Mae ‘na Barrot, Gwdihw a Buffalo yn cerdded mewn i far…

GARMON AB ION
… Mae’r bar di cau.

Depressing yntydi. Llwm iawn a ddweud y gwir a dyw’r sefyllfa ddim chwaith yn gwneud llawer o synnwyr. Ychydig dros flwyddyn yn ôl roedd clybiau nos a bariau Caerdydd dan yr argraff eu bod yn gymharol ddiogel dan oruchwyliaeth newydd y Cyngor a Sound Diplomacy.Wedi protest, gorymdaith ac apêl fe gafodd Caerdydd ei bedyddio fel Dinas Gerdd: roedden ni yn barod i gamu yn hyderus yn  ôl traed San Fran a Vancouver ond ar yr un pryd i ddilyn ein cwys ein hunain. Fe gafon ni seremoni hyd yn oed yn llawn pwysigion y Cyngor, perchnogion clybiau, cerddorion, hyrwyddwyr a datblygwyr. Roedd ’na fap wedi ei greu, a lansiad. Ac roedd ’na fuddsoddiad ariannol. £75000 o bunnoedd wedi ei neilltuo ar gyfer tendar a oedd yn ôl y sôn i arwain y maes.  A be mae’r £75,000 wedi llwyddo i’w wneud? Dim ond achosi i’r map ddyddio a chreu drwg deimlad. Rydyn ni mewn gwaeth sefyllfa nawr nac oedden ni cyn i’r cwmni yma o Lundain (Sound Diplomacy) gyrraedd.

buffalo

Mae effaith cau y drysau yma yn mynd i fod yn un pell gyrhaeddol; fe fydd yn fwy na cholli lleoliad i fynd i weld band yn fyw. Heb y lleoliadau yma sut y mae artistiaid i fod i ddatblygu? Heb y lleoliadau yma ble mae’r sbardun i symud allan o’r stafell ymarfer a chwilio am gynulleidfa? Heb y lleoliadau yma does dim unman i chware felly be di’r pwynt? Ble mae’r artistiaid yma fod i gael yr hyder i drio pethau newydd? Yn lle da ni fod i glywed y “peth mawr nesa”? Yn lle da ni fod i greu atgofion? Cwrdd ag eneidiau hoff cytûn? Yn y pendraw heb y clybiau yma fydd yr ystod eang o gerddoriaeth y mae pawb yn ei frolio ddim yn para llawer yn hirach. Ac wrth gwrs y mae bywoliaeth degau ar ddegau o bobl yn cael ei ddinistrio yn ei sgil a Chaerdydd yn ymdebygu i unrhyw ddinas arall sy’n gorfoleddu ac ymdrybaeddu mewn unffurfiaeth.

Dwi’n llwyr ymwybodol fod yna ffactorau eraill yn ymwneud â chlybiau yn cau ac felly y mae hi ychydig yn annheg i mi bwyntio bys yn uniongyrchol at y Cyngor a Sound Diplomacy fel cnewyllyn y broblem ond mae’n amlwg bod buddsoddiad y Cyngor yn llawn ffaeleddau, ac gallent fod wedi gwario’r arian mewn modd callach. Dwi’n ymwybodol ein bod yn byw mewn cyfnod lle mae gwrando ar gerddoriaeth gymaint haws ac yn fwy hygyrch ac felly falle bod llai yn mynychu gigiau- ond nid dim ond gwrando wnewch chi’n wrth fynychu gig.  ’Da chi’n byw’r gerddoriaeth –  dwi’n llwyr ymwybodol bod hwnna yn swnio fel llinell gawslyd o ffilm ond mae na elfen o wirionedd iddo. Gyda’r clybiau yma yn cau dwi’n gweld cenedlaethau’r dyfodol yn colli ar brofiadau ffurfiannol hanfodol. Felly cefnogwch eich clybiau lleol, mynychwch y gigs, a dangoswch eich dicter bod rhan hanfodol o ddiwylliant Cymru dan fygythiad.