‘Cwestiynau Mawr Sy’n Codi Am Ystyr y Stori’ – Sgwrs hefo Sywel Nyw!

OWAIN WILLIAMS
Yn ein tywys ni i gyfeiriad arbrofol ac i diroedd artistig anghysbell, dyma Lewys Wyn yn rhannu’i feddyliau am senglau hudolus ei brosiect newydd, Sywel Nyw. Does dim angen rhagarweiniad i’r ffaith mai Lewys yw prif leisydd un o fandiau amlycaf y sîn Gymraeg heddiw, a thrwy hynny yn ei hun, mae elfen o chwilfrydedd yn perthyn i’r trywydd cerddorol aflinol a gymerodd yn ddiweddar. Gan fynd y tu hwnt i gysyniadau pop confensiynol, dyma Lewys yn ein croesawu i’w fyd…

Sywel.png

Os awn ni’n ôl i fis Mehefin. Daeth cyhoeddiad eitha’ annisgwyl dy fod am ryddhau cyfres o senglau ‘dan enw a phrosiect newydd – Sywel Nyw. Fuost ti’n eistedd ar y caneuon yma ers sbel?

Do, nes i recordio 5 cân mewn mater o ychydig fisoedd ac ar ôl eu gorffen doedd gen i ddim llawer o syniad be i neud hefo nhw.  Mewn gwirionedd does gen i dal ddim syniad be dwi’n ei neud hefo nhw, ond mae ‘na bwynt yn dod mewn bywyd cerddorol lle mae rhaid ti jyst stopio meddwl am betha’ a jyst rhyddhau’r caneuon.

Maen amserol bod y prosiect wedi’i eni yn ystod cyfnod tawelach i’r band, ai hyn oedd dy weledigaeth o’r cychwyn?

Doedd gennym ni ddim bwriad hefo’r Eira i ddistewi ond yn naturiol ar ôl rhyddhau albym ddoth ‘na gyfnod distaw i ni fel band. Ond oni’n teimlo fel bo’ gen i lot i gynnig o ran cerddoriaeth ac mi oedd ‘na lot o syniadau yn eistedd yn fy meddwl ac yn cael ei ysgrifennu gen i felly oni’n teimlo fel bod rhaid i mi neud rhywbeth am y peth, felly dyna lle ddo’th y syniad i greu prosiect unigol i ddechrau.

Gyda’r uchelfannau w’ti wedi’i brofi efo’r Eira – perfformio yn T in the Park, Sound City, Y Pafiliwn, cloi Gwobrau’r Selar a Maes B i enwi llond llaw – oedd ‘na riw elfen o bryder yn perthyn i’r hyn oeddet ti am ei ryddhau’n unigol?

Yn naturiol i ddechrau mi o’n i’n gorfeddwl be fyddai pawb yn meddwl o’r caneuon ond erbyn hyn dwi’m yn meddwl fy mod i, does gen i ddim uchelgais penodol hefo’r prosiect a dwi ddim yn rhyddhau’r caneuon i drio plesio neb, i’r gwrthwyneb os rwbath – dwi jyst yn rhyddhau’r caneuon oherwydd dyna dwi’n teimlo fel mod i eisiau i neud, does ‘na ddim pressure.

Yn dilyn hynny felly, dwi’n synhwyro dy fod yn gweld y prosiect fel dihangfa i dy gysyniadau creadigol, ydy hynny’n wir?

Y bwriad o’r dechrau oedd creu cerddoriaeth hollol wahanol i’r hyn dwi’n ei neud hefo’r Eira, dwi wir ddim yn dallt pobl sy’n dechrau bandiau neu prosiectau newydd er mwyn gneud union yr un peth. Ma cerddoriaeth yn wbath ddi-ddiwedd, felly dwisho arbrofi hefo gymaint o genres a phosib. Dwi’n trio bod mor arbrofol a phosib hefo’r gerddoriaeth yma! Fel ti’n deud mae ‘na rywsut ryddid i fod yn hollol rydd hefo’r gerddoriaeth yma, mae o’n ddechrau ffres ac yn hollol newydd. 

I ba raddau mae prosiectau unigol Griff Lynch / OSHH / YNYS wedi d’ysbrydoli di?

Yn sicr mae rhai o’r artistiaid yma yn ysbrydoliaeth enfawr, ond mae o’n deimlad naturiol i neud hyn i mi, dim y bwriad oedd dilyn yr artistiaid yma ar route unigol gan mai dyna ydi’r trend ond yn hytrach dyma o’n i’n deimlo fel o’n i isho ei neud. Weithia mae gweithio ar liwt dy hun yn haws, oherwydd mewn ffordd, mae’r band hefo chdi drw’r amser. Mae o’n gyfle i neud rwbath bach yn wahanol heb lawer o bwysau i ryddhau yn ôl galw eraill.

Wrth gyflwyno rhywbeth gwreiddiol i’r byd – mae ‘na hefyd gynulleidfa newydd. Oes gen ti gyfeiriad penodol i’r antur?

Dim uchelgais amlwg mewn golwg, dim ond rhoi platfform i gerddoriaeth a chelf ychydig yn wahanol i’r arfer, gan obeithio neith ambell berson fwynhau’r hyn dwi’n greu. Dwi’n licio’r syniad o ryddhau senglau, just snippets bach mewn ffordd. Dwi’n meddwl fod cerddoriaeth yn newid lle doesnam gymaint o bobl yn grando ar albums ddim mwy gan fod pobl lot fwy diamynedd, felly mae rhyddhau senglau weddol fyr yn fwy perthnasol i’r heddiw mewn diwylliant cerddorol.

O ran yr ysgrifennu ar gyfer y prosiect, a wnes di ymdrech bwrpasol I bellhau dy hun oddi wrth dechnegau arferol?

Mae’r ffordd dwi wedi bod yn ysgrifennu ar gyfer Sywel Nyw yn hollol wahanol i’r hyn sy’n digwydd hefo’r Eira. Y gwahaniaeth mwyaf mae’n debyg ydi bod bob dim yn cael ei ysgrifennu ar laptop a keyboard yn hytrach na riffiau a cordiau gitar. Dwi’n meddwl bod ffeindio ffyrdd ac offerynnau gwahanol i ysgrifennu arno yn dod a chanlyniad hollol ffres, gwahanol a newydd i’r gerddoriaeth. Dwi’n g’neud lot o’r sgwennu ar logic, a ma’ lot o’r rhannau sydd ar y caneuon jyst yn betha nes i  recordio yn syth i mewn i logic. Mae recordio DIY yn wbath uffernol o hawdd a phoblogaidd erbyn heddiw!

Er dy fod yn rhoi spin ‘dream pop’ ar y ddwy sengl (hyd yma…), mi wyt ti’n llwyddo i adeiladu’r elfennau offerynnol, sydd yn creu cyfuniad hyfryd o swilder a chynnwrf. Sut brofiad oedd datblygu’r sŵn yma?

Mi oedd y broses o recordio’r caneuon yn hollol newydd, ma’ Frank Naughton yn genius llwyr ac mi oedd mynd trwy’r caneuon, arbrofi hefo synths a creu beats hefo fo yn hollol cŵl a dwi’n meddwl mod i di dysgu lot o’r broses! Dwn i’m sut i ddisgrifio’r caneuon mewn gwirionedd, yr unig fwriad ydi creu rhywbeth gwreiddiol lle mae’r gwrandäwr yn meddwl waw, a bosib ambell eiliad lle mae rhywun yn meddwl be ddiawl sy’n mynd ymlaen yn fama!

Ai dyma’r broses yn ei chyfanrwydd, yntau oes ‘na fwy iddi?

Mi neshi’r demos i gyd adra cyn mynd at Frank yn Grangetown i recordio, cyn gyrru bob dim i Tom Loffman yn Llundain i gymysgu’r cyfan! Y mwyaf o fewnbwn mae cân yn ei chael, y gorau, dyna pam dwi’n licio defnyddio cymaint o bobl a phosib i helpu hefo’r caneuon.

Ydy synau tebyg i Sen Segur wedi cael effaith ar gynhyrchiad y senglau? Elli di roi dy fys ar y dylanwadau sydd wedi chwarae rhan wrth ddatblygu’r syniadau cerddorol?

Bosib bo’ ti’n iawn! Mwy na thebyg y dylanwad mwyaf mae bandiau fel Sen Segur wedi cael ar y gerddoriaeth ydi’r parodrwydd i arbrofi a trio petha newydd! Ond mewn gwirionedd mae’r dylanwadau ar y gerddoriaeth yma wedi dod o bethau dwi wedi ei ddarganfod yn ddiweddar. Dwi ‘di bod yn grando lot ar hip-hop a bandiau electronig, ac oherwydd hynny, dwi’n meddwl bod artistiaid fel Frank Ocean, Kevin Abstract, King Krule a Clairo wedi bod yn ddylanwad mawr.

Gyda ‘Jumping Fences’, mi’r wyt ti’n creu awyrgylch trawiadol – ti’n meddwl mai’r elfen ieithyddol sy’n gyfrifol am hyn?

Yn sicr,  dwi’n meddwl bod defnyddio’r Saesneg mewn caneuon weithia yn fodd o ymestyn y gân ychydig yn bellach – ac o ganlyniad i hynny yn mynd a’r Gymraeg yn bellach hefyd. Dio ddim yn wbath mae rhywun yn ei ddisgwyl mewn cân, ac o bosib, mae hynny yn tynnu’r gwrandawr allan o’r comfort zone, sy’n rwbath da!

Sywel Nyw Swn y Glaw

Sŵn y Glaw’ – y sengl newydd. Mae’r melodi hypnotig noeth yn gerbyd hyfryd i’r gân! Sut ddaeth hyn at ei gilydd?

Hon oedd y gân gynta nes i ysgrifennu ar gyfer y prosiect yma. Dwi ddim wir yn gret yn chwarae’r piano, ond mi ddaeth y dilyniant yn weddol naturiol. Nes i ysgrifennu’r gan i gyd ar y piano cyn mynd a hi i’r stiwdio, wedyn ddoth y beats, y synth a’r gitar ar ei ben o wedyn!

Mi w’ti’n sôn am rwystredigaeth amlwg yn y gân – er yn cynnig rhyw elfen o obaith – ‘Anodd iawn yw cadw meddwl clir wrth syllu mewn i wacter pur [amser sydd yn fy nghysuro i]’. Oedd bwriad penodol i gyfleu cysyniadau arbennig yma?

Mae haenau’r gân i fod i gyd-fynd hefo’r geiriau. Mi oedd cael pennill weddol denau i fod i gyfleu’r teimlad o unigrwydd a thawelwch. O bosib fod y gân yma ychydig yn llai chwerw na Jumping Fences – a mae o jyst yn gân am yr hyn sy’n gallu digwydd o fewn meddwl unrhywun, mae pawb yn meddwl yn hollol wahanol i’w gilydd a dwi’n gobeithio y gallai pawb uniaethu hefo’r gân yn eu ffordd eu hunain.

Mae’n bleser ein bod yn cyflwyno sengl / fideo newydd Sywel Nyw ar Sôn am Sin. Ydy naratif gweledol y fidio yn cyd-fynd â neges y gan?

Mi nes I’r fideo ar fy laptop drw ddefnyddio cyfuniad o footage oedd am ddim a fideo nath fy ‘mrawd i gymryd ar ei ffôn ohona i. Mae’r fideo i fod i gyd-fynd hefo’r syniad yma o ddryswch. Jyst lot o layers gwahanol o dywydd gwael ydi’r fideo hefo ambell shot ohona i yn canu. Y bwriad oedd i’r cymysgedd o dywydd gwael a shots ohona i gyfleu’r hyn sy’n mynd trwy ben unigolyn ar adegau. Mae ‘na lot o bethau yn gallu mynd trwy feddwl rhywun yn ddyddiol ac mae’r gân yn trio cyfleu’r prysurwch yma.

Oes ‘na awydd i berfformio’r caneuon yma yn fyw?

Dwi wir yn gobeithio gwneud hynny rhyw ben, ond does na ddim cynllun pendant i neud hynny ar hyn o bryd. Ma petha mor brysur arna i ar hyn o bryd, ac mae ‘na albym ar y ffordd hefo’r Eira. Ar hyn o bryd dwi’n mwynhau recordio a rhyddhau wbath ychydig yn wahanol heb orfod meddwl gormod am berfformio’n fyw.


GWYLIWCH Y FIDEO ISOD! 

Future Yard – Camu i’r Dyfodol?

OWAIN WILLIAMS

70451608_496444524509463_428723287594369024_n

‘Da ni gyd yn ymwybodol bellach o’r gwyliau arbennig sy’n digwydd yng Nghymru er mwyn rhoi platfform i gerddoriaeth newydd – Focus Wales a Sŵn ymysg yr amlyca’ wrth gwrs. Wrth gamu dros y ffin, mae’r gwyliau hyn yn frith… Gŵyl Dot to Dot, Neighbourhood, The Great Escape, Off The Record… Mae’r rhestr yn un hirfaith. Yn eironig, roedd yr Haf imi yn dechrau yn Lerpwl ac yn gorffen yno hefyd … wel, jyst about. Ym mis Mai es i draw i’r ‘Baltic Triangle’ i weld 12fed dathliad Sound City – gŵyl sydd bellach wedi’i naddu yng nghalendr y cool kids. Amserol felly oedd dychwelyd i’r ardal wythnos ddiwethaf i brofi genedigaeth Gŵyl Birkenhead, sef Gŵyl Future Yard.

Mae cysylltiad y Cymry â Chilgwri, neu’r Wirral, yn un cryf. Wedi’r cwbl, Penbedw oedd cartref yr Eisteddfod yn 1917 – Hedd-wch i’r Gadair Ddu – a Glannau’r Dyfrdwy yw’r unig beth sy’n gwahanu’r dref a Gogledd Ddwyrain Cymru. Er mwyn dod a’r berthynas unigryw yn fyw, roedd Focus Wales yn curadu llwyfan arbennig, lle’r oedd Ani Glass, HMS Morris a Meilyr yn taflu eu halawon cynnes ar gynulleidfa’r hen borthladd.

Yn lansiad PR Future Yard, mi’r oeddan nhw’n gaddo “Weird Wirral Wonderment” yn ystod y deuddydd ac wrth edrych yn ôl ar yr ŵyl, dyna’n union be’ gawson ni. Er mwyn ceisio dianc o gysgodion eu brawd mawr, Lerpwl, datblygwyd yr ŵyl gan olygyddion Bido Lito! – cylchgrawn lleol sy’n cadw llygad barcud ar gymuned greadigol lewyrchus Glannau’r Mersi, sy’n parhau i ddatblygu. Eu gweledigaeth yw rhoi ffocws i’r talent sy’n dod i’r amlwg yn yr ardal ynghyd â rhoi llwyfan i artistiaid rhyngwladol.

Yn yr oes ôl-ddiwydiannol a ddaeth yn ystod yr ugeinfed ganrif, bu i Benbedw ddod yn Forgotten Town. Fodd bynnag, roedd ethos gref o ‘ddefnyddio’r hyn sydd ar gael’ yn rhedeg drwy’r ŵyl, a thrwy hynny, taflwyd goleuni ar rhai o dirnodau mwyaf nodedig y dref. Ar y nos Wener, Squid, Szun Waves a punk jazz ymosodol Black Country, New Road oedd yn manteisio ar y gofodau eiconig. Roedd arlwy nos Sadwrn yn fwy blaengar, diolch i ymddangosiad Nilüfer Yanya, Pixx ac Audiobooks (Cyfuniad bizarreo fyfyrwraig 21 oed o Wimbledon a’r Cymro David Wrench – athrylith yn y byd cynhyrchu wrth gwrs).

Beth oedd dy uchafbwyntiau di, Ows?

69878679_513945176100114_6108531392948207616_n

Bosib mai Lerpwl yw’r brawd mawr, ond mae gan Benbedw feibion cerddorol eu hunain, yn cynnwys neb llai na Bill Ryder-Jones. Mae ei yrfa wedi blaguro ers iddo adael The Coral, a dychwelodd yr arwr lleol yn ôl adref gyda’i albwm Yawn, sydd wedi derbyn clod unfrydol. Ymgartrefodd Bill ar lwyfan cul Neuadd y Dref ac fel gwir ddyn y dref, cyfarchodd yr hen wynebau yn yr ystafell lawn wrth gydnabod ei gyn athrawon a’i hen dorrwr gwallt. Wrth i unigolyn mor uchel ei statws ddychwelyd i’w gynefin, daw pwysau gan y gynulleidfa. Gyda rhai yn benderfynol o gynnal sgwrs yn ystod ei set intimate, oedodd am eiliad cyn dweud yn sarhaus ‘dan ei wynt, “d’ya think you can shut up for a minute?”.  Mewn ystafell llawn tyndra, roedd yn anochel mai ‘Two singles to Birkenhead’ oedd yn cloi’r set. Perfformiad di-ffael – a’r unig siom oedd na dderbyniodd y sylw a oedd yn amlwg yn ei grefu.

Wrth i’r haul fachlud ar y nos Wener, casglwyd criw o wylwyr optimistaidd o flaen muriau 850-mlwydd-oed y Priordy gan ddisgwyl yn eiddgar i weld ‘artist yr haf’, Stella Donnelly. Cadarnhaodd ei set addfwyn a gafaelgar mai hi yw un o’r artistiaid mwyaf cyffrous ar y funud. Cyn mudo i Awstralia yn 9 oed, cafodd Stella ei magu yn Ne Cymru ac roedd twang Cymraeg cynnes yn cuddio tu ôl i’w hacen. “Thank you, its lush being here, diolch Birkenhead” meddai yn swil ar ôl agor ei set gyda ‘Grey’ / ‘U Owe Me’. Ar ôl aros i glywed ei halbym Beware of the Dogs yn fyw ers misoedd, dysgais yn gyflym bod Stella Donnelly wedi tyfu mewn hyder ers imi ei gweld ym mis Mai 2018. Gan ymladd yn erbyn rhywiaeth, stereoteipiau ac annhegwch ein cymdeithas, mae Stella’n pigo cydwybod ei chynulleidfa am gamweddau’r diwylliant o gyhuddo a beio. Does dim angen edrych yn bellach na’r gân ‘Boys Will Be Boys’ am neges drawiadol o’r fath. Cyfforddus, chwareus a chrefftus – mae’r gair sydd ar y stryd yn wir, mae perfformiadau byw Stella Donnelly yn anhygoel.

Yn enwedig mewn hinsawdd ansicr, gyda lleoliadau’n cau ar raddfa ddychrynllyd, a threfnwyr a hyrwyddwr yn parhau i ddioddef o ddiffyg arian yn y byd sydd ohoni, mae’n chwa o awyr iach gweld cynllun lleol yn llwyddo i sefyll ar ei thraed ei hun mewn ardal fel hon. Pwy a ŵyr, drwy Future Yard, mae’n bosib y bydd adfywiad, a bydd sylw newydd ar y dref. Mae Penbedw yn ôl ar y map – ymlaen i’r dyfodol.

Adolygiad: 1, 2, Kung Fu gan Boy Azooga

Owain Williams

Nid yw albwm cyntaf Boy Azooga yn albwm cyntaf arferol. Owain Williams sydd yn egluro pam!

Boy-Azooga-1-2-Kung-Fu

Pan laniodd Loner Boogie ar fy rhestr chwarae, doedd dim modd ei symud nac anghofio’r melodi disco amlwg.  Y riffs trwm, y dryms dwys a’r geiriau heintus oddi ar y trac hwn greodd y wefr i danio’r disgwyliadau am yr albwm oedd i ddod. Ers hynny, mae’r albwm wedi byw yn fy nghlustiau am dair wythnos – sydd yn ei hun yn profi bod 1, 2, Kung Fu yn cyrraedd uchelfannau’r awgrymiadau cynnar. Mae rhai yn ‘laru ar yr ‘indie kids’ sy’n honni eu bod yn gyfarwydd ag artist misoedd os nad blynyddoedd o flaen llaw eu dyfodiad o’r sîn tanddaearol, tra bod eraill yn ymuno a’r don yn ddiymwybod – a dyma’n union sydd wedi digwydd gyda Boy Azooga. Er mai mis Mehefin yn unig ydi hi, gweler honiadau’n barod bod albwm o arddulliau cymysg y pedwarawd o Gaerdydd yn haeddu clod a chydnabyddiaeth arbennig. Yn fwriadol, ysgrifennaf yr adolygiad yma cryn dipyn o amser wedi rhyddhad yr albwm – am y rheswm ei bod hi’n gasgliad o ganeuon sy’n gwthio sawl ffin ddychmygol cerddoriaeth ac felly’n cymryd llawer mwy na’r gwrandawiad cyntaf i’w gwerthfawrogi’n gyfan.

Yn ôl pob tebyg, rydych yn gyfarwydd â churiad ffync-roc Face Behind Her Cigarette ond dilynai Davey Newington a’i gyd-gerddorion lwybr annisgwyl gyda’r albwm, sydd yn ein tynnu i aml-gyfeiriad gan gynnwys elfennau o psychedelia, jazz a’r pop-synth poblogaidd cyfoes – arddulliau sydd wedi chwalu fy nisgwyliadau’n llwyr. Mae posib dadlau mai ‘mixtape’ yw’r albwm wrth i’r traciau’n llifo i mewn i’w gilydd yn ddiymdrech gan ei gwneud yn amhosib gwrando ar y caneuon yn annibynnol. Wrth wneud gwaith cefndirol am Boy Azooga, sylweddolais mai dyma’n union oedd y bwriad –  creu cyfanwaith o arddulliau ac offeryniaeth gyferbyniol, sydd yn llwyddo rhywsut i blethu efo’i gilydd i doddi’n clustiau. Dyna sy’n ei gwneud yn albwm mor ddiddorol.

Breakfast Epiphany sy’n agor yr albwm ac yn ein croesawu’n gynnes – y synau adeiladol a pharadwysaidd yn ein llusgo i mewn i daze anymwybodol sy’n ein dal yn synfyfyrio’n bell wrth ailadrodd y geiriau ‘Gotta take my time ‘til time takes mine away’ –  geiriau ddaeth i ffrwyth tra oedd Newington yn byta ei Weetabix – sy’n dangos bod Newington yn ‘ysgrifennwr’ naturiol. Dilynir y dechreuad breuddwydiol i’r swnami o ffrwydradau pyncaidd gan Loner Boogie a Face Behind Her Cigarette. Gellir dadlau mai albwm arbrofol yw 1, 2, Kung Fu gyda’r traciau pontio megis Walking Thompson’s Park yn rheoli tempo’r casgliad – ac er eu bod yn plethu’r prif ganeuon, i mi, maent yn amharu ar yr alwbm fel cyfanwaith.

Gan gamu yn ôl o’u senglau cynharach a ddisgrifir fel ‘intense afropunk-inspired party-prog’ gen Too Many Blogs, mae Jerry yn seiliedig ar rhythm arafach gydag alaw feddal ac ysgafn yn rhedeg drwyddi. Amlyga’r elfen o ddiniweidrwydd sy’n perthyn i lais amrwd Davey Newington – cyferbyniad llwyr i Loner Boogie.  Mae’n amlwg gweld bod dylanwadau personol Boy Azooga wedi treiddio i lawr i’r albwm gan bod elfennau o synau prif artistiaid y cylch indie heddiw i’w clywed ar hyd yr un ar ddeg trac – mae llonyddwch Hangover Square a’r emosiynol Waitin yn bennaf yn llwyddo i fy atgoffa o gerddoriaeth gynnar Tame Impala neu’r MacDemarco cyfoes, ac i raddau synau niwliog SFA.

Dw i’n dwyn y linell ‘why does the song have to end why can’t I ever comprehend?’ gan Jerry, fel adlewyrchiad o’r hyn dw i’n ei deimlo ar ddiwedd y 35 munud hwn. Yn ychwanegol i hyn, diddorol yw nodi bod y melodïau breuddwydiol yn cuddio’r elfen dywyllach sydd i’r caneuon wrth i Newington rannu mewn cyfweliad diweddar fod yr enwau rhyfedd sydd i’w gweld ar yr albwm yn cysgodi themâu trwm sy’n cynnwys unigrwydd, marwolaeth a phryder. Sitting On The First Rock From The Sun sydd yn dod â’r albwm i ben, ac mewn ffordd mae hi’n symbolaidd o’r holl synau sydd yn 1, 2, Kung Fu.

Mae’n albwm sydd yn mynnu amynedd a sawl gwrandawiad cyn iddi dyfu arnoch, ond anaml iawn y gwelwch chi albwm cyntaf gan artist sydd yn llwyddo i blethu naws amrwd ac arbrofol i’r un graddau ag albwm cyntaf Boy Azooga.

Adolygiad: Gig Y Niwl, Omaloma, Ffracas a Pasta Hull – Pontio, Bangor

Dau, nid un, o gyfranwyr Sôn am Sîn sydd oedd gyfrifol am adolygu gig Y Niwl, Omaloma, Ffracas a Pasta Hull yn Pontio wythnos diwethaf. Ydy Gethin Griffiths ac Owain Williams cytuno â’i gilydd…?

Pontio

GETHIN GRIFFITHS / OWAIN WILLIAMS

GG

Am ryw reswm, pan mae Pontio’n trefnu rhywbeth, mae rhywun yn mynd i drafod y lleoliad o hyd. Mae hynny o ganlyniad i’r holl drafferthion anffodus a gafwyd yn ystod y dyddiau cynnar, ac mae rhywun yn mynd i fod yn or sinigaidd. Yn dechnegol, dyma’r lleoliad gorau ar gyfer cynnal gigs yng Ngogledd Orllewin Cymru, gan eithrio Venue Cymru, efallai, ac mae’r potensial o ran sain, llwyfannu a goleuo yn ddi ben draw. Y broblem fwyaf, fodd bynnag, yw bod rhaid denu torf fawr i lenwi’r gofod, ac os nad yw’r gofod hwnnw’n cael ei lenwi, mae rhywun yn mynd i deimlo’n eithaf swil ac ymwybodol iawn o’i hun. I mi, roedd y nifer a ddaeth i wylio Y Niwl, Omaloma, Pasta Hull a Ffracas yn nifer parchus iawn, ac mewn nifer o leoliadau eraill, buasai rhywun yn ystyried y gig i fod yn llwyddiant ysgubol o ran cynulleidfa. Fodd bynnag, mae’n bryd i ni symud ymlaen o boeni am bethau felly, ac mae’n bryd i ni gychwyn cefnogi Pontio fel lleoliad pwysig i fandiau gael perfformio. Mae’n rhaid cynnal nifer fawr o gigs yn aml er mwyn cadarnhau lle’r ganolfan fel venue, ac mae’n rhaid bod yn barod i ddenu cannoedd i un gig ac yna degau yn unig i’r gig nesaf. Dyna yw natur gigs.

Y peth mwyaf od am y gig oedd y ffaith bod nifer fawr o’r gynulleidfa naill ai’n eistedd ar yr ochrau neu’n sefyll yn y cefn. Mae hyn yn gwbl arferol, wrth gwrs, ac nid yw pobl yn tueddu i fynd i’r blaen ar ddechrau’r gig. Ond, rwy’n siŵr y buasai llawer o’r unigolion hynny, oedd wedi talu £12 am docyn, wedi’r cyfan, wedi gwerthfawrogi ychydig mwy o gyfathrebu ar ran yr artistiaid. Dyma oedd prif wendid y noson, yn fy marn i, ac er bod y noson i fod yn gyfle i ymlacio i gerddoriaeth amgen, mi fuaswn i wedi gwerthfawrogi petai’r artistiaid wedi cyfarch y gynulleidfa rhyw ychydig – hyd yn oed drwy ambell reg achlysurol neu drwy bledu abiws atom ni. Mi fuasai hynny wedi llacio pethau ac, efallai, wedi gwneud i ni ymlwybro tua’r blaen yn gynharach.

Wedi dweud hynny, mi wnes i, ac Owain, fwynhau’r perfformiadau cerddorol. Dyma ein dadansoddiad ni o bob grŵp, felly!


Pasta Hull

OW

Pan yr ydw i’n meddwl am Pasta Hull, nid Pontio yw’r lleoliad cyntaf sy’n dod i’r meddwl. Anaml yr ydych chi’n gweld band arbrofol yn cyflwyno cymysgedd o arddulliau sy’n ymestyn o seicadelia i ffync ac, i ryw raddau, reggae-techno hefyd. Dyma ble y daeth llwybrau Pontio a Pasta Hull ynghyd. Mae crynhoi neu chategoreiddio sain y band yn profi’n anodd – ac i mi, dyma dynnodd fy sylw a fy nghyffroi ar y noson. Er fy mod yn credu bod agwedd ymylol y band yn gweddu i adeiladau ‘tywyllach’ eu natur yn well, roedd eu set fel awyr iach. Bosib eu hagwedd anghyffredin o fewn y sîn gerddoriaeth Cymraeg heddiw sy’n derbyn sylw ond mae rhaid pori o dan yr arwyneb i werthfawrogi amrydedd eu cerddoriaeth. I mi, roedd eu set yn profi nad band sydd ag enw dadleuol a mix heriol am Bryn Fôn yn unig yw Pasta Hull, ac mae’r brodyr, Llyr ac Owain Jones, yn creu arddull cerddorol hynod drawiadol. Wrth wrando ar eu demos ac ar ganeuon oddi ar eu halbwm ‘Achw Met’ mae’n amlwg bod gan y geiriau naws creadigol a phersonol iddynt ond hefyd gwreiddiau a phwrpas, yn debyg i fandiau o’r 80au hwyr fel Ffa Coffi Pawb.

Pasta Hull agorodd y noson, ac er doedd Pontio ddim wedi’i drydanu, roedd y gân ‘Jam Heb Siwgr’ yn sicr yn meddiannu ffocws a sylw’r gynulleidfa ac yn annog gwrandawiad mwy astud. Roedd eu defnydd o’r bongos yn nodweddiadol o’u perfformiad byw ac yn selio’r sain amrwd/garej. Amlygai hyn yn bennaf yn ystod ‘Bulletproof Funk’ a ‘Cacan Ffenast’. Hon oedd y tro cyntaf imi weld Pasta Hull yn fyw ac yn ddi ffuant, daliwyd fy nychymyg. Achw met.


Ffracas

GG

Mi’r ydw i wedi siarad yn ffafriol am Ffracas erioed, ac er nad ydynt wedi bod mor gynhyrchiol yn 2017 ag yr oeddwn i’n ei ddisgwyl, mae’r dyfodol yn parhau i fod yn ddisglair iddynt. Yr hyn a’m tarodd am y band o’r dechrau yw eu hyder a’u parodrwydd i neilltuo ei hunain oddi wrth eu cyd fandiau, a dyma oedd eu cryfder yn y gig hwn. Roedd y ddelwedd indie yn treiddio drwy eu gwythiennau, ac roedd y pedwar yn edrych yn gwbl gyfforddus ar lwyfan.

Doeddwn i erioed wedi gweld Ffracas ar lwyfan mor fawr gyda phrosesu mor gymhleth, chwaith, ac mae’n rhaid i mi ddweud fy mod wedi eu mwynhau gyda llawer o reverb. Mi wnaeth yr holl beth fy atgoffa o fynd i ŵyl Dot to Dot ym Manceinion, a’r math o ddelwedd a grëwyd gan fandiau fel The Night Café yno. Yr unig beth sydd angen rwan ydi magu perthynas agosach â’r gynulleidfa, ac efallai, denu mwy o’u ffrindiau i ddod i foddi’r blaen â’u chants meddw.


Omaloma

GG

Yn ystod ‘Aros o Gwmpas’, mi ddywedodd ‘na rywun wrtha’ i.. ‘Ma pawb yma achos o un gân. Ma pawb yma i glwad hon’. Er fy mod i’n siŵr nad ydy hynny’n gwbl wir, mi’r ydw i’n gweld yn union pam y buasai rhywun yn dweud hynny. Mae Omaloma wedi dwyn ein sylw eleni, a gyda phob trac newydd, mae pawb yn gwirioni o’r newydd hefo’r tiwns. Mae cerddoriaeth atmosfferig, hypnotaidd, yn gyfarwydd iawn i ni ers blynyddoedd erbyn hyn, ond mae George Amor a’i fand cefndirol wedi cyfuno’r seiniau hyn â chaneuon sydd yn ddigon bachog i ddwyn cynulleidfa newydd. Rhywsut, mae’n plesio’r gynulleidfa amgen, ac yn gallu troi pennau ambell un sydd ddim mor eithafol eu blas.

Roedd ‘na ochenaid yn dod o’r gynulleidfa bob tro’r oeddent yn dechrau cân newydd, ac roedd rhywun yn sylwi eu bod nhw’n adnabod y rhan fwyaf o’r caneuon rywsut neu’i gilydd. Mae ‘Eniwe’ yn parhau yn ffefryn personol i mi, am ryw reswm, ac felly honno dderbyniodd fy ochenaid i. Wedi dweud hynny, mi nes i anghofio pa mor dda oedd ‘Dylyfu Gen’ hefyd…

Y peth mwyaf trawiadol am Omaloma oedd pa mor ddiymdrech yr oedden nhw’n edrych ar y llwyfan. Fel band profiadol, mae George Amor, Gruff ab Arwel, Dafydd Owain a Llyr Pari wedi hen arfer creu seiniau amrywiol ar lwyfan, ond y tro hwn, roedd pawb eisiau bod yn rhan o’r hwyl. Mae’n bryd i George sylweddoli bod ganddo fo’r gynulleidfa yn ei ddwylo, ac mi allai ddefnyddio hynny i’w fantais drwy beidio bod mor ddiymhongar!

Erbyn ‘Aros o Gwmpas’, mi ddaeth y pedwar ynghyd i ymgynnull o gwmpas Nord Electro George, oedd yn fy atgoffa ychydig o lwyfannu arbrofol Meilyr Jones ar yr un llwyfan flwyddyn diwethaf. Efallai bod angen chwarae ychydig mwy hefo’r sioe lwyfan erbyn y tro nesaf, i ni gael mwynhau’r space pop ar lefel goruwchnaturiol.


Y Niwl

OW

Yn dychwelyd o’u hiatus gyda chasgliad newydd o ganeuon syrff-roc, syml a llawn llinellau gitâr bachog oedd ‘Y Niwl’. Lansiwyd eu halbwm diweddaraf 5 mewn dwy gig amgen eu natur yng Nghlwb Ifor Bach (Twrw) nos Wener ac ym Mhontio nos Sadwrn. Yn ddisgwyliedig, doedd y gig hon ddim am fod yn drydanol – ond yn hytrach yn un cŵl a hamddenol, a chadarnhaodd ‘Y Niwl’ yn union hyn. Y peryg sy’n gysylltiedig â bandiau offerynnol yw eu bod yn wych mewn cyfnodau bychain ond yn colli eu heffaith wrth i’r set barhau, a gallai ymddangos yn ailadroddus. Er bod yr elfen hon i raddau’n wir nos Sadwrn (fy mai i o bosib gan nad oeddwn wir yn gyfarwydd â’r cynnyrch newydd), roedd y trefniadau golau, mwg a fidio yn cynnal diddordeb wrth ddisgwyl yn amyneddgar am eu tiwn fwyaf, heb os, sef ‘Undegpedwar’. Er dydi’r albwm ddim yn cynnig arddulliau o’r newydd nac yn mentro ar steil anghyffredin, roedd perfformiad retro ac ymlaciol ‘Y Niwl’ wedi llwyddo i hypnoteiddio’r gynulleidfa.