennu yn llawer o’u caneuon, tydi Cofi Bach ddim yn cymryd ei hun yn rhy o ddifri a does ganddi ddim ffiltr o gwbwl. Mae’u caneuon yn adlewyrchu sgyrsiau bob dydd Caernarfon. Tydi Cofi Bach heb newid ei iaith er mwyn cyrraedd cynulleidfa, mae’r ffaith ei bod hi’n defnyddio iaith bob dydd pobl Caernarfon yn ychwanegu haen o onestrwydd i’r caneuon.

Mae ‘Isho Bod yn Rhywun’ yn cyfleu pob un o’r elfennau sydd yn gwneud Cofi Bach a Tew Shady mor wych. Mae Cofi Bach yn cychwyn drwy rapio am ei phroblemau iechyd meddwl cyn mynd ymlaen i egluro ei phroblem hefo cymdeithas. Tydi hi ddim yn ffitio mewn hefo’r rheini mae hi’n ei weld yn dewis peidio gweithio i gael pres dôl ond mae’r snobs hefyd yn ei chorddi hi. Drwy hyn i gyd mae hi’n ddi-flewyn ar dafod, crude, a hynod o ddoniol! Mae cymaint yn cael ei ysgrifennu yn ddiweddar am y rhaniadau yn ein cymdeithas. Mae’n amlwg fod Cofi Bach wedi gweld hyn yn Nghaernarfon blynyddoedd ynghhynt.

Mae’r gerddoriaeth hefyd yn arbennig, y cynhyrchu minimalistig yn amlwg yn cymryd dylanwad o’r sîn hip-hop draw yn America ond hefyd yn fy atgoffa i ychydig o Datblygu. Mae hip-hop wedi bod yn genre macho iawn ar draws y byd felly mae’n braf fod merch wedi arwain y gad yn y sîn yn Nghymru. Mae’n bechod nad ydi Cofi Bach a Tew Shady yn actif bellach, bysa’n diddorol gweld sut y buasent yn ymateb i 2016 a sut mae’u persepectif nhw wedi newid dros amser.