Adolygiad: Gig IndyFest, Caerdydd, 16/9/17

Ar ddiwrnod Owain Glyndŵr eleni, trefnodd dilynwyr YesCymru amryw o ddigwyddiadau i ddathlu’r achlysur, ac i hybu’r drafodaeth am Gymru annibynnol. Miriam Elin Jones, cyfrannydd newydd i Sôn am Sîn, ond yn enw cyfarwydd fel un o sylfaenwyr Y Stamp, aeth i Gaerdydd i brofi’r dathlu ar Stryd Womanby.

IndyFest.jpg

MIRIAM ELIN JONES

Dros y penwythnos, roedd Womanby Street Caerdydd yn ferw gwyllt o gefnogwyr Yes Cymru a hefyd yn llwyfan i arlwy gerddorol amrywiol Indyfest. Dyma’r ŵyl gyntaf erioed i gael ei threfnu gan fudiad annibyniaeth i Gymru, ac yn chwaer i Annibynnwyl yng Nghaernarfon yn ystod yr un penwythnos. Ei bwriad? Annog ei mynychwyr i feddwl yn annibynnol, os nad am annibyniaeth, a dechrau gwrthryfeloedd creadigol eu hunain. Yn ystod y dydd, cynhaliwyd trafodaethau di-ri, sesiynau llenyddol, cantorion acwstig a hyd yn oed perfformiad stand up yn The Castle Emporium a The Moon.

Cefais gyfle i fwynhau sesiwn cwestiwn ac ateb hynod ddifyr yng nghwmni awdures Gwales, Catrin Dafydd a chael ein diddanu gan griw Bragdy’r Beirdd – a chadwch lygad mas am fersiwn hynod hilarious Osian Rhys Jones o’r gân Ghostbusters. Wrth gwt y sesiynau hynny, un o’m hoff artistiaid yn ystod y dydd oedd EÄDYTH. Bosib bydd y mwyafrif yn ei hadnabod fel chwaer fach i Kizzy Crawford, ond gydag edge lot mwy techno i’w cherddoriaeth a chlamp o lais i’ch gwthio oddi ar eich echel, dyma gantores sydd â’i steil bendant ei hun – dyma obeithio bydd ganddi EP i’w gynnig i ni cyn bo hir.

Gig gyda’r nos yng Nghlwb Ifor Bach oedd yn coroni digwyddiadau’r diwrnod, gyda line up anferthol yn cynnig digon at ddant pawb. Ymunais â’r noson wrth i Adwaith gamu i’r llwyfan, yn effortlessly cool yn ôl eu harfer. Eu perfformiad o’r sengl ddiweddaraf  ‘Lipstick Coch’ oedd seren y set, gydag alaw heintus y gân yn gwahodd pawb i ddawnsio. Yn eu dilyn, Baby Queens, enw bur anghyfarwydd i mi cyn nos Sadwrn, ond dwi bellach wedi manteisio ar fy nghyfrif Spotify ers hynny i fwynhau eu cymysgfa unigryw o hip hop, soul a thwtsh o ska.

Bu’n dipyn o gamp i fois ARPRPH ddilyn dau fand â lleisiau mor hudolus, ond cyfareddwyd y gynulleidfa gyda’u sŵn lo-fi surf arbennig. ‘Tywod’, a hynny ers y dechrau’n deg, yw fy hoff drac ganddynt, a chynigodd deimlad mellow a chynnes cyn i’r dorf wirioni ar headliners y noson. I gyfeiliant band pres The Barry Horns, aeth y dorf gyfan – gan gynnwys ambell un fel fi sydd mwy neu lai’n allergic i bêl droed – ati i ymuno i lafarganu clasuron yr Ewros llynedd, a bod yn ddigon parod i ddawnsio dan gawod o gonfetti a silly string.

Yr unig fai mewn gwirionedd yw mai mish-mash o gefnogwyr oedd yn perfformio, ac felly nid ŵyl wedi’i churadu’n gelfydd mohoni, gyda phob genre o gerddoriaeth yn cael ei lwyfan ei hun. Serch hynny, dyma obeithio – o weld cymaint yno’n mwynhau dros y penwythnos –  gweld sawl gwrthryfel greadigol yn tyfu ar hyd a lled Cymru yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.

TIWNS: Hanner Awr o’r Haf

JPEG image-174E0DD3FABD-1

Wythnos dristaf dilynwyr y Sîn erbyn hyn yw’r wythnos ar ôl Gŵyl Rhif 6. Mae mis Medi yn ein hatgoffa’n flynyddol bod pob dim da yn dod i ben, ac er nad yw tywydd mis Awst yn hafaidd o hyd, mae rhywun yn anghofio pa mor gas y mae’r hydref yn gallu bod tan mae mis Medi’n gafael. Er hynny, mae Gŵyl Rhif 6 yn ha’ bach Mihangel i ni erbyn hyn, ac yn ymestyn ein prif dymor ni ychydig yn hirach.

Mae’r wythnos hon yn gyfle gwych, felly, i edrych yn ôl ar yr haf a fu. Er na ddylid cau’r siop yn gyfan gwbl, mae pethau’n siŵr o fynd yn ddistawach dros yr wythnosau nesaf. Beth am leddfu’r boen hydrefol, felly, drwy wrando ar ein rhestr chwarae o’n hoff ganeuon ni o’r hyn a ryddhawyd dros haf 2017?

Dyma i chi hanner awr o’r haf!

 

Bydd Tiwns yn ol wythnos nesaf, gydag un o unigolion blaenllaw y sîn yn dewis eu hoff draciau. Diolch i George Amor am ddewis Tiwns wythnos diwethaf – ewch yma i weld be’ ddewisiodd o!

TIWNS: George Amor

Dros yr wythnosau nesaf, bydd Sôn am Sîn yn cyhoeddi rhestr chwarae wythnosol ar Spotify, wedi eu dewis gan unigolion arbennig ein sîn. Os ydych chi eisiau syniadau am gerddoriaeth newydd i wrando arni, neu os ydych chi wedi bod eisiau gwybod beth yw trac sain i fywydau eich hoff artistiaid – ‘TIWNS’ yw’r rhestrau chwarae i chi!

JPEG image-9CA027AD732A-1.jpeg

George Amor yw’r unigolyn cyntaf i ddewis tiwns ar ein cyfer! Mae George yn adnabyddus iawn yn barod fel aelod o Sen Segur a Palenco, ond erbyn hyn yn llywio llong ofod gerddorol Omaloma. Mae tiwns fel ‘Ha Ha Haf‘, ‘Eniwe‘ ac ‘Aros o Gwmpas‘ yn rai o’n hoff ganeuon ni sydd wedi cael eu rhyddhau dros y ddwy flynedd diwethaf, ac mae sôn bod yna sengl newydd ar y ffordd, hefyd!

Diolch i George, felly, am ddewis 15 o ganeuon y mae’n hoff ohonynt ar hyn o bryd. ‘Sgwn i os allwch chi ddarganfod y dylanwadau hynny sydd wedi rhoi cymorth iddo greu rhai o’i gampweithiau Space-Pop yn ddiweddar?

 

O’r Llwybr Llaethog: Beth yw ‘Space Pop’?

GETHIN GRIFFITHS

Yn dilyn rhyddhau ail sengl Serol Serol, ‘Aelwyd’, mae cyfnod ‘Space Pop’ ein sîn yn parhau. Gethin Griffiths sydd yn archwilio ystyr y term a’r hyn y mae yn ei olygu i ni. 

Yn aml, dwi’n meddwl mai cryfder mwyaf ffuglen wyddonol yw ei allu i adlewyrchu realiti. Er i’r ffeithiau, y dechnoleg, a gwyddoniaeth yr holl beth fod yn gwbl ddychmygol ac afrealistig, mae yna neges, yn aml, sydd yn taro deuddeg i ni feidrolion y ddaear. Rhyw fath o rybudd ydyw mewn gwirionedd, ac er ein bod ni i gyd yn hoffi dianc i ryw fydysawd paralel neu’i gilydd ar brydiau, cawn yn aml ein saethu’n ôl i bresennol y blaned las ar ein pennau.

Mae hynny’n wir am y gofod sydd yn bodoli uwch ein pennau go iawn hefyd, i bob pwrpas. Mae’n hawdd rhamantu am yr hyn sydd y tu hwnt i’r wybren, yn aml gan bod y llonyddwch hwnnw’n antidot heddychlon i frwydrau’r byd sydd ohoni. Mae nhw’n dweud yn aml mai nid y lleuad oedd prif ddarganfyddiad prosiect Apollo, ond y ddaear, ac mai’r peth mwyaf trawiadol i’r gofodwyr hynny oedd gweld y blaned o’r tu allan am y tro cyntaf. Gall y rhai sydd yn poeni am argyfwng ein amgylchedd gyfeirio at y profiad hwn, ac amlygu pa mor fregus yw’r belen hon sydd yn gwbl hanfodol i’n bodolaeth. Mae’n holl ddealltwriaeth ni o’r gofod a’r hyn sydd yn digwydd y tu hwnt i’n dychymyg yn cadarnhau ein dealltwriaeth ni o’n hunain, ac nid ein dealltwriaeth ni o’r bydysawd yn unig.


A dyma pam mae dyfodiad ‘Space Pop’ fel genre yn y sîn eleni o ddiddordeb i mi. Pam y mae’r artistiaid hyn sydd yn ei greu mor barod i’w arddel a’i ddefnyddio fel cefndir i’w celfyddyd?

Mewn gwirionedd, mae diwylliant daearol, cyfalafol, sydd yn seiliedig ar y gofod yn bodoli ers dros hanner canrif. Yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, yn enwedig ar ôl gollwng dau fom niwclear ar Siapan, roedd ein byd yn paratoi ei hun am newidiadau enfawr. Roedd technoleg yr ugeinfed ganrif wedi galluogi i ddynoliaeth gynnal dau gyfnod erchyll o waedlyd yn ystod ei degawdau cynnar, a doedd dim stop ar y datblygiad.

Yn wir, erbyn troad y pumdegau, roedd bygythiad gwirioneddol am drydydd cyfnod o’r fath, ond roedd gallu erbyn hyn i ddifa dynoliaeth gyfan ag arfau mwy pwerus na welwyd erioed o’r blaen. Roedd y pris dynol hwnnw i dalu yn ormod o lawer i ddau brif bŵer y byd, yr UDA a’r Undeb Sofietaidd, ac felly cafwyd brwydr o fath gwahanol iawn. Bygythiadau oedd popeth erbyn hyn – pwyntia di dy arfau tuag ata i, ac fe bwyntiau innau fy rhai i yn ôl. Parhaodd hyn am flynyddoedd maith, a phawb yn symud eu ffigyrau’n ofalus iawn ar hyd y bwrdd gwyddbwyll.

Un o brif elfennau’r gêm honno oedd datblygu technoleg wyddonol. Gan gychwyn ym 1955, gyrrodd y ddwy wlad eu lloerennau cyntaf i’r gofod, gan ddatgan eu bod mewn ‘Ras i’r Gofod’, neu i ddefnyddio’r term Saesneg llawer mwy bachog, y Space Race. Rwsia lwyddodd i yrru’r dyn cyntaf, Yuri Gagarin, i’r gofod ym 1961, ond erbyn 1969, roedd gan America ddyn ar y lleuad. Boed eich bod yn gredwr o hynny neu beidio, does dim dwywaith amdani bod yr uchelgais a’r holl daith yn gwbl gyffrous.

Ni ellir disgwyl i hynny beidio treiddio i ddiwylliant y cyfnod. Erbyn y chwedegau, roedd NASA yn frand yn ogystal ag asiantaeth, ac roedd plant y byd i gyd eisiau bod yn ofodwyr wedi iddynt dyfu i fyny. Nid ffuglen wyddonol oedd teithio i’r gofod mwyach, ond realiti, ac roedd hynny’n chwa o awyr iach i lawer, er gwaethaf gwreiddiau sinistr yr holl ymgyrch. Roedd cerddoriaeth yn adlewyrchu hefyd, gydag artistiaid fel David Bowie yn arddel y cysyniadau gwyddonol hyn yn aml yn ei gerddoriaeth. Mae pawb yn ‘nabod ‘Space Oddity’ – cân am Major Tom yn gadael y byd, a hwyrach, yn methu â dychwelyd, a beth am ‘Life on Mars’? A holl albwm Ziggy Stardust and the Spiders from Mars?

Mi allwn ni sôn am gerddoriaeth gelf hefyd, beth am finimaliaeth a cherddoriaeth ambient Brian Eno? Mae mwynder maith y gofod, lle nad yw amser yn bodoli yn yr un ystyr ag yma ar y ddaear, yn annog i rywun feddwl am lonyddwch, am synau mawr, eang, sydd yn newid yn araf. Mae trefniannau llinynnol enfawr Bowie yn gwneud yr un peth – adlewyrchu’r gofod yn seinyddol.

Ceisia rai alw cerddoriaeth prog rock Pink Floyd yn ‘Space Rock’, hefyd. Beth am Dark Side of the Moon? Beth am ganeuon fel ‘Us and Them’, neu’r ‘Great Gig in the Sky’? Mae popeth yn edrych am allan, er mwyn deall beth sydd yn digwydd i ni ar y tu mewn.


Sut mae cerddoriaeth Omaloma, Serol Serol, ac efallai Griff Lynch, yn ffitio i’r llinach hwn, felly? Mae Oes y Gofod ar ben ers hanner canrif, felly sut y mae hyn yn berthnasol i ni heddiw?

Mae’r ateb, i mi, yn bodoli ym mharagraff cyntaf yr erthygl. Mae synau syntheseisiedig, retro, yr artistiaid hyn yn mynd â ni yn ôl i’r cyfnod hwn lle’r oedd pobl yn chwilio am ystyr, ac yn ysu i gael gwybod lle’r oedden nhw’n ffitio yn y gofod. Beth oedd ein pwrpas ni yma, fel pinau bach yn y das wair anferth o ‘ddim byd’ oedd o’n cwmpas ni? Ac mae hynny’n ein tynnu ni i’r ddaear.

Mae ‘Aros o Gwmpas’, er enghraifft, yn swnio fel taith arallfydol i ryw fyd o liwiau a siapiau a llongau gofod yn hedfan o gwmpas. Ond ymgorfforiad o deimlad person wrth ddatblygu teimladau am berson arall nad ydyn nhw’n ei adnabod go iawn yw’r gân i bob pwrpas. Onid yw hynny’n beth hynod ddynol? Mewn unrhyw ddarn o ffuglen wyddoniaeth sydd wedi cydio – y pethau bach dynol hyn sydd yn ein atynnu ni tuag atynt yn y bôn.

A dyma pam yr ydym ni’n caru Space Pop. Mae’n dweud mwy amdanom ni ein hunain nac y mae am unrhywbeth sydd y tu hwnt i’n ffurfafen. Dewch, awn ni ar daith hefo’r artistiaid hyn, ond peidiwch â phoeni, ewch chi’m yn rhy bell.


Pam na chawn ni fod yn ‘wrth Bryn Fôn’?

Ar ôl i Golwg360 gyhoeddi’r stori bod trefnydd gigs Cymdeithas yr Iaith yr Eisteddfod yn poeni am agwedd negyddol tuag at Bryn Fôn, Gethin Griffiths sydd yn cwestiynu pam, yn union, y mae hyn yn broblem o gwbl?

Bryn Fôn

(Bryn Fôn sydd yn y llun uchod)

GETHIN GRIFFITHS

Mae Bryn Fôn wedi bod yn drafodaeth, os nad yn drysor, cenedlaethol ers bron i ddeng mlynedd ar hugain bellach. Dros ei yrfa lwyddiannus ac amrywiol, mae wedi denu miloedd o bobl i’w gigs yn rheolaidd, ac wedi actio ar rai o’n rhaglenni mwyaf poblogaidd ni. Nid oes enghraifft debyg iddo, mewn gwirionedd, ac mae trafodaeth gyson am sut i egluro’r ffenomenon rhyfedd hwn i rywun di-Gymraeg.

Rhaid cofio hynny. Mae llwyddiant y canwr o Lanllyfni yn ymestyn ymhellach nac unrhyw ganwr pop uniaith Gymraeg arall, yn enwedig gan i nifer helaeth o’i ffans mwyaf ffyddlon fod yn rhai sydd ddim yn tueddu i wrando ar unrhyw gerddoriaeth Gymraeg ar wahân i’w ganeuon ef. Yn wir, mae’n sefyll mor gadarn yng nghanol y ffordd, mae’n anodd ei ystyried, bron, fel rhan o weddill y Sîn Roc Gymraeg.

A dyma ble mae’r ddadl artistig yn dechrau. Onid yw celfyddyd yn haeddu cael ei thrafod, ei chlodfori, ond hefyd ei barnu? Dim ond aros yn ei hunfan wnai cerddoriaeth pe bai’r drafodaeth o’i chwmpas yn stopio, neu’n ganmoliaethus yn unig. Dyma yw fy mhrif broblem â’r feirniadaeth o feirniaid Bryn Fôn.

Caiff y pwnc ei drafod, yn benodol, wedi i’r grŵp arbrofol o Gaernarfon, Pasta Hull, ryddhau’r gân ‘Geith Bryn Fôn Fynd i Ffwcio’. Mae’r gân, fel y dywed Golwg 360, yn datgan bod y canwr yn ‘weirdo’. Dydw i ddim yn gwybod pam y mae galw rhywun yn ‘weirdo’ yn haeddu cael sylw, a dweud y gwir, gan fy mod yn siŵr y buasai aelodau Pasta Hull wrth eu boddau’n cael eu galw’n ‘weirdos’ eu hunain. Mae’r byd yn weird.

Mae’r syniad yn wych – ymosod ar ein canwr mwyaf poblogaidd ni, er mwyn, yn rhannol, amlygu’r gagendor artistig rhwng canol y Ffordd Gymraeg a’i chyrion, ond hefyd i ddenu ychydig o sylw. Pwy sydd ddim yn difaru peidio galw cân yn ôl yr enw hwnnw rwan?

Dydw i ddim yn deall, yn benodol, pam y dylai’r beirniaid hyn fod yn dal eu beirniadaeth artistig yn ôl mewn cyd destun ariannol. Mae yna ryw ofn yn y byd Cymraeg i farnu’n ormodol, ac i ddiolch ‘ein bod yma o gwbl’. Ydy, mae’n anodd barnu rhywun am lafur cariad ac am sicrhau parhâd celfyddyd Gymraeg, ond pwy hoffai fyw mewn byd lle nad yw’r diwylliant yn cael ei thrin a’i thrafod? Mae yna bobl allan yna sydd â meddylfryd ddiwylliannol a chelfyddydol sydd yn anghytuno â’r ‘prif lif’ a chanol y ffordd, a da o beth yw hynny.

Mae dychanu, beirniadu a gwrthod y status quo yn holl bwysig – ac mae’r Cymry wedi bod yn wych am wneud hynny dros y blynyddoedd. Edrychwch ar Datblygu – un o’u caneuon enwocaf oedd ‘Maes E’, oedd yn ymosod ar ddiwylliant yr Eisteddfod a’i chyrion. Ydy hynny wedi peri problem i’r Eisteddfod erioed? Oes yna lai o bobl yn mynchu’r gigs gan bod Datblygu wedi gwneud iddynt sylweddoli rhywbeth nad oeddent yn ei wybod o’r blaen. Na – i’r gwrthwyneb, a dweud y gwir. OND, mae’r grŵp yn sicr wedi cyfoethogi’r amrywiaeth eang o gerddoriaeth sydd yn bodoli yn y Gymraeg, ac wedi agor trafodaeth ddiddorol.

A dyma sydd yn arwain at fy ail broblem â’r datganiad. Os y mae Bryn Fôn yn ddigon llwyddiannus i sybsideiddio holl gigs eraill Cymdeithas yr Iaith dros yr wythnos – beth yw’r ots os mae ‘na ganran leiafrifol o bobl yn ei feirniadu? O safbwynt ariannol, ac o safbwynt trefnydd gigs, mae’n siŵr gen i nad yw hyn yn broblem fawr. Ydi Pasta Hull a’u dilynwyr yn mynd i achosi i niferoedd cynulleidfa Bryn Fôn leihau? Mae’n anodd coelio hynny. Yn honedig, roedd 3,500 o bobl ym Maes B ar ddydd Iau yr Ŵyl – eu cynulleidfa fwyaf erioed. Pe byddai pob unigolyn sydd wedi gwrando ar y gân ar SoundCloud (gan ddiystyru efallai bod rhywun wedi gwrando fwy nac unwaith) wedi penderfynu peidio mynd draw i Fodedern y noson honno, buasai dros 2,000 o bobl yn parhau i fod yno.

Mae hyn yn amlygu’r tensiwn sydd yma yng Nghymru rhwng penderfyniadau artistig a phenderfyniadau ariannol neu o ran busnes. Mae Bryn Fôn yn un o’r enghreifftiau prin hynny sydd yn galluogi i ŵyl neu gig Gymraeg greu elw sylweddol, ac yn un o’r enghreifftiau prin o benderfyniad ariannol all trefnydd gigs o’r fath ei wneud. Mae hynny’n sicr yn mynd i ddenu beirniadaeth artistig gan ambell unigolyn. Dydw i ddim yn mynd i ddal yn ôl drwy ddweud fy mod wedi dod i gasàu pobl fel Justin Bieber ac Ed Sheeran. Does yna ddim cymhariaeth rhwng yr arian y maen nhw’n ei wneud â’r hyn y mae Bryn Fôn yn ei ennill, ond gan ddefnyddio termau cymharol, mae’r un egwyddor yn wir. Ydy – wrth gwrs, mae Bryn Fôn yn canu drwy gyfrwng y Gymraeg, ac yn sicrhau bod gigs eraill yn cael eu cynnal o ganlyniad i’r elw a wnaed o’r drws gan ei ffans. OND, dydw i wirioneddol ddim yn deall pam y dylai hynny dawelu’r beirniaid.

I grynhoi, dydw i ddim yn deall sut y mae hyn yn broblem. Mae modd i rywun ddiolch yn fawr i Bryn Fôn am ei waith caled, ond i ddweud wrtho nad yw’n hoffi ei ganeuon. Dydw i ddim yn meddwl y bydd Bryn yn poeni’n ormodol am ei feirniaid ‘chwaith, gan eu bod yn lleiafrif sylweddol. Dydw i ‘chwaith, ddim yn meddwl am eiliad nad yw pobl yn meddwl am effaith ariannol y ffenomenon – rwy’n siŵr ein bod ni i gyd yn gwybod faint o arian y gall Bryn Fôn ei godi i drefnydd gigs, ac yn ymwybodol iawn y gall hynny wneud i fyny am ambell gig aflwyddiannus a drefnir.

Bydd gigs Bryn Fôn yn parhau hyd ei ymddeoliad. Bydd cynulleidfaoedd enfawr yn parhau i’w mynychu. Bydd Ceidwad y Goleudy a Rebal Wicend yn atseinio ar lwyfanau Cymru hyd y diwrnod hwnnw. Ond hefyd, bydd Pasta Hull yn parhau yng nghlustiau y rhai sydd yn barod i ymwrthod â hynny. Geith Bryn Fôn fynd i ffwcio. Geith Pasta Hull fynd i ffwcio. Mi gaiff unrhyw un ydych chi eisiau fynd i ffwcio fynd i ffwcio – ond da o beth yw cael dewis. Achw.

Mae Bryn Fôn yn siŵr o ddenu sylwadau o bob math! Beth am adael i ni wybod beth ydych chi‘n ei feddwl drwy adael sylw isod, neu ar ein cyfryngau cymdeithasol?

Adolygiad: Toddi gan Yr Eira

GETHIN GRIFFITHS
Drwy grisialu natur newidiol bywyd unigolyn yn ei ugeiniau cynnar mewn deg cân bop, mae albwm cyntaf yr Eira yn arddangos dyfnder na chlywyd ganddynt o’r blaen.

Toddi

Mae wedi cymryd dros fis i mi allu cyhoeddi’r adolygiad hwn. Yn union fel y dywedais wrth adolygu’r albwm ar raglen Lisa Gwilym ar Radio Cymru yn gynharach yn y mis, ni deimlais unrhyw beth wrth wrando ar Toddi am y tro cyntaf, ac nid oedd gen i unrhyw sylw i’w wneud oedd werth creu adolygiad amdano. Bu i mi, hyd yn oed, ystyried ysgrifennu adolygiad gwrthrychol, ffug, gan ceisio creu rhywbeth o’r aneffeithiolrwydd diflas hwnnw oedd yn llenwi fy mhen ar ôl y gwrando.

Y rheswm sylfaenol am hynny oedd nad oeddwn i wedi rhoi cyfle i’r Eira fy nharo ar lefel is na melodïau bachog a llafarganu sgleiniog indi-roc. Gan i mi fod yn meddwl amdanynt fel band i gynhesu’r gynulleidfa ar gyfer Sŵnami ers cyhyd, roeddwn i’n ei chael hi’n anodd derbyn eu bod yn dilyn trywydd artistig na chafodd ei droedio gan artistiaid eraill o’u blaenau. Hefyd, roedd y ffaith mai cerddoriaeth amgen, space-pop a chynrychiolaeth benywaith y sîn oedd yn hawlio’r rhan helaeth o’r sylw yn 2017, yn ei gwneud hi’n anodd darganfod lle i’r Eira yn yr amgylchfyd hwnnw yn anodd.

Mae cyfnod monopoli’r bandiau indi-roc ar ben erbyn hyn, o leiaf yn nhermau’r hyn a drafodir ar y wê ac ar y cyfryngau, ac er i mi feddwl am hynny fel rhwystr i rywun fel yr Eira – roeddwn i’n wirioneddol anghywir. Mi’r oedd y pedwar yn hynod ymwybodol nad oedd y fformiwla flaenorol am weithio iddyn nhw, a Lewys yn benderfynol i bellhau ei hun rhag prif grŵp ei gitarydd flaen.

Roedd mynd i recordio at gynhyrchydd gwahanol yn gam enfawr yn y broses hon – yn enwedig wrth geisio creu synau unigryw ac arbrofi â gweadau newydd. Mae cydweithio â Steffan Pringle wedi agor bylchau newydd yn eu sain, gan greu tyllau yn y wal o sŵn anthemig a oedd yn nodweddu eu caneuon cynnar, ac mae’r effeithiau newydd a glywir ar y gitârs yn aeddfedu’r cyfeiriadau cerddorol yn sylweddol. Mae Dros y Bont, trydydd sengl yr albwm, yn enghraifft perffaith o hyn.

Fodd bynnag, nid bywyd newydd eu cerddoriaeth a’m tarodd ar yr ail a’r trydydd gwrandawiad, ond yr hyn yr oedd y grŵp yn ceisio ei ddweud am eu sefyllfa hwy fel unigolion yn eu hugeiniau cynnar. Er fy mod yn edmygu llawer o gerddoriaeth fy nghyfoedion, anaml iawn y byddaf i’n clywed adlewyrchiad o fy mywyd neu fy sefyllfa yn eu geiriau a’u negeseuon. Ers sylweddoli mai’r newid hwnnw rhwng gadael coleg a mentro i’r byd go iawn yw’r hyn y maent yn ei drafod, mi sylweddolais fy mod wedi darganfod albwm a fydd, mewn ugain mlynedd, yn fy atgoffa o bwynt hanfodol o fy hanes. Mae’n newid breintiedig, ydy, ond mae’n newid gwirioneddol sydd yn effeithio nifer fawr iawn ohonom erbyn hyn.

Mae Gadael am yr Haf a Ffiniau Anweledig yn amlygu’r thema yn berffaith, ynghŷd ag un o fy hoff ganeuon erioed, Pan Na Fyddai’n Llon. Er mai teyrnged i Aberystwyth a’i phrifysgol (gelyn mawr fy alma mater i) yw’r gân, mae’r modd y mae Lewys yn portreadu ei berthynas â lleoliad penodol yn unigryw ac yn gwbl onest. Er iddi ymddangos yn flaenorol ar albwm amlgyfrannog I Ka Ching 5 (2016), mae’r gân yn hawlio ei lle yn wych ar yr albwm hon. Yn wir, mae gweddill yr albwm yn teimlo fel parhâd ohoni.

Mae un llygad ar y set fyw yma hefyd – mae rhywun yn clywed Rings Around Your Eyes fel modd gwych o arafu a thawelu’r llif, gyda phelen disco fawr a channoedd o ffonau yn yr awyr. Mae Feeling Fine yn chwarae â’r meddwl, a’r traed, yn benodol, wrth i’r rhythmau cyfnewidiol gynnig eu hunain yn wych i gyfeilio i ddawnsfeydd amrywiol gan y dorf.

Roedd disgwyl tan ar ôl yr Eisteddfod i gwblhau’r adolygiad hwn yn gam doeth, hefyd, wedi i mi weld yn union sut oedd y band yn bwriadu dod â’r albwm i’r llwyfan. Mae perfformiadau byw Yr Eira, o ganlyniad i ddiffyg hyder yn eu hunain, efallai, wedi gallu bod yn eithaf fflat dros y blynyddoedd, a doeddwn i ddim yn gwybod beth i ddisgwyl ganddynt yn y brifwyl. Er i mi eu gweld yn noson lawnsio eu halbwm yng Ngŵyl Arall fis diwethaf, roeddent yn dal i ddod i arfer â’r caneuon newydd yn fyw ac felly ddim yn cyflawni eu potensial. Dydw i ddim yn gwybod beth ddigwyddodd iddyn nhw yn y cyfnod rhwng y gig hwnnw a’r Eisteddfod, ond mi’r ydw i’n siŵr y buasai llawer o fandiau yn elwa o’r un trawsnewidiad. Perfformiad gorau Lewys erioed, heb os, oedd ei reolaeth lwyr o lwyfan y pafiliwn o flaen cerddorfa’r Welsh Pops, ac mi roddodd hynny iddo’r hyder i barhau â’r momentwm wrth berfformio ym Maes B ar y nos Wener a Llwyfan y Maes brynhawn Sadwrn.

Yr unig beth sydd dal yn fy synnu yw cyn lleied o ganeuon yr Eira mae’r dorf yn ei wybod yn gyffredinol. Wrth edrych o gwmpas, roedd pawb i’w weld yn mwynhau, ond ddim yn cyd ganu gyda nhw i’r un graddau â Sŵnami, Candelas neu Yws Gwynedd. Pam? Mae’r tiwns yno, yn sicr – ac ar brydiau, yn fy marn bersonol i, yn well nag ambell un o ganeuon mwyaf poblogaidd yr artistiaid eraill.

Rydw i’n gobeithio y bydd ffans niferus indi-roc Cymraeg yn gwrando ar yr albwm hon yn ei chyfanrwydd ac yn ei dysgu ar gyfer eu mwynhau yn eu hymddangosiad byw nesaf. Cyn fis Gorffennaf eleni, mi fuaswn i’n fodlon iawn gweld yr Eira yn ail ar lein-yps gigs am weddill eu gyrfa, ond ar ôl Toddi, dydy hynny ddim am ddigwydd. Drwy gario ymlaen â’r gwelliant hwn, gall Lewys, Ifan, Trystan a Guto grafu eu henwau yn hanes cerddoriaeth bop orau ein hanes.

Fis diwethaf, cafodd Gethin gyfle i gyfweld Ifan a Lewys am eu halbwm newydd. Dyma beth oedd ganddyn nhw i ddweud!

Pam y bydd Gig y Pafiliwn 2017 yn well na llynedd…

GETHIN GRIFFITHS

Gig Paf 2016

Llun: Daily Post

Roedd gig y pafiliwn yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni, 2016, yn uchafbwynt i lawer. Mi’r oedd rhai yn datgan mai dyma oedd digwyddiad mwyaf cyffrous y brifwyl ers blynyddoedd, gan anghofio’n llwyr am gig olaf Edward H yn Ninbych dair blynedd ynghynt. Mi’r oedd hi’n haf da ‘doedd? Rhwng yr Euros a bob dim – ac roedd hynny’n gosod y llwyfan yn wych i Candelas orffen y noson â Rhedeg i Paris, a phawb yn ymdrochi yn sain enw triphlyg Hal Robson-Kanu. Rhyw fath o ffordd o leddfu poen Brexit a dyfodiad Trump oedd hynny, efallai, ac roedd rhywun yn ymwybodol iawn bod y byd o’u cwmpas yn newid.

Ond mi’r oedd y ‘Steddfod yn newid o blaid yr ifanc. Pafiliwn newydd, syniad newydd, a cyfle i rafins Maes B hawlio cartref Sioned Grug (a cheidwaid y Pinot Grigio) a’u tops off. A dweud y gwir, roedd y babell newydd, stiwdio-aidd, yn gweithio’n llawer gwell – nid yn unig gan ei bod yn edrych yn llai gwag yn ystod yr adegau distawaf, ond hefyd gan ei bod yn galluogi i’r Eisteddfod gynnal y math hwn o ddigwyddiad oedd yn gofyn am reolaeth seinyddol mwy heriol. Nid yw ymdrechion yr Eisteddfod i wneud eu hunain yn gyfredol ac yn berthnasol yn cael eu hanwybyddu – ac er nad ydynt wedi cyrraedd y nod mewn ambell i le, mae hwn yn sicr yn gam cadarnhaol.

A dyna osododd y llwyfan i’r noson orau erioed. Mi agorodd Sŵnami’r noson a’u tiwns cyfarwydd – yn ogystal â cherddorfaethu celfydd Owain Llwyd ac mi blethodd y gerddorfa yn berffaith â cherddoriaeth amrywiol yr Ods, hefyd. Dim syndod, chwaith, bod Candelas wedi rhoi sioe a hanner i orffen. Mae’r cyfan yn hanes erbyn hyn – i’r rhai oedd yno, wrth gwrs. I’r rhai oedd ddim – beth am ddarllen ein blog a ysgrifennwyd yn fuan wedyn?


2017 yn trympio 2016?

Ni fydd modd ail-greu gwefr 2016, ni fydd modd ail-greu newydd-deb a ffresni y profiad o weld bandiau mwyaf y Sîn Roc Gymraeg yn cael eu cyfeilio gan ddegau o gerddorion arallfydol o dalentog. Ni fydd modd i 2017 achosi i’r un teimlad gronni ym mherfeddion y rhai a fuodd ddigon lwcus i fod yno yn y Fenni.

Ond, wedi dweud hynny, efallai bod hynny’n beth da. Fel pob ail gyfres wael a gomisinwyd heb feddwl gan S4C, fel pob chwaraewr pel-droed sydd yn dod tuag at ddiwedd eu gyrfa a dychwelyd i’w clwb gwreiddiol, israddol – mae gormod o’r un peth yn gallu mynd yn aneffeithiol. Ond bydd 2017 yn well na 2016 os y bydd yn sicrhau ei fod yn wahanol. Bydd pawb sydd wedi prynu tocyn eleni, ond heb fod yno llynedd, yn gwybod yn iawn nad ydyn nhw ar flaen y gad, ac yn gwybod yn iawn na fydd modd iddynt frolio mewn ugain mlynedd eu bod wedi bod yno pan blethodd y ‘Steddfod barchusrwydd y Pafiliwn ag anarchiaeth caeau Maes B am y tro cyntaf. Ond dydy hynny ddim yn golygu na fydd y rheiny’n gadael prif babell y brifwyl â gwên lydan ar eu hwynebau.


Pedwar Artist

Mae pedwar artist eleni, nid tri, ac er bod hynny’n teimlo fel gormod o ystyried bod tri wedi bod yn berffaith y llynedd, mae lle am fwy o amrywiaeth. Er i’r Eisteddfod ddod o dan y lach eleni am eu cynrychiolaeth o ferched y sîn yn lein-yp Maes B, mae’n hynod braf gweld merch yn hawlio’r llwyfan ym Môn. Ac am ferch i wneud hynny hefyd – rydym ni eisoes wedi clywed Alys Williams yn cael ei chyfeilio gan Gerddorfa’r BBC eleni, a bydd yn sicr yn brofiad anhygoel cael clywed y cyfuniad hwn yn fyw.

Mae Yr Eira wedi lansio eu halbym cyntaf nhw eleni – ac mae yna gryn feddwl wedi mynd y tu ôl i’w gwneuthuriad, i sicrhau bod modd eu gosod ar wahan i’w cyfoedion yn nhermau eu sain a’u cymeriad. Bydd yn ddiddorol gweld sut y bydd y caneuon newydd yma’n cyd-fynd â’r gerddorfa, a bydd yn rhaid iddynt sicrhau nad yw eu perfformiad yn un swil, gan achosi iddynt gael eu boddi gan y gerddorfa. Yn yr un modd, mae Yws Gwynedd yn ddewis poblogaidd i droedio’r llwyfan. Er ei fod, hefyd, yn un o’r artistiaid a ymddangosodd yn nathliadau’r BBC eleni, bydd tiwns oesol yr ‘ogyn o ‘Stiniog yn sicr o ysgwyd y Paf i’w seiliau.

Er hyn – heb os nac onibai, set llefarydd unig ein sîn Hip Hop yma yng Nghymru, Mr Phormula, fydd y mwyaf diddorol. Mae’r samplau offerynnol, cerddorfaol ar rai o draciau’r rapiwr – Un Ffordd, yn enwedig – yn cynnig eu hunain yn wych i’r Welsh Pops Orchestra. Mae cyfle i gerddor mwy amgen, er nad yw yn israddol o gwbl i’r gweddill, wneud ei farc ar y llwyfan – ac mae hwn yn gam hyd yn oed mwy radical i’r Eisteddfod na rhoi cyfle bandiau indi-roc i serennu yn eu prif babell.

Mae’r offeryniaeth ychydig yn wahanol hefyd – mae sï y bydd yr Welsh Pops yn dod ag adran chwyth hefo nhw y tro hyn. Rhodda hyn fwy o sgôp i Owain Llwyd greu trefniannau mwy arbrofol a chymhlethach. Er nad ydw i’n gymaint o ffan a’r clarinet, dywed, ag ydw i o’r corn Ffrengig, ac er na fydd sain yr obo yn achosi i un fod isio rhoi ei ffrind ar ei gefn a dawnsio’n wirion fel y gall y trombôn neu wneud hynny, ‘dw i’n siŵr y bydd modd iddynt fod yn hynod effeithiol.


Ail-Fyw y Fenni

Ond, i chwi’r rhai sydd am ail-fyw y llynedd ychydig bach yn eich pennau, neu i’r rhai ohono chi sydd am flas o’r hyn a ddigwyddodd draw yn y Fenni, na phoener. Nid yw’r holl beth MOR wahanol a hynny – yr un wynebau welwch chi fwy neu lai. Bydd Ifan Davies o Sŵnami yn dychwelyd unwaith eto gyda’r Eira ac Yws Gwynedd, ac Osian Williams o Candelas yn ymddangos gydag Alys Williams, gan drefnu rhannau’r gerddorfa i’w caneuon hi. Bydd y feiolinydd gor ddramatig y trydydd i mewn i’r chwith yn yr ail res yna eto eleni, a bydd wyneb cyfarwydd Owain Llwyd yn cadeirio’r llwyfan unwaith eto. Gewch chi smalio eich bod yn y Fenni hefyd, gan ddychmygu mai cannoedd o hwntws yw’r cannoedd o Fonwysion fydd o’ch cwmpas wythnos nesaf.

Ond os mai eich syniad o ‘well’ yw rhywbeth mwy amrywiol, mwy arbrofol, dyma gewch chi ym Modedern nos Iau nesaf. I’r rhai ohonoch sydd yn ysu am gael dod i weld ail gig y Paf, yn anffodus, mae’r tocynnau wedi hen fynd. I’r rhai ohonoch sydd yno – welwn ni chi am 8 o’r gloch! Er nad yw’r drefn swyddogol wedi cael ei chyhoeddi eto, mae SaS yn dyfalu mai dyma sut y bydd hi: Yr Eira i agor, i gynhesu’r gynulleidfa fel y gwnaeth Sŵnami llynedd, Alys Williams i ddilyn, a Mr Phormula i greu cynnwrf cyn i Yws Gwynedd gloi. Cawn wedyn adael y Paf yn feddw ac yn trafod os mai Super Furries yw’r dewis gorau ar gyfer Gig Paf 3.

Edrych ymlaen eto!

Ddim yn siŵr beth i’w wneud yn y ‘Steddfod ar wahân i’r gig yma? Eisiau rhywbeth ychydig yn wahanol? Dyma beth mae Chris Roberts yn ei awgrymu!

Pedwar i’w Gwylio – Eisteddfod 2017

CHRIS ROBERTS

4ig Steddfod

Ydi wir! Mae hi’n wythnos yr Eisteddfod unwaith eto! Mae arlwy’r Brifwyl o gerddoriaeth gyfoes wedi tyfu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae hi bellach yn anodd cadw trac yn union ar bwy sydd yn chwarae pryd a lle (da o beth yw’r dewis hyn, wrth gwrs!). Felly, dyma ni’n ôl i’ch cyfeirio at bedwar uchafbwynt! Rydw i wedi ceisio osgoi mynd am yr enwau mwyaf amlwg ac wedi dewis pedwar peth nad oeddech wedi eu highlightio ar yr amserlen yn barod, efallai.


Adwaith

Llwyfan y Maes / Dydd Mawrth, 8fed o Awst / 15:00

Mae llawer o sôn wedi bod am gyn lleied o ferched sydd yn chwarae yn Maes B eleni ond wrth edrych ar y llwyfannau eraill, mae’r darlun ychydig yn well. Brynhawn dydd Mawrth, bydd un o fandiau newydd mwyaf cyffrous Cymru yn camu ar lwyfan perfformio’r Maes i arddangos eu cerddoriaeth indie sydd yn cŵl heb ymdrech. Mae Hollie, Gwenllian a Heledd wedi ennill llwyth o edmygwyr ers rhyddhau eu sengl gyntaf llynedd gan gynnwys Rhys Mwyn a Dave a Pat o Datblygu. Os hoffech weld pam, ewch draw i’w gweld nhw brynhawn Dydd Mawrth!


Omaloma

Llwyfan y Maes / Dydd Iau, 10fed o Awst / 18:15

Heb os, Aros o Gwmpas ydi un o anthemau Haf 2017 – dwi eto i gyfarfod rhywun sydd ddim wrth eu bodd hefo’r gân. Mae dipyn o gynnwrf, felly, am set Omaloma amser te Dydd Iau. Gobeithio y gwnaiff George Amor a’r band lwyddo i ddenu’r haul a thipyn o dorf i wrando ar eu pop hafaidd. Yn ogystal ag Aros o Gwmpas mae dwy sengl gyntaf y band Ha Ha Haf ac Eniwe yn berffaith ar gyfer yr achlysur. Rydym wedi clywed adroddiadau da am set Omaloma yn Latitude ac yn gobeithio y gallent roi perfformiad cystal yn yr Eisteddfod.


Noson REU 25!

Y Traeth / Nos Wener, 11eg o Awst / 18:30

Doeddwn i heb gael fy ngeni pan gladdwyd REU ym Mhontrhydfendigaid yn 1992 felly dwi’n edrych ymlaen yn arw i brofi’r ffenomenon ddaru ‘sgubo Cymru yn y 90au cynnar. Roedd y rêf ar y Maes yn un o elfennau mwyaf trawiadol yr Eisteddfod llynedd. Roedd yr ardduniadau yn hyfryd a’r gerddoriaeth yn wahanol i unrhyw beth arall glywais i drwy’r wythnos. Bydd cerddoriaeth dawns Gareth Potter a Twinfield yn antidot perffaith i’r caws ar y prif lwyfan. Cofiwch bacio eich sandals a’ch glowsticks!


Hyll

Maes B / Nos Wener, 11eg o Awst

Wythnos dwytha’ ddaru Hyll rhyddhau eu EP cynta’ ar label JigCal. Mae’r EP yn llawn o anthemau roc a rôl egnïol gyda geiriau gwyrdröedig a hiwmor tywyll. Mae’r lansiad swyddogol yn digwydd yn Caffi Maes B, 15:30 Dydd Mawrth ond dwi’n credu bod angen gweld Hyll gyda’r sŵn wedi ei droi fyny i un ar ddeg i’w gwerthfawrogi yn llawn. Maes B yw’r lle perffaith ar gyfer hynny!

I weld rhestr cyflawn o’r artistiaid sydd yn chwarae ar y llwyfannau a drefnir gan Yr Eisteddfod ewch i eisteddfod.cymru. Yn ogystal, bydd nifer o berfformiadau eraill yn digwydd o gwmpas y maes ac yn yr ardal gyfagos!