Adolygiad: Le Kov gan Gwenno

BETH CELYN
Le Kov

Pan gododd y cyfle i adolygu Le Kov ‘nes i neidio amdano’n syth. Ro’n i’n fwy ecseited am albwm nesaf Gwenno Saunders nag o’n i am ‘Dolig, a ges i flas ar yr hyn i ddod yn y flwyddyn newydd yn y gig Canolfan Ucheldre yng Nghaergybi. Roedd yr egni ar y llwyfan rhwng Gwenno a’r band fel cyffur a phob cân yn dy adael di isio mwy. Yr uchafbwynt, heb os, oedd ‘Eus Keus’ – cân fachog a sasi am gaws. Do, mi ddarllenoch chi hwnna’n gywir. Cân am gaws a gafodd ei ysbrydoli gan yr hen ddywediad Cernyweg ‘eus keus’ sef ‘a oes caws’. Do’n i methu cael drinc y noson honno a finnau’n dreifio nôl a ‘mlaen i ben pellaf Môn, ond gadewais y gig wedi meddwi ar y soundscape anhygoel ro’n i newydd ei brofi, yn ysu am gael gafael ar yr albwm.

Cafodd Le Kov ei ryddhau ar yr 2il o Fawrth ar Heavenly Recordings, a rhaid cyffesu mai dau brofiad gwahanol iawn oedd profi’r gerddoriaeth yn fyw a gwrando ar yr albwm yn fy ‘stafell fyw. Ro’n i wedi disgwyl, wrth ei chwarae am y tro cyntaf, y baswn i’n ail brofi cyffro y noson arbennig honno yng Nghanolfan Ucheldre. Ffolineb oedd disgwyl y bydda i’n ail brofi gig byw yn fy nghartref rhai wythnosau wedyn, ond wrth chwarae Le Kov ar y foliwm uchaf posib (sori cymdogion), a chael bŵgi iddo fo rownd y tŷ (fel y bydd rhywun yn ei wneud), ges i fy atgoffa o’r ffaith amlwg mai dau brofiad gwahanol iawn ydi profi gig byw a gwerthfawrogi albwm wedi ei gynhyrchu.

Mae Le Kov yn syfrdanol, ac roedd cael profi y gampwaith yma’n fyw yn fraint. Mae Gwenno yn artist beiddgar a’r hyn mae hi’n ei wneud mor gyffrous. Nid yn unig ydi hi’n rhannu a normaleiddio Cernyweg trwy albwm pop, ond mae hi’n herio ffiniau cerddoriaeth gyfoes trwy’r bydoedd cerddorol mae hi’n ei greu. Mae Le Kov yn golchi drosta ti o’r eiliad ti’n dechrau gwrando, a gair fydd wastad yn codi pan y bydda i’n trafod Gwenno ydi soundscape. Mae hi’n dy wahodd di i mewn i’w soundscape unigryw ei hun a’n dy ail-fedyddio di, mewn ffordd, gyda’i gweledigaeth greadigol.

Mae gwrando ar Le Kov fel dianc i ryw fyd 70aidd seicadelig yn frith o drawsacennu ac alawon bachog. O hud ‘Tir Ha’ Mor’, hwyl ‘Eus Keus’ i ryfeddod ‘Herdhya’, chewch chi ddim eich siomi gan yr amrywiaeth. Y peth mwyaf cyffrous am Le Kov yw’r wefr o fedru ymgolli mewn iaith sydd yn teimlo’n gyfarwydd ond eto mor ddiethr i ni’r Cymry Cymraeg. Er bod pellter daearyddol yn ein gwahanu, mae hanes yn cysylltu Cernyw a Chymru a’n heithioedd yn gwreiddio o’r un lle. Mae’r albwm yn mynd â ni ar daith amgen gan gyfleu yn gerddorol y catalydd a ysbrydolodd Gwenno i greu yr albwm, sef teithiau awyren yr artist Peter Lanyard dros Gernyw. Gallwn glywed synau cerddorol yn dynwared sŵn injan yn nechrau ‘Hi a Skoellyas Liv a Dhagrow’, ac yn achlysurol drwy’r albwm, yn cyfleu yr hediadau hyn. Artist oedd Lanyard a geisiodd adlewyrchu hanes Cernyw yn ei beintiadau haniaethol. Teithiodd dros Gernyw i geisio cael golwg gwell, mwy manwl, o’r tirwedd.

Mae Gwenno yn cynnig tirwedd newydd sbon i ni fel Cymry Cymraeg trwy greu albym pop Cernyweg. Mewn ffordd mae hi’n bwydo ein dealltwriaeth o’n hunaniaeth a’n cryfhau ein cysyniad o sut beth yw perthyn, a bodoli, o fewn cymdeithas leiafrifol. Mae cyd-destun ehangach i’n Cymreictod, ac mae ein teulu Celtaidd yn ymestyn ymhellach na’r ffin. Dydi’r Gernyweg ddim yn rhwystr. Mae’n agor deialog a’n dangos pŵer a gallu un llais, llais Gwenno, i herio trwy gerddoriaeth. Mae ei grym yn amlwg o’r sylw mae Le Kov wedi ennill yn y cyfryngau, o Lundain i Efrog Newydd!

A ninnau bellach yn oes o senglau a rhestrau chwarae, os gwrandewch chi ar unrhyw albwm yn ei gyfanrwydd yn 2018 sicrhewch mai Le Kov sydd yn hawlio sylw eich clustiau. Mae Gwenno yn artist sydd yn rhoi cymaint i’w chynulleidfa a dydi’r miwsig, na’r naratifau, yn tawelu unwaith i’r crynoddisg, neu’r feinyl, stopio troi.

 

Adolygiad: Toddi gan Yr Eira

GETHIN GRIFFITHS
Drwy grisialu natur newidiol bywyd unigolyn yn ei ugeiniau cynnar mewn deg cân bop, mae albwm cyntaf yr Eira yn arddangos dyfnder na chlywyd ganddynt o’r blaen.

Toddi

Mae wedi cymryd dros fis i mi allu cyhoeddi’r adolygiad hwn. Yn union fel y dywedais wrth adolygu’r albwm ar raglen Lisa Gwilym ar Radio Cymru yn gynharach yn y mis, ni deimlais unrhyw beth wrth wrando ar Toddi am y tro cyntaf, ac nid oedd gen i unrhyw sylw i’w wneud oedd werth creu adolygiad amdano. Bu i mi, hyd yn oed, ystyried ysgrifennu adolygiad gwrthrychol, ffug, gan ceisio creu rhywbeth o’r aneffeithiolrwydd diflas hwnnw oedd yn llenwi fy mhen ar ôl y gwrando.

Y rheswm sylfaenol am hynny oedd nad oeddwn i wedi rhoi cyfle i’r Eira fy nharo ar lefel is na melodïau bachog a llafarganu sgleiniog indi-roc. Gan i mi fod yn meddwl amdanynt fel band i gynhesu’r gynulleidfa ar gyfer Sŵnami ers cyhyd, roeddwn i’n ei chael hi’n anodd derbyn eu bod yn dilyn trywydd artistig na chafodd ei droedio gan artistiaid eraill o’u blaenau. Hefyd, roedd y ffaith mai cerddoriaeth amgen, space-pop a chynrychiolaeth benywaith y sîn oedd yn hawlio’r rhan helaeth o’r sylw yn 2017, yn ei gwneud hi’n anodd darganfod lle i’r Eira yn yr amgylchfyd hwnnw yn anodd.

Mae cyfnod monopoli’r bandiau indi-roc ar ben erbyn hyn, o leiaf yn nhermau’r hyn a drafodir ar y wê ac ar y cyfryngau, ac er i mi feddwl am hynny fel rhwystr i rywun fel yr Eira – roeddwn i’n wirioneddol anghywir. Mi’r oedd y pedwar yn hynod ymwybodol nad oedd y fformiwla flaenorol am weithio iddyn nhw, a Lewys yn benderfynol i bellhau ei hun rhag prif grŵp ei gitarydd flaen.

Roedd mynd i recordio at gynhyrchydd gwahanol yn gam enfawr yn y broses hon – yn enwedig wrth geisio creu synau unigryw ac arbrofi â gweadau newydd. Mae cydweithio â Steffan Pringle wedi agor bylchau newydd yn eu sain, gan greu tyllau yn y wal o sŵn anthemig a oedd yn nodweddu eu caneuon cynnar, ac mae’r effeithiau newydd a glywir ar y gitârs yn aeddfedu’r cyfeiriadau cerddorol yn sylweddol. Mae Dros y Bont, trydydd sengl yr albwm, yn enghraifft perffaith o hyn.

Fodd bynnag, nid bywyd newydd eu cerddoriaeth a’m tarodd ar yr ail a’r trydydd gwrandawiad, ond yr hyn yr oedd y grŵp yn ceisio ei ddweud am eu sefyllfa hwy fel unigolion yn eu hugeiniau cynnar. Er fy mod yn edmygu llawer o gerddoriaeth fy nghyfoedion, anaml iawn y byddaf i’n clywed adlewyrchiad o fy mywyd neu fy sefyllfa yn eu geiriau a’u negeseuon. Ers sylweddoli mai’r newid hwnnw rhwng gadael coleg a mentro i’r byd go iawn yw’r hyn y maent yn ei drafod, mi sylweddolais fy mod wedi darganfod albwm a fydd, mewn ugain mlynedd, yn fy atgoffa o bwynt hanfodol o fy hanes. Mae’n newid breintiedig, ydy, ond mae’n newid gwirioneddol sydd yn effeithio nifer fawr iawn ohonom erbyn hyn.

Mae Gadael am yr Haf a Ffiniau Anweledig yn amlygu’r thema yn berffaith, ynghŷd ag un o fy hoff ganeuon erioed, Pan Na Fyddai’n Llon. Er mai teyrnged i Aberystwyth a’i phrifysgol (gelyn mawr fy alma mater i) yw’r gân, mae’r modd y mae Lewys yn portreadu ei berthynas â lleoliad penodol yn unigryw ac yn gwbl onest. Er iddi ymddangos yn flaenorol ar albwm amlgyfrannog I Ka Ching 5 (2016), mae’r gân yn hawlio ei lle yn wych ar yr albwm hon. Yn wir, mae gweddill yr albwm yn teimlo fel parhâd ohoni.

Mae un llygad ar y set fyw yma hefyd – mae rhywun yn clywed Rings Around Your Eyes fel modd gwych o arafu a thawelu’r llif, gyda phelen disco fawr a channoedd o ffonau yn yr awyr. Mae Feeling Fine yn chwarae â’r meddwl, a’r traed, yn benodol, wrth i’r rhythmau cyfnewidiol gynnig eu hunain yn wych i gyfeilio i ddawnsfeydd amrywiol gan y dorf.

Roedd disgwyl tan ar ôl yr Eisteddfod i gwblhau’r adolygiad hwn yn gam doeth, hefyd, wedi i mi weld yn union sut oedd y band yn bwriadu dod â’r albwm i’r llwyfan. Mae perfformiadau byw Yr Eira, o ganlyniad i ddiffyg hyder yn eu hunain, efallai, wedi gallu bod yn eithaf fflat dros y blynyddoedd, a doeddwn i ddim yn gwybod beth i ddisgwyl ganddynt yn y brifwyl. Er i mi eu gweld yn noson lawnsio eu halbwm yng Ngŵyl Arall fis diwethaf, roeddent yn dal i ddod i arfer â’r caneuon newydd yn fyw ac felly ddim yn cyflawni eu potensial. Dydw i ddim yn gwybod beth ddigwyddodd iddyn nhw yn y cyfnod rhwng y gig hwnnw a’r Eisteddfod, ond mi’r ydw i’n siŵr y buasai llawer o fandiau yn elwa o’r un trawsnewidiad. Perfformiad gorau Lewys erioed, heb os, oedd ei reolaeth lwyr o lwyfan y pafiliwn o flaen cerddorfa’r Welsh Pops, ac mi roddodd hynny iddo’r hyder i barhau â’r momentwm wrth berfformio ym Maes B ar y nos Wener a Llwyfan y Maes brynhawn Sadwrn.

Yr unig beth sydd dal yn fy synnu yw cyn lleied o ganeuon yr Eira mae’r dorf yn ei wybod yn gyffredinol. Wrth edrych o gwmpas, roedd pawb i’w weld yn mwynhau, ond ddim yn cyd ganu gyda nhw i’r un graddau â Sŵnami, Candelas neu Yws Gwynedd. Pam? Mae’r tiwns yno, yn sicr – ac ar brydiau, yn fy marn bersonol i, yn well nag ambell un o ganeuon mwyaf poblogaidd yr artistiaid eraill.

Rydw i’n gobeithio y bydd ffans niferus indi-roc Cymraeg yn gwrando ar yr albwm hon yn ei chyfanrwydd ac yn ei dysgu ar gyfer eu mwynhau yn eu hymddangosiad byw nesaf. Cyn fis Gorffennaf eleni, mi fuaswn i’n fodlon iawn gweld yr Eira yn ail ar lein-yps gigs am weddill eu gyrfa, ond ar ôl Toddi, dydy hynny ddim am ddigwydd. Drwy gario ymlaen â’r gwelliant hwn, gall Lewys, Ifan, Trystan a Guto grafu eu henwau yn hanes cerddoriaeth bop orau ein hanes.

Fis diwethaf, cafodd Gethin gyfle i gyfweld Ifan a Lewys am eu halbwm newydd. Dyma beth oedd ganddyn nhw i ddweud!

Adolygiad: Anrheoli gan Yws Gwynedd

CHRIS ROBERTS

anrheoli

Roedd albym cynta’ Yws Gwynedd Codi /\ Cysgu yn llwyddiant ysgubol. Tydi o ddim yn syndod felly ei fod o wedi glynu wrth fformiwla eithaf tebyg hefo ei ail albym Anrheoli.  Yma ceir casgliad o ganeuon o wahanol sŵn a thempo ond mae yno hefyd thema cryf yn rhedeg drwyddi – mwynhau bywyd a byw yn y foment. Mae’n braf cael gwrando ar rywbeth mor ddi-baid o gadarnhaol ac mae’n siŵr o roi gwen ar wyneb unrhyw un sy’n gwrando.

Mae’r gân agoriadol Sgrin yn gosod tôn yr albym yn berffaith wrth i Yws erfyn ar y gwrandäwr i roi eu ffôn i lawr ac i edrych a gwrando o’u cwmpas. Dwi’n cofio clywed hook y gân yma wrth wylio’r band yn cyfansoddi yn Stiwdio Bing ar Periscope ac mae’n deg dweud nad ydi hi wedi gadael fy mhen ers hynny.

Yna ceir un o ganeuon mwyaf poppy yr albym, Disgyn Am Yn Ôl. Mae’n fy atgoffa i o Vampire Weekend, yn enwedig efo’r corws “ah le oh ah le oh” a’r dylanwad calypso sydd arno. Mae yno deimlad hafaidd iawn iddo a dwi’n siŵr fydd o’n drac sain i sawl montage o luniau hapus yr hâ’ yma.

Mae yno hefyd ganeuon fel Dal i Wenu, Effro Fyddi Di, Geni Yn Y Nos a Anrheoli, sydd yn swnio mwy fel Frizbee neu’n fwy nodweddiadol o sŵn gweddill y sîn. Mae rhain yn cynnig rhywbeth gwahanol i’r albym ac yn cysylltu Yws hefo’i orffennol a hefo’r bandiau sydd o’i gwmpas. Effro Fyddi Di ydi uchafbwynt yr albym i mi, yma mae Yws yn swnio ar ei fwyaf naturiol a cyfoes ac mae’r geiriau llawen yn golygu y bydd hwn yn mynd ar fy rhestr chwarae o ganeuon i wrando arnynt pan fyddai angen rhywbeth i godi calon. Dwi hefyd wrth fy modd hefo Anrheoli – mae’n neges sydd wir yn atseinio hefo fi ac mae Yws yn ei mynegi hi’n berffaith “Un rheol sydd..”

Mae’r seren yn cynnig rhywbeth gwahanol iawn ar ffurf Dy Anadl Dau sef fersiwn amgen o’i sengl Dy Anadl Di.  Mae’r tempo wedi ei arafu yn gyfangwbwl a’r offerynau yn finimalistig wrth i’r sbotolau droi ar lais Yws sydd yn cael lle i anadlu gyda popeth arall wedi ei dynnu yn ôl. Mae yno sicr botensial i hon swnio’n arbennig os ydyn nhw yn penderfynu cyfuno’r ddwy gân rywsut.

Mae llinell bâs ffynci Dim ond Un yn fy atgoffa i o sŵn Nile Rodgers ac yn sicr am gael gwrandawyr i symud; hyd yn oed os nad ydych chi yn un i godi a dawnsio byddwch yn siŵr o gychwyn tapio’ch bysedd!

Yn Drwy Dy Lygid Di y ceir yr ennyd fwyaf sentimental ar yr albym wrth i Yws ddyheu am gael gweld y byd drwy lygaid diniwed plentyn. Er bod y gân yma yn swnio yn wahanol i weddill yr albym mae’n dal thema’r albym yn berffaith. Mae’n amlwg fod Yws yn hiraethu am fywyd symlach ac mae’r albym yn faniffesto ar gyfer hynny, cystal â dim byd arall. Mae yno gytgan arbennig i’r gân yma hefyd – dwi’n siŵr y bydd yno bobl ar hyd a lled Cymru yn perffeithio eu ooohs i hon!

Un Man sydd yn cloi’r albym ac ar ôl y naw cân arbennig sydd wedi dod ynghynt mae hon yn disgyn ychydig yn fflat ar y gwrandawiad cyntaf. Does yno ddim byd mor amlwg i ddal arni yn Un Man fel yn gweddill caneuon yr albym ond ar wrandawiad agosach mae’n cynnig rhywbeth gwahanol i weddill yr albym ac yn dangos ochr mwy meddylgar i Yws – “A fydd y dewis da yn un sy’n hawdd i’w wneud?”

Yn ogystal a’r caneuon gwych mae’r clawr gan Celt Iwan yn hynod o drawiadol ac yn atgyfnerthu thema’r albym yn berffaith, yn ngeiriau Yws “byddwch mwy fel y dot ar y tu allan.”

Mae gan Yws Gwynedd ddawn aruthrol am ysgrifennu pop bachog, allai sicrhau ar ôl dim ond un gwrandawiad bydd rhai darnau o’r albym yma yn sownd yn eich pen. Mae’r albym yn cynnwys hooks cofiadwy, lyrics epigramatig ac ysbryd hwyliog. Mae hi yn albym poppy a chadarnhaol tu hwnt, ond cryfder yw hynny nid gwendid -mae Yws yn feistr ar ei grefft. Nid yw hon yn albym ar gyfer rhai sinigaidd!

Mae Anrheoli yn sicr yn albym i’w chyd-fwynhau. Mae hi’n albym sydd yn swnion’n well hefo ffrind, hyd yn oed gwell hefo pedwar ffrind ac yn well byth hefo cannoedd o ‘ffrindiau’ mewn gig. Dwi’n meddwl y bydd y caneuon yma ar eu gorau yn fyw ac allai’m disgwyl i fod yn eu cyd-ganu nhw mewn gig ha’ ‘ma! Mae hon yn sicr yn albym ar gyfer y pre-sesh a’r roadtrips. Gwnewch eich hun yn boblogaidd a bachwch gopi i’w chario hi efo chi i bob man!

Mae Anrheoli allan rwan a gallwch chi ei archebu fan hyn.

Mae’r gig lansio yn Pontio ar y 7fed o Ebrill hefo Fleur De Lys a Mosco. Bydd Yws Gwynedd yn chwarae nifer o gigs ar draws Cymru dros y misoedd nesaf!