Ai ymdrech i ddenu cynulleidfa newydd yn unig yw albwm newydd I Fight Lions?

GETHIN GRIFFITHS

Mae albwm ddiweddaraf I Fight Lions yn siŵr o ennill cynulleidfa iddyn nhw, yn enwedig gan eu bod bellach ar label Côsh. Ond ydy Be Sy’n Wir yn diystyru hanes cerddorol y band yn gyfan gwbl? Gethin Griffiths sydd yn ystyried nostalgia, emo pop a dyfodol grŵp o fechgyn sydd wedi bod yn cynhyrchu cerddoriaeth ers blynyddoedd erbyn hyn…

IFL Album

Rhywsut, mae’n teimlo fel bod I Fight Lions wedi bodoli erioed. Mae ‘na lawer o bethau wedi newid, a thueddiadau cerddorol newydd wedi dod ac wedi mynd, ond ar ryw ffurf neu’i gilydd, mae Hywel Pitts a’i gyfoedion wedi parhau i greu cerddoriaeth rhywle yn y cefndir.

Er i fandiau Cymraeg y degawd hwn gael eu sefydlu ar gymysgedd o hangofyrs deng mlynedd Big Leaves ac Anweledig, riffs Two Door Cinema Club a geiriau a thôn llais Alex Turner a’r Arctic Monkeys, mae’r preseb y cafodd I Fight Lions eu geni ynddo yn perthyn i stabl gwbl wahanol – ac i wlad gwbl wahanol, hefyd. Nid stâd feddyliol unigolyn mewn tref ôl-ddiwydiannol nac arsylwadau o ddiwylliant clybiau nos ein dinasoedd oedd yn llywio eu raison-d’être, ond ffrwydradau dramatig a theatrig o emosiynau cymysg a oedd yn deillio o du draw i Fôr yr Iwerydd.

Awn yn ôl i 2006. Yn union fel petai cerddoriaeth vaudeville a music hall yr ugeinfed ganrif cynnar wedi geni babi â cherddoriaeth grunge ac ôl-bync yr Unol Daleithiau, ffurfiwyd ffenomenon ac is-ddiwylliant oedd yn ddigon gwahanol ac unigolyddol i achosi grwpiau o blant ysgol i wahanu eu hunain oddi wrth y gweddill, ond eto, heb os, yn ddigon cyffredin i ymddangos yn y siartiau ac i effeithio ar ddiwylliant yn ehangach. Erbyn y flwyddyn honno, roedd yr emos a’r goths yn llenwi pob cornel ar fuarth pob ysgol uwchradd yn y wlad, ac er bod elfennau o’r diwylliant hwnnw yn wirioneddol dywyll ac yn arddel arferion eithaf sinistr, dim ond hyd at yr ambell faneg streipiog di-fysedd a’r esgidiau Vans du oedd y mwyafrif o’r dilynwyr yn fodlon mynd, diolch byth. Ydw, mi’r ydw i’n siarad o brofiad.

Er bod y rhai â’r egos mwyaf yn ymwrthod ag unrhyw ymdrech i’w categoreiddio dan y fath ddiwylliant, gyda rhai yn mynnu eu bod nhw’n scene kids, eraill yn taeru eu bod nhw’n gwrando ar albwm cyntaf Bowling for Soup, ac eraill yn troi eu clustffonau i fyny i’r eithaf er mwyn profi eu bod nhw’n gwrando ar Slipknot, does yna ddim amheuaeth mai cerddoriaeth bandiau fel My Chemical Romance, Fall Out Boy, Panic! At The Disco a Paramore oedd yn gyfrifol am aelodaeth y nifer helaeth o’i ddilynwyr. I’r bandiau o’r math olaf hwnnw y mae I Fight Lions yn ddyledus iddyn nhw, sef y bandiau hynny oedd yn cymryd chwalfa emosiynol a bloeddiadau rhwystredig eu cyfoedion trymach ac yn ei gyfuno gyda cherddoriaeth bop melodig a fuasai bron yn gweddu i lwyfannau Broadway.

Heb os, yr albwm a ddaeth a’r gerddoriaeth yma i sylw y nifer fwyaf o bobl ar y pryd oedd The Black Parade gan My Chemical Romance, a hoeliodd 2006 fel blwyddyn a welodd cerddoriaeth emo pop y genhedlaeth honno yn cyrraedd uchelfannau na fu iddi ei gyrraedd wedyn. Mae rhai nad oedd yn cysylltu hefo’r diwylliant hwn o gwbl yn edrych yn ôl erbyn hyn arni yn ffafriol, ac mae ‘Welcome To The Black Parade’ a ‘Teenagers’ yn ddwy enghraifft o’r marc y bu iddynt ei saernïo ar y prif lif.

Yn y blynyddoedd a ddaeth i ddilyn, fforchiodd y diwylliant i amryw o lefydd, a bu i’r prif lif symud yn eu blaenau yn ddigon sydyn. Ond, doedd hynny ddim yn golygu nad oedd grwpiau penodol o bobl yn fodlon cario’r ffagl ar hyd lwybrau llawer culach. Dyma ble mae I Fight Lions, gydag enwau ac aelodau amrywiol, wedi bod yn byw ers blynyddoedd. Gan ryddhau cynnyrch yn gyson, a drwy gigio ar hyd a lled y wlad i gynulleidfa o gyd ddilynwyr cerddoriaeth o’r fath, mae’n teimlo fel eu bod wedi bod yn rhan o is-ddiwylliant nad ydym yn clywed amdano yn aml, ond un sydd wedi bodoli y tu ôl i’r llen ers deng mlynedd a mwy.

I Fight Lions

Mae’n hawdd edrych ar Be Sy’n Wir fel ymdrech gan I Fight Lions i rwydo cynulleidfa bandiau Cymraeg eraill am y tro cyntaf. Wrth gwrs, mae eu penderfyniad i ymuno â theulu Côsh yn symbol o newid o ryw fath, ac roedd sain eu sengl gyntaf, ‘Calon Dan Glo’ yn fwy o deyrnged i roc ysgafn Dire Straits a Fleetwood Mac nag i’w dylanwadau arferol, ond nid yw’r albwm yn cuddio’r dystiolaeth o’u gwreiddiau nac yn claddu eu tystysgrif geni dan eu hunaniaeth newydd o bell ffordd. Mae edrych arni fel rhyw fath o boblogeiddio neu dynnu i’r prif lif yn ddadansoddiad naïf ac yn un sydd yn profi ein hobsesiwn â’r labeli y mae bandiau yn arwyddo iddyn nhw yn hytrach na’r gerddoriaeth ei hun.

Does dim ond yn rhaid gwrando ar agoriad eu trac cyntaf i sylweddoli nad ydynt wedi symud yn rhy bell o’r sain cabaret tywyll sydd wedi ffurfio eu sain ar hyd y blynyddoedd. Er bod adran leisiol agoriadol Diwedd y Byd yn atgoffa rhywun o ‘Madrach’ gan Derwyddon Dr Gonzo, cawn ein hatgoffa o linellau lleisiol unigryw Hywel Pitts wrth i’r bennill ein tywys ar daith sy’n swnio fel trên o amgylch tŷ arswyd, cyn i’r gytgan olaf ein taro ag un o linellau symlaf a mwyaf gonest yr albwm – ‘Tydw i ddim yn dda ar hyn o bryd, y gwir ‘di, dwi heb fod ers hir’. Mae’r newid rhwng cyweirnod lleiaf y bennill a chyweirnod mwyaf y gytgan, fel yn Casanova o’r albwm diwethaf, yn cynnal rhyw fath o eironi ac yn ychwanegu at yr holl ddrama sydd yn bodoli yn y math hwn o gerddoriaeth.

Er bod rhagarweiniad Adweithiau yn swnio ychydig yn debyg i gerddoriaeth roc y bandiau mwyaf canol y ffordd dros y blynyddoedd diwethaf, mae caneuon fel Llwch ar yr Aelwyd yn cynnwys elfennau cerddorol sydd yn nodweddiadol iawn o gerddoriaeth I Fight Lions. Ynghyd â 3300, mae Llwch ar yr Aelwyd bron fel rhyw ddawns olaf ar raglen high school Americanaidd o’r 2000au, ac mae’r alawon yn ddyfeisgar ac yn wahanol. Mae’r tensiwn yn esgyn yn y geiriau ‘Di’r lle ma ddim run fath…’, a does yna ddim llawer o fandiau o gwmpas fyddai wedi defnyddio’r alaw honno yn yr un modd. A dweud y gwir, mae’r tebygrwydd hwn i gerddoriaeth ar deledu Americanaidd yn ymestyn drwy’r albwm, a boed hynny’n fwriadol neu beidio, gallwch dderbyn maddeuant am feddwl bod lleisiau cefndirol Diwedd y Byd yn dod yn syth o un o themâu Michael Corcoran i un o raglenni Dan Schneider (Drake & Josh, The Amanda Show a.y.y.b.).

Mae’r holl beth bron yn ymylu ar fod yn seimllyd, a bron yn troi yn eich stumog os oeddech chi wedi cael eich magu ar y diwylliant milkshake-aidd hwnnw. Mae rhywun yn gofyn, hefyd, os ydy’r math yma o beth yn gyfredol ac yn berthnasol i ni o gwbl. Beth mae Calon Dan Glo yn ei ddweud am 2018, yn hytrach na 2006?

Os ydym ni’n ei ddehongli fel pastiche, fel rhyw fath o gyfeiriadaeth bwriadol at y math hwn o gerddoriaeth oedd yn gefndir mor bwysig i rwystredigaeth carfan o bobl ifanc yn ôl yn y degawd diwethaf, efallai mai dyma ble mae’r ateb. Efallai ein bod ni i gyd yn darganfod rhyw fath o gysur yn yr isymwybod wrth ailweld â’r man gwan hwn yn ein gorffennol, ac mae’r ffaith bod The Incredibles 2 yn profi i fod mor boblogaidd yn ein sinemâu gan bobl oedd yn cofio’r ffilm gyntaf efallai yn enghraifft arall o hyn. Beth bynnag yw eich barn am y math hwn o pastiche, mae cryfder ym mhersonoliaeth I Fight Lions yn rhoi stamp unigryw arnyn nhw ymysg eu cyfoedion ar hyn o bryd. Wrth iddynt barhau â’u taith newydd ar label newydd, gyda chynulleidfa newydd yn eu golwg, mae’n rhaid i’r sain barhau yn unigryw, a heb os, bydd yn rhaid i I Fight Lions ddarganfod ffordd o swyno eu dilynwyr diweddar gyda’u personoliaeth yn hytrach na phlygu i’w gofynion nhw.

Ydy hi’n bryd i ni stopio siarad am y Sîn Roc Gymraeg?

GETHIN GRIFFITHS
Yn naturiol, rydym ni’n defnyddio’r term ‘Sîn Roc Gymraeg’ ar nifer fawr o achlysuron. Ond ydy’r term poblogaidd hwn yn cynrychioli’r hyn sydd yn digwydd go iawn? Gethin Griffiths sydd yn gwerthuso’r modd yr ydym ni’n mynnu categoreiddio’r gerddoriaeth drwy’r defnydd o’r tri gair hynny…

Ers tri degawd a mwy, rydym ni wrth ein boddau’n trafod y ‘Sîn Roc Gymraeg’. Fodd bynnag, yn ôl yn y chwedegau a’r saithdegau cynnar, mewn cylchgronau fel Asbri a Sŵn, mi fyddech chi’n llawer mwy tebygol o weld rhywun yn cyfeirio at y ‘Byd Pop Cymraeg’. Yna, yng nghyfnod Sgrech, a diwedd y saithdegau, efallai y buasech chi’n arddel y ‘Byd Roc Cymraeg’. Erbyn cyfnod Sothach, a’r cyfnod nodedig hwnnw ar ddechrau’r nawdegau, roedd y ‘Byd’ bellach yn ‘Sîn’, a bu i’r term ‘Sîn Roc Gymraeg’ gael ei saernïo yn ein pennau am ddegawdau i ddod.

Er y gwahaniaethau yn y geiriau a ddefnyddir, yr un peth y maen nhw ei gyd yn ceisio ei gyfleu mewn gwirionedd. Rydym ni i gyd yn gwybod neu’n disgwyl ein bod ni’n gwybod beth mae’r termau hynny yn eu golygu, ond ydyn nhw’n gwneud synnwyr, go iawn? Os ydych chi’n edrych ar hyn ar lefel semantig, sef ar lefel y geiriau eu hunain a’u hystyron, mae ‘na broblemau’n codi, ac am ryw reswm, prin iawn yw’r trafodaethau hynny sydd yn ystyried y problemau hyn. Beth am wahanu’r tri gair er mwyn dadansoddi’r amwysedd y tu ôl i ein hoff derm cerddorol, ‘Sîn Roc Gymraeg’…


Sîn

Dyma’r gair cyntaf, ac ar un lefel, y gair mwyaf dadleuol. Beth yn union yw Sîn? Beth yn union sydd yn rhaid i Sîn ei gael i fod yn Sîn, ar wahân i barodrwydd gorawyddus ambell un i ddefnyddio’r gair ar bob achlysur? Rydym ni, wrth gwrs, wedi defnyddio’r term yn helaeth ar ein blog, a does dim modd cuddio’r ffaith ei fod yn rhan bwysig o’r enw (!), ond oes angen i ni ddarganfod ffordd arall o ddadansoddi’r hyn sydd yn digwydd o’n cwmpas?

Y prif broblem sydd yn codi o’r defnydd o’r gair ydy’r broblem ddaearyddol – hynny yw, ble mae’r Sîn? Fel arfer, mae rhywun yn clywed am scenes penodol mewn dinasoedd penodol, e.e. Merseybeat, Madchester, Bristol Sound, Seattle Sound, ac mae’n teimlo fel petai yna fwy o ffiniau amlwg i’r termau hyn. Yn ei llyfr ‘Blerwytirhwng?’, mae Sarah Hill yn dadansoddi’r broblem hon drwy ddisgrifio Cymru fel ‘cyfres o gymunedau dychmygol’, yn hytrach nac un lle. Golyga hynny bod pocedi o’r wlad sydd yn siarad Cymraeg, a lle mae’r ‘sîn’ yn ‘digwydd’, yn ynysoedd o gymunedau wedi eu gwasgaru ar hyd a lled y 20,000 km2 a mwy sydd yn perthyn i’r wlad. I arbed hynny rhag swnio fel meddylfryd adferaidd, hen ffasiwn, gallai’r cymunedau hyn fodoli yn unrhyw le yn y wlad, boed hynny mewn ardal sydd yn bennaf ddi-Gymraeg, dim ond i unrhyw weithgaredd fod yn digwydd yno.

Er hyn, mae hynny’n teimlo fel rhyw gyfiawnhad blêr sydd bron yn diystyru daearyddiaeth yn gyfan gwbl. Beth am y ‘sîn’ oedd yn bodoli ym Methesda yn yr wythdegau, a’r un peth yn Aberteifi? Mae’r ffaith bod y gweithgareddau hyn yn digwydd mewn trefi penodol yn gyfiawnhad mwy teilwng o ddefnyddio’r term. Beth am yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yng Nghaerfyrddin dros y ddwy flynedd diwethaf, o amgylch y Parrot a label Libertino? Ai fel is-sîns neu is-ddiwylliannau y dylid categoreiddio y rhain?

Mae amser yn bwynt arall. Gellid diffinio sîn Bethesda a sîn Caerfyrddin yn ôl eu hamser, yn union fel Madchester neu Grunge. Er nad oes modd diffinio’r blynyddoedd yn union, mae rhywun yn gallu rhoi dyddiadau bras i ddechrau a diwedd eu cyfnodau. Beth am y ‘Sîn Roc Gymraeg’? A ddechreuodd y ‘Sîn Roc’ gyda’r Blew ac Edward H. yn ôl ar droad y Saithdegau, gan barhau wedyn dros ddegawdau o ailffurfio ac ail ddiffinio ei hun fel Doctor Who? Pwy sydd yn ystyried y sîn heddiw fel rhan o’r un sîn â Crys, Rhiannon Tomos neu’r Cyrff?

Yr elfen cymdeithasol mwyaf anffodus sydd yn codi yn sgîl y defnydd o’r term ydy’r syniad yma o fod yn ‘gymwys’ i fod yn ‘rhan o’r sîn’. Rydym ni’n clywed rhai o hyd yn dweud pethau hurt fel ‘wel, ti’n officially rhan o’r SRG ‘wan’, ond beth mae hynny yn ei feddwl, yn union? Ydy unrhyw un sydd yn creu cerddoriaeth Gymraeg yn rhan o’r grŵp elitaidd yma? Ydy’r super fans, h.y. y rhai sydd yn mynd i gigs ar wahân i Maes B, yn ‘rhan’? Mae’n wych cael ‘bod yn rhan’, ond pa fath o neges yw hynny i’r rhai sydd ddim yn credu eu bod nhw? Y gwirionedd yw, does dim ffasiwn beth yn bodoli ag aelodaeth i’r sîn, ond mae’r defnydd o’r term hwnnw yn mynd i awgrymu o hyd bod yna rhyw elfen o hynny yn perthyn i’r holl beth.

Fodd bynnag, yr hyn am y ‘Sîn Roc Gymraeg’ sydd yn ymdebygu i unrhyw ‘sîn’ arall yw’r ffaith bod holl artistiaid sydd yn creu cerddoriaeth yn yr iaith Gymraeg yn tueddu i ddibynnu ar yr un rhestr o labeli, lleoliadau perfformio a chyhoeddiadau cerddorol. Mae hynny’n gwbl ddealladwy, gan nad oes gan gerddoriaeth Gymraeg yr un cefnogaeth ariannol â cherddoriaeth Saesneg ei iaith, a hynny o ganlyniad i lawer o elfennau cymdeithasol a gwleidyddol dros y blynyddoedd. Mae’n debyg bod ideoleg yn perthyn i’r cysyniad hwn o ‘Sîn’, yn enwedig wrth gyfeirio at y diwydiant mwy pwerus sydd yn bodoli yn Lloegr a’r UDA. Awgryma hynny y caiff y ‘sîn’ ei ddiffinio, nid ganddo ei hun, ond gan rywbeth arall o’r tu allan. Hynny yw, ‘dydi’r Sîn Roc Gymraeg ddim yn perthyn i’r diwydiant mawr Eingl-Americanaidd’. Sîn, neu ddiwylliant, arall yw’r Sîn Roc Gymraeg yn y cyd destun hwn.

Yn ogystal â hynny, mae rhywun yn mynd i drin yr hyn sydd yn digwydd fel microcosm, a’r hyn sydd yn digwydd yn cael ei gymharu gyda’i hun yn unig. Drwy gymharu ag artistiaid Cymraeg yn unig, caiff hanfod cerddoriaeth boblogaidd yn y lle cyntaf ei ddiystyru’n llwyr. Wrth gwrs, mae’r holl syniad o gerddoriaeth boblogaidd yn deillio o gymysgedd o nifer o ddylanwadau cerddorol ar hyd a lled y byd. Rhywbeth byd-eang yw cerddoriaeth boblogaidd sydd yn nodweddiadol o gyfnod o gymysgu diwylliannol, globaleiddio ac ôl-foderniaeth. Mae trin y ‘Sîn Roc Gymraeg’ fel ‘bydysawd cerddorol’ ar ei ben ei hun yn golygu nad yw cerddoriaeth yr artistiaid hyn yn cael ei osod mewn cyd destun ehangach. Mae pob band y gallech eu henwi yn cael eu dylanwadu gan artistiaid o ar hyd a lled y byd, ac maent yn haeddu cael eu trafod a’u cymharu yn nhermau’r artistiaid hynny hefyd, yn ogystal â’u cyd artistiaid Cymraeg. Wrth i fwy a mwy o artistiaid Cymraeg rannu llwyfannau hefo artistiaid rhyngwladol mewn gwyliau ar hyd a lled Cymru, Lloegr a chyfandir Ewrop, nid ‘alltudion’ o’r Sîn Roc Gymraeg yw’r rheiny, ond artistiaid sydd yn rhan o’r un symudiad cerddorol byd eang â’r rhai sydd o’u cwmpas. Nid ‘benthyg’ yr artistiaid hyn ydym ni i’r byd, ond yn syml, bod yn ddigon lwcus i’w rhannu a’u mwynhau mewn iaith yr ydym ni’n digwydd bod yn ddigon lwcus i’w siarad.

Nid oes modd dadlau bod yr hyn a welir yma yn ymdebygu i ‘Sîn’ mewn nifer o ffyrdd, ac ei fod yn arddangos llawer o’r elfennau hynny ar brydiau. Ond, nid yn y diffiniad y mae’r broblem, ond yn y term ei hun. Drwy beidio â thrafod gwerth y term yn gyson, mae rhywun yn mynd i’w ddefnyddio heb feddwl, ac yn llawer mwy tebygol o or-symleiddio a chyffredinoli’r hyn sydd yn mynd yn ei flaen. Dyma sydd yn ein hannog i ddweud pethau fel bod y ‘sîn yn iach ar hyn o bryd’, neu ‘mae’r sîn yn llewyrchus iawn’, neu’r gwaethaf oll, ‘mae’r sîn yn mynd drwy oes aur unwaith eto’. Beth mae hynny yn ei feddwl, yn union? Mae hynny’n destun erthygl arall, mae’n debyg.

Yn syml, mae trafod cerddoriaeth Gymraeg dan un anadl yn iawn, os mai dyma beth yw eich nôd, ond oes angen i ni ddarganfod ffordd well o gwmpasu’r hyn sydd yn digwydd go iawn, yn hytrach na chloi’r holl beth mewn term sydd yn dod yn teimlo’n hen ffasiwn ac yn amherthnasol?


Roc

Y broblem fwyaf am gwmpasu holl artistiaid Cymraeg ei hiaith yng Nghymru o dan yr un categori yw’r amrywiaeth eang o gerddoriaeth sydd yn cael ei chreu ganddynt. Ydy’r pegwn mwyaf canol y ffordd hwnnw (os allai ‘canol y ffordd’ fod yn begwn o gwbl) sydd yn cynnwys bandiau fel Calfari a Fleur de Lys yn perthyn i’r un categori â cherddoriaeth arbrofol Pasta Hull a Tri Hŵr Doeth?

Mae’r broblem hon yn perthyn i’r categoreiddio cyffredinol o bopeth fel ‘cerddoriaeth roc’. Heb os, y gerddoriaeth mwyaf poblogaidd, neu’r gerddoriaeth sydd wedi cael y mwyaf o sylw dros y blynyddoedd diwethaf, yw cerddoriaeth indie. Mae’r term hwnnw yn ei hun yn codi mwy o gwestiynau na’r gair ‘roc’, hyd yn oed, ond eto’n llwyddo i ddisgrifio’r hyn sydd yn digwydd mewn ffordd ychydig mwy cyfredol.

Unwaith eto, efallai mai pwrpas y gair ‘roc’ yw i ddiffinio’r elfennau hynny sydd ddim yn bodoli yma. Hynny yw, efallai mai ymdrech oedd defnyddio genre fel rhan o’r term i wahaniaethu’r gerddoriaeth oddi wrth gerddoriaeth canu gwlad neu berfformiadau noson lawen.

Fodd bynnag, yr ymdeimlad sydd yn cael ei greu yma yw bod cerddoriaeth ‘roc’ rhywsut yn ddilys ac yn ddisgwyliedig, ac unrhyw fath arall o gerddoriaeth, fel cerddoriaeth electronig neu hip hop, yn fathau ‘eraill’ o gerddoriaeth. Daw hynny â goblygiadau o ran rhywedd hefyd, a’r cysyniad yma o ‘roc gwrywaidd’ fel norm cymdeithasol – golyga bod unrhyw fath arall o gerddoriaeth yn cael ei ddiffinio gan ei gyswllt neu ei ddiffyg cyswllt â’r norm yma. Mae hynny, unwaith eto, yn rywbeth arall i ysgrifennu amdano!

Y gwir yma yw nad yw’r Sîn Roc Gymraeg heb fod yn ‘Sîn Roc’ ers blynyddoedd maith. Os yw’r term hwn i fod i gwmpasu dros hanner can mlynedd o weithgaredd cerddorol, yna dylid ystyried cael gwared o unrhyw genre ohono gan ei fod yn sicr o fynd yn gwbl amherthnasol yn gyflym iawn.


Cymraeg

Yn syml, ydy ‘FEMME’ gan Adwaith, neu ‘Light Me Up’ gan Candelas yn cyfri fel caneuon neu ‘ddigwyddiadau’ sydd yn rhan o’r Sîn Roc Gymraeg? Oni ddylai caneuon Saesneg eu hiaith fod yn rhan o ‘Sîn Roc Gymreig?’. Mae’r cwestiynau hyn yn rai anodd iawn o ystyried bod mwyafrif o allbwn cerddorol y ddau artist hynny erbyn hyn wedi bod drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.

Does dim problem o gwbl gan lawer o ddilynwyr cerddoriaeth Gymraeg bod artistiaid yn creu cerddoriaeth Saesneg erbyn hyn – er bod hynny yn destun dadlau mawr yn ôl yn y nawdegau yng nghyfnod Super Furry Animals a Catatonia. Anaml iawn y bydd rhywun yn cwyno am fand Cymraeg yn creu cân Saesneg y dyddiau hyn, ac os yw hynny’n wir, nid yw’n cael ei ddatgan yn y cyfryngau o gwbl, bron.

Unwaith eto – nid yn y gweithgaredd mae’r broblem yma, ond yn y term. Wrth gwrs y bydd rhai o artistiaid Cymru, yn enwedig y rheiny sydd yn teimlo eu bod nhw’n dod o gefndiroedd dwyieithog neu hyd yn oed uniaith Saesneg, yn creu cerddoriaeth Saesneg. Ond yn sicr, ni ddylai’r hyn y maen nhw yn ei greu y tu allan i ffiniau ieithyddol yr iaith Gymraeg olygu eu bod nhw’n bodoli mewn byd diwylliannol gwbl annibynnol i’r un y maen nhw yn bodoli ynddo pan y maen nhw’n creu cerddoriaeth Gymraeg. Nid yw’r term yn cynrychioli yn union beth sydd yn mynd yn ei flaen yma, felly.

Mae cerddoriaeth Gymraeg yn bodoli yn yr un modd â cherddoriaeth o unrhyw iaith arall. Mae rhywun yn gwrando ar yr artistiaid hyn law yn llaw â’i gilydd, yn enwedig os ydych chi’n gwrando ar gerddoriaeth ar raglenni fel Spotify, ac yn ystyried y caneuon i fod yn rhan o’r un ‘peth’. Os yw sengl newydd Yr Eira yn cael ei rhyddhau, pam y dylid ei chymharu â’r ‘Sîn Roc Gymraeg’ yn unig? Er mwyn deall gwir bwysigrwydd Adwaith, rhaid eu hystyried fel rhan o’r byd diwylliannol ehangach, nid Cymru yn unig. Pan ewch chi draw i weld eich hoff fand Cymraeg yn perfformio yng ngwyliau mwyaf Cymru neu Lloegr yr haf yma, barnwch nhw’n union fel yr ydych yn barnu unrhyw fand arall o unrhyw wlad.

Does dim problem mewn trafod cerddoriaeth boblogaidd Gymraeg o dan un anadl, ond, onid ydy hi’n amser i ni stopio cywasgu’r holl beth i mewn i’r gawell gyfyngedig sydd yn cael ei chreu wrth ddefnyddio’r term ‘Sîn Roc Gymraeg’?

Mae’r erthygl uchod yn addasiad o draethawd o’r enw ‘Sôn am Sîn: Lleoli’r Sîn Roc Gymraeg’ a ysgrifennwyd gan Gethin yn 2015. 

Caiff yr adran agoriadol sydd yn cyfeirio at dermau amrywiol a ddefnyddir mewn cylchgronau gwahanol ei seilio ar waith ymchwil a wnaed yn wreiddiol gan Dr Craig Owen Jones.

SAIN 2018: Los Blancos

GETHIN GRIFFITHS
Sain Sigrid fydd yn nodweddu cerddoriaeth 2018 yn ôl y BBC, ond ar ôl rhoi gwobr i Los Blancos fel band i’w gwylio yn ystod y flwyddyn i ddod, eu sain nhw sydd yn denu sylw SaS!

_61C0273.jpg

Ers y tro cyntaf i ni glywed Los Blancos yn yr Hen Lew Du, Aberystwyth, fis Chwefror diwethaf, roeddem ni’n gwybod yn syth eu bod nhw’n wahanol. Roedd ‘na gymhariaethau cyffrous yn sbarduno ein trafodaeth yn syth.. Radiohead cynnar.. ‘Dy nhw’n fwy punky na hynny? Grunge? Beth bynnag yr oedd o, roedd o’n gwneud rhywbeth i ni…


YR AELODAU

Fel aelod o Y Gwyryf a Tymbal, mae Gwyn Rosser, yn gerddor cyfarwydd i’r dilynwyr mwyaf craff, ac er i Alffa ddatgan yn gyson mai Tymbal yw un o’u prif ddylanwadau nhw fel band, mae Los Blancos yn gyfle iddo gyrraedd clustiau mwy o wrandawyr nac erioed o’r blaen. Mae ei lais, ei leferydd a’r ffordd y mae’n ymestyn ei eiriau’n cynnig ei hun yn berffaith i’r sain slacyr hwn, fydd yn ôl ein gwobrau ni, yn dod i amlygrwydd pellach yn ystod y flwyddyn fawr sydd o’n blaenau.

Mae unig aelod arall Tymbal, Emyr, yn ogystal â Dewi ac Osian, yn ymuno â Gwyn fel pedwar o ffrindiau ers dyddiau ysgol. Er ein bod ni wedi penderfynu eu bod yn creu synau slac, mae yna baradocs yn y ffaith bod eu cyfeillgarwch yn tynnhau’r holl beth, yn dechnegol os nad yn gysyniadol.

_61C0373.jpg


EU CANEUON HYD YN HYN

Unwaith eto, nid yw’r gair slacyr yn rhoi digon o glod i’r pedwar am eu gallu i ysgrifennu ac adeiladu caneuon. Mae ‘na rywbeth ffres am y ffordd y maen nhw’n strwythuro eu caneuon ac yn cuddio’r hooks yn y mannau perffaith ar gyfer chwarae a’n disgwyliadau. Mae pawb wedi bod yn barod iawn i’w cymharu â’r Velvet Underground yn ddiweddar, hefyd, a lle’r ydw i’n deall hynny, mae dylanwad y Velvets yn tueddu i effeithio ar bob band indie o’r math hwn. I mi, mae’r sain yn ffres ac yn gyffrous, ac am fod yn nodweddu 2018, gobeithio.

Mae pedair cân, ar ryw ffurf neu’i gilydd, ar gael i’w clywed ar SoundCloud.

Clarach

Os ydych chi’n ymlacio ar draeth Clarach, ger Aberystwyth, rhywbryd dros yr haf, rhowch y gân yma yn eich clustiau. Hon oedd y gân gyntaf i ni ei chlywed ar record ganddynt, ac mi’r oedd clywed y sain hamddenol yma am y tro cyntaf yn dal dychymyg yn syth. Fodd bynnag, mae ‘na ryw sinigaeth eironig yn perthyn i’r geiriau, sydd yn gwneud i chi feddwl ychydig yn ddyfnach. Mae’n anodd credu mai demo ydy hon!

Mae’n Anodd Deffro Un

Roedd 2017 yn flwyddyn dda am lyrics clyfar, bachog, ac mae hon yn ffitio yn y categori hwnnw yn berffaith. Uchafbwynt y gân, heb os, yw’r linell, ‘Mae’n anodd deffro un sy’n esgus cysgu’. A dweud y gwir, mae’n anodd prosesu’r fath ddatganiad, ac mae’n gwneud i chi ystyried os yw’n golygu rhywbeth o gwbl, ond mae’n adlewyrchu eironi crafog y band yn berffaith. Hon oedd y gân gyntaf i ni ei chlywed ganddynt ar sianel SoundCloud Libertino, ac mae disgrifiad y label o’r band ac o’r gân yn werth i’w ddarllen. 

 

Datgysylltu

Er mai ‘Aros o Gwmpas’ gan Omaloma ennillodd ein gwobr fel cân orau 2017, ac yn gwbl haeddiannol o wobr Selar fis nesaf (gobeithio), hon oedd y gân gafodd y mwyaf o argraff arna’ i yn ystod y flwyddyn. Mae hynny’n ddatganiad mawr i’w ddweud, yn enwedig gan mai ym mis Rhagfyr y bu iddi gael ei uwchlwytho ar SoundCloud, ond mae hon yn gwneud rhywbeth i mi nad ydw i’n gallu ei egluro. Mae ‘na rywbeth am y ffordd y maen nhw’n adeiladu tensiwn anhygoel drwy’r gân, a’r groove llac cyffredinol sydd yn rhedeg drwyddi, yn gwneud hon yn glasur yn barod. Fedra’ i ddim disgwyl clywed hon yn fyw.

 

Chwarter i Dri

Mae ‘na rai sydd eisiau bod yn wahanol, does, ac mae ‘na rai, heb os, am ddweud ‘Well gen i Chwarter i Dri, fy hun’. Byddwch fel ‘na, ‘ta. ‘Dw i’m yn gweld bai arna chi, gan bod yr ochr arall i’r sengl ddwbl yn cynnig rhywbeth gwahanol i Datgysylltu. Mae ‘na naws fwy hwyliog i hon, ac er nad oes geiriau i’r gytgan, mae modd canu hefo hi os ewch chi ar fws heb do o gwmpas y ddinas ac anghofio am eich bywyd a’ch poenau. Fodd bynnag, unwaith eto, mae’r geiriau’n llawer tywyllach na’r disgwyl, ac mae’n apelio at yr athronwyr mwy dwys yn ein plith, yn ogystal â’r indie kid arwynebol.


EU LABEL

Ers sefydlu eu hunain fel Decidedly Records yn ystod misoedd olaf 2016, mae label Libertino wedi datblygu i fod yn label anhygoel o gyffrous. Ers ail sefydlu o dan yr enw newydd, ac ers iddynt arwyddo nifer fawr o artistiaid gwych dros y flwyddyn ddiwethaf, mae eu hagwedd a’u hallbwn wedi creu argraff ar y cyfryngau a’r gynulleidfa fel ei gilydd. Mae’r bartneriaeth rhwng Libertino a Los Blancos yn un perffaith, gan bod y ddau yn cynrychioli meddylfryd eang a blaengar sydd wedi trawsnewid y ffordd y mae rhywun yn meddwl am gerddoriaeth yn y presennol. Mae Los Blancos yn ymuno ag artistiaid fel Adwaith, Argrph a Papur Wal i enwi dim ond rhai, ac mae’n rhaid iddynt ryddhau mwy o bethau ar ffurfiau ehangach na SoundCloud dros y misoedd nesaf i fwy o bobl gael mwynhau eu cynnyrch anhygoel ar raddfa fwy.

Libertino


BETH SYDD I DDOD?

Er bod Datgysylltu a Chwarter i Dri i’w clywed ar SoundCloud yn barod, bydd y band yn ail ryddhau’r sengl ddwbl fel rhan o Ddydd Miwsig Cymru, ar y 9fed o Chwefror eleni. Yna, yn ôl Libertino, bydd yna ddwy sengl i ddod dros yr haf, ac albwm, gobeithio, erbyn diwedd y flwyddyn. Os y daw’r holl gynnyrch yma i gyd allan yn ystod y flwyddyn, does gen i ddim amheuaeth mai sain Los Blancos fydd sain 2018.

Los Blancos.jpg

Lluniau o Los Blancos gan The Shoot

Os ydych chi yn ardal Caerdydd ac eisiau profi sain 2018 yn fyw, ewch i Glwb Ifor bach nos Iau yma! Bydd Los Blancos yn rhannu llwyfan â Breichiau Hir, Y Sybs a DJ Break My Heel.

Welodd ‘na neb 2017 yn dod… ac oes modd rhagweld 2018?

GETHIN GRIFFITHS

‘Da ni’n siarad mewn seiniau. Space Pop. Slacker Rock. ‘Da ni’n siarad am Gaerfyrddin, am Llanrwst, am Gaerdydd. ‘Da ni’n sôn am Libertino. ‘Da ni’n sôn am Neb, ond yn sôn am bawb, yn cynnwys merched. ‘Da ni’n sôn am Aros o Gwmpas, heb aros yn ein hunfan. ‘Da ni’n sôn am ddyfodol Ffarout, yn nwylo Los Blancos, Cadno a Hyll. ‘Da ni’n sôn am sîn sydd yn adnewyddu ei hun, Adwaith ar ôl Adwaith. ‘Da ni’n sôn am Ani Glass. Class. ‘Da ni’n sôn am y Pasta, y Pys a’r Papur, yr Alffa a’r Omaloma. Does neb yn ein rheoli ni, a ni sydd yn gyfrifol am ein ffawd ein hunain. Chwalu bob dim. Smash ‘em. Mae unrhyw beth yn bosib. Mi allwch chi wneud deg sigarét bara’ am byth, hyd yn oed. Mae’r allt, hir, serth, a’r pwysau trwm yn eich dwylo yn Hen Hanes, ac mae egni newydd, gobeithiol 2017 yn barod i’w orfodi ei hun ar gynfas wag 2018. Achw met.


Welodd ‘na neb 2017 yn dod. Heblaw am isymwybod Gruff Libertino, efallai. Mae popeth yn teimlo’n ffres, a’r peth gorau am yr holl beth yw’r ffaith nad yw’r gorau y tu ôl i ni. Mae mwy i ddod gan y don newydd o artistiaid sydd yn brwydro’n galed i fod yn gyfoes ac yn gyfredol, ac yn gwrthod setlo ar hen soffa gyfarwydd SRG y blynyddoedd a fu. Lle awn ni rwan, ar ôl cyrraedd y ‘brig’? Newid y ‘brig’, dyna be’. Dydy popeth ddim yn berffaith ac yn bur, ac mae dylanwadau artistiaid fel Tame Impala a Mac DeMarco mor amlwg â theulu o bengwins yn y Sahara, ond ‘da ni’n mynd i rywle. Efallai fy mod i wedi cyffroi’n ormodol am ambell artist, ond dyna sy’n wych. Mae artistiaid yn chwilio am eich emosiynau chi ac yn barod i’ch tywys ar daith, nid yn barod i gyfeilio eich taith flynyddol i gae’r Eisteddfod. Lle awn ni rwan? Dim syniad. Mae angen mwy o gigs, mae angen mwy o gyfleoedd i glywed y cyffro a sbardunodd y newid yn 2017 yn fyw o’n blaenau. Mae angen mwy o albyms, mae angen mwy o back catalogue i sbio’n ôl mewn pum mlynedd. Dw i isio barnu pumed albwm Los Blancos am fod yn rhy poppy yn 2025. Dw i isio canmol Adwaith am gofleidio hip hop yn eu pedwerydd albwm. Dw i isio clywed albwm back to basics Yr Eira, dw i isio clywed Fleur De Lys yn troi pennau’r beirniaid mwyaf llym ar ôl rhyddhau eu seithfed albwm gysyniadol. Dw i isio gweld pethau’n Datblygu ac yn adnewyddu cyn chwalu. Dw i isio casau, dw i isio gwironi.


‘Dw i wedi ceisio gorfodi rhyw naratif ar y flwyddyn, fel ymateb, ac fel gwrthwyneb i’r hyn a fu, ac efallai nad ydych yn cytuno. Efallai eich bod yn meddwl bod 2017 wedi bod yn flwyddyn ‘ddiddorol’, ac yn flwyddyn o ambell diwn. Gwych, cawn adael 2017 yn y fan a’r lle. Ond i mi, mi fuaswn i wrth fy modd yn meddwl  ein bod ni wedi dechrau rhywbeth pwysig a chyffrous, a mewn gwirionedd, os mae ‘na ddigon o bobl yn barod i wthio’r naratif hwn ac yn barod i brofi hyn yn wir, dyma’n union wnaiff ddigwydd. Dim amheuaeth. ‘Alla i ddim meddwl am 2017 heb feddwl am y dyfodol. Ym mhob ffordd, mi o’n i’n caru, casau a theimlo dim byd am 2017.

Efo be? Efo chips.


Yn ôl yr arfer, bydd Chris yn ceisio ateb cwestiynau Geth ac yn rhagweld beth fydd yn digwydd yn 2018 yn fuan… Beth ydych chi’n ei feddwl??

Ydym ni wedi anghofio am yr opera roc orau a gafodd ei hysgrifennu erioed?

GETHIN GRIFFITHS

Er bod sianel Ffarout wedi hwyluso pethau wrth edrych am gerddoriaeth Gymraeg o’r amser a fu, mae’n amlwg bod yna ambell berl yn parhau i fod yn cuddio o dan y rwbel. Ar ôl iddi gael ei darganfod yn gynharach eleni, bydd rhaglen Huw Stephens yn darlledu opera roc ar Radio Cymru am y tro cyntaf ers 1982, ac nid opera roc arferol mohoni.

Nia Ben Aur

Un o brif ffurfiau cerddorol y genhedlaeth honno o fandiau cenedlaetholgar a gododd yn ystod y saithdegau oedd yr ‘opera roc’, oedd yn gyfle gwych i gyfuno hen chwedlau Cymraeg â cherddoriaeth roc gwerinol ei naws, ac mae’r cyfuniad hwnnw wedi dod yn chwedlonol ei hun erbyn hyn. Drwy ail ymweld â hen straeon y Cymry, a’u cyfuno â gweledigaeth gerddorol newydd, roedd modd ail ystyried yr hyn yr oedd cenedlaetholdeb yn ei olygu i genhedlaeth newydd o Gymry ifanc.  Fodd bynnag, mae un opera roc, na chlywyd ers 35 o flynyddoedd, wedi cael ei darganfod eleni mewn archif, ac nid yw’n opera roc arferol, o gwbl. Y tro hwn, nid yw’r neges genedlaetholgar mor glir, ac mae’n ymddangos mai dyfodoliaeth Islwyn Ffowc Elis ac Owain Owain oedd y prif ddylanwad y tu ôl i’r opera hon. Fel Gwenno flynyddoedd cyn Gwenno, a Back to the Future 2 cyn Back to the Future 2, mae’n anodd credu bod GADEWAIST, rhywsut, wedi syrthio drwy fysedd haneswyr diwylliannol Cymru.

Rydym wedi clywed droeon am Endaf Emlyn a’i allu blaengar i ysgrifennu campweithiau fel Melltith ar y Nyth. Ond, ydym ni’n trafod Elfed Saunders Jones ar yr un anadl? Yr ateb, wrth gwrs, yw nac ydym. Fodd bynnag, mae Elfed yn sicr yn haeddu llawer mwy o glod. Efallai bod ambell ran o GADEWAIST yn swnio’n union fel cerddoriaeth Edward H. a bandiau’r degawd a fu, ond ambell dro, mae’r defnydd celfydd o dechnoleg y cyfnod, a synau syntheseisiedig, yn rhagflaenu’r sain amlwg hwnnw ddaeth i nodweddu’r wythdegau. Efallai mai dyma’n union pam na dderbyniwyd yr opera fel y bu i’r genedl dderbyn Nia Ben Aur a Melltith ar y Nyth.

Efallai nad oedd Cymru’n barod am neges yr opera, ‘chwaith. Ceir yma hanes Deiniol, mathemategydd o Brifysgol Bangor, a’i deithiau drwy amser. Er mwyn newid ffawd y genedl, mae Deiniol yn mynd yn ôl i 1282 i achub Llywelyn Ein Llyw Olaf rhag cael ei ladd. Wedi iddo ddychwelyd i’r fersiwn newydd o 1982, y mae Deiniol yn sylweddoli nad oedd y dyfodol yr hyn yr oedd yn ei ddisgwyl, o gwbl. Ni chafodd Cymru ei threchu, ac felly crëwyd ymerodraeth Gymraeg, Cymru Fawr, sef y wlad mwyaf pwerus yn y byd. Ar ôl sylweddoli bod yr hen 1982 yn well na’r hyn a greodd drwy newid cwrs hanes, mae’n rhaid iddo fynd yn ôl i ddadwneud ei gamgymeriad.

Os oes gennych chi unrhyw ddiddordeb mewn hanes cerddoriaeth Gymraeg, mae’n rhaid i chi glywed hon. Mae’n bosib mynd mor bell â honni, efallai, mai dyma oedd yr opera roc orau i gael ei chyfansoddi erioed yn yr iaith Gymraeg. Ac o hyn ymlaen, oes modd i ni wneud yn siŵr nad yw’r darnau anhygoel hyn o gelfyddyd byth yn mynd yn angof?

Bydd rhaglen Huw Stephens yn darlledu’r opera roc yn ei chyfanrwydd nos Iau yma rhwng 7 a 10. Gwrandewch yn fyw, neu yma ar iPlayer.

O Na! Mai’n Ddolig Eto – Ydy caneuon Nadoligaidd yn hapus, go iawn?

GETHIN GRIFFITHS

Hanner Pei

Mae ‘na rai yn honni nad oes yna ddigon o feirniadu’n digwydd rhwng cloriau Y Selar. Beth bynnag ddywedwch chi, mae adolygiad Gwilym ‘Herod’ Dwyfor o gân Nadolig Glain Rhys yn y rhifyn diwethaf yn brathu’r cig oddi ar y twrci ac yn ei boeri’n ôl i’r ceirw. Yn gwbl ddi-flewyn-ar-dafod, mae Gwilym yn penderfynu gwneud yr union beth sydd ddim yn digwydd yn ddigon aml mewn beirniadaeth o ganeuon Cymraeg, sef cymryd rôl gwbl hunanol ac unigolyddol a dweud ‘Dydw i ddim yn hoffi hwn’, ‘Dydy hon ddim ar fy nghyfer i’. Efallai bod y frawddeg ar y diwedd sydd yn sôn am lwyddiant tebygol y gân ar y radio yn dangos nad yw ei gydwybod yn gwbl glir, ond yn sicr dyma ni gam i’r cyfeiriad cywir. Beth sydd ei angen rwan ydi rhywun sydd yn caru’r gân i ysgrifennu un arall a chwalu Ebeneser Dwyfor yn racs.

Fodd bynnag, ydi Glain Rhys yn stwffio’r twrci â’r stwffin anghywir gyda ‘Adre dros ‘Dolig’? Ydy ei thaith i fyny’r A470 i fwynhau holl clichés yr Ŵyl yn rhy gyfleus ac yn rhy hapus i wneud cân Nadolig dda? Boed eich bod yn grefyddol neu beidio, mae pobl wedi chwilio am esgus i anghofio am galedwch y gaeaf a diwrnodau byrraf y flwyddyn ers erioed. Mae pobl yn gwneud ati i fod yn hapus, i fwyta ac i yfed gwerth eu pwysau eu hunain o fwyd a diod, er mwyn creu ymdeimlad ffantasïol o ddathlu. Nid yw’n syndod, felly, nad caneuon arferol y flwyddyn sydd yn cael eu chwarae yr adeg yma, ond caneuon Nadoligaidd glam rock â’u cytganau enfawr. Ond wrth fwynhau’r caneuon hyn tra’n gwenu a dawnsio’n braf, ydym ni’n anwybyddu gwir emosiwn yr anthemau hyn?

Sylwch ar rai o’r ffefrynnau… Beth am ‘Last Christmas’? Cân am rywun sydd wedi ymddiried mewn rhywun sydd wedi eu gadael nhw i lawr, siawns? W – festive. Er mai dim ond ‘ti’ mae Mariah Carey eisiau dros y Nadolig, mae’n swnio’n debyg iawn na fyddi ‘di’ yno iddi hi y Nadolig hwn. ‘I Wish it Could Be Christmas Every Day’ medd Wizzard – yr hyn a gaiff ei amlygu yma yw’r ffaith NAD ydy hi’n ‘Ddolig bob dydd. Dymunwn. Dydy’r Waitresses ddim yn swnio fel eu bod nhw’n mwynhau’r holl lapio ‘na ‘chwaith.

Beth am y gân y mae Glain Rhys yn ddyledus iddi, ‘Driving Home for Christmas’?. Er y gerddoriaeth lounge-aidd, mae Chris Rea yn sownd o’i goryn i’w sawdl mewn tagfeydd (ddim hanner mor catchy â ‘top to toe in tailbacks’), ac yn gorfod canu iddo’i hun i achub ei hun rhag road rage. Mae Glain yn cyfeirio ei hun at ‘Blue Christmas’, Elvis Presley. Dydi Elvis ddim yn swnio’n rhy hapus i fi. Ble mae dechrau hefo ‘Fairytale of New York’? Chwerw-felys, ta be’? Does ‘na ddim llawer o ddathlu’n digwydd wrth i’r Pogues a Kirsty MacColl daflu geiriau dadleuol ar ei gilydd am bedwar munud a hanner.

Dydy Frizbee ddim yn dal eu hunain yn ôl wrth ddatgan ‘O Na! Mai’n Ddolig Eto’, chwaith. Rhaid oedd i Hanner Pei wenwyno eu hunain gyda top shelf cyfan yn ‘Nadolig Alcoholig’. Mae’r Bandana, hyd yn oed, yn lladd Siôn Corn.

Er yr holl ganeuon trist sydd wedi eu gorchuddio mewn mins peis a chaws, mae yna ambell eithriad, wrth gwrs. Does ‘na’m llawer o falais yn cuddio wrth i Slade a Shaky ddymuno Nadolig Llawen, nac wrth i Cliff Richard odli ‘Wine’ hefo ‘Rhyme’. Eironi. Does ‘na ddim llawer o dristwch yn perthyn i lawer o ganeuon ysgafn y traddodiad Americanaidd, chwaith, gyda ‘White Christmas’, ‘Winter Wonderland’ a ‘Santa Claus is Coming To Town’ yn cyflwyno breuddwydion Nadoligaidd, Disney-aidd i glustiau cenedl ifanc oedd yn byw’r freuddwyd ffug o ddydd i ddydd. Efallai, fodd bynnag, bod eironi yn perthyn i’r rhain, hyd yn oed, gan ein bod yn gwybod mai ffantasi siwgrllyd yw’r cyfan. Efallai bod Nadolig Gwilym Dwyfor yn rhy debyg i Nadolig Glain Rhys iddo ddarganfod rhywbeth newydd yn y gân?

Mae hyn yn profi, felly, bod angen ychydig o edge i gân Nadolig chwedlonol o dda, sydd yn gwneud yn siŵr bod y Scrooges sych, yn ogystal â’r rhai ohonom sydd yn cerdded i lawr y stryd fawr â het santa, siwmper â golau arni, yn bwyta mins peis, yn cael ein cyffroi ganddi. Dydw i ddim am frysio i awgrymu ein bod ni angen mwy o ganeuon Nadoligaidd ‘chwaith…

Beth yw ‘Cerddoriaeth Amgen’ i ni?

Ar y 18fed o Ragfyr eleni, bydd rhaglen Recordiau Rhys Mwyn yn cyhoeddi eu ‘Siart Amgen’ flynyddol. Mae Gethin Griffiths yn gweld cyfle perffaith yma i feddwl ychydig yn ddyfnach ac ystyried beth yw ‘amgen’ yn union?
Datblygu

Datblygu: Ymddangosodd y band dadleuol a blaengar deirgwaith yn siart y llynedd.

GETHIN GRIFFITHS

Mae llawer o sôn wedi bod ar y blog yn ddiweddar am gyflwr a thueddiadau cyffredinol cerddoriaeth Gymraeg yn 2017. Mae rhywun yn pendroni sut y bydd Cymru, ugain mlynedd o rwan, yn cofio’r flwyddyn gerddorol hon? Pa mor bwysig oedd 2017 i’r sîn? Er mwyn ceisio ateb y cwestiwn hwn, mae’n rhaid gosod fframwaith ar yr hyn sydd wedi bod yn digwydd dros y blynyddoedd diwethaf. Rydw i’n hoff (yn or-hoff, efallai) o roi pethau mewn cyfnodau. Mae’n duedd academaidd a newyddiadurol, sydd yn gallu codi mwy o broblemau yn aml na’r hyn y mae’n ei ddatrys, ond er mwyn deall beth sydd wedi digwydd yn ystod y flwyddyn hon, rhaid edrych arni mewn cymhariaeth â’r blynyddoedd a fu.

Er nad ydw i’n hoffi pwysleisio pwysigrwydd yr Eisteddfod i’r sîn yn ormodol, gellir dadlau bod dwy Eisteddfod yn gweithio’n berffaith fel dau ben i gyfnod pwysig yn hanes cerddoriaeth yng Nghymru. Er i’r diwylliant fod yn bragu’n dawel ers tua 2009, mi ddigwyddodd yna rywbeth yn Eisteddfod Dinbych 2013, ddaeth a phopeth ynghyd. Heb os, roedd Sŵnami a Candelas wedi creu cynnwrf newydd yn y sîn, er eu bod yn gweithio ar sylfeini Yr Ods, Hud a’r Bandana. Ar ôl i Gymru ddygymod â dirywiad ‘Cŵl Cymru’ yn negawd cyntaf y mileniwm, roedd cenhedlaeth newydd o fandiau’n codi, nad oedd erioed wedi derbyn sachau o arian PRS, a oedd yn troi at fandiau fel yr Arctic Monkeys a Two Door Cinema Club yn hytrach na’r Super Furries a’r Gorky’s fel eu prif ddylanwadau. Denodd y bandiau hyn lawer o griwiau ifanc i’w gigs, a daeth wynebau newydd drwy ddrysau gigs ar hyd a lled y wlad.
Wedi tair mlynedd o ryddhau cynnyrch o safon eithriadol o uchel, fel Bodoli’n Ddistaw (2014) a Sŵnami (2015), ac ar ôl i ambell artist, fel Yws Gwynedd a’r Eira, wneud y mwyaf o’r hinsawdd newydd hwn, daeth sîn yr indie kids Cymraeg i oed mewn un digwyddiad yn Eisteddfod y Fenni, 2016. Wrth i’r bandiau hyn gael cyfle i chwarae ar lwyfan y Pafiliwn, gyda cherddorfa, roedd yn symbol clir i mi mai dyma oedd y norm rwan, ac mai dyma oedd ein ‘prif lif’ ni.

Erbyn Eisteddfod 2016, roedd yr artistiaid hyn, yn enwedig Sŵnami, yn tawelu yn sylweddol o ran rhyddhau cynnyrch a pherfformio’n fyw, a chafwyd yr ymdeimlad cyfarwydd hwnnw fod y bandiau hyn wedi cyrraedd brig y sîn, a dyna ni. Fodd bynnag, yr hyn nad oeddwn i’n ei sylweddoli ar y pryd, oedd bod rhywbeth newydd ar droed. Gosodwyd y llawr. Ie, y llawr. Roedd cryfder diwylliant yr indie kids (neu’r ‘indie boys’, yn hytrach), yn lawr ddigon cadarn i gynnal diwylliant newydd, tanddaearol, a oedd yn prysur wasgu eu bysedd drwy’r tyllau yn y pren. Roedd gan y criw a oedd yn bloeddio o dan y trawstiau gwestiynau i’w gofyn, materion i’w codi â’r math o ddiwylliant a grëwyd dros y blynyddoedd diwethaf. Pam indie? Ydi riffs ar y gitârs yn hanfodol bwysig? Oes angen i bawb wisgo catalog Topman a River Island? Ac wrth gwrs, Ble Mae’r Merched?…

2017 oedd y flwyddyn lle y chwalwyd y llawr hwnnw. Daeth labeli fel Libertino a JigCal i herio’r tresi ac i gyflwyno meddylfryd gwbl wahanol. Wrth iddynt wrthwynebu rhywbeth, boed yn fwriadol neu beidio, roedd modd eu cymharu. Wrth eu cymharu, gellir dweud eu bod nhw’n ‘rywbeth arall’, neu yn syml, yn ‘Amgen’.


Beth yw ‘Amgen’?

Ond ydy’r term hwn yn golygu unrhywbeth, go iawn? Mae’r term, yn ei hanfod, yn broblemus. Mae’n derm hynod gymharol, sydd yn dibynnu ar ffactorau eraill o’i gwmpas. Os yw cerddoriaeth yn amgen, neu os yw’r diwylliant yn danddaearol, rhaid cael ‘norm’ i wthio yn ei erbyn, a rhaid cael rhywbeth sydd uwchben y ddaear. Er mwyn diffinio’r amgen, felly, rhaid diffinio’r ‘norm’ a’r ‘prif lif’.

Yn nhermau’r cyfnod a drafodwyd ynghynt, Sŵnami, Candelas ac Yws Gwynedd yw’r prif lif. Ond, mae hynny’n trin y Sîn Roc Gymraeg fel ffenomen sydd yn gweithio’n annibynnol heb unrhyw ddylanwad arall arni. Nid oes unrhyw ffan o’r sîn hyd y gwn i yn gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg yn unig drwy gydol y flwyddyn, ac felly, rhaid cydnabod y diwydiant Eingl-Americanaidd mawr, brawychus hwnnw sydd yn cuddio’n y cefndir. Os mai’r diwylliant hwnnw, neu gerddoriaeth y siartiau Prydeinig yw’r prif lif, ydy holl gynnyrch cerddorol Cymraeg ei iaith yn ‘amgen’? Ydy Bryn Fôn yn canu am blwyf Llanllyfni yn ei iaith ei hun yn weithred radical, rwan, gan nad yw’n cyd-fynd â’r norm? Nac ydy siŵr, ‘dw i’n clywed hipsters y wlad yn ei ddweud.

Oes angen trafodaeth am genre yma felly? Ai canon roc clasurol, y dynion a’r gitârs yw’r norm? Ai cerddoriaeth radio-gyfeillgar Calfari a Fleur de Lys yw’r brif afon sy’n llifo drwy ein sîn? Rhaid darganfod rhyw fath o ddynodydd seinyddol sy’n galluogi i ni wahaniaethu rhwng y prif lif a’r amgen, ond mae’n hynod anodd gwneud hynny. Heb os, ni fuasai unrhyw un yn mentro cyhuddo Adwaith o fod yn rhan o unrhyw brif lif, ond eto, caneuon ag offeryniaeth draddodiadol, a chaneuon pop tri munud â nifer cyfyngedig o gordiau ydyn nhw i bob pwrpas. Nid oes modd tynnu’r gerddoriaeth allan o’i gyd-destun, fodd bynnag, ac mae’r geiriau a’r neges a chaiff ei chyfleu yn gymaint o ran o’r pecyn â’r nodweddion cerddorol hyn. Ond, rydym yn parhau i fethu ateb y cwestiwn.

Oes rhaid meddwl yn all-gerddorol, felly? Oes rhaid neilltuo’r hyn yr ydym ni yn ei glywed a chanolbwyntio ar bwrpas a gwerth y gerddoriaeth? Mae’n gwbl rhesymol i awgrymu bod cerddorion amgen yn barod iawn i gysylltu eu hunain â’r term hwnnw. Mae cerddor ‘amgen’, yn aml, yn llawer mwy parod i ddatgan ei phwrpas/ei bwrpas o fewn sîn, ac mewn ffordd, yn gorfodi’r gynulleidfa i’w gosod/i’w osod yn y math hwnnw o gategori. Er enghraifft, un o’r cwynion mwyaf oedd gan Datblygu yn ystod eu dyddiau cynnar oedd y ffaith nad oedd BBC Radio Cymru yn rhoi sylw haeddiannol iddynt. Ond y gwirionedd yw, roedd hynny’n siwtio’r grŵp a’u meddylfryd, gan eu bod yn gosod eu hunain ar wahân i ddiwylliant traddodiadol y wlad. Ydy grŵp yn gorfod datgan eu bod yn ‘amgen’, rhywsut, iddynt gael eu hadnabod felly?

Gellir mynd i siarad am ‘ddilysrwydd’ [‘authenticity’], wedyn. Mae’n rhaid cael cydnabyddiaeth gan gyd-gerddorion a’r wasg amgen er mwyn cadarnhau lle’r artist yn y byd hwnnw. Gyda hyn, daw y perygl o ‘werthu allan’, pe bai’r artist hwnnw’n mynd yn rhy boblogaidd, neu’n bradychu unrhyw elfen o’r byd tanddaearol.


Yr ateb, mewn gwirionedd, yw bod y term cymharol hwn yn gwbl ddi-werth wrth geisio ei ddefnyddio yn rhy gyffredinol. Rhaid cael rhywbeth penodol, rhyw ddynodydd amlwg, i gymharu ag ef er mwyn deall yr ‘arall’, neu’r ‘amgen’. Mi ddywedodd rhywun wrthaf i, sydd yn ffan mawr o gerddoriaeth Gymraeg, mai gair 2017 yw ‘amgen’, ac rwy’n gweld yn union beth mae’n ei olygu. Iddo fo, mae grwpiau newydd 2017 yn gwrthwynebu neu’n cynnig rhywbeth gwahanol i’r hyn ddaeth ynghynt. Iddo fo, felly, cerddoriaeth cyfnod yr indie kids yw’r prif lif, a cherddoriaeth 2017 yw’r ‘amgen’. Yn syml – er mwyn diffinio’r amgen, rhaid diffinio’r prif lif yn gyntaf.


Y ‘Siart Amgen’

RHys

Llun: BBC

Mae Siart Amgen Rhys Mwyn yn amlwg yn rhyw fath o gefnder mwy ‘edgy’ i’r 40 Mawr, y siart a gyhoeddir yn flynyddol ym mis Awst. Pwrpas y 40 Mawr yw i ddarganfod hoff gerddoriaeth Gymraeg y boblogaeth, a thrwy annog pobl i bleidleisio am dair o’u hoff ganeuon, ceir yma adlewyrchiad o dueddiadau gwrando cyffredinol y pleidleiswyr hyn. Er y gellid dadlau nad yw gosod canolfannau mewn dwy Eisteddfod a’r Sioe Frenhinol yn adlewyrchu Cymry Cymraeg o bob math, dyma yw’r prif lif y mae Rhys Mwyn yn gosod ei hun yn ei erbyn yn yr achos hwn.

Gan nad ydym ni wedi gosod diffiniad pendant i ‘gerddoriaeth amgen’, mae rhywun yn pendroni sut mae penderfynu ar amodau’r siart hwn. Ni allai unrhyw un honni mai ‘unrhywbeth sydd ddim yn y 40 mawr’ yw’r amod – roedd ennillwyr siart y llynedd, sef Y Cyrff, yn rhif 25 yn y 40 mawr hefyd. Felly, ydym ni’n gorfod dechrau siarad am ‘gerddoriaeth dda’ (‘good music’), yma? Ai’r gwybodusion, y ‘cerddorion a’r gwrandawyr go iawn’ sydd yn gyfrifol am y siart amgen hon? Er ei bod yn ceisio tynnu’n erbyn y graen, ac er y ddelwedd werinol, gwrthsefydliadol, ydy hyn, yn eironig, yn weithred uchel ael?

Mae’r prif lif, sef y 40 Mawr a’r hyn a geir ei chwarae ar Radio Cymru yn ystod y dydd, yn gwbl amlwg ac eglur. Fodd bynnag, mae penderfynu ar ddilysrwydd cynnwys cerddorol y Siart Amgen ei hun yn llawer mwy amwys. Does dim ond rhaid gwrando ar ddewisiadau Ani Glass ar y rhaglen, yma, i ddod i ddeall hyn. Mae’r drafodaeth i gyd, bron, am ddiffinio’r prif lif, yn hytrach na’r amgen. Yn wir, mae hi’n dewis fersiwn Llwybr Llaethog o un o ganeuon Meic Stevens, ac er bod cerddoriaeth y ‘swynwr o Solfach’ yn anodd i ddiffinio ei hun, mae’n deg i awgrymu bod Llwybr Llaethog yn agosach o lawer at y pegwn ‘amgen’ hwn. Defnyddir yr un gân, yr un geiriau a’r un alawon, ond rŵan, caiff y gân ei gosod mewn amgylchedd, sefyllfa a chyd-destun gwbl wahanol. Llwybr Llaethog, eu hideoleg a’u raison d’être hwy sydd yn gyfrifol am osod y rheolau yma, rŵan, nid Meic Stevens, ac felly caiff yr ‘amgen’ ei ail ddiffinio unwaith eto.


Y Siglen

I gadw’r cydbwysedd cosmig hwn sydd mor anodd i’w weld, ei ddiffinio a’i werthuso, mae’n rhaid i’r prif lif a’r amgen gario ymlaen i wthio yn erbyn ei gilydd, a chreu siglen fregus. Dim ond gronyn bach o egni sydd ei angen i wyro’r siglen tuag at un pegwn neu’i gilydd, ond eto, mae darganfod y siglen hwnnw yn y lle cyntaf bron yn amhosib. Oes mwy nac un siglen, yn dibynnu ar yr amgylchedd a’r cyd-destun?

Yr hyn y mae’r erthygl hon yn ceisio ei brofi, yw’r ffaith bod hynny’n ddewis unigolyddol, ac yn ddewis sydd yn dibynnu ar nifer fawr o ffactorau. Bydd y siart amgen yn creu ei gofod ei hun, ei chyd-destun ei hun a’i reolau ei hun, felly, fydd yn creu diffiniad newydd o’r gair ‘Amgen’ ar ei chyfer. Er mai mwynhau’r tiwns fyddwn ni, does dim byd yn bod mewn ceisio meddwl ychydig yn athronyddol cyn y Nadolig fel hyn!

Er mwyn sicrhau y bydd y siart yn deg ac yn adlewyrchu amrywiaeth mewn meddylfryd, amrywiaeth yng nghefndiroedd y pleidleiswyr, a hefyd, amrywiaeth yn y gerddoriaeth ei hun, mae’n rhaid i ni gyd bleidleisio. Gallwch wneud hynny drwy ebostio rhysmwyn@bbc.co.uk.

Gwyliwch allan hefyd am ddewisiadau amgen a phleidleisiau cyfranwyr SaS, fydd yn cael eu cyhoeddi wythnos i heddiw!

Adolygiad: Gig Y Niwl, Omaloma, Ffracas a Pasta Hull – Pontio, Bangor

Dau, nid un, o gyfranwyr Sôn am Sîn sydd oedd gyfrifol am adolygu gig Y Niwl, Omaloma, Ffracas a Pasta Hull yn Pontio wythnos diwethaf. Ydy Gethin Griffiths ac Owain Williams cytuno â’i gilydd…?

Pontio

GETHIN GRIFFITHS / OWAIN WILLIAMS

GG

Am ryw reswm, pan mae Pontio’n trefnu rhywbeth, mae rhywun yn mynd i drafod y lleoliad o hyd. Mae hynny o ganlyniad i’r holl drafferthion anffodus a gafwyd yn ystod y dyddiau cynnar, ac mae rhywun yn mynd i fod yn or sinigaidd. Yn dechnegol, dyma’r lleoliad gorau ar gyfer cynnal gigs yng Ngogledd Orllewin Cymru, gan eithrio Venue Cymru, efallai, ac mae’r potensial o ran sain, llwyfannu a goleuo yn ddi ben draw. Y broblem fwyaf, fodd bynnag, yw bod rhaid denu torf fawr i lenwi’r gofod, ac os nad yw’r gofod hwnnw’n cael ei lenwi, mae rhywun yn mynd i deimlo’n eithaf swil ac ymwybodol iawn o’i hun. I mi, roedd y nifer a ddaeth i wylio Y Niwl, Omaloma, Pasta Hull a Ffracas yn nifer parchus iawn, ac mewn nifer o leoliadau eraill, buasai rhywun yn ystyried y gig i fod yn llwyddiant ysgubol o ran cynulleidfa. Fodd bynnag, mae’n bryd i ni symud ymlaen o boeni am bethau felly, ac mae’n bryd i ni gychwyn cefnogi Pontio fel lleoliad pwysig i fandiau gael perfformio. Mae’n rhaid cynnal nifer fawr o gigs yn aml er mwyn cadarnhau lle’r ganolfan fel venue, ac mae’n rhaid bod yn barod i ddenu cannoedd i un gig ac yna degau yn unig i’r gig nesaf. Dyna yw natur gigs.

Y peth mwyaf od am y gig oedd y ffaith bod nifer fawr o’r gynulleidfa naill ai’n eistedd ar yr ochrau neu’n sefyll yn y cefn. Mae hyn yn gwbl arferol, wrth gwrs, ac nid yw pobl yn tueddu i fynd i’r blaen ar ddechrau’r gig. Ond, rwy’n siŵr y buasai llawer o’r unigolion hynny, oedd wedi talu £12 am docyn, wedi’r cyfan, wedi gwerthfawrogi ychydig mwy o gyfathrebu ar ran yr artistiaid. Dyma oedd prif wendid y noson, yn fy marn i, ac er bod y noson i fod yn gyfle i ymlacio i gerddoriaeth amgen, mi fuaswn i wedi gwerthfawrogi petai’r artistiaid wedi cyfarch y gynulleidfa rhyw ychydig – hyd yn oed drwy ambell reg achlysurol neu drwy bledu abiws atom ni. Mi fuasai hynny wedi llacio pethau ac, efallai, wedi gwneud i ni ymlwybro tua’r blaen yn gynharach.

Wedi dweud hynny, mi wnes i, ac Owain, fwynhau’r perfformiadau cerddorol. Dyma ein dadansoddiad ni o bob grŵp, felly!


Pasta Hull

OW

Pan yr ydw i’n meddwl am Pasta Hull, nid Pontio yw’r lleoliad cyntaf sy’n dod i’r meddwl. Anaml yr ydych chi’n gweld band arbrofol yn cyflwyno cymysgedd o arddulliau sy’n ymestyn o seicadelia i ffync ac, i ryw raddau, reggae-techno hefyd. Dyma ble y daeth llwybrau Pontio a Pasta Hull ynghyd. Mae crynhoi neu chategoreiddio sain y band yn profi’n anodd – ac i mi, dyma dynnodd fy sylw a fy nghyffroi ar y noson. Er fy mod yn credu bod agwedd ymylol y band yn gweddu i adeiladau ‘tywyllach’ eu natur yn well, roedd eu set fel awyr iach. Bosib eu hagwedd anghyffredin o fewn y sîn gerddoriaeth Cymraeg heddiw sy’n derbyn sylw ond mae rhaid pori o dan yr arwyneb i werthfawrogi amrydedd eu cerddoriaeth. I mi, roedd eu set yn profi nad band sydd ag enw dadleuol a mix heriol am Bryn Fôn yn unig yw Pasta Hull, ac mae’r brodyr, Llyr ac Owain Jones, yn creu arddull cerddorol hynod drawiadol. Wrth wrando ar eu demos ac ar ganeuon oddi ar eu halbwm ‘Achw Met’ mae’n amlwg bod gan y geiriau naws creadigol a phersonol iddynt ond hefyd gwreiddiau a phwrpas, yn debyg i fandiau o’r 80au hwyr fel Ffa Coffi Pawb.

Pasta Hull agorodd y noson, ac er doedd Pontio ddim wedi’i drydanu, roedd y gân ‘Jam Heb Siwgr’ yn sicr yn meddiannu ffocws a sylw’r gynulleidfa ac yn annog gwrandawiad mwy astud. Roedd eu defnydd o’r bongos yn nodweddiadol o’u perfformiad byw ac yn selio’r sain amrwd/garej. Amlygai hyn yn bennaf yn ystod ‘Bulletproof Funk’ a ‘Cacan Ffenast’. Hon oedd y tro cyntaf imi weld Pasta Hull yn fyw ac yn ddi ffuant, daliwyd fy nychymyg. Achw met.


Ffracas

GG

Mi’r ydw i wedi siarad yn ffafriol am Ffracas erioed, ac er nad ydynt wedi bod mor gynhyrchiol yn 2017 ag yr oeddwn i’n ei ddisgwyl, mae’r dyfodol yn parhau i fod yn ddisglair iddynt. Yr hyn a’m tarodd am y band o’r dechrau yw eu hyder a’u parodrwydd i neilltuo ei hunain oddi wrth eu cyd fandiau, a dyma oedd eu cryfder yn y gig hwn. Roedd y ddelwedd indie yn treiddio drwy eu gwythiennau, ac roedd y pedwar yn edrych yn gwbl gyfforddus ar lwyfan.

Doeddwn i erioed wedi gweld Ffracas ar lwyfan mor fawr gyda phrosesu mor gymhleth, chwaith, ac mae’n rhaid i mi ddweud fy mod wedi eu mwynhau gyda llawer o reverb. Mi wnaeth yr holl beth fy atgoffa o fynd i ŵyl Dot to Dot ym Manceinion, a’r math o ddelwedd a grëwyd gan fandiau fel The Night Café yno. Yr unig beth sydd angen rwan ydi magu perthynas agosach â’r gynulleidfa, ac efallai, denu mwy o’u ffrindiau i ddod i foddi’r blaen â’u chants meddw.


Omaloma

GG

Yn ystod ‘Aros o Gwmpas’, mi ddywedodd ‘na rywun wrtha’ i.. ‘Ma pawb yma achos o un gân. Ma pawb yma i glwad hon’. Er fy mod i’n siŵr nad ydy hynny’n gwbl wir, mi’r ydw i’n gweld yn union pam y buasai rhywun yn dweud hynny. Mae Omaloma wedi dwyn ein sylw eleni, a gyda phob trac newydd, mae pawb yn gwirioni o’r newydd hefo’r tiwns. Mae cerddoriaeth atmosfferig, hypnotaidd, yn gyfarwydd iawn i ni ers blynyddoedd erbyn hyn, ond mae George Amor a’i fand cefndirol wedi cyfuno’r seiniau hyn â chaneuon sydd yn ddigon bachog i ddwyn cynulleidfa newydd. Rhywsut, mae’n plesio’r gynulleidfa amgen, ac yn gallu troi pennau ambell un sydd ddim mor eithafol eu blas.

Roedd ‘na ochenaid yn dod o’r gynulleidfa bob tro’r oeddent yn dechrau cân newydd, ac roedd rhywun yn sylwi eu bod nhw’n adnabod y rhan fwyaf o’r caneuon rywsut neu’i gilydd. Mae ‘Eniwe’ yn parhau yn ffefryn personol i mi, am ryw reswm, ac felly honno dderbyniodd fy ochenaid i. Wedi dweud hynny, mi nes i anghofio pa mor dda oedd ‘Dylyfu Gen’ hefyd…

Y peth mwyaf trawiadol am Omaloma oedd pa mor ddiymdrech yr oedden nhw’n edrych ar y llwyfan. Fel band profiadol, mae George Amor, Gruff ab Arwel, Dafydd Owain a Llyr Pari wedi hen arfer creu seiniau amrywiol ar lwyfan, ond y tro hwn, roedd pawb eisiau bod yn rhan o’r hwyl. Mae’n bryd i George sylweddoli bod ganddo fo’r gynulleidfa yn ei ddwylo, ac mi allai ddefnyddio hynny i’w fantais drwy beidio bod mor ddiymhongar!

Erbyn ‘Aros o Gwmpas’, mi ddaeth y pedwar ynghyd i ymgynnull o gwmpas Nord Electro George, oedd yn fy atgoffa ychydig o lwyfannu arbrofol Meilyr Jones ar yr un llwyfan flwyddyn diwethaf. Efallai bod angen chwarae ychydig mwy hefo’r sioe lwyfan erbyn y tro nesaf, i ni gael mwynhau’r space pop ar lefel goruwchnaturiol.


Y Niwl

OW

Yn dychwelyd o’u hiatus gyda chasgliad newydd o ganeuon syrff-roc, syml a llawn llinellau gitâr bachog oedd ‘Y Niwl’. Lansiwyd eu halbwm diweddaraf 5 mewn dwy gig amgen eu natur yng Nghlwb Ifor Bach (Twrw) nos Wener ac ym Mhontio nos Sadwrn. Yn ddisgwyliedig, doedd y gig hon ddim am fod yn drydanol – ond yn hytrach yn un cŵl a hamddenol, a chadarnhaodd ‘Y Niwl’ yn union hyn. Y peryg sy’n gysylltiedig â bandiau offerynnol yw eu bod yn wych mewn cyfnodau bychain ond yn colli eu heffaith wrth i’r set barhau, a gallai ymddangos yn ailadroddus. Er bod yr elfen hon i raddau’n wir nos Sadwrn (fy mai i o bosib gan nad oeddwn wir yn gyfarwydd â’r cynnyrch newydd), roedd y trefniadau golau, mwg a fidio yn cynnal diddordeb wrth ddisgwyl yn amyneddgar am eu tiwn fwyaf, heb os, sef ‘Undegpedwar’. Er dydi’r albwm ddim yn cynnig arddulliau o’r newydd nac yn mentro ar steil anghyffredin, roedd perfformiad retro ac ymlaciol ‘Y Niwl’ wedi llwyddo i hypnoteiddio’r gynulleidfa.

 

Adolygiad: Gig TWRW #3 / FEMME – Adwaith / Marged / Serol Serol

Adwaith
GETHIN GRIFFITHS

Anaml iawn y bydda’ i’n cerdded o gig yn meddwl mwy am fodolaeth y gig yn hytrach na’r cynnwys cerddorol. Anaml iawn y bydda’ i’n cerdded o gig yn meddwl am unrhywbeth heblaw am sut oedd yr hyn a glywais wedi fy ngwneud yn berson gwahanol i’r hyn oeddwn i cyn cerdded drwy’r drws. Fodd bynnag, roedd yr argaff gafodd gig FEMME arnaf i yn llawer mwy na’r gerddoriaeth.

Mae pawb a oedd yn yr ystafell wedi bod mewn nifer fawr o gigs gyda phob aelod o bob band yn ddynion, heb os. Does yna neb erioed wedi trefnu gig pwrpasol ar gyfer dynion yn unig, ond o ganlyniad i’r anhafaledd sylfaenol sydd yn perthyn i gymdeithas, er gwaethaf pa mor rhyddfrydol y gallai hi fod, norm anheg yn yr isymwybod ydy hynny. Mewn byd delfrydol, bydd rhywun yn gobeithio y gellid trefnu gigs gyda phawb o bob rhyw, cefndir a phersonoliaeth yn gymysg ac yn hafal, ond mae amherffeithrwydd ein byd ni rwan yn golygu bod rhaid gwneud y cam cyntaf, pragmatig, hwn, o drefnu gig o’r fath.


Drwy gysylltu lein-yp â chysyniad ‘angherddorol’, fel y cyfryw, mae disgwyl i’r artistiaid fod yn amrywiol yn eu harddulliau a’u delwedd. Mae Adwaith a Serol Serol yn ddau fand sydd wedi dwyn llawer o’r sylw ar y cyfryngau cymdeithasol, yn ogystal â rhaglenni Radio Cymru, eleni, ond doedd nifer o’r gynulleidfa heb gael cyfle i’w gweld nhw yn fyw o’r blaen. Roedd hyn yn wir am Serol Serol, yn enwedig, gan mai dyma oedd eu gig cyntaf nhw erioed. Gallwch ddadlau, felly, fod chwilfrydedd yn rywbeth a oedd yn linyn cyswllt i’r artistiaid yn hytrach na’u hardulliau cerddorol, ac roedd yn gyfle iddynt brofi eu gwerth ar lwyfan byw.

Y grŵp cyntaf ymlaen i ddiddanu cynulleidfa eiddgar, a oedd yn gymysg o fyfyrwyr a chriw ychydig yn hŷn, oedd Serol Serol, y ddeuawd o Ddyffryn Conwy. Er mai Leusa a Mali yw prif ffocws y band, doedd dim cuddio’r ffaith mai tri bachgen oedd yn cyfeilio iddynt. Mae George Amor (synth), Llŷr Pari (gitâr) ac Alex Morrison (bâs) yn enwau cyfarwydd iawn yn y byd pop seicadelig, ac mae llawer o’r bandiau mwyaf cynhyrchiol ar hyn o bryd yn cynnwys rhyw gyfuniad o’r tri aelod mewn rhyw fodd. Roedd hynny’n cynnig cefnogaeth brofiadol i’r ddwy, a oedd, wedi’r cyfan, yn perfformio yn eu gig cyntaf erioed. Mae’r ddelwedd yno’n barod, ac er bod y ddwy wedi cyfnewid rôl o ran lleisio mewn ambell gân, roedd yr hyn a glywyd yn fyw yn ailgynhyrchiad a oedd yn ddigon agos i’r traciau a oedd wedi ein swyno ar y radio. ‘Cadwyni’ ac ‘Aelwyd’ yw’r unig ddwy gân sydd wedi cael eu rhyddhau hyd yn hyn, ac o ganlyniad i hynny roedd rhan fwyaf y set yn gwbl ffres i’n clustiau ni i gyd. A dweud y gwir, creaduriaid eitha tebyg i’r ddwy gân honno oedd y gweddill, ond teyrnged i gryfder space pop fel genre yw hynny, dw i’n meddwl. Mae ‘Cadwyni’’n parhau i fod yn ffefryn, fodd bynnag, ond ‘dw i’n edrych ymlaen at glywed gweddill eu set wedi cael eu recordio’n fuan. Er bod yna waith i’w wneud ar gyfathrebu a magu hyder o flaen y meicroffon, mae’n debyg mai’r peth y gwnes i fwynhau fwyaf am berfformiad y ddwy oedd y ffaith nad oeddent yn gorwneud yn lleisiol, oedd yn hynod addas i’r math hwn o gerddoriaeth. Dim ond gigio yn gyson yw’r ffordd ymlaen iddynt rwan.


Rhwng Serol Serol a phrif artistiaid y noson, Adwaith, cafwyd perfformiad lleisiol trawiadol gan artist ifanc o Gaerdydd. Ddim ond ar ôl i rywun sôn bod Marged yn ferch i Delwyn Siôn, y canwr-gyfansoddwr profiadol, y gwnes i sylwi hynny, ac felly roedd fy nghynsail i i’w pherfformiad yn gwbl glir. Er fy mod yn gwerthfawrogi camp lleisiol Marged, a oedd yn ddigon mawr a hyderus i chwarae llwyfannau llawer mwy na Chlwb Ifor Bach, roedd y gerddoriaeth ychydig yn rhy poppy i mi, a dydw i ddim yn tueddu i allu cysylltu ag artist sydd yn defnyddio trac cefndirol yn unig yn yr un modd ag artist â band yn cyfeilio iddynt, am ryw reswm. Mater personol i mi yw hynny, ac felly ni lwyddodd Marged i ddenu fy sylw drwy gydol ei set yn yr un modd a Serol Serol. Fodd bynnag, doeddwn i ddim yn rhannu fy marn â nifer fawr o unigolion eraill yn yr ystafell, gan bod y gynulleidfa yn y blaen yn amlwg yn mwynhau’r hyder, yr egni, a’r llais enfawr, a oedd yn bregeth yn yr isymwybod ein bod yn cyflawni rhywbeth hynod bwysig.

Rydym ni wedi ysgrifennu droeon am bwysigrwydd Adwaith i’r sîn. Doedd na ddim band gwell o ran eu symboliaeth i orffen noson o’r fath, ac roedd eu gallu i greu synnwyr o bŵer a balchder yn y gynulleidfa fenywaidd o’u blaenau i’w edmygu’n fawr. Maen nhw wedi datblygu eu cymeriad yn sylweddol ers rhyddhau eu sengl cyntaf, ‘Pwysau’, ac erbyn hyn, mae’r caneuon yn gwbl gignoeth ac yn llosgi ein cydwybod tan mae ein hesgusodion gwan yn anweddu. Mae’r gân ‘FEMME’, oedd bron fel trac teitl i’r noson, yn enghraifft perffaith o hyn. Wedi dweud hynny, dydw i ddim yn or hoff o’r gerddoriaeth ei hun ar brydiau, ac yn meddwl bod lle iddynt ymestyn ar yr hyn y maent yn ei wneud â dilyniant cordiau a gweadau gwahanol. Rydw i wedi bod yn gwrando ar St. Vincent yn ddiweddar, sydd yn enghraifft gwych o blethu geiriau crafog â cherddoriaeth bop sydd yn cynnig rhywbeth gwahanol i’n clustiau ni. Fodd bynnag, nid dyma oedd yn bwysig ar yr ennyd hon, ac roedd egni’r ystafell yn amlwg yn newid yn gyfangwbl yng nghwmni’r tair o Sir Gaerfyrddin. Diddorol oedd sylwi, hefyd, bod Gruff, sefydlydd Libertino, yn chwarae bâs i un o’u caneuon nhw, a oedd yn rhyddhau Gwenllian i fynd i chwarae’r synth. Wrth gwrs, nid yw hyn yn gweithio o gwbl yn y tymor hir, ond efallai y buasai ychwanegu un ferch ar y synth, neu aildrefnu o ryw fath yn gweithio, gan i’r sain oleuo yn sylweddol gydag offeryn ychwanegol.

Mae’n RHAID i mi roi sylw, hefyd, i’r DJs, sef Gwenno a Patblygu (Ie, Pat o Datblygu), a lenwodd pob bwlch yn wirioneddol wych. Roedd yn rhaid i mi ofyn i Pat ar y diwedd beth oedd ei thrac olaf (oedd wedi gwneud i mi golli fy hunan barch gyda fy nawnsio).. ac wrth gwrs, roedd yn arwyddocaol mai enw’r trac oedd ‘Girl in a Sports Car‘.


Roeddwn i’n ymwybodol fy mod i wedi bod yn rhan o rywbeth pwysig iawn y noson honno wedi i mi adael. Ai gig i mi oedd y noson hon? Mae hynny’n ddiddorol, gan mai’r prif effaith gafodd y noson arnaf i oedd sylweddoli pŵer yr ymgyrch hon o godi hyder ymysg merched a hybu ac annog hafaledd. Yn eironig, felly, mi oedd y gig ar fy nghyfer i gan fy mod yn dysgu rhywbeth hanfodol am y diffyg nosweithiau o’r fath a fuodd dros y blynyddoedd diwethaf, a’r diffyg cerddorion benywaidd nad oedd yn cael eu hannog i chwarae mewn bandiau, heb sôn am drefnu gigs iddynt. Oedd, mi’r oedd gen i lawer o bethau bach cerddorol a fuaswn i wedi hoffi ei drafod a’i ddadlau, ond mi oedd pŵer y Femme yn llawer yn rhy gryf i mi boeni am bethau bach felly am noson.