
Wythnos dristaf dilynwyr y Sîn erbyn hyn yw’r wythnos ar ôl Gŵyl Rhif 6. Mae mis Medi yn ein hatgoffa’n flynyddol bod pob dim da yn dod i ben, ac er nad yw tywydd mis Awst yn hafaidd o hyd, mae rhywun yn anghofio pa mor gas y mae’r hydref yn gallu bod tan mae mis Medi’n gafael. Er hynny, mae Gŵyl Rhif 6 yn ha’ bach Mihangel i ni erbyn hyn, ac yn ymestyn ein prif dymor ni ychydig yn hirach.
Mae’r wythnos hon yn gyfle gwych, felly, i edrych yn ôl ar yr haf a fu. Er na ddylid cau’r siop yn gyfan gwbl, mae pethau’n siŵr o fynd yn ddistawach dros yr wythnosau nesaf. Beth am leddfu’r boen hydrefol, felly, drwy wrando ar ein rhestr chwarae o’n hoff ganeuon ni o’r hyn a ryddhawyd dros haf 2017?
Dyma i chi hanner awr o’r haf!
Bydd Tiwns yn ol wythnos nesaf, gydag un o unigolion blaenllaw y sîn yn dewis eu hoff draciau. Diolch i George Amor am ddewis Tiwns wythnos diwethaf – ewch yma i weld be’ ddewisiodd o!