Adolygiad: Babelsberg gan Gruff Rhys

ELIS DERBY

Babelsberg

Llun: gruffrhys.com

Mae Gruff Rhys yn ffigwr cyfarwydd yn y byd cerddoriaeth yng Nghymru a thu hwnt ers degawdau bellach – o fod yn brif leisydd Ffa Coffi Pawb yn yr 80au, cyn symyd ymlaen i’r Super Furry Animals yng nghanol bwrlwm Britpop, mae o dal wrthi’n parhau ryddhau cynnyrch hyd heddiw, a nid yw’n dangos unrhyw arwydd o redeg allan o stêm. Ers rhyddhau ei gasgliad unigol cyntaf nôl yn 2005, Yr Atal Genhedlaeth, mae Gruff Rhys wedi bod ddigon ffodus i gydweithio gyda rhai o ffigyrau amlycaf y byd cerddoriaeth, o fod yn gwneud ymddangosiad ar albwm Plastic Beach (2011) gan Gorillaz, i fod yn perfformio yn King’s Cross yn Llundain wrth ochr Paul McCartney fel rhan o African Express. Babelsberg yw ei gynnig diweddaraf i’w ganon o waith, ac mae hi’n saff dweud nad yw hi’n siomi.

Mewn oes lle mae’n ymddangos bod llwyddiant artist yn cael ei ddehongli ar sail ffigyrau gwerthiant yn hytrach na sgil cerddorol, mae ‘na bwysau ar artistiaid i ryddhau cynnyrch sydd am blesio gorsafoedd radio, ac i ffitio i mewn i’r “prif lif”. Cymerwch rywun fel David Bowie; rhywun nad oedd yn deilwng i’r rheolau, a’n dewis gwthio ffiniau dros setlo ar sŵn penodol. Mae ‘na rywbeth am Gruff Rhys sydd yn fy atgoffa o Bowie – gyda pob albwm yn cynnig rhywbeth gwahanol, yn ogystal â gallu’r ddau i blethu alawon gyda cordiau annisgwyl. Mae Babelsberg yn cynnig ystod eang o arddulliau cerddorol, ond hefyd yn llwyddo i greu teimlad o undod rhwng bob trac, hynny yw, eu bod yn perthyn i’w gilydd mewn steil ac arddull, sydd yn ddipyn o gamp o ystyried y cymysgedd o steiliau gwahanol. Mae’r trac agoriadol, Frontier Man, er enghraifft, yn fy atgoffa o un o draciau cynnar Neil Young. Yn ogystal â bod yn ddechrau gwych i’r albwm, gyda’i alaw bachog yn siwtio llais bariton Gruff Rhys i’r dim, mae hi’n rhoi syniad i’r gwrandawyr o beth sydd i’w ddisgwyl. Dyma’r cip cyntaf y cawn i seiniau hyfryd y gerddorfa sydd yn gynnwysiedig yn y cefndir drwy gydol yr albwm. Rwyf wastad wedi bod yn hoff o’r syniad o gyfuno’r sŵn symffonig sydd gan gerddorfa i’w gynnig gyda chaneuon pop. Mae’n dechneg sy’n cael ei ddefnyddio gan wahanol gerddorion er mwyn rhoi cig ar asgwrn, fel petai, neu i gael swn fwy ‘llawn’ i’w gweithiau. Yn sicr, yn yr achos hwn, mae sain y gerddorfa a chyfansoddiadau Gruff yn plethu’n berffaith, hyd yn oed yn mynd mor bell a rhoi naws Country & Western i’w ganeuon ar adegau – rhywbeth na fuaswn byth wedi ei ddisgwyl gan frontman SFA.

The Club yw’r ail drac i’w glywed, ac yn a fuasai’n ffitio’n daclus o fewn casgliad cynharach o ganeuon a ryddhawyd gan Gruff; yr hynod lwyddiannus American Interior nôl yn 2013. Mae hi’n gân sydd yn delio â’r syniad o gael eich gwrthod, ac yn gyferbyniad llwyr i’r naws hapus a gafodd ei gyfleu yn y trac cynt. Rwy’n sylwi bod nifer helaeth o ganeuon Gruff yn bodoli o safbwynt y person cyntaf, sydd yn rhoi elfen fwy personol i’w waith. Difyr hefyd yw nodi sut mae’r geiriau hunan dosturiol yn gwrthfynd a’r curiad ‘upbeat’ sydd yn perthyn i’r gân; rhywbeth rwyf wastad wedi ei ystyried yn dechneg clyfar a quirky yn y byd cyfansoddi. Mae yna naws 60au yn perthyn i’r drydedd trac, Oh Dear! gyda’r tempo cyflym a’r melodi cofiadwy yn fy atgoffa o sŵn rhai o fandiau y cyfnod, megis Herman’s Hermits, neu rhywun mwy diweddar fel the Last Shadow Puppets. Gallaf hefyd glywed dylanwad mwy gorllewinol yn y trac hwn, megis rhywbeth a’i glywir yn y cefndir mewn golygfa o ffilm cowbois. Ni fuaswn yn mynd mor bell a galw’r trac nesaf yn ddeuawd, ond does dim amheuaeth bod llais ysgafn Lisa Jen yn gweddu’n berffaith yn y cefndir gyda naws ysgafn Limited Edition Heart. Yn ddadleuol, dyma’r trac fwyaf bachog ar yr albwm, neu yn sicr, dyma un o’r alwawon yr oeddwn i yn bersonol yn chwibanu o gwmpas y lle ar ol ei glywed.

Take That Call yw un o uchafbwyntiau Babelsberg yn fy marn i. Rwy’n hoff iawn o’r dewis cordiau a’u strwythr, yn ogystal a’r solo gitar a glywir yn y canol, sydd yn swnio’n debyg i rywbeth y buasai’r Arctic Monkeys yn recordio. Eto, fel nifer o’r traciau, mae yno naws retro i’w ganfod yma, sydd yn arwain at ddadl sy’n cael ei drafod yn gyson. Mewn oes ble mae artistiaid yn cael eu hannog i dorri tir newydd gyda pob record, ac i beidio ail adrodd syniadau y gorffennol, gallwch ystyried gor ddefnydd o dechnegau traddodiadol recordio yn ffordd anffasiynnol o greu cynnyrch. Er enghraifft, i gael rhywbeth a wnaiff gyrraedd y siartiau heddiw, mae’n teimlo fel bod angen i’r caneuon fod yn deillio o’r un thema, offeryniaeth a’r un cynhyrchwyr. Tydi Gruff ddim yn dilyn y llwybr yma o bellffordd, ac yn parhau i gyfansoddi caneuon syml gyda alawon cofiadwy, gan mai dyna mae o’n gwybod fydd pawb eisiau ei glywed. Cymrwch enghraifft arall o waith diweddar Arctic Monkeys – heb os, eu halbwm diweddara’, Tranquility Base Hotel and Casino yw eu gwaith fwyaf arbrofol ers eu ffurfiad nôl yn 2002. Mae hyn wedi gadael nifer o wrandawyr yn groes eu barn, yn bennaf gan ei fod yn swnio’n rhy ddiarth i’r arfer, ac felly eu bod yn hiraethu am yr ‘hen’ arddulliau. Sna’m posib plesio pawb.

Same Old Song yw fy hoff gân ar y casgliad. Mae’r geiriau a’r alaw yn fy ngwneud yn genfigenus o sgil cyfansoddi Gruff – yn ogystal â’r ffaith mai yn fan hyn rwy’n edmygu’r gwaith cerddorfaol fwyaf. Pan i mi glywed y gân am y tro cyntaf, roedd yn un o’r rhai yr oedd rhaid i mi ei ail-chwarae yn syth, i mi gael ail-fyw y wefr a gefais o wrando am y tro cyntaf, ac felly yn amlwg, mae’n sefyll allan o fewn y rhestr chwarae ers hynny. Mae Drones In The City yn rhyw fath o drobwynt yn yr albwm, gan ddod a’r atmosffer i lawr am y tro. Cawn amser i gael ein gwynt nol atat, a ymlacio i’r seiniau hudol a chaiff eu cyfleu gan y trac araf hon. Tybiaf mai dyma sut buasai cân yn swnio petai Gruff Rhys yn mynd ati i ysgrifennu Rock Opera – a rwan fy mod wedi cael y darlun hwnnw yn fy mhen, hoffaf glywed un cyn gynted a phosib – syniad i’r albwm nesaf?

Pe taswn yn gorfod dewis can y buaswn yn gallu gadael oddi ar yr albwm, Negative Vibes fuasai honno. Tydi’r trac hwn a finnau heb glicio… ddim eto oleiaf, er mae rhaid mi gyfaddef ei fod yn tyfu arnaf yn araf bach. Yna, cyrhaeddwn y ddau drac olaf; Architecture of Amnesia a Selfies In The Sunset, sydd yn teimlo i mi fel petaent yn ceisio crynhoi yr holl themau a syniadau a glywyd yn yr hanner awr ddiwethaf (os ydych wedi bod yn gwrando ar yr albwm yn ei chyfanrwydd, hynny yw ). Cawn eto alawon bachog, ynghyd â threfniannau hyfryd ar y piano a’r gerddorfa – heb anghofio cydweithrediad rhwng dau lais, a geiriau creadigol. Gadawodd Babelsberg argraff fawr arnaf – ac rwy’n edrych ymlaen i weld pa gyfeiriad yr aiff Gruff efo’i brosiect nesaf, ond tan hynny, gallwn werthfawrogi’r gampwaith hon.

Os wnaethoch fwynhau yr albwm hon, ewch ati i wrando ar rai o’r rhestr byr isod, sydd i gyd yn cynnwys arddulliau tebyg i Babelsberg yn eu ffyrdd bach eu hunain.

HarvestNeil Young

Pet Sounds – The Beach Boys

Young Americans – David Bowie

The Wall – Pink Floyd

Bridge Over Troubled Water – Simon and Garfunkel

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Oes gan gerddorion Cymru dueddiad i’w chwarae hi’n saff er mwyn plesio eraill?

Mae’r drafodaeth am gyflwr beirniadaeth gerddorol yng Nghymru yn parhau, ac mae Elis Derby yn defnyddio ei erthygl gyntaf ar gyfer SaS er mwyn ei dweud hi fel y mae hi am y mater.

Elis Derby.jpg

ELIS DERBY

Heb amheuaeth bu 2017 yn flwyddyn hynod ffrwythlon i gerddoriaeth Gymraeg, o gyweithiau newydd gan rai o’n grwpiau mwyaf adnabyddus (Yws Gwynedd a’r Eira yn enghreifftiau), i’r holl fandiau newydd cyffrous ddaeth i’r amlwg, megis Serol Serol, Pasta Hull, Adwaith, a Gwilym; beth fydd gan 2018 i’w gynnig felly?

Wrth gwrs, wrth greu a rhyddhau cynnyrch, mae ymateb cynulleidfa yn cael ei ystyried o ddifrif gan y mwyafrif o artistiaid – boed ar ffurf ffigyrau gwerthiant, nifer y gwrandawiadau ar safleoedd ffrydio, neu faint y dorf sydd yn mynd i gigs. Does dim modd osgoi beirniadaeth, boed yn bositif neu negatif, ond dwi’n teimlo ar adegau bod gennym dueddiad fel Cymry i ganmol artistiaid am eu gwaith, heb boeni llawer am ei ansawdd, ‘oherwydd ei fod o’n Gymraeg’, a dyma sy’n codi’r cwestiwn; oes rhaid i hyn fod?

Mae’r Gymraeg yn un o ieithoedd hynaf Ewrop ac yn hollbwysig i’n hunaniaeth fel cenedl, felly yn naturiol, mae sicrhau ei pharhad yn flaenoriaeth, e.e. drwy gefnogi mentrau iaith, busnesau Cymraeg lleol, ac wrth gwrs, drwy ei defnyddio o ddydd i ddydd. Mae hi’n ymddangos bod annog a chefnogi artistiaid Cymraeg yn hanfodol i sicrhau ei pharhad. Ydi hi felly yn anfoesol i gyflwyno beirniadaeth negyddol, neu fynd yn erbyn cynnyrch a gyflwynir yn y Gymraeg? Mewn gwlad mor fach gyda diwylliant mor gyfoethog, a ddylsen ni fod yn cefnogi ac edrych allan am ein gilydd yn hytrach ‘na ffeindio esgus i wrthdaro?

O brofiad personol yn perfformio/recordio yn y Gymraeg, rwy’n gallu gwerthfawrogi beirniadaeth, hyd yn oed os yw’n anffafriol. Wedi’r cyfan, mae gan bawb yr hawl i leisio barn, a gall beirniadaeth wael arwain at eich datblygiad fel cerddor, a’ch galluogi i ddysgu o’ch camgymeriadau. Mae gan yr agwedd bod angen cefnogi a chanmol rhywbeth ar y sail ei fod o yn Gymraeg y potensial i fod yn hynod niweidiol i ddiwylliant Cymru, gyda’r cyfryngau yn dueddol o anwybyddu neu hyd yn oed geisio tawelu unrhyw un sy’n lleisio barn sydd yn groes i beth maent eisiau ei glywed. Un enghraifft sydd wedi ei drafod ar y blog yma yn barod yw’r stŵr yn dilyn uwchlwythiad ‘Geith Bryn Fon Fynd i Ffwcio’ i Soundcloud gan Pasta Hull. Roedd yr ymateb yn un cymysg: nifer yn diawlio unrhyw un oedd â’r wyneb i ddweud gair drwg am “Bryn ni”, ac eraill yn ei ystyried fel chwa o awyr iach am beidio’i chwarae hi’n saff drwy greu cynnyrch ‘radio gyfeillgar’.

Wrth edrych ar hanes cerddoriaeth yr ugeinfed ganrif yn gyffredinol, roedd y genres cerddoriaeth sy’n cael eu hystyried erbyn heddiw fel rhai hanfodol i’r holl ddatblygiad, ar y pryd yn mynd yn groes i’r ‘prif lif’. Er enghraifft, roedd caneuon Roc a Rol y 50au ar y pryd yn cael eu gweld yn rhywbeth bygythiol i’r genhedlaeth hŷn, ond yn eithriadol o gyffrous i bobl yn eu harddegau. Roedd hi’n sefyllfa debyg pan ymddangosodd cerddoriaeth punk ynghanol y 70au, ac yn y 90au roedd yna bwysau i ddewis ar ochr pwy yr oeddech chi; Blur ta Oasis?

Gwrthdaro a thrafodaeth o fewn y sin gerddorol sy’n ei gwneud yn ddifyr ac yn iach, gan ei fod o leiaf yn ysbrydoli mwy i gyfrannu, gan achosi esblygiad cyson. Hyd yn oed yng Nghymru, motif band fel Edward H. Dafis oedd bod yn wrthbwynt i’r caneuon acwstig poblogaidd oedd o gwmpas ar y pryd, gan synnu cynulleidfaoedd gyda’u perfformiadau bywiog, eu synau gitar trwm a’u lyrics awgrymog. Ac yn ddiweddarach, ymddangosodd bandiau fel yr Anrhefn i drio ‘topio’ hynny gyda lyrics mwy eithafol. Erbyn hyn wrth gwrs, mae’r ddau fand hwn yn cael eu hystyried fel rhai o fandiau gorau Cymru erioed. Daw enghraifft mwy diweddar o Ŵyl Gwydir 2014 (heddwch i’w llwch): clywed Iwan Fôn o’r Reu yn sgrechian i’r meic yn ystod eu perfformiad, “Pwy sy’n licio Bromas? ACHOS DWI FFOCIN DDIM!”, gan gyfeirio at y band o Gaerfyrddin. Mewn gwlad sydd ar adegau yn ymddangos fel cenedl sy’n gaeth i nostalgia, mi ddylien ni fod yn croesawu syniadau newydd yn hytrach na’u distewi. Gallwch hyd yn oed ei ddehongli fel codi ymwybyddiaeth! Pam bod angen mynd dros ben llestri pan gyflwynir barn sydd yn mynd yn erbyn y graen? Cyn belled â bod artistiaid Cymraeg dal i ryddhau cynnyrch, be di’r otch?