Traciau Amgen Criw SaS!

Ar ôl yr holl drafod am gerddoriaeth amgen, mae’n bryd i gyfranwyr Sôn am Sîn roi eu pennau ar y bloc a phleidleisio ar gyfer Siart Amgen Rhys Mwyn. Nid yw’n syndod eu bod i gyd wedi mynd ar drywydd gwbl wahanol i’w gilydd…

Y Cyrff.jpg

Y Cyrff oedd enillwyr y llynedd, gyda’u hanthem amrwd ‘Anwybyddwch Ni‘ (Llun: BBC).


Aled Huw Russell

OSHH – Hen Hanesion

Dwi’n caru’r gân yma gan bod dylanwad fy hoff fand Cymraeg yn treiddio drwyddi. Gallaf glywed y tebygrwydd rhwng Hen Hanesion a chân fel ‘Cau Dy Lygaid’ gan Yr Ods, cân arafach y mae Osian yn ei harwain, tra bod Griff Lynch yn tueddu tuag at ddylanwadau mwy synth-pop. Mae awyrgylch chwedlaidd Big Leaves i’w deimlo yn y gân, ond er hyn, mae’r alawon synth yr ydym ni’n eu cysylltu hefo’r Ods yn amlwg i’w clywed.


Bethany Celyn

Gwenno – Chwyldro

Lle mae dechrau sôn am Gwenno? Ymestynna ei dylanwad tu hwnt i Gymru gyda nifer yn gwirioni ar yr hyn mae hi wedi cyflawni. A be mae Gwenno Saunders wedi cyflawni, gofynnwch chi? Rhywbeth sydd wedi dal sylw nifer fawr o bobl. Mae hi wedi creu soundscape unigryw ei hun, bron fel byd cerddorol arall lle y gallai herio patriarchaeth a thraddodiad a myfyrio sut brofiad yw byw o fewn cymdeithas leiafrifol. A theimlwn wefr y campwaith hwn ar ei ucha’ yn Chwyldro, cȃn gyffrous sy’n sicr yn haeddu ei lle ar siart amgen.


Chris Roberts

FFUG – Llosgwch y Ty i Lawr

Fe wnaeth Ffug (neu Y Ffug fel yr oeddent yn galw eu hunain bryd hynny) gorddi’r dyfroedd cryn dipyn wedi iddynt ennill Brwydr y Bandiau C2 yn 2013. Tra bod eu beirniadaeth o’r gymdeithas Gymraeg yn Cariad Dosbarth Canol Cymru wedi denu’r penawdau, Llosgwch y tŷ i Lawr ydi’r gân sydd yn sefyll allan i mi ar yr EP Cofiwch Dryweryn. Maent yn sianelu ysbryd punk rock bandiau fel y Clash wrth i’r gerddoriaeth upbeat, poppy wrthgyferbynnu yn llwyr gyda chyfarwyddiadau tywyll y prif leisydd. Clywir hefyd rwystredigaeth Iolo hefo’r disgwyliadau uchel sydd yn cael ei roi arno – “cofiwch wneud pob peth sy’n dda a dim byd anghywir.” Fel gweddill yr EP, dwi’n teimlo fod Llosgwch y Tŷ i Lawr yn dal yn berffaith y cyfnod anodd o drio ffurfio hunaniaeth eich hun yn eich arddegau wrth sylweddoli na allwch chi blesio pawb. Mae’n hawdd anghofio gymaint oedd yr Cofiwch Dryweryn yn sefyll allan ar y pryd o ran yr hyn oedd gan y band i’w ddweud – fe agorodd Ffug y drws i lawer o fandiau’r sîn heddiw fel Hyll a Adwaith i allu canu yn ddi-flewyn-ar-dafod. Mae’r gân hon yn un o’n caneuon amgen gorau gan ei bod hi’n llawn agwedd, ddim yn cymryd ei hun ormod o ddifri, ac wedi cael effaith wirioneddol ar y sîn yng Nghymru.


Elan Grug Muse

Anweledig – 6.5.99

Dwi’n rhy ifanc i gofio y bleidlais dros ddatganoli, a sefydlu’r senedd, ac eto mae’r state-of-the-union, llif yr ymwybod yma wastad yn gneud i fi aros a gwrando. Mae hi’n bryfoclyd a gonest, yn anesmwytho ac yn herio. I fi, mae hi’n dal rhywfaint o’r cymhlethdod, rhwystredigaeth a’r gwrthddeud hynny sydd ynghlwm a bod yn Gymro neu Gymraes.


Elin Wyn Erfyl

Adwaith – Lipstick Coch

Mae Adwaith yn arbennig. Ers gweld nhw’n perfformio yn un o nosweithiau Twrw yn Clwb Ifor Bach dwi’n hooked. Dyma fand ifanc ac unigryw gyda cherddoriaeth llond Ohrwurms a geiriau clyfar – fedrai’m disgwyl iddyn nhw ryddhau mwy.


Gethin Griffiths

Tynal Tywyll – Y Bywyd Braf

Mae’r ymdeimlad o nostalgia yn un od. Yn enwedig pan nad ydy o’n eich tywys chi i rywle penodol yn eich hanes. Fel milenydd (os oes yna ffasiwn air), mae pellafion fy nghof yn ymestyn i droad y mileniwm, ac am ryw reswm, mae meddwl am y cyfnod hwnnw’n gwneud i mi deimlo’n reit od. Y darlun erchyll hwnnw o Blair a’r frenhines yn croesi eu dwylo ar nos galan, llinynnau oesol John Barry yn cael eu bastardeiddio gan Robbie Williams, a chyfnod newydd o obaith ffug.

Yn fwy penodol a mwy cerddorol na hynny, un offeryn sydd yn fy atgoffa o’r cyfnod hwn yw’r piano. Nid baledi cawslyd na solos jazzy hir, chwaith, ond stabs cordiol dros gerddoriaeth ddawns. Unwaith eto, wrth gwrs, roedd cerddoriaeth House, a cherddoriaeth Piano House yn benodol, yn perthyn i hanner cyntaf a chanol y nawdegau, efallai, sydd yn ychwanegu at yr ymdeimlad hwn o ‘nostalgia ffug’ heb un ‘amser penodol’. Wel, mae’r gân hon yn dod o 1992 – cyn i mi gael fy ngeni, felly mae’n rhaid iddo fo fod yn ffug! Y gân, yw ‘Y Bywyd Braf’ gan Tynal Tywyll, er ei bod hi’n rhoi nod go amlwg i’r Happy Mondays.

I unrhyw un arall, mae’r uchod yn swnio fel nonsens llwyr. Ond dyma all cerddoriaeth amgen wneud weithiau… Gan nad yw ‘Bywyd Braf’ yn cael ei chwarae hyd syrffed gan y byd a’i gi, mae modd iddi olygu rhywbeth personol i mi, na chaiff fyth ei ddifetha gan wrandawyr carioci y 40 mawr.


Rhys Dafis

Los Blancos – Clarach

Gallen i fod wedi dewis cân gan rywun fel Ffa Coffi Pawb, Jarman, Datblygu neu hyd yn oed Meic Stevens, ond gan taw ‘nghwyn mwyaf i am y ‘40 Mawr’ yw bod nhw’n ailadrodd yr un hen crap flwyddyn ar ôl blwyddyn yn hytrach na cherddoriaeth gan fandie ifanc, bydde hynny ychydig yn rhagrithiol. Felly dwi wedi penderfynu mynd am gân gan un o fandie newydd mwya cyffrous y sîn ar y funud, sef Clarach gan Los Blancos, cynnyrch diweddara indie production line Caerfyrddin. Maen nhw wedi bod yn y stiwdio yn ddiweddar a dwi’n edrych mlaen yn arw i glywed y stwff newydd.

Dwi’n hoffi’r sengl newydd, ‘Mae’n Anodd Deffro Un’, ond fy hoff gân i heb os yw ‘Clarach’. Mae hi’n gân digon syml, ond mae ganddi gytgan ffantastig a geirie gwych. Dwi’n methu helpu ei chymharu hi ychydig gyda ‘Far Rockaway’ gan Iwan Llwyd yn y ffordd mae hi’n creu darlun ffantasïol o rywle sydd mewn gwirionedd yn ychydig o dwll. Ac am hynny’n unig, mae’n haeddu lle ar y siart.


Marged Gwenllian

Anelog – Melynllyn

Mae’r gân i gyd yn llifo’n ddiymdrech, ac mai’n llwyddo i fy ngwneud i’n hollol ymlaciedig bob tro. Mae’r gitârs a’r lleisiau meddal yn plethu’n wych, a’r “www”s yn freuddwydiol a hyfryd. Mae hi’n datblygu rhywfaint wrth fynd ymlaen, drwy ehangu ar y riffs yn lle’r ailadrodd hamddenol a geir ar y cychwyn, ond ddim yn ormodol chwaith nes ei bod hi’n mynd yn rhy brysur a byrlymus. Maen nhw hefyd yn cyflwyno mwy o offerynnau electronig wrth fynd ymlaen sy’n rhoi sŵn gwahanol a newydd i’r gân, ac mae’n sicr yn gweithio. Nid yw’r offerynnau’n tynnu sylw fel synau anarferol o gwbl, oni bai dy fod ti’n gwrando allan amdanynt yn y cefndir. Mae’n bosib nad ydy’r clashes yn harmoni’r “www”s yn cael eu llwyr werthfawrogi tan y’i ceir nhw’n acapella ar y diwedd, ac mae’r rheiny’n hyfryd ar y diwedd yn coroni cân wych.


Miriam Elin Jones

Llwybr Llaethog ac Ifor ap Glyn – Fydd y Chwyldro Ddim ar y Teledu, Gyfaill

Does yna’r un siart amgen yn gyflawn heb brenhinoedd amgen y sin gerddorol Gymraeg, sef Llwybr Llaethog. Dewisais hon am ei bod yn addasiad Cymreig o feirniadaeth Gil Scott-Heron o’n byd materol ac am ei bod yn dy gicio’n galed yn dy gylla dosbarth canol gyda sass yn diferu o berfformiad spoken word Ifor ap Glyn.


Owain Williams

Hyll – Efrog Newydd, Efrog Newydd

Yn ffres ar gyfer Haf 2017, oedd EP y band roc amrwd a chyfoes o’r ddinas fawr, Hyll. Er bod sawl cân wedi fy nharo’n syth, y tiwn ‘Efrog Newydd, Efrog Newydd’ sy’n sefyll allan fwyaf. Mae’r arddull yn fy atgoffa o The Strokes neu’r Libertines, ac mae’r alaw fachog a chofiadwy yn ei gwneud hi’n anodd osgoi chwibanu’r tiwn ar ôl y gwrandawiad cyntaf.  ‘Dw i’n gefnogwr mawr o’r cyfuniad clyfar rhwng y naws hafaidd, cynnes, a’r geiriau treiddgar a gobeithiol. Mae’r geiriau hynny, i mi, yn cyfleu’r thema o ddianc, ac mae’r llinell ‘Dwi ‘di deud o’r blaen does dim byd yn digwydd, ysmygu trwy’r dydd yn siarad am y tywydd’ yn sicr yn dal sylw. Gobeithio bod albwm ar y gorwel gan y dinasyddion.


Ydych chi’n cytuno? Ydy’ch hoff gân amgen chi wedi cael ei hanwybyddu? Cofiwch adael i ni wybod isod, a chofiwch adael i griw rhaglen Recordiau Rhys Mwyn wybod drwy ebostio rhysmwyn@bbc.co.uk.

Beth yw ‘Cerddoriaeth Amgen’ i ni?

Ar y 18fed o Ragfyr eleni, bydd rhaglen Recordiau Rhys Mwyn yn cyhoeddi eu ‘Siart Amgen’ flynyddol. Mae Gethin Griffiths yn gweld cyfle perffaith yma i feddwl ychydig yn ddyfnach ac ystyried beth yw ‘amgen’ yn union?
Datblygu

Datblygu: Ymddangosodd y band dadleuol a blaengar deirgwaith yn siart y llynedd.

GETHIN GRIFFITHS

Mae llawer o sôn wedi bod ar y blog yn ddiweddar am gyflwr a thueddiadau cyffredinol cerddoriaeth Gymraeg yn 2017. Mae rhywun yn pendroni sut y bydd Cymru, ugain mlynedd o rwan, yn cofio’r flwyddyn gerddorol hon? Pa mor bwysig oedd 2017 i’r sîn? Er mwyn ceisio ateb y cwestiwn hwn, mae’n rhaid gosod fframwaith ar yr hyn sydd wedi bod yn digwydd dros y blynyddoedd diwethaf. Rydw i’n hoff (yn or-hoff, efallai) o roi pethau mewn cyfnodau. Mae’n duedd academaidd a newyddiadurol, sydd yn gallu codi mwy o broblemau yn aml na’r hyn y mae’n ei ddatrys, ond er mwyn deall beth sydd wedi digwydd yn ystod y flwyddyn hon, rhaid edrych arni mewn cymhariaeth â’r blynyddoedd a fu.

Er nad ydw i’n hoffi pwysleisio pwysigrwydd yr Eisteddfod i’r sîn yn ormodol, gellir dadlau bod dwy Eisteddfod yn gweithio’n berffaith fel dau ben i gyfnod pwysig yn hanes cerddoriaeth yng Nghymru. Er i’r diwylliant fod yn bragu’n dawel ers tua 2009, mi ddigwyddodd yna rywbeth yn Eisteddfod Dinbych 2013, ddaeth a phopeth ynghyd. Heb os, roedd Sŵnami a Candelas wedi creu cynnwrf newydd yn y sîn, er eu bod yn gweithio ar sylfeini Yr Ods, Hud a’r Bandana. Ar ôl i Gymru ddygymod â dirywiad ‘Cŵl Cymru’ yn negawd cyntaf y mileniwm, roedd cenhedlaeth newydd o fandiau’n codi, nad oedd erioed wedi derbyn sachau o arian PRS, a oedd yn troi at fandiau fel yr Arctic Monkeys a Two Door Cinema Club yn hytrach na’r Super Furries a’r Gorky’s fel eu prif ddylanwadau. Denodd y bandiau hyn lawer o griwiau ifanc i’w gigs, a daeth wynebau newydd drwy ddrysau gigs ar hyd a lled y wlad.
Wedi tair mlynedd o ryddhau cynnyrch o safon eithriadol o uchel, fel Bodoli’n Ddistaw (2014) a Sŵnami (2015), ac ar ôl i ambell artist, fel Yws Gwynedd a’r Eira, wneud y mwyaf o’r hinsawdd newydd hwn, daeth sîn yr indie kids Cymraeg i oed mewn un digwyddiad yn Eisteddfod y Fenni, 2016. Wrth i’r bandiau hyn gael cyfle i chwarae ar lwyfan y Pafiliwn, gyda cherddorfa, roedd yn symbol clir i mi mai dyma oedd y norm rwan, ac mai dyma oedd ein ‘prif lif’ ni.

Erbyn Eisteddfod 2016, roedd yr artistiaid hyn, yn enwedig Sŵnami, yn tawelu yn sylweddol o ran rhyddhau cynnyrch a pherfformio’n fyw, a chafwyd yr ymdeimlad cyfarwydd hwnnw fod y bandiau hyn wedi cyrraedd brig y sîn, a dyna ni. Fodd bynnag, yr hyn nad oeddwn i’n ei sylweddoli ar y pryd, oedd bod rhywbeth newydd ar droed. Gosodwyd y llawr. Ie, y llawr. Roedd cryfder diwylliant yr indie kids (neu’r ‘indie boys’, yn hytrach), yn lawr ddigon cadarn i gynnal diwylliant newydd, tanddaearol, a oedd yn prysur wasgu eu bysedd drwy’r tyllau yn y pren. Roedd gan y criw a oedd yn bloeddio o dan y trawstiau gwestiynau i’w gofyn, materion i’w codi â’r math o ddiwylliant a grëwyd dros y blynyddoedd diwethaf. Pam indie? Ydi riffs ar y gitârs yn hanfodol bwysig? Oes angen i bawb wisgo catalog Topman a River Island? Ac wrth gwrs, Ble Mae’r Merched?…

2017 oedd y flwyddyn lle y chwalwyd y llawr hwnnw. Daeth labeli fel Libertino a JigCal i herio’r tresi ac i gyflwyno meddylfryd gwbl wahanol. Wrth iddynt wrthwynebu rhywbeth, boed yn fwriadol neu beidio, roedd modd eu cymharu. Wrth eu cymharu, gellir dweud eu bod nhw’n ‘rywbeth arall’, neu yn syml, yn ‘Amgen’.


Beth yw ‘Amgen’?

Ond ydy’r term hwn yn golygu unrhywbeth, go iawn? Mae’r term, yn ei hanfod, yn broblemus. Mae’n derm hynod gymharol, sydd yn dibynnu ar ffactorau eraill o’i gwmpas. Os yw cerddoriaeth yn amgen, neu os yw’r diwylliant yn danddaearol, rhaid cael ‘norm’ i wthio yn ei erbyn, a rhaid cael rhywbeth sydd uwchben y ddaear. Er mwyn diffinio’r amgen, felly, rhaid diffinio’r ‘norm’ a’r ‘prif lif’.

Yn nhermau’r cyfnod a drafodwyd ynghynt, Sŵnami, Candelas ac Yws Gwynedd yw’r prif lif. Ond, mae hynny’n trin y Sîn Roc Gymraeg fel ffenomen sydd yn gweithio’n annibynnol heb unrhyw ddylanwad arall arni. Nid oes unrhyw ffan o’r sîn hyd y gwn i yn gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg yn unig drwy gydol y flwyddyn, ac felly, rhaid cydnabod y diwydiant Eingl-Americanaidd mawr, brawychus hwnnw sydd yn cuddio’n y cefndir. Os mai’r diwylliant hwnnw, neu gerddoriaeth y siartiau Prydeinig yw’r prif lif, ydy holl gynnyrch cerddorol Cymraeg ei iaith yn ‘amgen’? Ydy Bryn Fôn yn canu am blwyf Llanllyfni yn ei iaith ei hun yn weithred radical, rwan, gan nad yw’n cyd-fynd â’r norm? Nac ydy siŵr, ‘dw i’n clywed hipsters y wlad yn ei ddweud.

Oes angen trafodaeth am genre yma felly? Ai canon roc clasurol, y dynion a’r gitârs yw’r norm? Ai cerddoriaeth radio-gyfeillgar Calfari a Fleur de Lys yw’r brif afon sy’n llifo drwy ein sîn? Rhaid darganfod rhyw fath o ddynodydd seinyddol sy’n galluogi i ni wahaniaethu rhwng y prif lif a’r amgen, ond mae’n hynod anodd gwneud hynny. Heb os, ni fuasai unrhyw un yn mentro cyhuddo Adwaith o fod yn rhan o unrhyw brif lif, ond eto, caneuon ag offeryniaeth draddodiadol, a chaneuon pop tri munud â nifer cyfyngedig o gordiau ydyn nhw i bob pwrpas. Nid oes modd tynnu’r gerddoriaeth allan o’i gyd-destun, fodd bynnag, ac mae’r geiriau a’r neges a chaiff ei chyfleu yn gymaint o ran o’r pecyn â’r nodweddion cerddorol hyn. Ond, rydym yn parhau i fethu ateb y cwestiwn.

Oes rhaid meddwl yn all-gerddorol, felly? Oes rhaid neilltuo’r hyn yr ydym ni yn ei glywed a chanolbwyntio ar bwrpas a gwerth y gerddoriaeth? Mae’n gwbl rhesymol i awgrymu bod cerddorion amgen yn barod iawn i gysylltu eu hunain â’r term hwnnw. Mae cerddor ‘amgen’, yn aml, yn llawer mwy parod i ddatgan ei phwrpas/ei bwrpas o fewn sîn, ac mewn ffordd, yn gorfodi’r gynulleidfa i’w gosod/i’w osod yn y math hwnnw o gategori. Er enghraifft, un o’r cwynion mwyaf oedd gan Datblygu yn ystod eu dyddiau cynnar oedd y ffaith nad oedd BBC Radio Cymru yn rhoi sylw haeddiannol iddynt. Ond y gwirionedd yw, roedd hynny’n siwtio’r grŵp a’u meddylfryd, gan eu bod yn gosod eu hunain ar wahân i ddiwylliant traddodiadol y wlad. Ydy grŵp yn gorfod datgan eu bod yn ‘amgen’, rhywsut, iddynt gael eu hadnabod felly?

Gellir mynd i siarad am ‘ddilysrwydd’ [‘authenticity’], wedyn. Mae’n rhaid cael cydnabyddiaeth gan gyd-gerddorion a’r wasg amgen er mwyn cadarnhau lle’r artist yn y byd hwnnw. Gyda hyn, daw y perygl o ‘werthu allan’, pe bai’r artist hwnnw’n mynd yn rhy boblogaidd, neu’n bradychu unrhyw elfen o’r byd tanddaearol.


Yr ateb, mewn gwirionedd, yw bod y term cymharol hwn yn gwbl ddi-werth wrth geisio ei ddefnyddio yn rhy gyffredinol. Rhaid cael rhywbeth penodol, rhyw ddynodydd amlwg, i gymharu ag ef er mwyn deall yr ‘arall’, neu’r ‘amgen’. Mi ddywedodd rhywun wrthaf i, sydd yn ffan mawr o gerddoriaeth Gymraeg, mai gair 2017 yw ‘amgen’, ac rwy’n gweld yn union beth mae’n ei olygu. Iddo fo, mae grwpiau newydd 2017 yn gwrthwynebu neu’n cynnig rhywbeth gwahanol i’r hyn ddaeth ynghynt. Iddo fo, felly, cerddoriaeth cyfnod yr indie kids yw’r prif lif, a cherddoriaeth 2017 yw’r ‘amgen’. Yn syml – er mwyn diffinio’r amgen, rhaid diffinio’r prif lif yn gyntaf.


Y ‘Siart Amgen’

RHys

Llun: BBC

Mae Siart Amgen Rhys Mwyn yn amlwg yn rhyw fath o gefnder mwy ‘edgy’ i’r 40 Mawr, y siart a gyhoeddir yn flynyddol ym mis Awst. Pwrpas y 40 Mawr yw i ddarganfod hoff gerddoriaeth Gymraeg y boblogaeth, a thrwy annog pobl i bleidleisio am dair o’u hoff ganeuon, ceir yma adlewyrchiad o dueddiadau gwrando cyffredinol y pleidleiswyr hyn. Er y gellid dadlau nad yw gosod canolfannau mewn dwy Eisteddfod a’r Sioe Frenhinol yn adlewyrchu Cymry Cymraeg o bob math, dyma yw’r prif lif y mae Rhys Mwyn yn gosod ei hun yn ei erbyn yn yr achos hwn.

Gan nad ydym ni wedi gosod diffiniad pendant i ‘gerddoriaeth amgen’, mae rhywun yn pendroni sut mae penderfynu ar amodau’r siart hwn. Ni allai unrhyw un honni mai ‘unrhywbeth sydd ddim yn y 40 mawr’ yw’r amod – roedd ennillwyr siart y llynedd, sef Y Cyrff, yn rhif 25 yn y 40 mawr hefyd. Felly, ydym ni’n gorfod dechrau siarad am ‘gerddoriaeth dda’ (‘good music’), yma? Ai’r gwybodusion, y ‘cerddorion a’r gwrandawyr go iawn’ sydd yn gyfrifol am y siart amgen hon? Er ei bod yn ceisio tynnu’n erbyn y graen, ac er y ddelwedd werinol, gwrthsefydliadol, ydy hyn, yn eironig, yn weithred uchel ael?

Mae’r prif lif, sef y 40 Mawr a’r hyn a geir ei chwarae ar Radio Cymru yn ystod y dydd, yn gwbl amlwg ac eglur. Fodd bynnag, mae penderfynu ar ddilysrwydd cynnwys cerddorol y Siart Amgen ei hun yn llawer mwy amwys. Does dim ond rhaid gwrando ar ddewisiadau Ani Glass ar y rhaglen, yma, i ddod i ddeall hyn. Mae’r drafodaeth i gyd, bron, am ddiffinio’r prif lif, yn hytrach na’r amgen. Yn wir, mae hi’n dewis fersiwn Llwybr Llaethog o un o ganeuon Meic Stevens, ac er bod cerddoriaeth y ‘swynwr o Solfach’ yn anodd i ddiffinio ei hun, mae’n deg i awgrymu bod Llwybr Llaethog yn agosach o lawer at y pegwn ‘amgen’ hwn. Defnyddir yr un gân, yr un geiriau a’r un alawon, ond rŵan, caiff y gân ei gosod mewn amgylchedd, sefyllfa a chyd-destun gwbl wahanol. Llwybr Llaethog, eu hideoleg a’u raison d’être hwy sydd yn gyfrifol am osod y rheolau yma, rŵan, nid Meic Stevens, ac felly caiff yr ‘amgen’ ei ail ddiffinio unwaith eto.


Y Siglen

I gadw’r cydbwysedd cosmig hwn sydd mor anodd i’w weld, ei ddiffinio a’i werthuso, mae’n rhaid i’r prif lif a’r amgen gario ymlaen i wthio yn erbyn ei gilydd, a chreu siglen fregus. Dim ond gronyn bach o egni sydd ei angen i wyro’r siglen tuag at un pegwn neu’i gilydd, ond eto, mae darganfod y siglen hwnnw yn y lle cyntaf bron yn amhosib. Oes mwy nac un siglen, yn dibynnu ar yr amgylchedd a’r cyd-destun?

Yr hyn y mae’r erthygl hon yn ceisio ei brofi, yw’r ffaith bod hynny’n ddewis unigolyddol, ac yn ddewis sydd yn dibynnu ar nifer fawr o ffactorau. Bydd y siart amgen yn creu ei gofod ei hun, ei chyd-destun ei hun a’i reolau ei hun, felly, fydd yn creu diffiniad newydd o’r gair ‘Amgen’ ar ei chyfer. Er mai mwynhau’r tiwns fyddwn ni, does dim byd yn bod mewn ceisio meddwl ychydig yn athronyddol cyn y Nadolig fel hyn!

Er mwyn sicrhau y bydd y siart yn deg ac yn adlewyrchu amrywiaeth mewn meddylfryd, amrywiaeth yng nghefndiroedd y pleidleiswyr, a hefyd, amrywiaeth yn y gerddoriaeth ei hun, mae’n rhaid i ni gyd bleidleisio. Gallwch wneud hynny drwy ebostio rhysmwyn@bbc.co.uk.

Gwyliwch allan hefyd am ddewisiadau amgen a phleidleisiau cyfranwyr SaS, fydd yn cael eu cyhoeddi wythnos i heddiw!

O’r Llwybr Llaethog: Beth yw ‘Space Pop’?

GETHIN GRIFFITHS

Yn dilyn rhyddhau ail sengl Serol Serol, ‘Aelwyd’, mae cyfnod ‘Space Pop’ ein sîn yn parhau. Gethin Griffiths sydd yn archwilio ystyr y term a’r hyn y mae yn ei olygu i ni. 

Yn aml, dwi’n meddwl mai cryfder mwyaf ffuglen wyddonol yw ei allu i adlewyrchu realiti. Er i’r ffeithiau, y dechnoleg, a gwyddoniaeth yr holl beth fod yn gwbl ddychmygol ac afrealistig, mae yna neges, yn aml, sydd yn taro deuddeg i ni feidrolion y ddaear. Rhyw fath o rybudd ydyw mewn gwirionedd, ac er ein bod ni i gyd yn hoffi dianc i ryw fydysawd paralel neu’i gilydd ar brydiau, cawn yn aml ein saethu’n ôl i bresennol y blaned las ar ein pennau.

Mae hynny’n wir am y gofod sydd yn bodoli uwch ein pennau go iawn hefyd, i bob pwrpas. Mae’n hawdd rhamantu am yr hyn sydd y tu hwnt i’r wybren, yn aml gan bod y llonyddwch hwnnw’n antidot heddychlon i frwydrau’r byd sydd ohoni. Mae nhw’n dweud yn aml mai nid y lleuad oedd prif ddarganfyddiad prosiect Apollo, ond y ddaear, ac mai’r peth mwyaf trawiadol i’r gofodwyr hynny oedd gweld y blaned o’r tu allan am y tro cyntaf. Gall y rhai sydd yn poeni am argyfwng ein amgylchedd gyfeirio at y profiad hwn, ac amlygu pa mor fregus yw’r belen hon sydd yn gwbl hanfodol i’n bodolaeth. Mae’n holl ddealltwriaeth ni o’r gofod a’r hyn sydd yn digwydd y tu hwnt i’n dychymyg yn cadarnhau ein dealltwriaeth ni o’n hunain, ac nid ein dealltwriaeth ni o’r bydysawd yn unig.


A dyma pam mae dyfodiad ‘Space Pop’ fel genre yn y sîn eleni o ddiddordeb i mi. Pam y mae’r artistiaid hyn sydd yn ei greu mor barod i’w arddel a’i ddefnyddio fel cefndir i’w celfyddyd?

Mewn gwirionedd, mae diwylliant daearol, cyfalafol, sydd yn seiliedig ar y gofod yn bodoli ers dros hanner canrif. Yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, yn enwedig ar ôl gollwng dau fom niwclear ar Siapan, roedd ein byd yn paratoi ei hun am newidiadau enfawr. Roedd technoleg yr ugeinfed ganrif wedi galluogi i ddynoliaeth gynnal dau gyfnod erchyll o waedlyd yn ystod ei degawdau cynnar, a doedd dim stop ar y datblygiad.

Yn wir, erbyn troad y pumdegau, roedd bygythiad gwirioneddol am drydydd cyfnod o’r fath, ond roedd gallu erbyn hyn i ddifa dynoliaeth gyfan ag arfau mwy pwerus na welwyd erioed o’r blaen. Roedd y pris dynol hwnnw i dalu yn ormod o lawer i ddau brif bŵer y byd, yr UDA a’r Undeb Sofietaidd, ac felly cafwyd brwydr o fath gwahanol iawn. Bygythiadau oedd popeth erbyn hyn – pwyntia di dy arfau tuag ata i, ac fe bwyntiau innau fy rhai i yn ôl. Parhaodd hyn am flynyddoedd maith, a phawb yn symud eu ffigyrau’n ofalus iawn ar hyd y bwrdd gwyddbwyll.

Un o brif elfennau’r gêm honno oedd datblygu technoleg wyddonol. Gan gychwyn ym 1955, gyrrodd y ddwy wlad eu lloerennau cyntaf i’r gofod, gan ddatgan eu bod mewn ‘Ras i’r Gofod’, neu i ddefnyddio’r term Saesneg llawer mwy bachog, y Space Race. Rwsia lwyddodd i yrru’r dyn cyntaf, Yuri Gagarin, i’r gofod ym 1961, ond erbyn 1969, roedd gan America ddyn ar y lleuad. Boed eich bod yn gredwr o hynny neu beidio, does dim dwywaith amdani bod yr uchelgais a’r holl daith yn gwbl gyffrous.

Ni ellir disgwyl i hynny beidio treiddio i ddiwylliant y cyfnod. Erbyn y chwedegau, roedd NASA yn frand yn ogystal ag asiantaeth, ac roedd plant y byd i gyd eisiau bod yn ofodwyr wedi iddynt dyfu i fyny. Nid ffuglen wyddonol oedd teithio i’r gofod mwyach, ond realiti, ac roedd hynny’n chwa o awyr iach i lawer, er gwaethaf gwreiddiau sinistr yr holl ymgyrch. Roedd cerddoriaeth yn adlewyrchu hefyd, gydag artistiaid fel David Bowie yn arddel y cysyniadau gwyddonol hyn yn aml yn ei gerddoriaeth. Mae pawb yn ‘nabod ‘Space Oddity’ – cân am Major Tom yn gadael y byd, a hwyrach, yn methu â dychwelyd, a beth am ‘Life on Mars’? A holl albwm Ziggy Stardust and the Spiders from Mars?

Mi allwn ni sôn am gerddoriaeth gelf hefyd, beth am finimaliaeth a cherddoriaeth ambient Brian Eno? Mae mwynder maith y gofod, lle nad yw amser yn bodoli yn yr un ystyr ag yma ar y ddaear, yn annog i rywun feddwl am lonyddwch, am synau mawr, eang, sydd yn newid yn araf. Mae trefniannau llinynnol enfawr Bowie yn gwneud yr un peth – adlewyrchu’r gofod yn seinyddol.

Ceisia rai alw cerddoriaeth prog rock Pink Floyd yn ‘Space Rock’, hefyd. Beth am Dark Side of the Moon? Beth am ganeuon fel ‘Us and Them’, neu’r ‘Great Gig in the Sky’? Mae popeth yn edrych am allan, er mwyn deall beth sydd yn digwydd i ni ar y tu mewn.


Sut mae cerddoriaeth Omaloma, Serol Serol, ac efallai Griff Lynch, yn ffitio i’r llinach hwn, felly? Mae Oes y Gofod ar ben ers hanner canrif, felly sut y mae hyn yn berthnasol i ni heddiw?

Mae’r ateb, i mi, yn bodoli ym mharagraff cyntaf yr erthygl. Mae synau syntheseisiedig, retro, yr artistiaid hyn yn mynd â ni yn ôl i’r cyfnod hwn lle’r oedd pobl yn chwilio am ystyr, ac yn ysu i gael gwybod lle’r oedden nhw’n ffitio yn y gofod. Beth oedd ein pwrpas ni yma, fel pinau bach yn y das wair anferth o ‘ddim byd’ oedd o’n cwmpas ni? Ac mae hynny’n ein tynnu ni i’r ddaear.

Mae ‘Aros o Gwmpas’, er enghraifft, yn swnio fel taith arallfydol i ryw fyd o liwiau a siapiau a llongau gofod yn hedfan o gwmpas. Ond ymgorfforiad o deimlad person wrth ddatblygu teimladau am berson arall nad ydyn nhw’n ei adnabod go iawn yw’r gân i bob pwrpas. Onid yw hynny’n beth hynod ddynol? Mewn unrhyw ddarn o ffuglen wyddoniaeth sydd wedi cydio – y pethau bach dynol hyn sydd yn ein atynnu ni tuag atynt yn y bôn.

A dyma pam yr ydym ni’n caru Space Pop. Mae’n dweud mwy amdanom ni ein hunain nac y mae am unrhywbeth sydd y tu hwnt i’n ffurfafen. Dewch, awn ni ar daith hefo’r artistiaid hyn, ond peidiwch â phoeni, ewch chi’m yn rhy bell.


Pam y bydd Gig y Pafiliwn 2017 yn well na llynedd…

GETHIN GRIFFITHS

Gig Paf 2016

Llun: Daily Post

Roedd gig y pafiliwn yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni, 2016, yn uchafbwynt i lawer. Mi’r oedd rhai yn datgan mai dyma oedd digwyddiad mwyaf cyffrous y brifwyl ers blynyddoedd, gan anghofio’n llwyr am gig olaf Edward H yn Ninbych dair blynedd ynghynt. Mi’r oedd hi’n haf da ‘doedd? Rhwng yr Euros a bob dim – ac roedd hynny’n gosod y llwyfan yn wych i Candelas orffen y noson â Rhedeg i Paris, a phawb yn ymdrochi yn sain enw triphlyg Hal Robson-Kanu. Rhyw fath o ffordd o leddfu poen Brexit a dyfodiad Trump oedd hynny, efallai, ac roedd rhywun yn ymwybodol iawn bod y byd o’u cwmpas yn newid.

Ond mi’r oedd y ‘Steddfod yn newid o blaid yr ifanc. Pafiliwn newydd, syniad newydd, a cyfle i rafins Maes B hawlio cartref Sioned Grug (a cheidwaid y Pinot Grigio) a’u tops off. A dweud y gwir, roedd y babell newydd, stiwdio-aidd, yn gweithio’n llawer gwell – nid yn unig gan ei bod yn edrych yn llai gwag yn ystod yr adegau distawaf, ond hefyd gan ei bod yn galluogi i’r Eisteddfod gynnal y math hwn o ddigwyddiad oedd yn gofyn am reolaeth seinyddol mwy heriol. Nid yw ymdrechion yr Eisteddfod i wneud eu hunain yn gyfredol ac yn berthnasol yn cael eu hanwybyddu – ac er nad ydynt wedi cyrraedd y nod mewn ambell i le, mae hwn yn sicr yn gam cadarnhaol.

A dyna osododd y llwyfan i’r noson orau erioed. Mi agorodd Sŵnami’r noson a’u tiwns cyfarwydd – yn ogystal â cherddorfaethu celfydd Owain Llwyd ac mi blethodd y gerddorfa yn berffaith â cherddoriaeth amrywiol yr Ods, hefyd. Dim syndod, chwaith, bod Candelas wedi rhoi sioe a hanner i orffen. Mae’r cyfan yn hanes erbyn hyn – i’r rhai oedd yno, wrth gwrs. I’r rhai oedd ddim – beth am ddarllen ein blog a ysgrifennwyd yn fuan wedyn?


2017 yn trympio 2016?

Ni fydd modd ail-greu gwefr 2016, ni fydd modd ail-greu newydd-deb a ffresni y profiad o weld bandiau mwyaf y Sîn Roc Gymraeg yn cael eu cyfeilio gan ddegau o gerddorion arallfydol o dalentog. Ni fydd modd i 2017 achosi i’r un teimlad gronni ym mherfeddion y rhai a fuodd ddigon lwcus i fod yno yn y Fenni.

Ond, wedi dweud hynny, efallai bod hynny’n beth da. Fel pob ail gyfres wael a gomisinwyd heb feddwl gan S4C, fel pob chwaraewr pel-droed sydd yn dod tuag at ddiwedd eu gyrfa a dychwelyd i’w clwb gwreiddiol, israddol – mae gormod o’r un peth yn gallu mynd yn aneffeithiol. Ond bydd 2017 yn well na 2016 os y bydd yn sicrhau ei fod yn wahanol. Bydd pawb sydd wedi prynu tocyn eleni, ond heb fod yno llynedd, yn gwybod yn iawn nad ydyn nhw ar flaen y gad, ac yn gwybod yn iawn na fydd modd iddynt frolio mewn ugain mlynedd eu bod wedi bod yno pan blethodd y ‘Steddfod barchusrwydd y Pafiliwn ag anarchiaeth caeau Maes B am y tro cyntaf. Ond dydy hynny ddim yn golygu na fydd y rheiny’n gadael prif babell y brifwyl â gwên lydan ar eu hwynebau.


Pedwar Artist

Mae pedwar artist eleni, nid tri, ac er bod hynny’n teimlo fel gormod o ystyried bod tri wedi bod yn berffaith y llynedd, mae lle am fwy o amrywiaeth. Er i’r Eisteddfod ddod o dan y lach eleni am eu cynrychiolaeth o ferched y sîn yn lein-yp Maes B, mae’n hynod braf gweld merch yn hawlio’r llwyfan ym Môn. Ac am ferch i wneud hynny hefyd – rydym ni eisoes wedi clywed Alys Williams yn cael ei chyfeilio gan Gerddorfa’r BBC eleni, a bydd yn sicr yn brofiad anhygoel cael clywed y cyfuniad hwn yn fyw.

Mae Yr Eira wedi lansio eu halbym cyntaf nhw eleni – ac mae yna gryn feddwl wedi mynd y tu ôl i’w gwneuthuriad, i sicrhau bod modd eu gosod ar wahan i’w cyfoedion yn nhermau eu sain a’u cymeriad. Bydd yn ddiddorol gweld sut y bydd y caneuon newydd yma’n cyd-fynd â’r gerddorfa, a bydd yn rhaid iddynt sicrhau nad yw eu perfformiad yn un swil, gan achosi iddynt gael eu boddi gan y gerddorfa. Yn yr un modd, mae Yws Gwynedd yn ddewis poblogaidd i droedio’r llwyfan. Er ei fod, hefyd, yn un o’r artistiaid a ymddangosodd yn nathliadau’r BBC eleni, bydd tiwns oesol yr ‘ogyn o ‘Stiniog yn sicr o ysgwyd y Paf i’w seiliau.

Er hyn – heb os nac onibai, set llefarydd unig ein sîn Hip Hop yma yng Nghymru, Mr Phormula, fydd y mwyaf diddorol. Mae’r samplau offerynnol, cerddorfaol ar rai o draciau’r rapiwr – Un Ffordd, yn enwedig – yn cynnig eu hunain yn wych i’r Welsh Pops Orchestra. Mae cyfle i gerddor mwy amgen, er nad yw yn israddol o gwbl i’r gweddill, wneud ei farc ar y llwyfan – ac mae hwn yn gam hyd yn oed mwy radical i’r Eisteddfod na rhoi cyfle bandiau indi-roc i serennu yn eu prif babell.

Mae’r offeryniaeth ychydig yn wahanol hefyd – mae sï y bydd yr Welsh Pops yn dod ag adran chwyth hefo nhw y tro hyn. Rhodda hyn fwy o sgôp i Owain Llwyd greu trefniannau mwy arbrofol a chymhlethach. Er nad ydw i’n gymaint o ffan a’r clarinet, dywed, ag ydw i o’r corn Ffrengig, ac er na fydd sain yr obo yn achosi i un fod isio rhoi ei ffrind ar ei gefn a dawnsio’n wirion fel y gall y trombôn neu wneud hynny, ‘dw i’n siŵr y bydd modd iddynt fod yn hynod effeithiol.


Ail-Fyw y Fenni

Ond, i chwi’r rhai sydd am ail-fyw y llynedd ychydig bach yn eich pennau, neu i’r rhai ohono chi sydd am flas o’r hyn a ddigwyddodd draw yn y Fenni, na phoener. Nid yw’r holl beth MOR wahanol a hynny – yr un wynebau welwch chi fwy neu lai. Bydd Ifan Davies o Sŵnami yn dychwelyd unwaith eto gyda’r Eira ac Yws Gwynedd, ac Osian Williams o Candelas yn ymddangos gydag Alys Williams, gan drefnu rhannau’r gerddorfa i’w caneuon hi. Bydd y feiolinydd gor ddramatig y trydydd i mewn i’r chwith yn yr ail res yna eto eleni, a bydd wyneb cyfarwydd Owain Llwyd yn cadeirio’r llwyfan unwaith eto. Gewch chi smalio eich bod yn y Fenni hefyd, gan ddychmygu mai cannoedd o hwntws yw’r cannoedd o Fonwysion fydd o’ch cwmpas wythnos nesaf.

Ond os mai eich syniad o ‘well’ yw rhywbeth mwy amrywiol, mwy arbrofol, dyma gewch chi ym Modedern nos Iau nesaf. I’r rhai ohonoch sydd yn ysu am gael dod i weld ail gig y Paf, yn anffodus, mae’r tocynnau wedi hen fynd. I’r rhai ohonoch sydd yno – welwn ni chi am 8 o’r gloch! Er nad yw’r drefn swyddogol wedi cael ei chyhoeddi eto, mae SaS yn dyfalu mai dyma sut y bydd hi: Yr Eira i agor, i gynhesu’r gynulleidfa fel y gwnaeth Sŵnami llynedd, Alys Williams i ddilyn, a Mr Phormula i greu cynnwrf cyn i Yws Gwynedd gloi. Cawn wedyn adael y Paf yn feddw ac yn trafod os mai Super Furries yw’r dewis gorau ar gyfer Gig Paf 3.

Edrych ymlaen eto!

Ddim yn siŵr beth i’w wneud yn y ‘Steddfod ar wahân i’r gig yma? Eisiau rhywbeth ychydig yn wahanol? Dyma beth mae Chris Roberts yn ei awgrymu!

Pedwar i’w Gwylio – Eisteddfod 2017

CHRIS ROBERTS

4ig Steddfod

Ydi wir! Mae hi’n wythnos yr Eisteddfod unwaith eto! Mae arlwy’r Brifwyl o gerddoriaeth gyfoes wedi tyfu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae hi bellach yn anodd cadw trac yn union ar bwy sydd yn chwarae pryd a lle (da o beth yw’r dewis hyn, wrth gwrs!). Felly, dyma ni’n ôl i’ch cyfeirio at bedwar uchafbwynt! Rydw i wedi ceisio osgoi mynd am yr enwau mwyaf amlwg ac wedi dewis pedwar peth nad oeddech wedi eu highlightio ar yr amserlen yn barod, efallai.


Adwaith

Llwyfan y Maes / Dydd Mawrth, 8fed o Awst / 15:00

Mae llawer o sôn wedi bod am gyn lleied o ferched sydd yn chwarae yn Maes B eleni ond wrth edrych ar y llwyfannau eraill, mae’r darlun ychydig yn well. Brynhawn dydd Mawrth, bydd un o fandiau newydd mwyaf cyffrous Cymru yn camu ar lwyfan perfformio’r Maes i arddangos eu cerddoriaeth indie sydd yn cŵl heb ymdrech. Mae Hollie, Gwenllian a Heledd wedi ennill llwyth o edmygwyr ers rhyddhau eu sengl gyntaf llynedd gan gynnwys Rhys Mwyn a Dave a Pat o Datblygu. Os hoffech weld pam, ewch draw i’w gweld nhw brynhawn Dydd Mawrth!


Omaloma

Llwyfan y Maes / Dydd Iau, 10fed o Awst / 18:15

Heb os, Aros o Gwmpas ydi un o anthemau Haf 2017 – dwi eto i gyfarfod rhywun sydd ddim wrth eu bodd hefo’r gân. Mae dipyn o gynnwrf, felly, am set Omaloma amser te Dydd Iau. Gobeithio y gwnaiff George Amor a’r band lwyddo i ddenu’r haul a thipyn o dorf i wrando ar eu pop hafaidd. Yn ogystal ag Aros o Gwmpas mae dwy sengl gyntaf y band Ha Ha Haf ac Eniwe yn berffaith ar gyfer yr achlysur. Rydym wedi clywed adroddiadau da am set Omaloma yn Latitude ac yn gobeithio y gallent roi perfformiad cystal yn yr Eisteddfod.


Noson REU 25!

Y Traeth / Nos Wener, 11eg o Awst / 18:30

Doeddwn i heb gael fy ngeni pan gladdwyd REU ym Mhontrhydfendigaid yn 1992 felly dwi’n edrych ymlaen yn arw i brofi’r ffenomenon ddaru ‘sgubo Cymru yn y 90au cynnar. Roedd y rêf ar y Maes yn un o elfennau mwyaf trawiadol yr Eisteddfod llynedd. Roedd yr ardduniadau yn hyfryd a’r gerddoriaeth yn wahanol i unrhyw beth arall glywais i drwy’r wythnos. Bydd cerddoriaeth dawns Gareth Potter a Twinfield yn antidot perffaith i’r caws ar y prif lwyfan. Cofiwch bacio eich sandals a’ch glowsticks!


Hyll

Maes B / Nos Wener, 11eg o Awst

Wythnos dwytha’ ddaru Hyll rhyddhau eu EP cynta’ ar label JigCal. Mae’r EP yn llawn o anthemau roc a rôl egnïol gyda geiriau gwyrdröedig a hiwmor tywyll. Mae’r lansiad swyddogol yn digwydd yn Caffi Maes B, 15:30 Dydd Mawrth ond dwi’n credu bod angen gweld Hyll gyda’r sŵn wedi ei droi fyny i un ar ddeg i’w gwerthfawrogi yn llawn. Maes B yw’r lle perffaith ar gyfer hynny!

I weld rhestr cyflawn o’r artistiaid sydd yn chwarae ar y llwyfannau a drefnir gan Yr Eisteddfod ewch i eisteddfod.cymru. Yn ogystal, bydd nifer o berfformiadau eraill yn digwydd o gwmpas y maes ac yn yr ardal gyfagos!

O’r Eco: Dim Llwyfan

GETHIN GRIFFITHS

Daw’r erthygl hon o rifyn mis Mai Eco’r Wyddfa.

Mae’n anodd dychmygu cyfnod canol fy arddegau heb fynychu gigs yn y Bedol ym Methel. Gyda’r dafarn ddim ond ychydig o gamau o ddrws cefn y tŷ, roedd mynd i weld ein hoff fandiau, a’r rheiny i gyd yn rai o’r filltir sgwâr, yn haws o lawer na gwneud siopa wythnos, hyd yn oed. Bryd hynny, roedd bandiau’r fro yn prysur hawlio’r sîn iddyn nhw eu hunain, a’r ‘Bethel Invasion’ yn cyrraedd mor swnllyd â brân mewn corn simna’. Ond cyn iddyn nhw allu gwneud hynny, roedd angen digon o gyfleoedd iddyn nhw fagu eu crefft ar lwyfan yn lleol. Yn wir, roedd grwpiau fel Derwyddon Dr Gonzo a’r Bandana yn cael eu hadnabod am eu perfformiadau byw, ac mae eu ymddangosiadau ar lwyfannau gwyliau cerddorol mwyaf ein gwlad yn chwedlonol erbyn hyn. Mi fues i, ymysg â fy nghyfoedion lleol, yn ddigon lwcus i gael eu gweld nhw’n magu eu profiad.

Heb ramantu’n ormodol, mae’n deg dweud, ar y pryd, bod yna rywbeth yn digwydd yn lled reolaidd mewn lleoliadau amrywiol ar hyd a lled bro’r Eco. Nid y Bedol yn unig oedd yn gyfrifol am roi llwyfan i’n bandiau ifanc – roedd tafarn Penbont, Llanrug, neu’r Fricsan, Cwm y Glo, heb sôn am Lanberis, yn leoliadau amlwg i fandiau’r fro gael datblygu eu sain a’u set cyn mentro ymhellach. Ers hynny, mae’n debyg bod ein byd wedi newid. Rwy’n deall nad yw’r busnesau hynny’n gweithredu’n yr un modd a’r dyddiau a fu, ond onid yw hi’n anffodus eu bod, erbyn hyn, â’u llwyfannau mor ddistaw? Heblaw am ddau berfformiad gan CaStleS ym Mhenbont a gwesty’r Padarn Lake, pwy all enwi gig nodedig yn ein hardal yn ddiweddar?

Ers hynny, mae gigs yn ffynnu yn ein tref agosaf, ac mae o leiaf dau leoliad gwahanol yno’n cynnal gigs llwyddiannus yn rheolaidd yn y cyfnodau prysuraf. Rwy’n deall mai dim ond ychydig o filltiroedd sydd yn rhaid teithio yno, ond roedd yn braf meddwl, unwaith, eu bod nhw’n edrych tua’r ffordd yma am ysbrydoliaeth. Er mwyn creu ‘sîn’ leol, fel un oedd yn bodoli’n honedig ym Methesda yn yr wythdegau, nid ffurfio grwpiau yn unig sy’n cyflawni’r nod. Mae’n rhaid cael rhwydwaith leol o leoliadau, cyhoeddiadau cyson (siawns y cawn ni hawlio’r golofn hon o’r Eco fel un o’r fath, ac mae digon o gyfleoedd i wneud hynny yn oes y rhyngrwyd!), a’r hyder hunangynhaliol hwnnw sydd yn creu sîn leol, i fwydo’r sîn genedlaethol yn ei dro.

Felly – ga i erfyn, yn bersonol, ar ddarpar reolydd y Bedol i wneud yn siŵr bod y genhedlaeth nesaf yn cael yr un cyfle â ni i ddod a gerddoriaeth fyw i Fethel? Beth am i chi, ddarllenwyr, geisio cysylltu â’ch tafarndai lleol a chynnig rhoi cymorth gyda threfnu gig?

Golwg ar Focus Wales

OWAIN WILLIAMS

Mae Sôn am Sîn yn ddigon lwcus o dderbyn erthygl gan frodor arall o Ogledd Ddwyrain Cymru, a fuodd yng ngŵyl Focus Wales dros y penwythnos. Wedi i Chris awgrymu pedwar artist i’w gwylio wythnos diwethaf, dyma Owain Williams yn sôn am dri artist gwahanol a ddaliodd ei sylw!

Un o uchafbwyntiau fy mlwyddyn yw Focus Wales – gŵyl sy’n llwyddo i atynnu a chyflwyno amrediad eang o artistiaid yn Wrecsam, dros gyfnod o dri diwrnod. Gyda Gogledd Ddwyrain y wlad wedi’i lwgu o brinder gigs, pan mae Focus Wales yn dychwelyd i Wrecsam ar ddechrau tymor yr ŵyl, mae rhaid manteisio ar y cyfle. Saith mlynedd wedi iddi ffurfio, mae’r ŵyl yn mynd o nerth i nerth – nid yn unig yn datblygu rhwydwaith â’r sîn Gymraeg gyda’r cysylltiad â ‘Gorwelion’, ond hefyd yn blatfform i artistiaid rhyngwladol berfformio yng Nghymru ac arddangos eu diwylliant a’u harddull unigryw. Mae’n brawf o ddatblygiad yr ŵyl bod yno lwyfan ychwanegol eleni, sef ‘Pabell Hwb Cymraeg’,  a oedd yn ganolbwynt i artistiaid tanddaearol y sîn megis Beth Celyn a The Gentle Good yn ogystal â’r mwy amlwg – Trŵbz a Chroma.

Gan adlewyrchu natur eang yr ŵyl yn gerddorol ac yn gelfyddydol, mae llwyfannau Focus Wales wedi eu gwasgaru dros y dref, ac mae hyn yn sicr yn cynnal diddordeb ac yn ychwanegu at fformat ‘showcase’ yr ŵyl. Y llynedd, ‘es i i ŵyl ‘Dot to Dot’ ym Manceinion a does dim dwywaith bod Focus Wales yn efelychu elfennau gwasgaredig gŵyliau tebyg, sy’n rhoi sail a chyfle i artistiaid ehangu eu gorwelion. Wrth gerdded lawr y Stryd Fawr, gellir clywed haenau o synau electronig, pop, blŵs, roc, psychedelic, gwerin a phync o leoliadau cymysg yn cyfuno i greu gwefr drydanol. Gyda dros 200 o artistiaid yn ymgynnull yn y dref dros yr ŵyl mae rhaid cynllunio’n ofalus ynglŷn a pha artist sy’n cael y flaenoriaeth. Er fy mod bron a thorri ‘mol i weld Betsy, Peaness a Georgia Ruth – a oedd i gyd yn perfformio yn Focus Wales eleni, dyma’r tri es i i’w clywed:

YOUNGBLOOD

Youngblood.jpg

Yn chwarae yn fy hoff leoliad yr ŵyl, Un Deg Un, oedd band llawn egni o Ganada. Llenwodd yr hen siop chwaraeon yn gyflym wrth i’r gynulleidfa fod yn awyddus i glywed y band future-pop ar eu hymweliad cyntaf i ynysoedd Prydain. Alexis Young sydd yn gyrru datblygiad rhyngwladol Youngblood yn ei flaen, gyda’i pherfformiadau egnïol yn derbyn sylw gan flogiau a gwefannau fel GigSoup. Cyn mynd i Focus Wales, mi’r o’n i’n awyddus i weld a darganfod band lle ‘doeddwn erioed wedi eu clywed, ac yn sicr doedd Youngblood ddim yn siomi! Cafwyd yma gyfuniad o synau synth pop yn creu awyrgylch gofodol, lle’r oedd hyder ac angerdd Alexis yn glir i’w weld. Dyma fand cŵl a chreadigol sydd â dyfodol disglair o’u blaen, a chredaf dyma’n union yw pwrpas Focus Wales – darganfod artistiaid y dyfodol!

 

GULP

Gulp

Yn aros o fewn y genre pop-dychmygol ar y Nos Wener oedd Gulp, sef band o Gaerdydd sydd wedi creu dipyn o wefr yn ddiweddar. Yn eu plith mae Guto Pryce – gitarydd bâs yr enwog Super Furry Animals, ac, yn y blaen, mae Lindesy Leven gyda’i llais breuddwydiol a thyner. Roedd Un Deg Un yn lleoliad delfrydol i greu awyrgylch a naws sinematig-psychedelic ac fel sylwadau’r Guardian, roedd Gulp yn sicr yn “hard to forget”. Gydag ambell i gân yn sefyll allan o’u set tri chwarter awr, yn benodol eu deunydd mwyaf diweddar ‘Search for your love’, llwyddodd y grŵp i ddal dychymyg y gynulleidfa – yn enwedig fi.

 

CABBAGE

Cabbage

Mae’n debyg mai agwedd a natur ddadleuol y band wnaeth apelio ataf fwyaf ac nid eu miwsig uniongyrchol, ond mae’r band yn dystiolaeth ac yn cadarnhau bod Focus Wales yn cynnig amrywiaeth diamheuol o ran artistiaid. Cabbage oedd yn cloi’r Nos Wener yn Central Station – lleoliad sy’n atynnu cynulleidfa fwyaf yr ŵyl yn flynyddol ac mae rhaid rhoi sylw i’r set , trefniadau’r goleuadau a sain wych y lleoliad. Wedi imi weld y band yn cefnogi Blossoms ychydig o fisoedd ‘nôl, roeddwn yn awyddus i weld eu hymateb i ‘hedleinio’ noson – yn enwedig wedi amheuon godi am eu hymddygiad ar lwyfan. Yr ateb: Gwallgo’. Mae’r band ôl-pync o Fanceinion wedi dod yn adnabyddus am eu safbwyntiau Sosialaidd cryf ac yn defnyddio eu cerddoriaeth i ymosod ar strwythurau gwleidyddol y wlad. Yn sicr, mae Cabbage yn hollti barn ond ‘dwi’n credu bod perfformiad bywiog, gwyllt a ‘chreadigol’ y band yn cloi’r noson yn effeithiol.

 

Blwyddyn arall, Focus Wales lwyddiannus arall. Hoffwn weld yr ŵyl yn parhau i adeiladu ar y sylfaen cadarn ac yn datblygu’r cysylltiadau rhwng cerddorion aml-arddull o Gymru a ledled y byd!

Pedwar i’w Gwylio – Focus Wales 2017

CHRIS ROBERTS

4igfocus

Penwythnos yma bydd gŵyl Focus Wales yn cael ei chynnal am y seithfed tro yn Wrexham mewn lleoliadau ar hyd y dre’. Er bod rhai hen ffefrynnau fel British Sea Power a Mr Huw yn chwarae yn ystod yr ŵyl, y prif atyniad i nifer ydi’r cyfle i weld bandiau newydd. Gyda chymaint o aristiaid yn chwara’ dros y penwythnos mae’n gallu bod yn anodd gwybod lle i gychwyn ar ddewis pwy i wylio ond mae Sôn am Sîn yma i helpu wrth i ni argymell pedwar artist y dylech ymdrechu i’w gweld!

Georgia Ruth

St.Giles’ Church / Dydd Iau 11eg o Fai / 21:00

Gyda’i llais swynol a’i chaneuon hyfryd, mae Georgia Ruth bob amser werth ei gweld. Ond, bydd y perfformiad hwn yn fwy arbennig na’r arfer, gan iddo gael ei gynnal yn eglwys ysblennydd St Giles’. Ar ôl rhyddhau ei hail albwm, Fossil Scale, mae Georgia wedi ymadael â’r delyn, ac yn awr yn chwarae’r allweddellau i gyfeiliant ei band, y brodyr o Cowbois Rhos Botwnnog. Mae hyn wedi galluogi Georgia i fod yn fwy o bresenoldeb ar y llwyfan ac mae hi’n hoelio sylw’r gynulleidfa fwy nac erioed. Yn ôl Georgia, hwn fydd y tro olaf i’w gweld hi’n fyw am ychydig – mwy o reswm byth i fynd draw felly!

 

Dusky Grey

Central Station / Dydd Sadwrn 13eg o Fai / 18:00

Er nad ydynt ond wedi rhyddhau un sengl hyd yn hyn mae’r deuawd o Bethesda a Gaernarfon wedi profi cryn dipyn o lwyddiant. Wedi ei harwyddo i label recordio Warner mae sengl cynta’r band Told Me wedi cael ei chwara’ dros pum miliwn o weithiau ar Spotifty ar ôl cael ei gynnwys ar rai o restrau chwarae poblogaidd y gwasanaeth. Mae’r sŵn pop yn slic a chyfoes ac i’w weld wedi ei ddylanwadu gan Ed Sheeran ond mae’r rhythm reggae yn dangos nad ydynt wedi troi eu cefnau ar sŵn eu cartref yn gyfangwbwl. Bachwch y cyfle i’w gweld nhw rwan, pwy a wŷr efallai byddent mewn arenas cyn hir!

 

Betsy

Central Station / Dydd Sadwrn 13eg o Fai / 21:00

Mae Betsy o Sir Benfro yn creu pop enfawr, heintys. Mae ei senglau cynnar hi wedi cael cefnogaeth gan Radio 2 a Radio Wales a dim ond tyfu wnaiff ei enw da os iddi gario ‘mlaen yn yr un modd. Mae ei sŵn yn fy atgoffa o sêr mawrion fel Katy Perry a Jess Glynne, cerddoriaeth rydym wedi arfer ei weld ar llwyfannau mawr hefo cynhyrchiad epig felly bydd yn diddorol gweld sut mae hyn yn gweithio ar lwyfan Central Station.

 

Ghostlawns

UnDegUn / Dydd Sadwrn 13eg o Fai / 22:55

Does dim llawer o bresenoldeb gan Ghostlawns ar y wê felly allai ddim dweud llawer wrthych amdanynt, dim ond eu bod nhw’n wych! Yn debyg i Gallops mae dylanwad electroneg mawr ar y pedwarawd ond mae eu perfformiad i gyd ar offerynau byw, gitars, synths a drymiau – dim cyfrifiaduron  a dim samples! Wrth i’r sîn electroneg dyfu yn Nghymru all y band yma ddim cuddio am hir dwi’n siwr!

 

I weld rhestr cyflawn o pwy sydd yn chwarae, pryd a lle, ewch draw i www.focuswales.com

Sôn am Wobrau!

GETHIN GRIFFITHS / CHRIS ROBERTS

GWOBRAU SaS

Mae’n anodd credu ei bod hi’n flwyddyn gyfan ers cyhoeddi erthyglau cyntaf Sôn am Sîn! Mae hynny’n golygu ei bod yn dymor gwobrwyo unwaith eto, ac yn gyfle gwych i edrych yn ôl ar y flwyddyn a fu. Bydd y rhai ohonoch chi a wyliodd y fideo byw ‘nôl ym mis Rhagfyr yn gwybod ein bod ni wedi gwobrwyo uchafbwyntiau cerddorol 2016 yn barod, ond i’r gweddill ohonoch, dyma i chi restr cyflawn o enillwyr Gwobrau SaS cyntaf erioed!

Digwyddiad Gorau: Gig y Pafiliwn, Eisteddfod Genedlaethol y Fenni.

Arwr y Flwyddyn: DJ Bry

Gelyn y Flwyddyn: Pawb ganodd ‘Don’t Take Me Home’ mewn gig Cymraeg

Cyfyr Gorau: ‘Sylvia’ gan Georgia Ruth (y gwreiddiol gan Meic Stevens)

Band i’w gwylio yn 2017: Ffracas

Hoff Lyric: Cointreau, Cinzano, Champagne a Galliano, Cuba Libre, Martini, Triple Sec, Negroni, Jack Daniels a Vodka, Aftershock, Tequila, Gin, Vermouth, Lager, Lager, Lager, Lager – ‘Nadolig Alcoholig’ gan Hanner Pei.

Rhaglen Radio: Rhys Mwyn

Albwm: Alun Gaffey gan Alun Gaffey

Cân: Sai’n Becso gan Mellt

Artist: Super Furry Animals

Fel yr ydych chi’n gweld, mae ‘na ambell enw annisgwyl yn y rhestr, gyda’r Super Furry Animals, er enghraifft, yn cipio gwobr artist y flwyddyn. Ydych chi’n anghytuno? Cofiwch adael sylw ar waelod y dudalen, neu anfonwch negeseuon twitter i @sonamsinblog !

GWOBRAU’R SELAR

Nid SaS yw’r unig rai sydd yn awyddus i wobrwyo cerddoriaeth 2016, fodd bynnag. Ddydd Sadwrn nesaf, yr 18fed o Chwefror, bydd Aberystwyth yn gartref unwaith eto i hoff wobrau pobl ifanc Cymru, sef Gwobrau’r Selar! Mae’r flwyddyn yma yn bennaf gyffrous gan eu bod nhw wedi penderfynu gwobrwyo Geraint Jarman am ei gyfraniad anhygoel i gerddoriaeth Gymraeg dros y blynyddoedd. Mae hynny’n golygu bod y dyn ei hun wedi cytuno i berfformio yn Neuadd Pantycelyn ar y nos Wener. Gyda The Gentle Good yn cefnogi, bydd hon yn siŵr o fod yn un dda – ac mae peryg iddi fod yn well na’r noson fawr ei hun!

Yn ogystal, bydd Jarman yn sgwrsio am ei yrfa anhygoel yn y Llyfrgell Genedlaethol bnawn Sadwrn a bydd Rhys Gwynfor yn holi Dafydd Evans am Y Blew. Hefyd, bydd taith tywys o archif sain y Llyfrgell a ‘Golygathon’ wicipedia pop Cymraeg. Digon i ddiddori gîcs fel ni felly!

Yna, bydd y gwobrau yn cael eu cyhoeddi rhwng perfformiadau gan grwpiau fel Candelas, Cowbois Rhos Botwnnog a CaStleS ar y nos Sadwrn, fel arfer. Mae’n lein-yp gwych o’r dechrau i’r diwedd, gyda rhai o hoff fandiau newydd SaS fel Alffa a Ffracas yn chwara’ yn gynnar yn y noson – mae werth cyrraedd mewn da bryd!

Dyma i chi’r rhestrau byr:

(* – SaS yn dyfalu!)

Cân Orau: ‘Gweld y Byd Mewn Lliw’ (Band Pres Llareggub)* / ‘Cyn i’r Lle Ma Gau’ (Y Bandana) / ‘Canfed Rhan’ (Candelas).

Gwaith Celf Gorau: Fel Tôn Gron (Y Bandana)* / I Ka Ching 5 (Amlgyfrannog) / IV (Cowbois Rhos Botwnnog)

Hyrwyddwyr Gorau: Clwb Ifor Bach* / Maes B / 4 a 6

Cyflwynydd Cerddoriaeth Gorau: Tudur Owen / Huw Stephens / Lisa Gwilym*

Artist Unigol Gorau: Yws Gwynedd* / Gwilym Bowen Rhys / Alys Williams

Digwyddiad Byw Gorau: Gig y Pafiliwn* / Maes B / Gig Olaf y Bandana

Band neu Artist Newydd Gorau: Chroma / Ffracas* / Magi Tudur

Band Gorau: Candelas* / Sŵnami / Y Bandana

Offerynnwr Gorau: Osian Huw Williams / Gwilym Bowen Rhys / Meryn Lleu*

Fideo Cerddoriaeth Gorau: ‘Sgrîn’ (Yws Gwynedd) / ‘Bing Bong’ (Super Furry Animals)* / ‘Suddo’ (Yr Eira)

Record Hir Orau: IV (Cowbois Rhos Botwnnog), Fel Tôn Gron (Y Bandana)*, Kurn (Band Pres Llareggub)

Record Fer Orau: Tân (Calfari), Niwl (Ffracas), Propeller (Cpt Smith)*

Mae’r holl fanylion, ynghŷd â lein-yp llawn y noson ar wefan y Selar. Mae’r tocynnau yn mynd yn hynod o sydyn unwaith eto – cofiwch, mi’r oeddan nhw wedi gwerthu allan erbyn y noson llynedd! Welwn ni chi yno!

Pop Cymraeg a’r Welsh Pops

GETHIN GRIFFITHS

13680325_1111856008895807_5277575430855978203_o

Llun: Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Ydy’r Sîn Roc Gymraeg yn tyfu fyny? Yn sicr, mae wedi aeddfedu yn ystod 2016. Ac eithrio operâu roc y saithdegau a pherfformiad Meic Stevens â Cherddorfa’r BBC, nid yw’r sîn erioed wedi gweld cymaint o gymysgu rhwng genres poblogaidd a rhai clasurol. Efallai eich bod yn buryddion ac yn credu’n gryf na ddylai cerddoriaeth boblogaidd – cerddoriaeth brotest yr ugeinfed ganrif, cyfrwng angst yr ifanc a mwynhad y wêr gyfoes, fynd yn agos at yr un cerddorfa, ond mae’n rhaid i mi anghytuno’n gryf.

Fel aelod o ‘Clwb Cariadon’, prosiect achlysurol a sefydlwyd fel rhan o gyfres Sesiynau Unnos BBC Radio Cymru, mi’r oeddwn i’n ddigon ffodus o fod ymysg cerddorion hynod ddawnus a oedd â’r bwriad i ddod â’r cymysg hwn o genres yn fyw. Roedd Owain Llwyd a Casi Wyn wedi gweithio â’u gilydd eisoes ar brosiectau tebyg, gydag Owain yn trefnu caneuon Casi ar gyfer cerddorfa’r BBC ac ar gyfer pedwarawd llinynnol. Yn naturiol, roedd cynnwys Owain fel rhan o’n tîm yn golygu bod yna flas clasurol/ffilmaidd yn sicr o fod yn rhan o’r canlyniadau – a dyma’n union a gafwyd. Rhaid dweud, fodd bynnag, mai nid dewis cydwybodol o gymysgu genres oedd y bwriad – ond yn hytrach, darganfyddwyd fod nifer helaeth o ein dylanwadau cerddorol Eingl-Americanaidd yn gwneud defnydd o gerddorfa a phedwarawdau llinynnol yn barod. Does dim ond rhaid gwrando ar Florence and the Machine neu First Aid Kit i glywed defnydd o’r fath o linynnau byw. Doedd hyn ddim yn newydd, o bell ffordd, felly – gwrandewch ar unrhyw gân disco, neu unrhyw sampl hip-hop – mae llinynnau’n holl bresennol. Yr hyn oedd yn wahanol y tro hwn, oedd ein bod yn defnyddio’r offerynniaeth ehangach hwn fel rhan greiddiol o’r broses o ysgrifennu cân. Efallai fod diffyg cyllid artistiaid Cymraeg yn golygu nad yw’n bosib iddynt dderbyn cefnogaeth cerddorfa neu offerynniaeth o’r fath, ac felly roedd y sain a grëwyd yn gwbl newydd. A dyma yw’r pwynt.

Mae’n digwydd o hyd – mae’r sîn yn ffynnu, ac yna’n distewi, ac yna’n ffynnu eto, o ganlyniad i’r ffaith fod grwpiau ac artistiaid yn tueddu i gyrraedd uchafbwynt yn eu poblogrwydd tua’r un pryd, ac nid oes digon o artistiaid eraill i gymryd eu lle wrth iddynt syrthio o’r brig. Ond nid oes yn rhaid i’r uchafbwynt hwnnw fod yr un fath bob tro. Nid oes rhaid i ‘hedleinio’ Maes B fod yn uchafbwynt. Nid oes rhaid ennill gwobr Selar i gyrraedd uchafbwynt. Rwan, mae na uchafbwynt newydd – chwarae â’r Welsh Pops Orchestra.

Unwaith eto, i buryddion clasurol, efallai bod arddull ffilmaidd y Welsh Pops yn gwneud i chi wingo drwy eich harpsichords mewnol, ond digwyddodd rhywbeth arbennig iawn wrth iddynt gynnig cyfeiliant i dri o grwpiau mwyaf ein cyfnod ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol. Ers i Geraint Bowen, taid Gwilym Bowen Rhys a llywydd pwyllgor Pabell Lên a Drama Eisteddfod Genedlaethol 1967 roi’r Blew ar lwyfan y babell y flwyddyn honno, ni fu i’r Eisteddfod fentro i gofleidio ein sîn roc i’r graddau hyn o’r blaen. Mae Maes B yn cynnig ghetto o gerddoriaeth boblogaidd Gymraeg bob blwyddyn ers 1997, a gigs Cymdeithas yr Iaith yn holl bresennol ers tro byd, ond dyma i chi foment – moment pan roddwyd ein hoff grwpiau ar lwyfan y PAFILIWN. Llwyfan y pafiliwn… NEWYDD.

Oes, mae arwyddion yn dod i’r amlwg sy’n datgan fod yr Eisteddfod yn barod i symud ymlaen i’r unfed ganrif ar hugain. Nid oedd modd anwybyddu llwyddiant a phoblogrwydd ysgubol grwpiau fel Swnami, Yr Ods a Candelas mwyach – roedd yn rhaid eu cofleidio, a hynny mewn steil. Unwaith eto, bu galw ar Owain Llwyd, cyfansoddwr a darlithydd ym Mhrifysgol Bangor i gamu i’r adwy gerddorol, a throi caneuon y grwpiau hyn yn gampweithiau arallfydol.

Mae’n debyg mai caneuon Yr Ods oedd yn rhoi’r sgôp cerddorol ehangaf i Owain a’i drefniannau – roedd y caneuon arafach yn galluogi iddo arbrofi. Roedd perfformiad dynamig arferol Candelas yn cyd-fynd â choreograffi naturiol y gerddorfa yn anhygoel (ac yn bennaf drawiadol am mai Osian ei hun oedd wedi gwneud y trefniannau). Ond, i mi, yr uchafbwynt oedd set Swnami. Eu perfformiad nhw oedd yn agor y noson, a’u perfformiad nhw a gododd y gynulleidfa ar eu traed a gwneud i ni fod eisiau mynd i lawr i’r tu blaen. Mae’n rhaid i mi gyfaddef – fi oedd y cyntaf ar fy nhraed, a hynny dim ond ar ôl rhagarweiniad y gerddorfa… Cymysgedd o edmygedd ac ambell beint. A i ddim i fanylder cerddorol, ond mi ‘nath yr adran bres yn rhagarweiniad Gwenwyn chwalu fy mhen i. Mi nes i, a channoedd o bobl eraill, brofi rhywbeth nad ydw i erioed wedi ei brofi o’r blaen – ein hoff ganeuon Cymraeg wedi eu troi yn drac sain byw o gymhlethdod cerddorol o’r safon uchaf. Mae’n saff dweud fy mod yn un o’r pobl mwyaf cenfigennus yn y byd am ychydig funudau – ond mi’r o’n i hefyd mor falch fod y grwpiau hyn, sydd wedi gweithio’n galed dros y blynyddoedd diwethaf i gyrraedd safon uchel iawn, yn cael cydnabyddiaeth i’r fath raddau. Ac mi’r oeddan nhw’n sicr yn mwynhau eu hunain. Moment hanesyddol – heb os.

Ac yna, ar nos Sadwrn olaf yr Eisteddfod, mi gawsom ni berfformiad clywedol a gweledol drawiadol gan Fand Pres mwya’r foment – Band Pres Llareggub. Roedd y grŵp a oedd yn hedleinio Maes B y tro hwn… yn FAND PRES! Os nad yw hyn yn brawf mai 2016 yw blwyddyn y crossover, ‘dwn i ddim be’ sydd. Mae cerddoriaeth boblogaidd Gymraeg yn tyfu i fyny y flwyddyn yma, ac yn cyrraedd uchelfannau na welwyd o’r blaen. Efallai nad yw’n cyflawni ein obsesiwn o dderbyn cydnabyddiaeth y tu hwnt i’r ffin, ac rwy’n gwybod, mae pawb wrth eu boddau yn clodfori’r SRG (a hynny oherwydd eu bod ofn ei cholli’n gyfan gwbl), ond ga’ i plis awgrymu ein bod ni wedi gweld rhywbeth anhygoel y flwyddyn yma?

Mae na safon newydd rwan. Safon gwbl newydd. Ac efallai mai electronig fydd y dyfodol, efallai mai grwpiau Ôl-ôl-bync hollol syml yw’r dyfodol – ond yn sicr, mae’r bar wedi codi, ac mae’n rhaid neidio’n uchel iawn i guro’r wefr a deimlwyd ym Mhafiliwn y Fenni nos Iau diwethaf. Fandiau ifanc, gyfansoddwyr ifanc, gerddorion ifanc, ydych chi’n barod am yr her?