Sôn am Sŵn

Ar ôl mwynhau gymaint flwyddyn diwethaf, aeth Chris a Geth draw i Gaerdydd ar gyfer Gŵyl Sŵn 2019!

Tra’r oeddan nhw yno, mi’r oedd ‘na gyfle iddyn nhw siarad hefo rhai o’r artistiaid oedd yn perfformio yn yr ŵyl – Casi, Eadyth, Hyll ac Ynys, yn ogystal â chael sgwrs gydag un o’r trefnwyr, Elan Evans.

 

Sôn Am Sîn ac Alffa

Yn y podlediad yma ma’ Chris a Geth yn croesawu Dion a Siôn o Alffa i stiwdio Sôn am Sîn. Dani’n trafod pob dim o dechnegau ysgrifennu i bel-droed!

Mae’r ddau o Lanrug wedi profi dipyn o lwyddiant yn eu gyrfa byr hyd yma. Fe ddaeth Allfa yn gyntaf yn Brwydr Y Bandiau Maes B yn 2017 ac wedi eu dewis fel un o 12 Gorwelion ar gyfer 2018. Erbyn hyn wedi arwyddo i Recordiau Côsh mae eu sengl gyntaf gyda’r label, Gwenwyn, wedi profi’n lwyddiant ar Spotify ac mae Dion a Sion rwan yn gweithio ar eu albym cyntaf.