Adolygiad: Gig Y Niwl, Omaloma, Ffracas a Pasta Hull – Pontio, Bangor

Dau, nid un, o gyfranwyr Sôn am Sîn sydd oedd gyfrifol am adolygu gig Y Niwl, Omaloma, Ffracas a Pasta Hull yn Pontio wythnos diwethaf. Ydy Gethin Griffiths ac Owain Williams cytuno â’i gilydd…?

Pontio

GETHIN GRIFFITHS / OWAIN WILLIAMS

GG

Am ryw reswm, pan mae Pontio’n trefnu rhywbeth, mae rhywun yn mynd i drafod y lleoliad o hyd. Mae hynny o ganlyniad i’r holl drafferthion anffodus a gafwyd yn ystod y dyddiau cynnar, ac mae rhywun yn mynd i fod yn or sinigaidd. Yn dechnegol, dyma’r lleoliad gorau ar gyfer cynnal gigs yng Ngogledd Orllewin Cymru, gan eithrio Venue Cymru, efallai, ac mae’r potensial o ran sain, llwyfannu a goleuo yn ddi ben draw. Y broblem fwyaf, fodd bynnag, yw bod rhaid denu torf fawr i lenwi’r gofod, ac os nad yw’r gofod hwnnw’n cael ei lenwi, mae rhywun yn mynd i deimlo’n eithaf swil ac ymwybodol iawn o’i hun. I mi, roedd y nifer a ddaeth i wylio Y Niwl, Omaloma, Pasta Hull a Ffracas yn nifer parchus iawn, ac mewn nifer o leoliadau eraill, buasai rhywun yn ystyried y gig i fod yn llwyddiant ysgubol o ran cynulleidfa. Fodd bynnag, mae’n bryd i ni symud ymlaen o boeni am bethau felly, ac mae’n bryd i ni gychwyn cefnogi Pontio fel lleoliad pwysig i fandiau gael perfformio. Mae’n rhaid cynnal nifer fawr o gigs yn aml er mwyn cadarnhau lle’r ganolfan fel venue, ac mae’n rhaid bod yn barod i ddenu cannoedd i un gig ac yna degau yn unig i’r gig nesaf. Dyna yw natur gigs.

Y peth mwyaf od am y gig oedd y ffaith bod nifer fawr o’r gynulleidfa naill ai’n eistedd ar yr ochrau neu’n sefyll yn y cefn. Mae hyn yn gwbl arferol, wrth gwrs, ac nid yw pobl yn tueddu i fynd i’r blaen ar ddechrau’r gig. Ond, rwy’n siŵr y buasai llawer o’r unigolion hynny, oedd wedi talu £12 am docyn, wedi’r cyfan, wedi gwerthfawrogi ychydig mwy o gyfathrebu ar ran yr artistiaid. Dyma oedd prif wendid y noson, yn fy marn i, ac er bod y noson i fod yn gyfle i ymlacio i gerddoriaeth amgen, mi fuaswn i wedi gwerthfawrogi petai’r artistiaid wedi cyfarch y gynulleidfa rhyw ychydig – hyd yn oed drwy ambell reg achlysurol neu drwy bledu abiws atom ni. Mi fuasai hynny wedi llacio pethau ac, efallai, wedi gwneud i ni ymlwybro tua’r blaen yn gynharach.

Wedi dweud hynny, mi wnes i, ac Owain, fwynhau’r perfformiadau cerddorol. Dyma ein dadansoddiad ni o bob grŵp, felly!


Pasta Hull

OW

Pan yr ydw i’n meddwl am Pasta Hull, nid Pontio yw’r lleoliad cyntaf sy’n dod i’r meddwl. Anaml yr ydych chi’n gweld band arbrofol yn cyflwyno cymysgedd o arddulliau sy’n ymestyn o seicadelia i ffync ac, i ryw raddau, reggae-techno hefyd. Dyma ble y daeth llwybrau Pontio a Pasta Hull ynghyd. Mae crynhoi neu chategoreiddio sain y band yn profi’n anodd – ac i mi, dyma dynnodd fy sylw a fy nghyffroi ar y noson. Er fy mod yn credu bod agwedd ymylol y band yn gweddu i adeiladau ‘tywyllach’ eu natur yn well, roedd eu set fel awyr iach. Bosib eu hagwedd anghyffredin o fewn y sîn gerddoriaeth Cymraeg heddiw sy’n derbyn sylw ond mae rhaid pori o dan yr arwyneb i werthfawrogi amrydedd eu cerddoriaeth. I mi, roedd eu set yn profi nad band sydd ag enw dadleuol a mix heriol am Bryn Fôn yn unig yw Pasta Hull, ac mae’r brodyr, Llyr ac Owain Jones, yn creu arddull cerddorol hynod drawiadol. Wrth wrando ar eu demos ac ar ganeuon oddi ar eu halbwm ‘Achw Met’ mae’n amlwg bod gan y geiriau naws creadigol a phersonol iddynt ond hefyd gwreiddiau a phwrpas, yn debyg i fandiau o’r 80au hwyr fel Ffa Coffi Pawb.

Pasta Hull agorodd y noson, ac er doedd Pontio ddim wedi’i drydanu, roedd y gân ‘Jam Heb Siwgr’ yn sicr yn meddiannu ffocws a sylw’r gynulleidfa ac yn annog gwrandawiad mwy astud. Roedd eu defnydd o’r bongos yn nodweddiadol o’u perfformiad byw ac yn selio’r sain amrwd/garej. Amlygai hyn yn bennaf yn ystod ‘Bulletproof Funk’ a ‘Cacan Ffenast’. Hon oedd y tro cyntaf imi weld Pasta Hull yn fyw ac yn ddi ffuant, daliwyd fy nychymyg. Achw met.


Ffracas

GG

Mi’r ydw i wedi siarad yn ffafriol am Ffracas erioed, ac er nad ydynt wedi bod mor gynhyrchiol yn 2017 ag yr oeddwn i’n ei ddisgwyl, mae’r dyfodol yn parhau i fod yn ddisglair iddynt. Yr hyn a’m tarodd am y band o’r dechrau yw eu hyder a’u parodrwydd i neilltuo ei hunain oddi wrth eu cyd fandiau, a dyma oedd eu cryfder yn y gig hwn. Roedd y ddelwedd indie yn treiddio drwy eu gwythiennau, ac roedd y pedwar yn edrych yn gwbl gyfforddus ar lwyfan.

Doeddwn i erioed wedi gweld Ffracas ar lwyfan mor fawr gyda phrosesu mor gymhleth, chwaith, ac mae’n rhaid i mi ddweud fy mod wedi eu mwynhau gyda llawer o reverb. Mi wnaeth yr holl beth fy atgoffa o fynd i ŵyl Dot to Dot ym Manceinion, a’r math o ddelwedd a grëwyd gan fandiau fel The Night Café yno. Yr unig beth sydd angen rwan ydi magu perthynas agosach â’r gynulleidfa, ac efallai, denu mwy o’u ffrindiau i ddod i foddi’r blaen â’u chants meddw.


Omaloma

GG

Yn ystod ‘Aros o Gwmpas’, mi ddywedodd ‘na rywun wrtha’ i.. ‘Ma pawb yma achos o un gân. Ma pawb yma i glwad hon’. Er fy mod i’n siŵr nad ydy hynny’n gwbl wir, mi’r ydw i’n gweld yn union pam y buasai rhywun yn dweud hynny. Mae Omaloma wedi dwyn ein sylw eleni, a gyda phob trac newydd, mae pawb yn gwirioni o’r newydd hefo’r tiwns. Mae cerddoriaeth atmosfferig, hypnotaidd, yn gyfarwydd iawn i ni ers blynyddoedd erbyn hyn, ond mae George Amor a’i fand cefndirol wedi cyfuno’r seiniau hyn â chaneuon sydd yn ddigon bachog i ddwyn cynulleidfa newydd. Rhywsut, mae’n plesio’r gynulleidfa amgen, ac yn gallu troi pennau ambell un sydd ddim mor eithafol eu blas.

Roedd ‘na ochenaid yn dod o’r gynulleidfa bob tro’r oeddent yn dechrau cân newydd, ac roedd rhywun yn sylwi eu bod nhw’n adnabod y rhan fwyaf o’r caneuon rywsut neu’i gilydd. Mae ‘Eniwe’ yn parhau yn ffefryn personol i mi, am ryw reswm, ac felly honno dderbyniodd fy ochenaid i. Wedi dweud hynny, mi nes i anghofio pa mor dda oedd ‘Dylyfu Gen’ hefyd…

Y peth mwyaf trawiadol am Omaloma oedd pa mor ddiymdrech yr oedden nhw’n edrych ar y llwyfan. Fel band profiadol, mae George Amor, Gruff ab Arwel, Dafydd Owain a Llyr Pari wedi hen arfer creu seiniau amrywiol ar lwyfan, ond y tro hwn, roedd pawb eisiau bod yn rhan o’r hwyl. Mae’n bryd i George sylweddoli bod ganddo fo’r gynulleidfa yn ei ddwylo, ac mi allai ddefnyddio hynny i’w fantais drwy beidio bod mor ddiymhongar!

Erbyn ‘Aros o Gwmpas’, mi ddaeth y pedwar ynghyd i ymgynnull o gwmpas Nord Electro George, oedd yn fy atgoffa ychydig o lwyfannu arbrofol Meilyr Jones ar yr un llwyfan flwyddyn diwethaf. Efallai bod angen chwarae ychydig mwy hefo’r sioe lwyfan erbyn y tro nesaf, i ni gael mwynhau’r space pop ar lefel goruwchnaturiol.


Y Niwl

OW

Yn dychwelyd o’u hiatus gyda chasgliad newydd o ganeuon syrff-roc, syml a llawn llinellau gitâr bachog oedd ‘Y Niwl’. Lansiwyd eu halbwm diweddaraf 5 mewn dwy gig amgen eu natur yng Nghlwb Ifor Bach (Twrw) nos Wener ac ym Mhontio nos Sadwrn. Yn ddisgwyliedig, doedd y gig hon ddim am fod yn drydanol – ond yn hytrach yn un cŵl a hamddenol, a chadarnhaodd ‘Y Niwl’ yn union hyn. Y peryg sy’n gysylltiedig â bandiau offerynnol yw eu bod yn wych mewn cyfnodau bychain ond yn colli eu heffaith wrth i’r set barhau, a gallai ymddangos yn ailadroddus. Er bod yr elfen hon i raddau’n wir nos Sadwrn (fy mai i o bosib gan nad oeddwn wir yn gyfarwydd â’r cynnyrch newydd), roedd y trefniadau golau, mwg a fidio yn cynnal diddordeb wrth ddisgwyl yn amyneddgar am eu tiwn fwyaf, heb os, sef ‘Undegpedwar’. Er dydi’r albwm ddim yn cynnig arddulliau o’r newydd nac yn mentro ar steil anghyffredin, roedd perfformiad retro ac ymlaciol ‘Y Niwl’ wedi llwyddo i hypnoteiddio’r gynulleidfa.

 

Adolygiad: Gig TWRW #3 / FEMME – Adwaith / Marged / Serol Serol

Adwaith
GETHIN GRIFFITHS

Anaml iawn y bydda’ i’n cerdded o gig yn meddwl mwy am fodolaeth y gig yn hytrach na’r cynnwys cerddorol. Anaml iawn y bydda’ i’n cerdded o gig yn meddwl am unrhywbeth heblaw am sut oedd yr hyn a glywais wedi fy ngwneud yn berson gwahanol i’r hyn oeddwn i cyn cerdded drwy’r drws. Fodd bynnag, roedd yr argaff gafodd gig FEMME arnaf i yn llawer mwy na’r gerddoriaeth.

Mae pawb a oedd yn yr ystafell wedi bod mewn nifer fawr o gigs gyda phob aelod o bob band yn ddynion, heb os. Does yna neb erioed wedi trefnu gig pwrpasol ar gyfer dynion yn unig, ond o ganlyniad i’r anhafaledd sylfaenol sydd yn perthyn i gymdeithas, er gwaethaf pa mor rhyddfrydol y gallai hi fod, norm anheg yn yr isymwybod ydy hynny. Mewn byd delfrydol, bydd rhywun yn gobeithio y gellid trefnu gigs gyda phawb o bob rhyw, cefndir a phersonoliaeth yn gymysg ac yn hafal, ond mae amherffeithrwydd ein byd ni rwan yn golygu bod rhaid gwneud y cam cyntaf, pragmatig, hwn, o drefnu gig o’r fath.


Drwy gysylltu lein-yp â chysyniad ‘angherddorol’, fel y cyfryw, mae disgwyl i’r artistiaid fod yn amrywiol yn eu harddulliau a’u delwedd. Mae Adwaith a Serol Serol yn ddau fand sydd wedi dwyn llawer o’r sylw ar y cyfryngau cymdeithasol, yn ogystal â rhaglenni Radio Cymru, eleni, ond doedd nifer o’r gynulleidfa heb gael cyfle i’w gweld nhw yn fyw o’r blaen. Roedd hyn yn wir am Serol Serol, yn enwedig, gan mai dyma oedd eu gig cyntaf nhw erioed. Gallwch ddadlau, felly, fod chwilfrydedd yn rywbeth a oedd yn linyn cyswllt i’r artistiaid yn hytrach na’u hardulliau cerddorol, ac roedd yn gyfle iddynt brofi eu gwerth ar lwyfan byw.

Y grŵp cyntaf ymlaen i ddiddanu cynulleidfa eiddgar, a oedd yn gymysg o fyfyrwyr a chriw ychydig yn hŷn, oedd Serol Serol, y ddeuawd o Ddyffryn Conwy. Er mai Leusa a Mali yw prif ffocws y band, doedd dim cuddio’r ffaith mai tri bachgen oedd yn cyfeilio iddynt. Mae George Amor (synth), Llŷr Pari (gitâr) ac Alex Morrison (bâs) yn enwau cyfarwydd iawn yn y byd pop seicadelig, ac mae llawer o’r bandiau mwyaf cynhyrchiol ar hyn o bryd yn cynnwys rhyw gyfuniad o’r tri aelod mewn rhyw fodd. Roedd hynny’n cynnig cefnogaeth brofiadol i’r ddwy, a oedd, wedi’r cyfan, yn perfformio yn eu gig cyntaf erioed. Mae’r ddelwedd yno’n barod, ac er bod y ddwy wedi cyfnewid rôl o ran lleisio mewn ambell gân, roedd yr hyn a glywyd yn fyw yn ailgynhyrchiad a oedd yn ddigon agos i’r traciau a oedd wedi ein swyno ar y radio. ‘Cadwyni’ ac ‘Aelwyd’ yw’r unig ddwy gân sydd wedi cael eu rhyddhau hyd yn hyn, ac o ganlyniad i hynny roedd rhan fwyaf y set yn gwbl ffres i’n clustiau ni i gyd. A dweud y gwir, creaduriaid eitha tebyg i’r ddwy gân honno oedd y gweddill, ond teyrnged i gryfder space pop fel genre yw hynny, dw i’n meddwl. Mae ‘Cadwyni’’n parhau i fod yn ffefryn, fodd bynnag, ond ‘dw i’n edrych ymlaen at glywed gweddill eu set wedi cael eu recordio’n fuan. Er bod yna waith i’w wneud ar gyfathrebu a magu hyder o flaen y meicroffon, mae’n debyg mai’r peth y gwnes i fwynhau fwyaf am berfformiad y ddwy oedd y ffaith nad oeddent yn gorwneud yn lleisiol, oedd yn hynod addas i’r math hwn o gerddoriaeth. Dim ond gigio yn gyson yw’r ffordd ymlaen iddynt rwan.


Rhwng Serol Serol a phrif artistiaid y noson, Adwaith, cafwyd perfformiad lleisiol trawiadol gan artist ifanc o Gaerdydd. Ddim ond ar ôl i rywun sôn bod Marged yn ferch i Delwyn Siôn, y canwr-gyfansoddwr profiadol, y gwnes i sylwi hynny, ac felly roedd fy nghynsail i i’w pherfformiad yn gwbl glir. Er fy mod yn gwerthfawrogi camp lleisiol Marged, a oedd yn ddigon mawr a hyderus i chwarae llwyfannau llawer mwy na Chlwb Ifor Bach, roedd y gerddoriaeth ychydig yn rhy poppy i mi, a dydw i ddim yn tueddu i allu cysylltu ag artist sydd yn defnyddio trac cefndirol yn unig yn yr un modd ag artist â band yn cyfeilio iddynt, am ryw reswm. Mater personol i mi yw hynny, ac felly ni lwyddodd Marged i ddenu fy sylw drwy gydol ei set yn yr un modd a Serol Serol. Fodd bynnag, doeddwn i ddim yn rhannu fy marn â nifer fawr o unigolion eraill yn yr ystafell, gan bod y gynulleidfa yn y blaen yn amlwg yn mwynhau’r hyder, yr egni, a’r llais enfawr, a oedd yn bregeth yn yr isymwybod ein bod yn cyflawni rhywbeth hynod bwysig.

Rydym ni wedi ysgrifennu droeon am bwysigrwydd Adwaith i’r sîn. Doedd na ddim band gwell o ran eu symboliaeth i orffen noson o’r fath, ac roedd eu gallu i greu synnwyr o bŵer a balchder yn y gynulleidfa fenywaidd o’u blaenau i’w edmygu’n fawr. Maen nhw wedi datblygu eu cymeriad yn sylweddol ers rhyddhau eu sengl cyntaf, ‘Pwysau’, ac erbyn hyn, mae’r caneuon yn gwbl gignoeth ac yn llosgi ein cydwybod tan mae ein hesgusodion gwan yn anweddu. Mae’r gân ‘FEMME’, oedd bron fel trac teitl i’r noson, yn enghraifft perffaith o hyn. Wedi dweud hynny, dydw i ddim yn or hoff o’r gerddoriaeth ei hun ar brydiau, ac yn meddwl bod lle iddynt ymestyn ar yr hyn y maent yn ei wneud â dilyniant cordiau a gweadau gwahanol. Rydw i wedi bod yn gwrando ar St. Vincent yn ddiweddar, sydd yn enghraifft gwych o blethu geiriau crafog â cherddoriaeth bop sydd yn cynnig rhywbeth gwahanol i’n clustiau ni. Fodd bynnag, nid dyma oedd yn bwysig ar yr ennyd hon, ac roedd egni’r ystafell yn amlwg yn newid yn gyfangwbl yng nghwmni’r tair o Sir Gaerfyrddin. Diddorol oedd sylwi, hefyd, bod Gruff, sefydlydd Libertino, yn chwarae bâs i un o’u caneuon nhw, a oedd yn rhyddhau Gwenllian i fynd i chwarae’r synth. Wrth gwrs, nid yw hyn yn gweithio o gwbl yn y tymor hir, ond efallai y buasai ychwanegu un ferch ar y synth, neu aildrefnu o ryw fath yn gweithio, gan i’r sain oleuo yn sylweddol gydag offeryn ychwanegol.

Mae’n RHAID i mi roi sylw, hefyd, i’r DJs, sef Gwenno a Patblygu (Ie, Pat o Datblygu), a lenwodd pob bwlch yn wirioneddol wych. Roedd yn rhaid i mi ofyn i Pat ar y diwedd beth oedd ei thrac olaf (oedd wedi gwneud i mi golli fy hunan barch gyda fy nawnsio).. ac wrth gwrs, roedd yn arwyddocaol mai enw’r trac oedd ‘Girl in a Sports Car‘.


Roeddwn i’n ymwybodol fy mod i wedi bod yn rhan o rywbeth pwysig iawn y noson honno wedi i mi adael. Ai gig i mi oedd y noson hon? Mae hynny’n ddiddorol, gan mai’r prif effaith gafodd y noson arnaf i oedd sylweddoli pŵer yr ymgyrch hon o godi hyder ymysg merched a hybu ac annog hafaledd. Yn eironig, felly, mi oedd y gig ar fy nghyfer i gan fy mod yn dysgu rhywbeth hanfodol am y diffyg nosweithiau o’r fath a fuodd dros y blynyddoedd diwethaf, a’r diffyg cerddorion benywaidd nad oedd yn cael eu hannog i chwarae mewn bandiau, heb sôn am drefnu gigs iddynt. Oedd, mi’r oedd gen i lawer o bethau bach cerddorol a fuaswn i wedi hoffi ei drafod a’i ddadlau, ond mi oedd pŵer y Femme yn llawer yn rhy gryf i mi boeni am bethau bach felly am noson.

Adolygiad: Twrw #2 – Gwilym Bowen Rhys / Patrobas / Glain Rhys

22339235_1829499517064260_8850395119911460168_o

Llun: Nadine Ballantyne

CHRIS ROBERTS

Nos Wener y 6ed o Hydref, ymysg bwrlwm mis prysur o gerddoriaeth yn y brifddinas, a’r tîm pêl-droed wedi ein hudo i freuddwydio “be os”, roedd hi yn mynd i fod yn dasg anodd i ddenu cynulleidfa i Clwb Ifor Bach ond roedd criw bach, parod i wrando, wedi ymgynnull ar lawr gwaelod y clwb eiconig am noson o gerddoriaeth werin Gymraeg.

Fe gyrhaeddon ni hanner ffordd drwy set Glain Rhys ond o be welais i roedd hi’n wych. Gyda Carwyn a Marged yn fand tu ôl iddi roedd Glain yn edrych yn llawer mwy cyfforddus a hyderus na pan welais i hi ar ei phen ei hun yng Nghaernarfon ychydig fisoedd yn ôl. Mae gan Glain lais a phresenoldeb sydd yn hawlio sylw, roedd ‘Gêm o Genfigen’ o’r albwm Sesiynau Stiwdio Sain yn sefyll allan yn y set, ac yn swnio fel ei bod hi wedi ei chodi’n syth allan o ffilm western. Wrth iddi gario ‘mlaen gigio a thyfu mewn hyder ac i gynulleidfaoedd ddod i adnabod ei chaneuon gall Glain fod yn un o sêr y sîn yn ystod y blynyddoedd nesa.

Nesaf, daw Patrobas. Mae Patrobas yn fand prysur iawn yn gigio ar hyd a lled y wlad ac mae hynny yn dangos. Maent yn dynn ac yn broffesiynol. Mae arddull y set yn symud o Calan i Cowbois Rhos Botwnnog i John ac Alun ac yn ôl. Tra bod y band yn perfformio’r holl ganeuon yn wych ar brydiau, mae’n anodd iddynt fynd a’r gynulleidfa ar y daith honno hefo nhw wrth iddynt gynnal y fath amrywiaeth yn eu set. Caneuon oddi ar eu halbwm cyntaf, ‘Creithiau’ a ‘Paid Rhoi Fyny’ sydd yn sefyll allan heno. Mae yno ddawn ysgrifennu arbennig yn y band ac mae’r caneuon yma yn swnio fel y gallent aros yn ffefrynnau am amser hir.

Yr olaf i’r llwyfan ydi Gwilym Bowen Rhys, ac fel Patrobas, mae’n amlwg pa mor aml mae Gwilym a’i fand yn gigio gyda’i gilydd gan eu bod yn dynn ofnadwy, a’r perthynas cryf rhyngddynt yn amlwg. Doedd dim oedi o gwbl wrth i’r band orfod byrfyfyrio tra bod Gwilym yn trwsio llinyn eu gitâr yng nghanol y set, roedd bron fel eu bod nhw’n gallu cyfathrebu yn telepathic! Mae Gwilym yn un o ddynion blaen gorau’r sîn, mae ganddo lais anhygoel ac mae’n siarad yn naturiol a hyderus hefo’r gynulleidfa heb or-wneud. Mae set Gwilym yn gymysgedd o ganeuon gwerin traddodiadol, ffefrynnau modern a chaneuon gwreiddiol, rhai sydd bellach yn hawlio eu hunain fel ffefrynnau. Un siom i mi oedd clywed ‘Bachgen bach o dincer’ am yr ail waith y noson honno yn ystod set Gwilym ar ôl i Patrobas ei pherfformio hi ynghynt. Nid dyma’r tro cyntaf i mi weld y ddau fand yn perfformio’r ‘run caneuon ar yr un noson chwaith yn anffodus. Dylai bod gwell cyfathrebu rhwng y bandiau cyn y sioe, a gyda chatalog mor eang ac sydd gan Gwilym a’i fand efallai y gallent hwy fod wedi newid eu cynlluniau ar ôl set Patrobas. Er hynny roedd y gynulleidfa wrth ein boddau yn cyd-ganu i ganeuon y band. Fe wnaeth cerddoriaeth gwerin wir gadael ei farc ar TWRW’r noson yma!

Adolygiad: Twrw #1 – Yr Eira / Y Cledrau / Yr Oria

Mae trigolion Caerdydd yn hynod lwcus y mis hwn, gyda hen ddigon o ddigwyddiadau cerddorol i’w cadw’n brysur. Mae TWRW, a gynhaliwyd yn rheolaidd yng Nghlwb Ifor Bach wedi penderfynu trefnu pedwar gig mewn pedair wythnos! Aled Russell, un o’n cyfranwyr o Gaerdydd aeth draw i’r gig cyntaf yn y gyfres.

Llun: Nadine Ballentyne

22104583_1822453781102167_3175890016606546747_o

ALED HUW RUSSELL

Yn dilyn haf hir o weithio, mynd i gigs a sesho, mae’r teimlad o fod nôl lawr yn y ddinas fawr i wneud union yr un peth, er ar ochr arall y wlad, yn un croesawgar. Gyda Clwb Ifor Bach yn cynnal pedwar gig Twrw dros yr un faint o wythnosau, does dim diffyg cerddoriaeth i fwydo Cymry llwglyd Caerdydd. Nos Wener oedd tro Yr Oria, Y Cledrau ac Yr Eira i’n swyno. Yr Oria oedd gyntaf, band weddol newydd o Flaenau Ffestiniog yn cynnwys Gerwyn Murray, basydd un o fandiau mwyaf y sîn, Sŵnami. Fel rhywun sy’n anghyfarwydd gyda’u gwaith, clywais adleisiau o Yr Eira yn ogystal â Calfari yn eu cerddoriaeth. Yn sicr, bydd rhaid i mi wrando arnynt ymhellach i ddatblygu barn cadarn arnynt a gobeithiaf y byddan nhw’n cynnig rhywbeth gwahanol i’r sîn.

Y Cledrau, o’r Bala, oedd yr ail fand ymlaen. Gan ystyried pa mor fuan yn y noson oedd eu set, roedd yna dorf trawiadol wedi ymgynnull i’w gweld. Maen nhw wedi bod yn byrlymu o dan yr arwyneb am rhai blynyddoedd nawr, ac mae yna agwedd hynod adfywiol ac adloniannol am y band. Braf oedd cael clywed un o fy ffefrynnau, ‘Ail-Ailadrodd’, yn ogystal â chaneuon newydd o’u albym sydd i ddod, Peiriant Ateb. Gyda’r band yn cynnwys dau fyfyriwr o Brifysgol Caerdydd, Alun ac Ifan, dwi’n edrych ymlaen yn fawr i Ifan ddod a’i glust am gerddoriaeth a’i ddawn am falu awyr i’n sioe ar Xpress Radio flwyddyn yma. Uchafbwynt personol (yn ogystal â gweld Alun yn gwisgo trwsus PJ tartan ar y llwyfan) oedd clywed ‘Cam Wrth Ddiflas Gam’, un o’r caneuon gorau ar 5, albwm cydweithredol I KA CHING.

Yn cau’r noson oedd y pedwarawd o Fangor, Yr Eira. Ar ôl camu allan o gysgodion y sîn i ddod yn un o’i fandiau mwyaf, mae Yr Eira wedi cael blwyddyn anferthol. Yn dilyn fy nghyfweliad gyda’r band prin wyth mis yn ôl yng Nghlwb Ifor Bach, maent wedi rhyddhau eu albwm cyntaf, Toddi, yn ogystal â haf prysur o chwarae Gig y Pafiliwn, Maes B a Llwyfan y Maes. Os dwi’n cofio’n gywir – agorwyd gyda ‘Dros Y Bont’ neu ‘Gadael Am Yr Haf’ (sori, dwi’n beio’r Red Stripe). Teimlais fy haf yn cael ei gladdu gan ganeuon megis ‘Rings Around Your Eyes’ a ‘Ffiniau Anweledig’ o’u halbwm newydd, trac sain fy haf i. Diddorol hefyd oedd gweld y basydd Trystan yn cyfnewid ei gitar fas hefo Ifan ar gyfer ‘Gweld Y Gwir’, fy honiad i ydy mai cân Trystan ydy hi, ac un dda ydy hi hefyd. Gyda dim ond ychydig o anogaeth gan y dorf, ehangodd prif leisydd Yr Eira, Lewys Wyn eu set gyda datganiad byrfyfyr o ‘Elin’, clasur o’u dyddiau cynnar sy’n sicr o yrru’r dorf yn wyllt. Caewyd y noson gyda ‘Suddo’, gan osod y bar i’r tair noson arall sydd i’w dilyn dros y mis nesaf yn Clwb.

Adolygiad: Gig IndyFest, Caerdydd, 16/9/17

Ar ddiwrnod Owain Glyndŵr eleni, trefnodd dilynwyr YesCymru amryw o ddigwyddiadau i ddathlu’r achlysur, ac i hybu’r drafodaeth am Gymru annibynnol. Miriam Elin Jones, cyfrannydd newydd i Sôn am Sîn, ond yn enw cyfarwydd fel un o sylfaenwyr Y Stamp, aeth i Gaerdydd i brofi’r dathlu ar Stryd Womanby.

IndyFest.jpg

MIRIAM ELIN JONES

Dros y penwythnos, roedd Womanby Street Caerdydd yn ferw gwyllt o gefnogwyr Yes Cymru a hefyd yn llwyfan i arlwy gerddorol amrywiol Indyfest. Dyma’r ŵyl gyntaf erioed i gael ei threfnu gan fudiad annibyniaeth i Gymru, ac yn chwaer i Annibynnwyl yng Nghaernarfon yn ystod yr un penwythnos. Ei bwriad? Annog ei mynychwyr i feddwl yn annibynnol, os nad am annibyniaeth, a dechrau gwrthryfeloedd creadigol eu hunain. Yn ystod y dydd, cynhaliwyd trafodaethau di-ri, sesiynau llenyddol, cantorion acwstig a hyd yn oed perfformiad stand up yn The Castle Emporium a The Moon.

Cefais gyfle i fwynhau sesiwn cwestiwn ac ateb hynod ddifyr yng nghwmni awdures Gwales, Catrin Dafydd a chael ein diddanu gan griw Bragdy’r Beirdd – a chadwch lygad mas am fersiwn hynod hilarious Osian Rhys Jones o’r gân Ghostbusters. Wrth gwt y sesiynau hynny, un o’m hoff artistiaid yn ystod y dydd oedd EÄDYTH. Bosib bydd y mwyafrif yn ei hadnabod fel chwaer fach i Kizzy Crawford, ond gydag edge lot mwy techno i’w cherddoriaeth a chlamp o lais i’ch gwthio oddi ar eich echel, dyma gantores sydd â’i steil bendant ei hun – dyma obeithio bydd ganddi EP i’w gynnig i ni cyn bo hir.

Gig gyda’r nos yng Nghlwb Ifor Bach oedd yn coroni digwyddiadau’r diwrnod, gyda line up anferthol yn cynnig digon at ddant pawb. Ymunais â’r noson wrth i Adwaith gamu i’r llwyfan, yn effortlessly cool yn ôl eu harfer. Eu perfformiad o’r sengl ddiweddaraf  ‘Lipstick Coch’ oedd seren y set, gydag alaw heintus y gân yn gwahodd pawb i ddawnsio. Yn eu dilyn, Baby Queens, enw bur anghyfarwydd i mi cyn nos Sadwrn, ond dwi bellach wedi manteisio ar fy nghyfrif Spotify ers hynny i fwynhau eu cymysgfa unigryw o hip hop, soul a thwtsh o ska.

Bu’n dipyn o gamp i fois ARPRPH ddilyn dau fand â lleisiau mor hudolus, ond cyfareddwyd y gynulleidfa gyda’u sŵn lo-fi surf arbennig. ‘Tywod’, a hynny ers y dechrau’n deg, yw fy hoff drac ganddynt, a chynigodd deimlad mellow a chynnes cyn i’r dorf wirioni ar headliners y noson. I gyfeiliant band pres The Barry Horns, aeth y dorf gyfan – gan gynnwys ambell un fel fi sydd mwy neu lai’n allergic i bêl droed – ati i ymuno i lafarganu clasuron yr Ewros llynedd, a bod yn ddigon parod i ddawnsio dan gawod o gonfetti a silly string.

Yr unig fai mewn gwirionedd yw mai mish-mash o gefnogwyr oedd yn perfformio, ac felly nid ŵyl wedi’i churadu’n gelfydd mohoni, gyda phob genre o gerddoriaeth yn cael ei lwyfan ei hun. Serch hynny, dyma obeithio – o weld cymaint yno’n mwynhau dros y penwythnos –  gweld sawl gwrthryfel greadigol yn tyfu ar hyd a lled Cymru yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.