Cyfweliad: Lewys ac Ifan, Yr Eira.

GETHIN GRIFFITHS

IMG_1602CB53D53C-1

Gyda dwy bowlen o gawl, diodydd di-siwgr a bwced o baned o de, ‘dw i’n cael cwmni Lewys ac Ifan, Yr Eira, ar amser cinio braf ym mis Gorffennaf. Mae’r ffaith mai yng Nghanolfan Reolaeth Prifysgol Bangor ar awr ginio y mae’r ddau yn cyfarfod yn brawf clir bod pethau wedi newid. Heb os, dyma’r cyfarfod mwyaf diniwed a sidêt i mi ei gael gyda nhw erioed.

Y newid hwn a’r cyfnod o adael coleg a mentro i’r byd go iawn sydd yn llywio sgwrs Lewys wrth iddo drafod thema albwm newydd y band, Toddi. Mae’n amlwg mai ef yw’r prif grefftwr y tu ôl i gyfeiriad yr albwm, ac mae’n hynod barod i drafod hynny drwy’r amser. Mae Ifan, ar y llaw arall, yn cyfrannu’n achlysurol ac yn barod iawn i ddatgan ei farn am weddill y Sîn Roc Gymraeg. Er fy mod yn eu gwthio ar brydiau i ateb cwestiynau nad ydynt efallai yn gyfarwydd â hwy gan y cyfryngau Cymraeg, mae’r ddau i weld yn falch o gael cyfle i adael i’w meddyliau lifo. Mae’n amlwg nad prosiect ffwrdd-â-hi yw Toddi, ond yn hytrach yn faniffesto personol ac ysbrydol i Lewys, a chyfle i Ifan wneud pethau ychydig yn wahanol.


GG:      Diolch am gytuno i gael cyfweliad gyda SaS! Mae’n bryd cyhoeddi eich albwm cyntaf, ond rydym ni’n hynod gyfarwydd hefo chi yn barod. Beth sy’n wahanol am y caneuon yma i’ch cynnyrch blaenorol?

LW:      Mi wnaethon ni fynd at gynhyrchydd gwahanol y tro yma, sydd yn hollbwysig ar gyfer creu synau newydd. Steffan Pringle, sydd yn chwara bâs i Estrons, oedd y prif ddylanwad ar yr ochr yna o bethau. Hefyd, mi gafon ni gyfle i weithio gyda cherddorion eraill fel Llŷr Pari, sydd wedi bod yn recordio Omaloma yn ddiweddar, wnaeth sicrhau bod na rywbeth gwahanol yn y caneuon. Ma’r caneuon newydd ‘chydig bach trymach, a does na ddim un cân ar yr albwm sydd yn debyg i’r llall. ‘Dw i’n meddwl hefyd ei bod yn gweithio’n dda fel albwm yn ei chyfanrwydd. Oherwydd, pan ti’n g’neud albwm, ti isio rhyw fath o gyswllt. Mae o ‘fath a g’neud llyfr, mae angen rhyw fath o linyn neu ddilyniant.

ID:        Yn sicr, roedd newid cynhyrchydd yn syniad da gan ein bod ni’n chwilio am synau newydd, ac isio swnio’n wahanol i bob dim arall sydd allan yna.


GG:      Oedd ‘na rywbeth penodol oedda chi’n trio ei ddweud yn yr albwm? 

LW:      Mae’r albwm i gyd yn sôn am ryw fath o newid. Newid cyfnod, newid lle ‘dw i’n byw, gan fy mod bellach yn byw yng Nghaerdydd, yn dilyn cyfnod yn y coleg yn Aberystwyth. Mae’r caneuon i gyd yn cynrychioli’r stâd o newid, yn feddyliol ac yn ddaearyddol.

ID:        Ydi’r ddinas wedi effeithio arna’ ti o gwbl?

LW:      Do, mae mynd o fod yng nghanol pobol ‘da chi’n nabod o hyd, fel yn y coleg, i fod yn mynd i’r ddinas ar eich pen eich hun yn brofiad gwbl newid. Mae’n rhaid bod hynny wedi effeithio rhywsut. Ac ma’r gwaith celf, gan Celt Iwan, yn adlewyrchu’r syniad ‘ma o newid achos mi ‘nathon roi’r syniadau iddo fo, ac mi ddaeth o fyny efo’r pili pala, sy’n symbol o newid be’ bynnag.


GG:      Mae’n swnio fel mai ti sydd yn gyfrifol am y rhan fwyaf o’r ‘sgwennu, Lewys?

LW:      ‘Dw i fel arfer yn cael syniadau bras, ac yn mynd a nhw i’r stafell ymarfer i’w dysgu i’r band. Mae’r geiriau’n dod wedyn fel arfer.

ID:        Mae ‘na gwpl ohonyn nhw di datblygu’n organic yn y ‘stafell ymarfer, tro ‘ma, does? Ac mae Trystan wedi cyflwyno cân tro ‘ma hefyd, ‘dw i’n meddwl mai fo ‘nath gyflwyno Gweld y Gwir.


GG:      Ydy’r caneuon i gyd yn gynnyrch o’r un cyfnod? 

LW:      Yndi, mwy neu lai, yn gynnyrch o’r flwyddyn diwethaf.

ID:        Ond ma Suddo’n perthyn i gyfnod cynt hefyd.

LW:      Yndi, ma Suddo a Pan Na Fyddai’n Llon ychydig yn hŷn na’r gweddill, ond mae’r rhan fwyaf o gyfnod diweddar iawn.

ID:        Mi nath Suddo osod y tôn mewn ffordd, do?

LW:      Do, rhyw fath o ddilyniant o Suddo ‘di’r albwm, felly.


GG:       Pwy di’r prif ddylanwadau yma?

LW:      ‘Natho ni ddim lot o hynna tro yma, naddo. Mi ‘nathon ni bwynt o beidio gwrando’n ormodol ar fandiau eraill.

ID:        Mae ‘na chydig o ddylanwad Temples, mae’n siŵr.

LW:      Oes, ond mae’r stwff wyt ti’n gwrando arnyn nhw rwan yn wahanol i’r stwff ‘dw i’n gwrando arnyn nhw erbyn hyn dydi. Dwi’n gwrando ar dipyn o stwff gitâr, fel LCD Soundsystem.

ID:        ‘Dw i’m yn gwrando ar stwff gitâr o gwbl dyddia’ yma, a dweud y gwir.

GG:      Dal i wrando ar Peace?

LW:      (yn chwerthin) Na, dim gymaint!


GG:      Ydych chi wedi buddsoddi mewn offer newydd ers recordio y tro diwetha’? 

LW:      Digwydd bod, ‘dw i newydd brynu gitâr newydd wythnos diwetha’! Dw i di prynu Fender Duo-Sonic oren. O ran perfformio’n fyw, oeddan ni isio g’neud yn siŵr bo’ ni’n edrych yn wahanol y tro hwn.

ID:        Hefyd, mi oeddan ni’n defnyddio stwff tra yn stiwdio Drwm yn Llanllyfni, stiwdio Osian ac Ifan Candelas, ac yn defnyddio ychydig ar eu pedals nhw. Ond, doeddan ni ddim isio mynd i swnio’n debyg i ‘signature tone’ gitârs Candelas felly ‘nathon ni ddim gormod o hynny.

LW:      Be’ am y pedal newydd na ‘sgen ti?

ID:        O ia, dw i wedi prynu pedal Guitar Envelope, am laff, ac mi nathon ni dipyn o arbrofi ar hwnnw.

LW:      Ia, a masiwr oedd defnyddio stiwdio gwahanol, ac offer Steffan, yn achosi i ni swnio’n wahanol y tro ‘ma hefyd.


GG:      Pwy di’r ffans? Ac i bwy ma’r albwm?

LW:      Ma’n swnio’n cliché, mae’n siŵr, ond i bach o bawb!

ID:        Mi nathon ni neud pwynt o beidio anelu at y gynulleidfa ieuengaf, mae’n siŵr.

GG:      Wrth gwrs, ‘da chi di tyfu fyny hefyd..!

LW:      Do, dw i ddim yn meddwl gormod am hynny a dweud y gwir, dwi ddim am labelu!


GG:      Mae’n amlwg bod 2017 yn flwyddyn wahanol iawn i gerddoriaeth Gymraeg. Mae cerddoriaeth amgen yn llawer amlycach rwan. Sut mae yr Eira yn berthnasol yn 2017?

LW:      Ym, ia, dwi’n gweld be’ ti’n feddwl.

ID:        Tame Impala ‘di hynna i gyd.

GG:      Be’ ti’n feddwl?

ID:        Fel oeddan ni’n cael ein dylanwadu gan indie bands cynt, ma’ pobol yn cael eu dylanwadu gan bobl fel Tame Impala rwan. Dwi’n meddwl bo na gerddoriaeth chydig yn wahanol di dod drwodd yn y byd Saesneg llynedd, ac felly backlash o hynny ‘di hyn.

LW:      Ia, a dwi’n meddwl bo’r ffaith bo ni di newid cynhyrchydd yn dangos bo’ ni isio bod yn berthnasol heddiw, a newid drwy’r amser. Does na ddim pwynt sticio efo’r un peth am ormod.

ID:        Na, ma cynhyrchwyr yn gorfod newid hefyd, dydi? A, dwi’n meddwl ers i’r Bandana orffen, does na neb isio cael eu gweld fel band cheesy dim mwy. Dwi’m yn meddwl bod bod yn rhy cheesy yn ffasiynol dim mwy a ma petha arbrofol yn fwy poblogaidd.

LW:      Ia, yndi, ond pop ydan ni. Da ni’m yn trio bod yn ddim byd arall. 


GG:      Reit, mae’r gig lawnsio yn cael ei chynnal fel rhan o Ŵyl Arall eleni – ydych chi’n edrych ymlaen? Beth sydd i’w ddisgwyl?

LW:      Yndan, ‘da ni’n edrych ymlaen! Mae’n rwbath cyffrous i ni gael bod yn rhan o Ŵyl Arall. ‘Da ni di bod yn gweithio mor galed yn y stiwdio, ‘da ni heb gael amser i ymarfer gymaint a hynny. Ond mae hynny’n dangos bo’ ni di gweithio mwy ar y caneuon ac mi fydd hynny’n dod drosodd yn fyw. Mi fyddan ni’n chwarae’r albwm yn ei chyfanrwydd, hefyd, ac ambell un o’r hen rai, gobeithio.
ID:        ‘Dw i erioed wedi chwarae yng Ngŵyl Arall o’r blaen, felly mi’r ydw i’n edrych ymlaen!

LW:      A ‘dan ni’n rili edrych ymlaen i gael chwarae hefo Mellt, Y Cledrau a Pyroclastig hefyd. Mae’r Cledrau yn y stiwdio ar y funud, dw i’n siŵr, neu efo cynnyrch i ddod allan, ac mae Mellt yn wych be’ bynnag. Ma’ gynno nhw lot o covers cwl yn y set.


GG:      Beth am weddill yr haf? Oes na daith?

ID:        Pafiliwn de!

GG:      Edrych ymlaen? Be ‘da chi am neud?

LW:      Yr albwm yma mwy neu lai, ond mi fydd ambell i hen gân yno hefyd.

GG:      Ifan, ti’n edrych ‘mlaen i gael g’neud o eto?

ID:        Yndw, tro dwytha oedd noson gora’ fy mywyd i. Dwi’n edrach mlaen i gael noson gora fy mywyd unwaith eto!

Mae’r albwm ‘Toddi’ yn cael ei lawnsio yng Ngŵyl Arall, yn Neuadd y Farchnad Caernarfon, nos yfory!! Bydd yr albwm ar gael drwy’r moddau arferol wedi hynny.

O’r Eco: Alffa

GETHIN GRIFFITHS / CHRIS ROBERTS

sasalffajpg

Fel rhai o Fethel a Llanrug mae Geth a Chris o Sôn Am Sîn yn cyfrannu erthyglau am gerddoriaeth yr ardal i’w papur bro lleol, Eco’r Wyddfa. Dyma erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mis Mawrth 2017 y papur.

*************************************************************************************

Un o’r enwau hynny sydd yn codi yn aml wrth drafod grwpiau ifanc addawol yr ardal yw Alffa. Mae Siôn Land a Dion Jones (Ia, dim ond y ddau ohonyn nhw), yn byw yn Llanrug, ac mae eu sain unigryw yn denu sylw gan bwysigion y Sîn Roc Gymraeg erbyn. Cam naturiol, felly, oedd i ni fynd ar eu hôl i gael clywed am eu hynt a’u helynt.

I’r rhai sydd ddim yn eich ‘nabod chi, pwy ydi Alffa?

‘Da ni’n fand o Lanrug sydd wedi bod yn trio torri mewn i’r Sîn ers rhyw flwyddyn rwan. ‘Da ni’n chwarae cerddoriaeth blws trwm – mae’n rhaid i ni fod yn reit drwm gan mai dim ond dau aelod sydd yn y band.

Sut wnaethoch chi gyfarfod?

Roedd y ddau ohona’ ni’n ffrindiau da yn Ysgol Gynradd Llanrug. Ond ‘naethon ni ddim dechrau chwarae offerynnau gyda’n gilydd nes ein bod ym mlwyddyn 8 yn Ysgol Brynrefail. Mi’r oeddan ni’n dau yn chwarae i’r Ymylon cyn i ni ffurfio Alffa.

Sut fuasaech chi yn disgrifio eich sŵn?

Buaswn yn disgrifio sŵn Alffa fel ‘blŵs trwm’, sydd yn cynnwys llawer o riffs trwm a ‘bluesy’. Er hynny, mae ‘na ambell gân ychydig yn ysgafnach. Gan mai dim ond dau ohonom sydd yn y band, mae’r sŵn yn eitha’ amrwd. Hefyd, ‘da ni’n hoff iawn o synau reit od, felly da ‘ni’n arbrofi efo’r rhain mewn caneuon fel ’13.11.15’.

Pwy yw eich arwyr cerddorol?

Mae The Black Keys, The White StripesGary Clark Jr wedi dylanwadu ar sŵn y band. Mae Siôn, y drymiwr, yn hoffi John Bonham ac Taylor Hawkins, ac mae Dion wedi cael ei ddylanwadu gan artistiaid fel Dan Auerbach, a Mike Peters, diolch i’w dad!

Ydy’r ardal leol wedi dylanwadu ar eich sŵn o gwbl?

Mewn ffordd, do! Mae’r ddau ohonom yn teimlo nad oes ‘na ddigon o gerddoriaeth ‘trwm’ yn yr ardal, felly mi’r yda’ ni’n wahanol.

Sut le ydi’r ardal hon i fod yn fand ifanc?

Oes, mae ‘na gyfleoedd, ond mae angen cynnal mwy o amrywiaeth o gigs. Mae’r un artistiaid yn ymddangos mewn llawer o leoliadau, ac felly mae datblygu fel band o fewn y sîn yn anodd.

Pa fandiau eraill o’r ardal ydych chi yn eu hoffi?

O’r ardal hon, ‘da ni’n hoff iawn o Castles, ac mae’r ddau ohonom wedi eu gweld nhw’n perfformio yn fyw nifer o weithiau. Mae ‘na lawer o fandiau o’r sîn ehangach wedi dylanwadu arnom hefyd, fel Cowbois Rhos Botwnnog, ond yn bennaf, Tymbal.

Mi wnaethoch chi ryddhau eich EP cyntaf llynedd, beth sydd gennych chi i ddweud amdano?

Mae’r EP, ‘Alffa’, yn cynnwys 6 trac gwreiddiol – Intro, Crafangau, Dal Dig, Tomos Rhys, Cofia ac 13.11.15. Mi ‘naethon ni ei recordio yn Stiwdio Ty’n Rhos gyda Rhys Jones, ac mae ar gael ar iTunes, yn ogystal ag ar gopi caled.

Beth yw eich cynlluniau yn 2017?

Mae’r ddau ohonom yn edrych ymlaen at 2017 – mi fydd hi’n flwyddyn gyffrous iawn i ni. Mi’r oedd cael chwarae ar noson Gwobrau’r Selar yn fraint i gychwyn arni, a bydd dwy gân newydd yn cael eu rhyddau yn fuan, sef ‘Mwgwd’ a ‘Rhydd’, fel rhan o ‘Sesiynau Sain’. Robin Llwyd, o Fethel, oedd yn gyfrifol am eu cynhyrchu. Byddwn yn parhau i gigio, ac yn gobeithio denu sylw trefnwyr gigs y tu hwnt i’r ardal hon – yn y de, hefyd, gobeithio! Mi fydd cymryd rhan ym Mrwydr y Bandiau Radio Cymru a’r Eisteddfod yn her, ond yn ffordd o ledaenu ein cerddoriaeth i gynulleidfa ehangach. Ond, mae’r ddau ohonom yn hoffi cael bob dim yn berffaith, ac felly mi fyddan ni’n cymryd ein hamser i ddatblygu fel band a gwthio’n hunain i’r cam nesaf.

Beth yw eich uchelgais fel band?

Ein uchelgais y flwyddyn diwethaf oedd cael chwarae ar noson Gwobrau’r Selar, felly mi’r ydan ni’n hapus ein bod wedi cyflawni hynny eleni! Yr uchelgais nesaf fydd cael chwarae ym Maes B, bod yn rhan o brosiect Gorwelion, a chael chwarae ar hyd a lled y wlad. Wrth gwrs, mi fuasai cael ein harwyddo gan label yn wych hefyd.

Deg Munud hefo Yr Eira!

Dyma i chi ail ran o gyfraniad cyntaf Aled Huw Russell i SaS! Darllennwch ei gyfweliad â Huw Stephens yma

ALED HUW RUSSELL

yr-eira

Llun: BBC

Ar y sîn ers 2013, mae’r Eira yn fwy na chyfarwydd gyda Clwb Ifor Bach, yn ogystal â Huw Stephens. Huw a roddodd eu Sesiwn C2 cyntaf iddynt yn ogystal â chwarae eu sengl Trysor ar ei sioe genedlaethol ar BBC Radio 1. Maent eisoes wedi chwarae yn T in the Park ac ennill brwydr bandiau Wakestock yn 2013. Yn enw cyfarwydd ar bosteri gigs ledled Cymru, mae’r Eira wedi chwarae yn Maes B am nifer o flynyddoedd. Daeth eu prosiect sylweddol diwethaf, ‘Colli Cwsg’, nôl yn 2014 ac mae eu cân ‘Pan Na Fyddai’n Llon’ yn ymddangos ar albwm casgliadol ardderchog eu label I KA CHING a ryddhawyd yn 2016.

Roedd eu perfformiad yn Castle Emporium ar Ddydd Miwsig Cymru yn fwy o ddeuawd, gyda fersiynau acwstig o’u caneuon gan Lewys (prif lais) a Trystan (bâs) yn cael eu byrfyfyrio yn absenoldeb y ddau aelod arall. Gyda Lewys a Trystan wedi eu lleoli yn Nghaerdydd a’r prif gitarydd, Ifan, a’r drymiwr, Guto, wedi eu lleoli yn y Gogledd, yn ogystal ag ymrwymiadau Ifan gyda ei fand, Sŵnami, mae’n dueddol o fod yn llawer anoddach i’r band gynnal eu cydlyniad cerddorol. Mae brawd hŷn Lewys hefyd yn brif leisydd i’r Ods, ac mae ei chwaer, Casi, yn gantores hefyd, felly mae’n amlwg fod gwê artistaidd yn rhedeg drwy’r band. Wedi i’w set hanner awr orffen yn Castle Emporium, dwi’n llwyddo cael gafael ar Lewys a Trystan o’r Eira ac eu hebrwng dros y ffordd i Clwb Ifor Bach. Lewys sy’n gwneud y rhan fwyaf o siarad tra mae Trystan yn datgelu rhai o gyfrinachau’r band o bryd i’w gilydd.

Gyda cherddoriaeth newydd ar y ffordd yn ogystal a’u cyfranogiad yn Gig y Pafiliwn wedi ei gyhoeddi, mae 2017 yn argoeli i fod yn flwyddyn addawol iawn i’r band o Fangor.

Pam yda chi’n credu ei fod yn bwysig cymryd rhan mewn achlysur fel Dydd Miwsig Cymru, i ni fel Cymry, ac i’r sîn?

Mae o’n gyfle i roi cerddoriaeth Gymraeg ar blatfform llawer uwch ac yn gyfle i ehangu y genre tu allan i Gymru, ac i gael pobol sydd ddim fel arfer yn gwrando i fiwsig Cymraeg i wrando arno. Dwi hyd yn oed yn nabod dipyn o siaradwyr Cymraeg  sydd ddim yn barod i gydnabod miwsig Cymraeg ac yn cymryd yn ganiataol eu bod nhw ddim am licio fo, felly mae heddiw yn gyfle i bobol wrando arno fo a gweld be ma nhw’n licio.

Ar ôl cael Sesiwn C2 hefo Huw Stephens yn 2013 lle wnaethoch chi berfformio Cadwyni a Cuddliw (sydd ers hynny wedi cael eu dileu o’ch Souncloud), sut mae steil eich miwsig wedi datblygu ers hynny?

Ia neshi ddeletio fo! Di o ddim rili yn cynrychioli ni dim mwy, er fod miwsig ni dal yn eitha bassy a gyda gitars a ballu ond odd hwna yn pop ysgafn ac yn rwbath i gael allan a defnyddio fel llwyfan ar gyfer pethau arall. Dwi’m yn meddwl bod na neb eisio gwrando ar hwna eto eniwes!

Pwy ydi eich prif ysbrydoliaethau cerddorol yn Saesneg ac yn Gymraeg?

Lot i ddeud y gwir, gormod. Da ni’n gwrando i lot o gerddoriaeth fel band, odda ni’n gwrando i Mac DeMarco heddiw ond ar fandiau indie gitars fel Peace a The Strokes da ni di gwrando ers y dechra. O ran bands Cymraeg, odda ni’n tyfu fyny yn gwrando i Anweledig, Creision Hud a mynd i Maes B am y tro cyntaf a gwrando i bandiau fel Yr Ods a meddwl – da ni isio bod mewn band!

Pwy ydi eich hoff fandiau newydd ar y sîn?

Dani’n licio Argrph, ma nhw’n neud pethau da ar hyn o bryd, Los Blancos, Ffracas, HMS Morris, er fod nhw ddim yn fand mor newydd.

Ar ôl rhyddhau eich sengl Saesneg cyntaf, be di’r balans gorau dachi’n credu y dylai bandiau Cymraeg gadw ato yn nhermau cerddoriaeth ddwyieithog?

Mae’n dibynnu yn llwyr ar y band a be ma nhw isio neud, ma ‘na lot o fands yn dueddol o iwsio’r sîn roc Gymraeg fel llwyfan er mwyn gwneud pethau mawr, sy’n hollol grêt i ddeud y gwir. Ma na fandiau arall sy’n dueddol o gadw eu cerddoriaeth yn Gymraeg a mynd yn fawr yng Nghymru, dwi’m yn gweld dim byd o’i le hefo gwneud can Saesneg gan fod o’n ehangu’r gynulleidfa ac yn gwneud fwy o lês i’r sîn. Ti angen addasu i dy gynulleidfa, fydd gig yn Pen Llŷn yn wahanol i gig yn Llundain neu Gaerdydd.

Oes yna nenfwd i gerddoriaeth Cymraeg yn nhermau pa mor fawr fedrith band Cymraeg fynd cyn dechra gwneud caneuon Saesneg?

Na ddim o gwbl! Os ydi dy gerddoriaeth di digon da a digon gwahanol ti am fynd yn fawr, dio ddim ots am yr iaith yn y bôn.

Wedi cael fideo i’ch sengl ‘Suddo’ yn ddiweddar iawn, ydi hwn yn arwydd o fwy o fiwsic i ddod gan Yr Eira yn 2017 mewn ffurf albwm neu EP newydd?

Da ni wedi recordio pump cân a da ni’n mynd nôl i recordio pump arall mis nesaf felly fydd na albwm gobeithio erbyn dechra’r haf.

Yn sôn am yr haf, cafodd y newyddion mawr ynglŷn a Gig y Pafiliwn 2017 ei gyhoeddi dydd Iau, pa mor awyddus yda chi i fod yn rhan ohono, wedi llwyddiant aruthrol Gig y Pafiliwn 2016?

Dwi’n cofio bod yna a meddwl fod o’n anhygoel bod bandiau yn cael y cyfle i weithio hefo cerddorfa mor anhygoel a dwi’n edrych ymlaen yn arw. Nôl yn y dyddiau lle odda ni’n gwrando ar heavy metal yn blwyddyn 7 a 8 dwi’n cofio ni’n gweld Metallica yn perfformio gyda orchestra ar S&M a meddwl da ni byth am allu neud hynny! Mae’n brofiad anhygoel a ma’n gret fod yr Eisteddfod yn rhoi cyfle i bandiau wneud hyn, a mae o’n uchafbwynt arall. Nid yr unig uchafbwynt bellach ydi chwarae Maes B, ond bellach i chwarae hefo cerddorfa yn y ‘Steddfod.

Sut ydach chi’n meddwl eith miwsig Yr Eira hefo cerddorfa fyw?

Dwi’m yn gwybod i ddeud y gwir! Gradd mewn cerdd wnaeth Ifan a mae o ‘di gweithio yn agos hefo un o’r hogia sydd yn cyfansoddi’r trefniadau felly dwi’n meddwl fydd gan Ifan input eitha cryf i beth sy’n cael ei chwarae ond fel arall dwi’m yn siwr sut wneith ein cerddoriaeth weddu hefo’r gerddorfa!

Gyda’r Eisteddfod yn Gaerdydd yn 2018 am y tro cyntaf ers 2008, ydach chi’n meddwl bod chwarae gigiau mewn amryw o wahanol safleoedd yn fuddiol i ledaenu cerddoriaeth Cymraeg?

Yndi, mae o fwy na thebyg am ddenu’r gynulleidfa sydd ddim fel arfer yn mynd i Maes B a mae o hefyd yn eitha da i’r rhai sy’n dueddol o fynd i’r ‘Steddfod bod nhw’n cael crwydro o gwmpas Caerdydd.

I gloi, os fysa na un lle fysech yn gallu gwersylla am wythnos fel yn Maes B yn Gaerdydd, lle fysa fo?

Swni ddim yn licio bod mewn tent yn Cathays… Yn ganol y castell, distaw neis a neb yn amharu, ideally ar dop y mwnt!

Deg Munud Hefo Huw Stephens!

Am y tro cyntaf erioed, dyma i chi erthygl gan awdur gwadd ar Sôn am Sîn! Mae Aled Huw Russell wedi ei leoli yng Nghaerdydd tra y mae’n astudio’n y Brifysgol, ac mae’n ymddiddori yn sîn cerddorol y ddinas. Roedd yn foi prysur iawn yn ystod Dydd Miwsig Cymru, ac mi gafodd o gyfle am sgwrs ddiddorol iawn gyda neb llai na Huw Stephens! Byddwch yn barod am fwy o gyfraniadau gan Aled dros y misoedd nesaf.

ALED HUW RUSSELL

Huw Stephens.jpg

I ffwrdd o’r miri a’r sŵn yn hwb Dydd Miwsig Cymru 2017 yn Castle Emporium, mae cysegr weddol dawel ym mynedfa Clwb Ifor Bach. Gydag Eden, un o fandiau Cymraeg mwyaf poblogaidd y 90au yn ymarfer yn yr ystafell drws nesaf, mae hi o leiaf rwan yn bosib clywed llais DJ Huw Stephens. Wedi gweithio i’r BBC ers 1999, mae Huw nawr yn cyflwyno’r slot rhwng 10 PM tan 1 AM o ddydd Llun i ddydd Mercher. Wedi chwarae nifer o fandiau newydd Cymraeg ar ei sioeau radio, mae ei statws fel un o asedau pwysigaf cerddoriaeth Gymraeg wedi’w gadarnhau gan ei frwdfrydedd di-baid. Wedi ei eni a’i fagu yn Nghaerdydd, mae llefydd fel Clwb Ifor Bach wedi bod yn hollbwysig yn siapio ei flas mewn cerddoriaeth a’i lygad am dalent newydd.

Pam wyt ti’n credu bod hybu a chymryd rhan mewn achlysuron fel Dydd Miwsig Cymru yn bwysig?

Fel rhywun sy’n siarad Cymraeg, dwi’n gwybod pa mor dda ydi’r sîn gerddoriaeth, ma ‘na gymaint o fands a nosweithiau diddorol a dwi’n teimlo’n lwcus ‘mod i’n gallu clywed y gerddoriaeth yma yn Gymraeg – yn naturiol, dwi isio bod yn rhan o’i gefnogi.

Wyt ti’n credu bod gwefannau ‘streamio’ fel Spotify a SoundCloud wedi bod yn fuddiol neu yn niweidiol i gerddoriaeth Gymraeg?

Mae o yn anodd i fandiau gael eu clywed, achos Saesneg yw un o’r ieithoedd mwyaf yn y byd, felly mae dydd fel Dydd Miwsig Cymru yn rili pwysig achos mae o’n amlygu beth sydd allan yna, ac os mae nhw isio gwrando ar ‘playlist’ Spotify neu Deezer mae nhw’n gwybod bod un yn bodoli.

Pwy ydi dy hoff fandiau yn y sîn o’r gorffenol a’r presennol?

Nes i dyfu fyny yn dod fan hyn i Clwb Ifor Bach i weld Gorky’s Zygotic Monkey, Catatonia, Super Furry Animals yn ogystal â bandiau fel Big Leaves, Topper a band rap Cymraeg o’r enw Tystion. Wedyn dros y blynyddoedd, bandiau fel Genod Drwg a Derwyddon Dr. Gonzo, Kentucky AFC, a nawr, bandiau fel Cpt. Smith, Chroma, cantorion gwerin fel The Gentle Good a Huw M, stwff electronig fel Gwenno a Pencadlys – mae yna gymaint o fiwsig da allan yna a dwi mor lwcus fy mod yn gallu eu cyfweld bob wythnos.

Felly pwy ydi dy hoff fandiau newydd?

Yn ogystal â Chroma a Cpt. Smith, mae Mellt (oedd newydd chwarae yn Castle Emporium) yn bril. Mae Adwaith yn ffantastig, a hefyd [dw i’n hoffi] band o Gaernarfon o’r enw Pasta Hull, sy’n ddiddorol.

Wedi’r newyddion mawr am Gig y Pafiliwn 2017 gael ei gyhoeddi, beth oeddet ti’n ei feddwl am yr ymateb positif i’r gig cynta’ flwyddyn diwethaf, ac oes modd cynnal y safon flwyddyn nesa’?

Bydd, yn sicr, achos bod Mr. Phormula, Alys Williams, Yr Eira a Yws Gwynedd i gyd yn bril, a gyda cherddorfa’r Welsh Pops, dwi’n meddwl fydd nhw gyd yn swnio’n wych. Dwi’n gobeithio bydd tocynnau yn brin gyda 1,600 ar gael ac y bydd y gig yn cael ei ddarlledu ar deledu eto.

Ydi’r Eisteddfod yn ceisio newid delwedd y pafiliwn wrth ddenu pobol ifanc i mewn hefo gigs? Wyt ti’n credu y bydd ‘backlash’ gan y genhedlaeth hŷn gan fod Maes B a llwyfan y Maes yn barod i bobol ifanc, ac eu bod nhw rwan yn amharu ar aeddfedrwydd y pafiliwn?

Wrth gwrs, mae cystadlu yn yr Eisteddfod yn rili pwysig, ond yn aml iawn mae’r pafiliwn yn wag, felly mae cael pobol ifanc i fewn i weld bands ifanc yn beth bril. Mae rhaid i’r iaith Gymraeg newid trwy’r amser a gorfod apelio i bobol gwahanol neu mi fydd hi’n marw. Falle’ bydd backlash ond mae rhaid i bobol hŷn sylweddoli nad yw beth oedd ‘Cymraeg’ pan ‘roeddent yn tyfu fyny ddim wastad yn berthasol i bobol ifanc.

Gyda’r Eisteddfod yng Nghaerdydd yn 2018, mae yna wedi bod llawer o glecs ynglŷn â ‘setup’ yr Eisteddfod a Maes B – sut wyt ti’n gweld y bydd Maes B a safle campio yn cael ei weithredu mewn dinas?

Dwi’n cofio Maes B yn digwydd yn TJ’s yng Nghasnewydd ac yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, ac o’dd o’n grêt, felly dwi’n meddwl bod o’n bril fod y ‘Steddfod yn digwydd yng Nghaerdydd. Mae’n beth bositif ac yn newid neis a felly dwi’n siwr ei fod yn safio llwyth o arian i’r Eisteddfod hefyd. Ynglŷn a campio, does gen i ddim syniad, bydd rhaid i ti ofyn i’r Eisteddfod!

Ac i gloi, gan bod alcohol rwan yn cael ei werthu yn y Pafiliwn yn ystod y gig, a ddylsa’ alcohol gael ei werthu yn y babell lên?

Dyle! Pam ddim? Dwi’n deud ie!