Trac y Dydd #38 – Dawel yw y Dydd gan Panda Fight

GETHIN GRIFFITHSPanda Fight DYYD.jpg

Dwi’n cofio dreifio adre’ o rhywle ar ryw noswaith ym Mis Ionawr, a chlywed ‘Dagrau’n Llifo’, trac offerynnol gan Panda Fight, ar y radio. Heb edrych ar y radio na’r amser, mi fuaswn i wedi medru dyfalu fy mod yn gwrando ar Radio 1, ond gan mai i Radio Cymru y mae’r radio’n dueddol o diwnio ei hun iddo, mi nes i gymryd mai ein sianel genedlaethol oedd ymlaen. Hyd yn oed wedyn, mi fuasai’r electronica seicadelig, bachog, wedi cymryd ei le ymysg trysorau amgen Rhys Mwyn, darganfyddiadau byd-eang Georgia Ruth, cerddoriaeth newydd Lisa Gwilym, neu ran o arlwy gyfredol Huw Stephens.

Mae ‘na rywbeth nostalgic am gerddoriaeth Panda Fight, sy’n fy atgoffa o Grand Theft Auto: Vice City, ac yn gwneud i mi fynd yn ôl i fy arddegau. Wedi dweud hynny, mae ‘na rywbeth cyfredol yn perthyn iddo hefyd, ac mi fuaswn i’n dychmygu y buasai’n apelio at unrhyw wrandawr, waeth beth fo’i pherthynas/berthynas â cherddoriaeth electronig.

Mae ‘Tonnau’, yr unig drac offerynnol arall sydd ar gael i’w glywed ar y we, yn greadur eitha’ tebyg i ‘Dagrau’n Llifo’, ac yn fy atgoffa ychydig o synau albwm Alun Gaffey, hoff albwm SaS o 2016.

Er tynnu ein sylw gyda cherddoriaeth offerynnol, mae Panda Fight wedi penderfynu ychwanegu llais at eu trac diweddara’, ‘Dawel yw y Dydd’ a ryddhawyd dros y penwythnos. Gan fy mod i’n ffan mor fawr o’u pop electronig di-iaith, roeddwn i ychydig yn bryderus am y ffaith eu bod nhw’n gwneud y newid hwn. Wedi dweud hynny, mae llais Sara Davies yn un â photensial enfawr, a buasai unrhyw gynhyrchydd electronig yn falch o gael adnodd o’r fath. Mae’n debyg eich bod wedi gweld fideos ar y wê ohoni’n canu – ‘dwi’m yn synnu os y gwelwn ni hi ar lwyfannau theatrau Llundain yn y dyfodol.

Mae cyffro arferol y traciau offerynnol i’w glywed yn y cynhyrchu, ond roeddwn i wedi disgwyl llawer mwy o brosesu ar y llais er mwyn dod â’r berthynas rhwng y ddau yn agosach – rhywbeth mae cynhyrchwyr fel Ifan Dafydd wedi ei feistrioli wrth ddefnyddio campau lleisiol Alys Williams. Mae hynny i ddod, fodd bynnag, a ‘dw i’n edrych ymlaen i glywed sut y bydd y berthynas sonig honno yn datblygu dros y misoedd nesaf.

Un peth ‘dw i’n hoffi am Panda Fight yw’r ymdrech ‘maen nhw’n ei wneud er mwyn denu sylw i’w cerddoriaeth. Mae’n bwysig bod artist newydd yn sylweddoli eu bod nhw’n newydd – hyd yn oed yn ein sîn roc ni yma yng Nghymru. ‘Dw i’n teimlo weithiau bod ambell i fand yn mynd yn rhy gyfforddus yn rhy sydyn, ac efallai ddim yn fodlon mynd cam ymhellach er mwyn denu mwy o sylw a gweithio’n galed er mwyn cyflawni hynny. Mae hynny yn ei hun wedi creu cryn argraff ar bobl, ‘dw i’n meddwl – ac mae cyflwynwyr Radio Cymru, Rhys Mwyn ac Elan Evans, i enwi dim ond dau, wedi cymryd sylw o hynny, heb sôn am y gerddoriaeth ei hun.

Dyma i chi artist sydd â’r gallu i gyfrannu at noson o gerddoriaeth electronig, yn ogystal â gig confensiynol, ac mae hynny yn ei hun yn gamp.

Trac y Dydd #37 – Yma Wyf Finna i Fod gan Geraint Lovgreen

GETHIN GRIFFITHS

Fel cyfarwyddwr cerdd Sbri! 3, ‘dw i am gymryd y cyfle yma i roi plyg munud ola’ i’r sioe! Bydd y glasur hon gan Geraint Løvgreen a Mei Mac yn ymddangos yn y sioe, law yn llaw ag amrywiaeth eang o ganeuon poblogaidd eraill. Mi f’aswn i’n d’eud hyn, ond mae’r criw yn wirioneddol anhygoel – gwerth llawer mwy na £8 am docyn, coeliwch chi fi!! Mae’n achlysur chwerw-felys yn sicr, gan mai dyma’r bennod olaf yn y drioleg, sydd erbyn hyn yn bedair oed, coeliwch neu beidio.

Mae ‘na ychydig o docynnau ar ôl yma – yn sicr, yr £8 gorau wnewch chi ei wario cyn y Nadolig!

Trac y Dydd #36 – Sgrîn gan Yws Gwynedd

GETHIN GRIFFITHS


Mae enwebiadau Gwobrau’r Selar 2016 (a fydd yn digwydd ym mis Ionawr 2017) bellach wedi eu rhyddhau ac mae’r broses o bleidleisio wedi agor. Un o’r categorïau mwyaf diddorol eleni, i mi, yw ‘Fideo Gorau’ – wnes i ddim sylweddoli bod yna gymaint o artistiaid wedi gweld gwerth mewn creu fideo ar gyfer eu caneuon.

Mi es i i feddwl am beth mae fideo cerddorol yn ei wneud. Beth yw ei bwrpas? Ydy o’n ychwanegu rhyw haen newydd o ystyr i’r caneuon? Mae nhw’n gallu cadarnhau eich dehongliad chi o gân, neu’n gallu ei chwalu hefyd. Yn yr achos hwn, mae fideo dychmygus Yws Gwynedd a’i fand yn atgyfnerthu prif neges y gân, sef bod bywyd erbyn hyn yn digwydd ar sgrîn eich ffôn neu ddyfais tebyg.

Mi es i feddwl wedyn am sut ydan ni angen Thriller Cymraeg – ydan ni angen dance craze lle mae pawb yn gwybod y symudiadau i ryw gân? A wedyn nes i feddwl, ella ddim.

O ran y gân ei hun, mae perthynas gariadus Yws a Vampire Weekend yn parhau, ac mae hi’n beltar hafaidd arall o’r un brîd â Sebona Fi. Hefyd, unwaith eto, mae range lleisiol pensaer caneuon pop Cymru mor annaturiol o uchel, fel nad ydw i’n gallu cyd ganu heb wneud hynny octave yn is.

Cofiwch – bydd Yws yn chwarae yn Neuadd y Farchnad ar ôl y Nadolig (27/12/16)!

Trac y Dydd #35 – Dadansoddi gan Yr Ods

CHRIS ROBERTS

rods

Cefais yr albym Troi a Throsi yn anrheg Nadolig yn 2011 ac fe wirionais arno yn syth. Pan mae nosweithiau tywyll y gaeaf yn cau amdanai fyddai bob amser yn troi yn ôl at yr albym yma. Mae Yr Ods yn fand sydd byth yn aros yn yr unfan, bob amser yn barod i arfbrofi a newid eu sain ychydig bach. Ar Troi a Throsi mae eu sŵn nhw fwyaf accessible. Gellir yn hawdd ddychmygu clywed y caneuon yma yn cael eu chwara’ ar Radio 2 neu Absolute. Mae’n debyg i sŵn pop / roc o’r 80au, rhywbeth sy’n bodloni clustiau o bob oedran.  Mae’r albym yn fy atgoffa i o Fleetwood Mac o’r adeg Rumours mewn sawl ffordd. Mae’r themâu o fod mewn perthynas cenfigennus, paranoid, anhapus yn debygolrwydd amlwg, ond mae hefyd ychydig o gymhariaethau i’w wneud yn y gerddoriaeth yn enwedig y ffordd y mae’r gwahanol leisiau yn plethu hefo’i gilydd.

Mae’r gymhariaeth hefo Fleetwood Mac ar ei fwyaf amlwg yn Dadansoddi. Mae’r geiriau yn ddi-flewyn ar dafod a phwerus “Rwyt ti angen gwybod fod rhywbeth am newid. Rydw i angen gwybod bob dim.” Mae’n creu darlun clir o’r berthynas sydd ar ddymchwel i’r gwrandawr. Mae’r geiriau yma llawn paranoia a di-obaith am y berthynas yna’n cael ei wrthgyferbynnu hefo synths bachog, hapus sydd yn cyfleu sut all popeth fod i weld yn iawn ar yr arwyneb ond bod tensiynnau yn adeiladu o dan hynny.

Mae aelodau Yr Ods i gyd yn gweithio ar borsiectau cerddorol cyffrous ar hyn o bryd sydd yn destament i’r talent sydd yn y band, ond dwi’n gobeithio’n arw y daw nhw nôl at eu gilydd rhyw ben yn y flwyddyn newydd achos mae be’ mae’n nhw’n ei wneud fel band yn arbennig!

 

Trac y Dydd #34 – O Gymru gan Eleri Llwyd

GETHIN GRIFFITHS


Un o ffefrynnau mawr y corau yw ‘O Gymru’ gan y diweddar Rhys Jones. Rydym wedi arfer clywed y gân ar ei ffurf gorawl, a’r cyfeiliant piano dramatig – ond faint ohonoch sydd yn gwybod ei bod yn faled roc penigamp?
Mae llais Eleri Llwyd yn hynod nodedig ac yn nodweddiadol o ganu pop Cymraeg yn y chwedegau a’r saithdegau. Mae ‘na elfen glasurol i’w llais, ac mae ganddi range sydd yn gwneud yn siŵr bod y nodau isel, dwfn, yr un mor effeithiol a’r nodau uchel.

Fodd bynnag, mae’r trefniant yma’n gwrthgyferbynnu’n gryf â’r naws glasurol yn y llais. Mae’r drymiau a’r gitâr yn awgrymu rhyw fath o faled roc am serch. Mewn ffordd – cân o gariad at Gymru ydi ‘O Gymru’, yn yr un modd â chân serch am unigolyn arall.

Mae’r geiriau’n bwerus heb fod yn areithiol, yn wladgarol heb fod yn or-wleidyddol, ac yn serchus heb golli urddas.

Chwiliwch allan am fwy o draciau’r dydd wythnos nesaf!!

Trac y Dydd #33 – Dilyn Dylan gan Fflaps

CHRIS ROBERTS

rhywddydd.jpg

Mae dipyn o sôn wedi bod wythnos yma am gig fawreddog ‘Rhyw Ddydd un Dydd’ a ddigwyddodd 25 mlynedd yn ôl i ddoe. Fel un sydd yn rhy ifanC i gofio’r gig mae’n ddiddorol gweld yr enwau ar y poster. Mae’n debyg fod pob un o enwau mawr y sîn yn y cyfnod yna wedi chwara’r gig yn Pontrhydfendigaid. Mae rhai enwau fel Geraint Jarman, Maffia a Sobin yn gyfarwydd iawn i mi ond mae rhai nad ydwi erioed wedi clywed ei cerddoriaeth o’r blaen fel Gofodwyr Piws, Crumblowers a Ray Jones. Yn yr oes lle mae gymiant o gerddoriaeth i’w gael ar gwasanaethau fel Youtube a Spotify mae yno dal prinder o gerddoriaeth Cymraeg o cyn yr oes ddigidol ar gael. Mae gymaint o bobl yn ymddiddori mewn cerddoriaeth Cymraeg ar hyn o bryd, byddai’n wych petawni yn cael y cyfle i wrando ar mwy o’r hen sdwff, ar y petha wnaeth ddylanwadau ein harwyr cyfoes ni.

Ta waeth, wedi gweld y poster es i ati i chwilio am un o’r bandiau mwy obscure ar Spotify a wnes i ffeindio un cân gan Fflaps. Dwi’n meddwl mai Fflaps ydi un o’r enwau gora’ erioed ar fand. Mae’n enw cŵl, edgy, ffemenistaidd a doniol. Mae’n rŵd ond tydi o ddim môr afiach na allwchi ddweud o ar y radio. Brilliant!

Mae’n debyg mai sŵn new-wave, ôl-pync sydd i’r band, sŵn poblogaidd ar diwedd yr 80au pan ffurfiwyd y band. Mae’r Dilyn Dylan yn fy atgoffa i o Sex Pistols a Jilted John, ond mae’n amlwg bod gôl Fflaps yn llawer mwy nuanced na ‘gwneud gymaint o sŵn a phosib. Mae’n debyg fod Blondie hefyd wedi bod yn ddylanwad ar y band gyda Ann Matthews yn sianelu agwedd a presenoldeb Debbie Harry.

Hoffwn glywed mwy o Fflaps dwi am barhau i chwilio ond tan hynny fe wnai fwynhau Dilyn Dylan.

 

Trac y Dydd #32 – Jack Kerouac gan Tynal Tywyll

GETHIN GRIFFITHS

TT.jpg

Rydym o hyd yn siarad am ‘sŵn’. Mae ‘na lawer i’w ddweud am y cysyniad, ac mae ‘na lawer o ddadlau os yw’r cysyniad yn bodoli o gwbl, hyd yn oed. Ond, yn aml, rydym ni’n medru dysgu llawer am artist o’u sŵn neu eu sain. Yn dibynnu ar y cyfnod neu sefyllfa penodol yr artist, mae elfennau gwahanol o wneuthuriad eu caneuon fel arfer yn sefyll allan fel prif ddynodydd y sŵn hwnnw. Er enghraifft, yn y chwedegau, petaech chi’n gwrando ar grwpiau fel y Beatles, mae’n debyg mai’r harmonïau lleisiol yw’r ‘dynodydd’ mwyaf amlwg. Efallai mai glam rock y saithdegau sydd yn mynd â’ch bryd – riffiau gitâr bachog, a pherfformiadau lleisiol eithaf camp, yw’r dynodydd yma.

I mi, mae ‘sain’ yr wythdegau yn hynod nodedig. Meddyliwch am grŵp fel y Smiths – efallai bod dau ddynodydd yma – twang y gitâr a thôn melfedaidd llais Morrissey. Mae’r dynodyddion hyn yn cyfleu’r wythdegau i ni i gyd. Rydym ni bron yn gweld rhyw raglen ddogfen â fideo (o safon gwael) o brotestiadau a streiciau diwydiannol y wlad, yna’n torri i un o areithiau Thatcher, yna’n torri i ryw grŵp ôl-bync neu’i gilydd yn perfformio ar lwyfan wedi ei oleuo gan oleuadau troellog pinc a phiws. Efallai bod hyn yn dangos mai’r cyfryngau a rhaglenni o’r fath sydd yn cadarnhau ein cyswllt ni rhwng sain clywedol a chyfnod neu sefyllfa, ond fodd bynnag, rydym ni i gyd yn creu’r darluniau hyn yn ein pen.

Mae’n anodd darganfod eich ‘llais’ artistig, ac yn anoddach byth creu rhyw fath o ‘sŵn’ lle mae’r gynulleidfa yn eich adnabod ohono yn syth. Er enghraifft, dim ond un sill o un gair oedd yn rhaid i Freddie Mercury ei ganu cyn i ni ei adnabod. Un o’r grwpiau Cymraeg â ‘sŵn’ neu ‘lais artistig’ mwyaf amlwg i mi, yw Tynal Tywyll. Mae rhywbeth, unwaith eto, yn twang y gitâr a llonyddwch prif lais Ian Morris sydd yn gwneud i mi fod eisiau bod deng mlynedd yn hŷn er mwyn i mi gael eu cofio! ‘Dw i wedi dewis eu hit ‘Jack Kerouac’ er mwyn arddangos y sŵn hwn – gwrandwch ar y picio cyson ar y gitâr â rhyw effaith chorus arno, a sylwch ar sut y mae gwead y llais yn meddalu i mewn i ryw lun dyfrliw nawdegau-cynnar.

Awe, a chi hefo’ch dynwarediadau gorau o Morrissey… neu o Tynal Tywyll!

 

Trac y Dydd #31 – Trwmgwsg gan Sŵnami

CHRIS ROBERTS

susanboyle

Mae Trac y Dydd heddiw yn dod gan un o’r bandiau mwyaf poblogaidd y sîn ar hyn o bryd, Sŵnami. Mae’r band wedi cael 2016 arbennig sydd wedi eu gweld yn curo llwyth o wobrau Selar yn ogystal a headlinio’r noson wobrwyo enfawr yn Aberystwyth, ennill gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn yr Eisteddfod Genedlaethol, cloi un o lwyfannau Festival no.6 a chwarae’ yn y gig bythgofiadwy YNA yn y pafiliwn! Mae’n deg i ddweud fod Sŵnami yn mynd o nerth i nerth!

Llynedd fe ryddhawyd albwm cyntaf, hir-ddisgwyliedig y band. Ar ôl intro byr i adeiladu cynhwrf, Trwmgwsg yw’r gân agoriadol. Mae’n eich taro chi’n syth; mae Sŵnami wedi cyrraedd ac mae nhw eisiau chi eistedd fyny a talu sylw. Mae gan Sŵnami sŵn nodweddiadol sydd yn plethu elfennau electroneg hefo indie-pop, rydych yn gallu adanabod cân gan y band yn syth o’i glywed. Mae eu hunaniaeth a brand cryf ac adnabyddys yn un o’i cryfderau mwyaf.

Fel nifer o ganeuon y band mae’r lyrics yn erfyn ar y gwrandawr i wneud rhywbeth, unrhywbeth! Mae’r themau o gymryd eich ffawd yn eich dwylo eich hun, i beidio a gadael i fywyd eich pasio chi heibio yn un sydd yn amlwg yn lot o’u caneuon. Mae Trwsgwsg yn call to arms ysbrydoledig.  Wyt ti yn berffaith hapus yn dy unfan? Na? Yna deffra o drwmgwsg! Gwna rhywbeth amdano fo!

Ers ennill Brwydr y Bandiau Maes B yn 2011 mae Sŵnami wedi adeiladau ar eu llwyddiant a creu uchafbwyntiau newydd yn flynyddol. Tybed be sydd ganddynt mewn golwg ar gyfer 2017?

Fydd Sŵnami yn chwara’ mewn gig enfawr rhwng ‘dolig a flwyddyn newydd yn Neuadd y Farchnad, Caernarfon hefo Candelas, Fleur de Lys a Calfari!

 

Trac y Dydd Rhif #30 – Torra Fy Ngwallt yn Hir gan Super Furry Animals

GETHIN GRIFFITHS

SFA.jpg

Mi’r oeddwn i’n ddigon lwcus i osgoi problemau’r maes parcio yng Ngŵyl Rhif 6 eleni, ac oherwydd hynny, fe gefais weld SFA yn fyw am y tro cyntaf. Dwi’n cofio meddwl – waw, hogia o Fethesda di’r rhain! Pan gyhoeddodd y grŵp eu bod am chwarae yn Venue Cymru, Llandudno, dros gyfnod y Nadolig, roeddwn, yn sicr, yn gwybod fy mod eisiau eu gweld unwaith eto. Roeddwn i wedi ymgyfarwyddo â’r caneuon yn raddol dros y blynyddoedd, ac wedi dod yn hoff iawn o’u sain a themâu eu geiriau, ond bu i’w perfformiadau byw eu dyrchafu yn sylweddol ar fy rhestr o hoff fandiau.

Wrth astudio cerddoriaeth boblogaidd Gymraeg, mae’r Anifeiliaid yn bwnc trafod hynod ddiddorol. Yn ddi os, nhw oedd grŵp Cymraeg mwyaf dylanwadol yr ugain mlynedd diwethaf, a hynny gan iddynt arwain y gâd yn y cyfnod hwnnw â’r teitl erchyll, ‘Cool Cymru’. Roedd eu penderfyniad i ganu’n Saesneg yn cyflwyno problemau wrth drafod hunaniaeth gerddorol Gymraeg neu Gymreig, ac yn wir, yn gofyn cwestiynau am yr hunaniaeth Gymraeg yn y lle cyntaf.

Mae eu gyrfa yn cwmpasu ugain mlynedd erbyn hyn, sydd yn gwneud i chi deimlo’n hen, ‘dw i’n siwr, ac mae eu halbwm cyntaf, Fuzzy Logic (1996) yn dathlu’r pen-blwydd hwnnw eleni. Rhyddhawyd yr albwm unwaith eto i ddathlu’r pen-blwydd, a penderfynodd y grŵp mai’r albwm hon, ynghyd â Radiator (1997) oedd prif ffocws eu taith fyw ddiweddaraf. Mae’r ddwy albwm hon yn arddangos y Furries amrwd, ifanc, yn berffaith, a cheir yma ddwy albwm swreal sydd yn llawn o’r hiwmor a ddaeth i nodweddu cerddoriaeth y grŵp dros y blynyddoedd i ddod.

Nos Sadwrn diwethaf, felly, cefais eu gweld yn perfformio’r ddwy albwm yn eu cyfanrwydd. ‘Dw i’n eitha’ hoff o Fuzzy Logic, ac felly mi wnes i fwynhau’r rhan gyntaf yn fawr, ond mae’n rhaid cyfaddef bod y mwyafrif o’r gynulleidfa yn sicr yn aros am yr ail ran. Wedi iddynt droi at Radiator, mi newidiodd y gynulleidfa eu cywair, a chychwyn canu go iawn! Roedd yr hen ‘ogia hefo’u siacedi Cardiff City a’u hetiau bobl melyn wrthi’n gweiddi bob gair o bob cân (yn ogystal â chanu pob riff oedd y trwmped yn ei chwarae!), fel petai hi’n 1997 unwaith eto. Mi’r oedd ‘na ambell un yn brysur ar eu Instagram yn chwilio am emojis i gyd-fynd â ‘SFAOK’, wrth gwrs. Ond, mi’r oedd y visuals dyfeisgar yn haeddu llun neu ddau, mae’n rhaid dweud.

Mae trac y dydd heddiw yn dod o’r albwm Radiator, felly – awn i gyd yn ôl i nos Sadwrn… neu i 1997!

 

Trac y Dydd #29 – O Na Mai’n Ddolig Eto gan Frizbee

CHRIS ROBERTS

onmdde

Ydi, mae Rhagfyr y 1af wedi cyrraedd, ac felly dwi’n siwr bod rhai ohonoch wedi gwirioni yn cael rhoi’r cân Nadolig cynta’ na ‘mlaen heddiw wrth agor eich calendar adfent!  Y gân gynta i fi droi ati ‘leni oedd Trac y Dydd heddiw “O Na Mai’n Ddolig Eto” gan Frizbee.  Mae hon yn gan nadolig llawn hwyl sydd ddim yn rhy gawslyd ac yn ffordd dda o cael eich hun mewn i ysbryd yr wyl!

Mae’r gan yn ticio llawer o’r bocsys caneuon Nadolig gan gynnwys sôn am Bethlehem ac mae clychau yn gwneud yn ymddangos yn y gân! Er hynny tydi hi ddim yn rhy wahanol i weddill stwff Frizbee ac felly mae’n rhywbeth gall ffans selog o’r band ei fwynhau hefyd! Wrth gwrs, mae digon o ail-adrodd yma ac mae’r gytgan a’r darn pres wedi bod yn mynd o gwmpas fy mhen ers dyddiau lawer ar ôl i mi benderfynnu sgwennu am y gân yma ar Rhagfyr y 1af!

Trac ‘dolig sydd gennym heddiw, ond na phoner os nad ydych yn teimlo’n nadoligaidd eto bydd ein Trac y Dydd ni gymysgedd o ganeuon ‘arferol’ a caneuon dolig drwy mis Rhagfyr, rhywbeth i bawb!