Pedwar i’w Gwylio – Sŵn 2019

CHRIS ROBERTS

SwnFestivalLogoPink

Mae Caerdydd wastad yn llawn o fwrlwm cerddorol gyda gigs yn digwydd yn ddyddiol ar hyd a lled y ddinas, ond mae hyd yn oed fwy o gyffro na’r arfer penwythnos yma wrth i ŵyl Sŵn gymryd drosodd nifer o leoliadau’r brifddinas. Rydym wrth ein boddau yn crwydro rhai o lefydd gigs gorau Caerdydd o ganol y prynhawn nes oriau mân y bore yn gwylio hen ffefrynnau, ac wrth gwrs yn darganfod ffefrynnau newydd. Un o uchafbwyntiau’r flwyddyn yw darganfod hoff fand newydd yn Sŵn! Mae rhywbeth i bawb dros y penwythnos, a gyda 147 o artistiaid yn chwarae tydi o ddim bob amser yn hawdd dewis pwy i weld. Dyma rhai o dips Sôn am Sîn..


The Comet is Coming

Clwb Ifor Bach / Nos Wener, 18fed Hydref / 00:30 

Boed chi wrth eich bodd gyda’r symudiad cyffrous o Jazz Prydeinig ar hyn o bryd neu erioed wedi gwrando ar eiliad ohono, dio’r ots, Clwb Ifor Bach ydi’r lle i fod Nos Wener.  Cyfuna The Comet is Coming rhai o’r elfennau gorau o fyd hip-hop a cherddoriaeth ddawns gyda jazz i greu sain sydd yn gorfodi pawb sydd yn ei glywed i symud. Mae eu setiau hwyr wedi bod yn hit ar draws y wlad o Glastonbury i Greenman yr haf yma. Fydd hi’n barti a hanner.

 


Hyll

Old Market Tavern / Nos Sadwrn, 19eg o Hydref / 20:15

Mae Hyll wedi bod un o hoff fandiau Sôn am Sîn ers rhyddhau eu EP cyntaf yn 2017, ac mae eu record fer newydd, Rhamant wedi cadarnhau’r cariad yna ymhellach. Gyda chaneuon mwy sentimental i’w rhoi yn eu set gyferbyn a riffs trwm eu gwaith cynnar allwn ni ddim disgwyl i weld y band yn perfformio yn eu dinas gartref. Mae Dydd a Nos yn siŵr o fod yn foment; fydd gennym ni tissues os fyddwch chi angen un!

 


Squid

Clwb Ifor Bach / Dydd Sul 20fed o Hydref / 17:30

Os ydych chi wedi gwrando hyd yn oed ychydig ar Six Music yn ystod y misoedd diwethaf mae yno siawns go lew eich bod chi wedi clywed Squid. Mae’r band yn ffefrynnau draw yno gyda Steve Lamaq yn gefnogwr brwd. Mae gan y band o Brighton egni heintus a lot i’w ddweud. Byddent yn dod i Sŵn ar ganol daith o’r D.U. sydd wedi gwerthu allan felly byddent yn siŵr o ddenu dipyn o dorf i Glwb Ifor Bach. Mae eu sŵn wedi ei ddisgrifio fel cyfuniad o pync a disco, be well?! Gaddo na fyddwch chi’n bored a rhy ofn deud..

 


Kim Hon

The Moon / Nos Sul, 20fed o Hydref / 22:00

Ers eu gig gyntaf ar gychwyn y flwyddyn mae gwybodusion cerddoriaeth Cymru wedi bod yn deud fod Kîm Hon yn un o’r bandiau i’w gwylio. Er hynny, cymharol brin mae’r cyfleodd wedi bod i’w gweld nhw hyd yma. Roedd Twti Ffrwti yn un o anthemau’r haf ac mae’r sengl newydd Nofio Efo’r Fishis yn cyfleu sŵn gwyrdroëdig y band yn berffaith. Efallai bod y gerddoriaeth ddim yr un mor drwm a Y Reu ond peidiwch poeni mae Iwan Fôn yn frontman mor gyffrous ac erioed. Dyma ffordd o orffen Sŵn efo bang!

 

Gallwch weld yr amserlen llawn a bachu’ch tocyn o swnfest.com 

Rhagolwg: Let it Happen yn cyflwyno…

Gig LIH

Mae ‘na gannoedd o flogiau yn trafod ac adolygu cerddoriaeth yn Saesneg – ond os nad ydych chi erioed wedi mentro eu darllen nhw o’r blaen, gadewch i ni awgrymu Let it Happen! Mae’r blog bellach yn trafod cerddoriaeth, ffilm a ffasiwn, ac mae ganddyn nhw nifer o wahanol awduron sydd â’u bys ar y pyls. Myfyrwyr coleg yw nifer o’r awduron, ac mae hynny’n cael ei adlewyrchu yn y math o ddelwedd a cherddoriaeth y maen nhw yn ei harddel. Os ydych chi eisiau lledaenu eich gwybodaeth am artistiaid newydd sbon yn Saesneg – does nunlle gwell. Er nad yw’r gerddoriaeth dan sylw yn perthyn i ardal benodol, ac er bod nifer o’r awduron yn dod o Loegr, mae sefydlwyr y blog yn dod o Dde Cymru, ac mae ganddyn nhw un lygad ar gerddoriaeth o Gymru o hyd.

I brofi hynny – mae criw’r blog yn trefnu eu gig cyntaf erioed yng Nghasnewydd nos Wener yma, gyda Chroma a The Pitchforks yn ymddangos yn Le Pub. Er bod y ddinas wedi bod yn un o ganolfannau cerddorol mwyaf cyffrous Cymru ar un adeg, mae’n hawdd anghofio amdani fel lleoliad. Os ydych chi yn y de, pam ddim neidio ar y trên draw yno i brofi rhywbeth ychydig yn wahanol?

Bydd y gig ei hun yn ddiddorol, gan bod Chroma a The Pitchforks yn cynnig rhywbeth gwahanol i’w gilydd. Er bod y ddau artist ar brosiect Gorwelion eleni, mae sain indi-roc The Pitchforks yn cyferbynnu ag egni ffrwydrol Chroma, sydd yn drymach ac yn dywyllach eu natur. Mae Chroma yn un o’n hoff artistiaid ni yma ar SaS, ac rydym ni’n gyfarwydd iawn â hwy gan ein bod wedi profi eu perfformiadau byw yn aml. Daw The Pitchforks o Gwm Rhondda, a bu iddynt ymddangos yng Ngŵyl Sŵn ym mis Hydref. Bydd Finding Aurora a Papa Jupe’s Taurus Club yn ymuno â nhw fel gwesteion arbennig, yn ogystal â DJ Pydew.

Os ydych chi eisiau ffordd dda o ddechrau’r flwyddyn – ewch draw i Gasnewydd nos Wener!

Ewch draw i’r digwyddiad ar Facebook er mwyn derbyn mwy o wybodaeth. Mae’r tocynnau ar gael i’w prynu yma.