Pedwar i’w Gwylio – Sŵn 2018

CHRIS ROBERTS

Logo-Pink-swn

Ers dros ddegawd bellach, Gŵyl Sŵn yw uchafbwynt Mis Hydref ar galendr cerddorol Cymru. Gyda gwyliau’r haf yn teimlo’n bell i ffwrdd, mae cyfle i grwydro o lwyfan i lwyfan cyn mynd yn ôl i wely go iawn yn dod mewn da bryd i stopio’r felan aeafol rhag cicio mewn! Mae Swn yn rhoi pwyslais cryf ar ddarganfod cerddoriaeth newydd, felly gadewch i ni eich rhoi chi ar ben ffordd wrth gynllunio eich penwythnos!


Adwaith

Tramshed / Dydd Mercher, 17eg Hydref / 20:45 

Tydi penwythnos ddim yn ddigon i gynnwys Gŵyl Sŵn i gyd felly mae’r hwyl yn dechrau Nos Fercher yn y Tramshed. Mae’n werth mynd draw i weld Patblygu, Halo Maud, Gwenno a band y foment – Adwaith. Mae darllenwyr selog y blog yn hen gyfarwydd ag Adwaith bellach, wedi i ni eu henwi yn Band y Flwyddyn llynedd, ond mae eu halbwm cyntaf, Melyn, yn profi bod y triawd yn parhau i gyffroi. Maent wedi derbyn clod ar flogiau di-ri am y casgliad, ac ar ganol taith o’r D.U hefo Gwenno. Heb os, bydd llawer iawn o benodau lliwgar yn hanes Adwaith – peidiwch â cholli’r un yma!

 


The Orielles

Neuadd Fawr / Dydd Iau, 18fed o Hydref / 19:30

Gyda Gwenno, Boy Azooga a Confidence Man ymysg eu hartistiaid mae label Heavenly yn gofalu am artistiaid o safon. Nid oedd mentro gwrando ar albwm cyntaf The Orielles yn risg, felly, pan ddaeth allan yn gynharach eleni. Mae Silver Dollar Moment yn llawn rhythmau ffynci a melodiau hafaidd ond nid ydynt yn ofn bod ychydig yn fwy blaengar ‘chwaith. Dreampop perffaith! Bydd hi’n werth i unrhyw ffans o Drenge a Rolling Blackouts Costal Fever gyrraedd yn gynnar i weld The Orielles, yn ogystal ag unrhyw ffans Super Furry Animals sydd eisiau ffeindio hoff fand newydd hefyd!

 


Lewys

The Moon/ Dydd Sadwrn 20fed o Hydref / 17:30

Prin iawn yw’r cyfleoedd wedi bod i weld Lewys a’i fand hyd yma, ond mae ei senglau cynnar wedi gwneud mwy na digon i danio ein chwilfrydedd. Mae arddull yr artist ifanc o Ddolgellau yn plethu synau indie gydag elfennau electroneg, sydd yn atgoffa gwrandawyr ychydig o Jack Garratt neu Friendly Fires – cerddoriaeth indie disco! Mae Lewys wedi ei arwyddo i Recordiau Côsh a bydd ffans o fandiau eraill y label fel Gwilym yn siŵr o ffeindio digon i’w fwynhau yma.

 


Estrons

The Old Market Tavern / Dydd Sadwrn, 20fed o Hydref / 22:15

Pan ddaeth sengl gyntaf Estrons, ‘C-C-Cariad’, allan fel y gân gyntaf yng nghlwb senglau newydd Y Selar yn 2014, roedd yn chwa o awyr iach. Roedd egni ac agwedd y band wedi gwneud argraff barhaol. Bu’n rhaid disgwyl yn hir am eu halbwm cyntaf, ond braf oedd clywed You Say I’m Too Much, I Say You’re Not Enough fis diwethaf. Mae’n gasgliad sydd yn dangos agweddau amrywiol y band, gyda chaneuon arafach ymysg y rhai sydd yn nodweddiadol o natur egniol y band. Un rheswm, mae’n debyg, i’r albym gymryd cyhyd i ein cyrraedd ydi bod Estrons wedi bod oddi ar ffordd am y rhan helaeth o’r bedair blynedd diwethaf. Golyga hyn bod eu perfformiadau byw erbyn hyn yn rai sydd yn werth i’w gweld. Byddent yn sicr yn ffordd wych o orffen penwythnos o gerddoriaeth byw yng Nghaerdydd!

 

Pedwar i’w Gwylio – Focus Wales 2018

CHRIS ROBERTS

logo focues

Fyddai bob amser yn edrych ymlaen at Fis Mai; cychwyn tymor y gwyliau! Ac un o’r rhai cyntaf yn y calendr yng Nghymru ydi FOCUS Wales yn Wrecsam. Gan ddefnyddio lleoliadau ar hyd y dref mae dros 200 o artistiaid yn mynd i fod yn perfformio dros dridiau’r ŵyl. Gyda phwyslais mawr ar fod yn ŵyl i ddarganfod cerddoriaeth newydd mae’n gallu bod yn anodd gwybod lle i ddechrau wrth ddewis pwy i’w gweld, ond, peidiwch â phoeni, mae Sôn am Sîn yma i helpu a dyma bedwar o ein pigion ni.


Chroma

Central Station / Dydd Iau 10fed o Fai / 20:15

Mae’r triawd roc o Bontypridd yn denu dilynwyr newydd gyda phob gig. Maent yn fand byw tynn ofnadwy gyda dealltwriaeth amlwg rhwng y cerddorion. Mae carisma Katie Hall y prif leisydd yn gryfder amlwg iddynt ond mae Liam a Zac, y gitarydd a’r drymiwr hefyd yn cael eu cyfle i fod yn ganolbwynt Chroma yn ystod eu set. Bydd Mis Mai yn gweld y band yn mynd ymlaen i chwarae yn Great Escape Festival a BBC Music’s Biggest Weekend sydd yn arwydd da eu bod nhw’n creu argraff ar bobl ddylanwadol yn y byd cerddoriaeth!


Virgin Kola

Un Deg Un / Dydd Gwener 11eg o Fai / 18:10

Dwi’n dipyn o sucker am fandiau sydd yn defnyddio hiwmor yn eu lyrics. Dim syndod felly fod sengl diweddaraf Virgin Kola am goginio wyau i ddarpar gariad wedi dal fy sylw. Mae’r ddeuawd o Wrecsam, sydd yn disgrifio eu cerddoriaeth fel pop amgen, yn siŵr o’ch gneud chi ddawnsio a gwenu, rheswm da i’w dal nhw yn Un Deg Un Nos Wener felly!


Boy Azooga

Central Station / Dydd Gwener 11eg o Fai / 00:00

Band y foment o blith line-yp yr wŷl, efallai, ydi Boy Azooga. Gyda’r senglau, Face Behind her Cigarette a Loner Boogie yn atynnu llawer o sylw i’r band, bydd yr hype train yn tynnu mewn i Central Station yn Wrecsam nos Wener. Bydd cyfle yn FOCUS Wales i gael rhagflas ar albym cyntaf y band 1,2 Kung Fu, cyn iddo ddod allan fis Mehefin. Mae’n debyg fydd pawb yn siarad amdanynt wythnos nesaf gydag ymddangosiad ar Later..with Jools Holland ar y gweill. Byddwch yn siŵr o edrych yn cŵl o flaen eich ffrindiau os allwch chi ddweud eich bod wedi eu gweld nhw’n barod! Yn ôl y sôn Boy Azooga oedd y band oedd pawb eisiau cael mewn i’w gweld nhw yn Diwrnod Darganfod Sŵn llynedd ac roedd eu gìg diweddar yn Clwb Ifor Bach wedi gwerthu allan, felly ewch draw mewn da bryd i osgoi siom.


Hana 2K

Tŷ Pawb / Dydd Sadwrn 12fed o Fai / 13:30

Pop ffres a cyfoes o Benarth yw’r ffordd berffaith i gychwyn eich diwrnod olaf yn Focus Wales. Mae cerddoriaeth Hana am berthnasau a phŵer merched yn swnio fel Spice Girls a Britney Spears wedi eu llusgo i 2018 drwy Calvin Harris a MK. Mi fydd Hana2K yn perfformio yn Tŷ Pawb, lleoliad newydd i’r ŵyl. Fe agorodd y ganolfan gelfyddydau newydd yn gynharach eleni felly mae’n gyfle da i gael busnesu o gwmpas hefyd!

I weld rhestr cyflawn o pwy sydd yn chwarae, pryd a lle, ewch draw i www.focuswales.com

Pedwar i’w Gwylio – Nadolig 2017

CHRIS ROBERTS

4ig dolig.jpg

Gyda’r diwrnod mawr drosodd am flwyddyn arall, mae hi’n bryd i ni ddechrau meddwl am sut i lenwi’r amser yn y bit bach od ‘na rhwng ‘Dolig a’r flwyddyn newydd. Ar hyd a lled Cymru wsos yma ma ‘na lwythi o gigs gwych yn digwydd i’n diddanu. Dyma bedwar o fy mhigion i!


Y Reu, Alffa, Gwilym

Clwb Cymdeithasol Llanberis 28.12.17 19:00

Oce, ella mod i ‘chydig bach yn biased efo hon, ond dwi wir yn meddwl y bydd hi’n noson wych. Mae Y Reu yn un o fandiau byw mwyaf trydanol y sîn ar hyn o bryd ac ma’ hon yn gyfle eithaf prin i’w gweld nhw yn chwarae. Alffa enillodd Brwydr y Bandiau Maes B ‘leni ac fel pob band da ma’r deuawd blws-roc yn gwella gyda phob gig. Band diweddaraf label Côsh ydi Gwilym ac mae hon yn gyfle da i gael cip ar y band newydd. Hefyd, mi fydda i a Geth yn sbinio tiwns rhwng y bandia – mi fydd o’n wych!


Omaloma, Phalcons, Lastigband, Serol Serol, Bitw

Clwb Llanrwst 28.12.17 19:00

Space pop oedd y gair ar wefusau pob ffan o gerddoriaeth Gymraeg yn 2017, a dyma gyfle i weld rhai o’r bandiau sydd ar flaen y gad yn y maes hwnnw. ‘Aros o Gwmpas‘ ydi’r gân sydd wedi dod a Omaloma i sylw’r genedl eleni, ond nid one hit wonder mohonynt o bell ffordd. Byddwch yn barod am set llawn o bop perffaith. Un o fy hoff ganeuon i o 2017 ydi ‘Idle Ways‘ gan Phalcons, ac i ddweud y gwir, dydw i ddim yn gwybod rhyw lawer amdanynt. Maen nhw’n ymddangos i fod yn ychydig o supergroup felly dwi’n siŵr y byddan nhw werth eu gweld. Fel y ddau sydd yn chwarae ar eu hôl nhw, band arall o lwch Sen Segur ydi Lastigband. Mae eu roc arbrofol fel y clywir ar eu EP, Torpido am wneud set ddiddorol. Prin yw’r cyfleoedd wedi bod i weld Serol Serol ers ymddangosiad y band dros yr haf felly pam ddim manteisio ar y siawns i’w gweld nhw’n chwarae ar dir cartref? Yr artist a atgyfododd Clwb Senglau Sain, Bitw fydd yn agor y noson. Lein-yp enfawr yn Llanrwst, 5 band am £10! Bargen os fuodd yno un erioed!


Ffug, Hyll, Los Blancos

Y Parrot, Caerfyrddin 29.12.17 19:30

Oes mai space pop fydd yn cynhyrfu Llanrwst, pync-roc fydd sŵn Caerfyrddin nos Wener. Ffug ydi prif fand y noson ac mae’u cyfuniad o gerddoriaeth felodig a geiriau craff Iolo James bob amser yn gwneud set gofiadwy. Cyfuniad tebyg ydi apêl Hyll, mae eu EP nhw yn un o uchafbwyntiau cerddorol y flwyddyn ac yn werth ei weld yn fyw. Los Blancos fydd yn agor y noson, dwi heb stopio gwrando ar eu sengl ddwbl ddiweddar Datgysylltu/Chwarter i Dri ers iddo ddod allan, mae’r band yn addo bod mwy i ddod yn 2018 felly bydd hon yn gyfle da i’w gweld nhw cyn y bydd pawb arall yn siarad amdanynt!


Yr Eira, Fleur De Lys, Cpt.Smith

Canolfan Hermon, 29.12.17 20:00

Ma’ na rhywbeth bach i bawb ar y lein-yp yma yn Hermon. Yn cloi blwyddyn arbennig iddynt ar ôl rhyddhau eu albym cyntaf bydd Yr Eira yn camu i’r llwyfan gyda’r sŵn indie enfawr maent wedi bod yn ei berffeithio dros y ha’. Mae Fleur De Lys yn cynnig caneuon pop bachog a digon o showmanship gan eu prif leisydd Rhys Edwards. Bydd pync-roc Cpt Smith yn agor y noson, ac yn siŵr o wneud i galonnau a meddyliau Sir Benfro rasio!


Dipyn o ddewis yma i chi felly, a llawer mwy yn digwydd ar hyd y wlad hefyd. Os nad ydych chi yn gallu ffeindio rwbath ‘da chi isio’i weld yna dwi’m yn rhy siŵr pam eich bod chi’n darllen hwn, i fod yn onest!

 

Adolygiad: Twrw #2 – Gwilym Bowen Rhys / Patrobas / Glain Rhys

22339235_1829499517064260_8850395119911460168_o

Llun: Nadine Ballantyne

CHRIS ROBERTS

Nos Wener y 6ed o Hydref, ymysg bwrlwm mis prysur o gerddoriaeth yn y brifddinas, a’r tîm pêl-droed wedi ein hudo i freuddwydio “be os”, roedd hi yn mynd i fod yn dasg anodd i ddenu cynulleidfa i Clwb Ifor Bach ond roedd criw bach, parod i wrando, wedi ymgynnull ar lawr gwaelod y clwb eiconig am noson o gerddoriaeth werin Gymraeg.

Fe gyrhaeddon ni hanner ffordd drwy set Glain Rhys ond o be welais i roedd hi’n wych. Gyda Carwyn a Marged yn fand tu ôl iddi roedd Glain yn edrych yn llawer mwy cyfforddus a hyderus na pan welais i hi ar ei phen ei hun yng Nghaernarfon ychydig fisoedd yn ôl. Mae gan Glain lais a phresenoldeb sydd yn hawlio sylw, roedd ‘Gêm o Genfigen’ o’r albwm Sesiynau Stiwdio Sain yn sefyll allan yn y set, ac yn swnio fel ei bod hi wedi ei chodi’n syth allan o ffilm western. Wrth iddi gario ‘mlaen gigio a thyfu mewn hyder ac i gynulleidfaoedd ddod i adnabod ei chaneuon gall Glain fod yn un o sêr y sîn yn ystod y blynyddoedd nesa.

Nesaf, daw Patrobas. Mae Patrobas yn fand prysur iawn yn gigio ar hyd a lled y wlad ac mae hynny yn dangos. Maent yn dynn ac yn broffesiynol. Mae arddull y set yn symud o Calan i Cowbois Rhos Botwnnog i John ac Alun ac yn ôl. Tra bod y band yn perfformio’r holl ganeuon yn wych ar brydiau, mae’n anodd iddynt fynd a’r gynulleidfa ar y daith honno hefo nhw wrth iddynt gynnal y fath amrywiaeth yn eu set. Caneuon oddi ar eu halbwm cyntaf, ‘Creithiau’ a ‘Paid Rhoi Fyny’ sydd yn sefyll allan heno. Mae yno ddawn ysgrifennu arbennig yn y band ac mae’r caneuon yma yn swnio fel y gallent aros yn ffefrynnau am amser hir.

Yr olaf i’r llwyfan ydi Gwilym Bowen Rhys, ac fel Patrobas, mae’n amlwg pa mor aml mae Gwilym a’i fand yn gigio gyda’i gilydd gan eu bod yn dynn ofnadwy, a’r perthynas cryf rhyngddynt yn amlwg. Doedd dim oedi o gwbl wrth i’r band orfod byrfyfyrio tra bod Gwilym yn trwsio llinyn eu gitâr yng nghanol y set, roedd bron fel eu bod nhw’n gallu cyfathrebu yn telepathic! Mae Gwilym yn un o ddynion blaen gorau’r sîn, mae ganddo lais anhygoel ac mae’n siarad yn naturiol a hyderus hefo’r gynulleidfa heb or-wneud. Mae set Gwilym yn gymysgedd o ganeuon gwerin traddodiadol, ffefrynnau modern a chaneuon gwreiddiol, rhai sydd bellach yn hawlio eu hunain fel ffefrynnau. Un siom i mi oedd clywed ‘Bachgen bach o dincer’ am yr ail waith y noson honno yn ystod set Gwilym ar ôl i Patrobas ei pherfformio hi ynghynt. Nid dyma’r tro cyntaf i mi weld y ddau fand yn perfformio’r ‘run caneuon ar yr un noson chwaith yn anffodus. Dylai bod gwell cyfathrebu rhwng y bandiau cyn y sioe, a gyda chatalog mor eang ac sydd gan Gwilym a’i fand efallai y gallent hwy fod wedi newid eu cynlluniau ar ôl set Patrobas. Er hynny roedd y gynulleidfa wrth ein boddau yn cyd-ganu i ganeuon y band. Fe wnaeth cerddoriaeth gwerin wir gadael ei farc ar TWRW’r noson yma!