Ydy’r Cymry’n ei chwarae hi’n rhy saff?

TEGWEN BRUCE-DEANS

Wrth i restr fer gyntaf Gwobrau’r Selar 2019 gael ei gyhoeddi, sef gwobr y Band Gorau, rhaid llongyfarch y tri sy’n codi i’r brig. Heb os, mae safon cerddoriaeth y sîn heddiw yn talu teyrnged briodol i arloesi’r Blew ‘nôl yn 1967. Fodd bynnag, er gwaethaf cyrhaeddiad safon y bandiau llwyddiannus, mae dewisiadau’r cyhoedd Cymreig yn gwneud hi’n amhosib peidio codi ambell gwestiwn ynghylch amrywiaeth y fath o gerddoriaeth Cymraeg sy’n ymddangos yn mainstream heddiw, ys dywed y Sais.

Nid ydwyf yn ceisio tynnu i ffwrdd o gyrhaeddiad y bandiau Lewys, Gwilym a Fleur de Lys – yn wir, ‘dw innau hefyd wedi mwynhau llawer set gan y tri ohonynt dros y blynyddoedd, gyda lansiad albwm ‘Mi Awn Ni am Dro’ Fleur de Lys yn hwyr yn y flwyddyn ddiwethaf yn aros yn fy mhen yn benodol fel atgof cu. Ond hoffwn oedi am eiliad i ystyried y gwahaniaethau rhwng y tri band hyn. Pedwar hogyn wedi ffurfio band canol y ffordd, disgwyliedig, bron wedi’i gyfarwyddo i apelio i ganfyddiad pobl ifanc o beth dylai band poblogaidd cyfoes gynnwys. Nid dim ond hynny, ond cyd-bletha’r bandiau hefyd; dau o dan gyfarwyddyd meistrolgar Yws Gwynedd yn Côsh, dau yn rhannu aelodau bandiau. Felly codir y cwestiwn: lle mae’r amrywiaeth?

Ac nid oes esgus bod y sîn yn brin o fandiau amgen sy’n werth eu chweil chwaith. Cymerwch Adwaith, er enghraifft: tair merch sydd wedi bod ati dros y blynyddoedd diwethaf yn chwalu ystrydebau rhyweddol ac yn cynhyrchu caneuon gwleidyddol, ffeministaidd ac yn bennaf oll, gwahanol. Nhw ydy’r anadl o awyr ffres yr oedd y sîn yn aros, yn ysu amdani. Cyhoeddwyd ei halbwm cyntaf, ‘Melyn’, yn 2018. Ers hynny maent wedi ennill clodydd o’r uchaf, gan godi i broffil rhyngwladol wrth gigio yng Nghanada a Manceinion, ac ennill Gwobr Cerddoriaeth Cymraeg 2019. O’r golwg cyntaf, maent yn ysbrydoliaeth ddelfrydol i bobl – yn enwedig merched – ifanc. Felly pam, â nwythau eisoes wedi profi eu haeddiant i rai o enwogion amlycaf y sîn, ydy’r cyhoedd yn ei hanwybyddu? Ac a oes peryg bod anwybyddu merched cryfion yn y byd cerddorol Cymreig am rwystro eraill rhag cymryd y cam i greu cerddoriaeth, mewn cyfnod pan fo’r cyfryngau yn ceisio cydbwyso’r sîn yn hytrach na’i gulhau? Nid oes rhaid edrych ymhellach na’r ffaith bod dim un fenyw yn aelod o’r bandiau llwyddiannus hyn er mwyn darlunio’r pwynt yma.

Felly ydy’r cyhoedd yn ofn o fandiau gwahanol sydd am gyfansoddi negeseuon amgen i roi allan i’r byd? Ofnaf mai un ffordd mae aelodau o’r sîn yn ceisio apelio at gynulleidfa o bobl ifanc ydy trwy efelychu sŵn a delwedd y sîn Anglo-Americanaidd; “Edrychwch! Rydyn ni union yr un fath â’r bandiau eraill ‘dych chi’n hoffi gwrando arnynt, ond ein bod ni’n canu mewn iaith wahanol!”. Trywydd peryglus ydy hwn – ydy, mae’n bwysig i godi proffil y sîn ymysg pobl ifanc er mwyn moderneiddio a chynnal dyfodol yr heniaith ei hun. Serch hynny, mae angen cynnig rhywbeth gwahanol i’r byd i’n gwahaniaethu rhag eraill. Onid dyna yw hanfod datgan Cymreictod: gwahaniaethu rhwng ein diwylliant cyfoethog, unigryw ninnau a diwylliannau eraill, yn hytrach na’u hefelychu?

Mae llwyddiant Alffa, er enghraifft, yn ddiddorol iawn i arsylwi arni. Wedi i’w llwyddiant ym Mrwydr y Bandiau, mae ei apêl wedi lledu tu hwnt i Gymry Cymraeg ac wedi cyrraedd cynulleidfaoedd o bell. A pham hynny? Nid oherwydd ei fod yn efelychu delfryd Anglo-Americanaidd, ond oherwydd ei fod wedi creu rhywbeth newydd: dau fachgen, un gitâr ac un set o ddrymiau, dyna’r cyfan. Ac mae’r cyfryngau rhyngwladol yn ffynnu ar y ffaith eu bod wedi darganfod rhywbeth newydd a gwahanol i rannu i’r byd. Yn gyd-drawol, mi wnaeth Alffa hefyd rhyddhau albym cyn diwedd blwyddyn ddiwethaf. Ond ym mhle oedd ei enwebiadau nhw ar restrau hir Gwobrau’r Selar 2019? Yn wir, efallai y cawson nhw ei bigo i fod ar restr chwarae poblogaidd Spotify oherwydd ei fod yn gyfarwydd i ffans rhyngwladol o genre roc drwm, ond o leiaf maent yn wahanol i’r genre indie-pop canol-y-ffordd sydd wedi bod yn mygu ein siartiau cerddorol am ormod o flynyddoedd bellach. Pam nad yw’r cyhoedd Cymreig yn sylwi’r gemau amgen o dan eu trwynau, ac yn pleidleisio dros yr un hen fandiau tro ar ôl tro yn lle?

Wrth gwrs, rhaid llongyfarch y bandiau sydd wedi cyrraedd rhestr fer Band y Flwyddyn 2019. Ond dyma yw gobeithio erbyn blwyddyn nesaf bod y Cymry yn deffro i’r chwyldro cerddorol sy’n digwydd o’u cwmpas, ac yn cymryd mantais ohoni tra ei bod hi’n bodoli i frolio dawn amrywiol ein sîn i’r byd yn hytrach na’i chwarae hi’n saff gan gydymffurfio i ddisgwyliadau’r sîn Anglo-Americanaidd.