Endaf ac Ifan Pritchard – Dan Dy Draed

Owain Williams sy’n holi Endaf ac Ifan Pritchard am sut mae gwneud sŵn wrth fodoli’n ddistaw. Gallwch ffrydio eu sengl newydd ar waelod y dudalen.

CLR 2OVRL-01-01

Yn gynhyrchydd, DJ, cymysgydd a sylfaenydd label, mae Endaf drwy’r amser yn brysur.  Dyma gyfle i’w holi am holl agweddau ei waith

Mewn cyfnod ychydig yn wahanol i ni i gyd wrth i ni hunan ynysu. Wyt ti’n dod i arfer gydag amser?

Mae ’na pro a cons fel DJ / cynhyrchydd yn ystod y cyfnod yma. Ar un llaw mae pob un gig wedi canslo (gutted) ond ar y llaw arall mai’n braf cael amser i ganolbwyntio ar greu tiwns newydd a mae ‘na lawer o diwns newydd ar y ffordd diolch byth. Mae perfformio dros live streams o’n stiwdio wedi bod yn cool ond rhaid imi gyfadda, dwi’n edrych ymlaen at y gig cyntaf yn ol. Sgenai’m syniad faint o effaith mae’r cyfnod yma am ei chael ar artistaid yn y tymor hir – fydd hi’n ddiddorol gweld os fydd bob dim yn mynd nol i normal.

Wrth gwrs! Digon hawdd fyddai meddwl bod y cyfnod hwn yn gyfle euraidd i artistiaid greu ac i gynhyrchu. Er, mae genna’i deimlad eitha’ da nad yw’r fformiwla mor syml â hyn o hyd…

Fel artist dwi bob tro’n rhoi fy hun o dan bwysa’ i greu, felly tydi’r teimlad yna ddim byd newydd imi.  Dwi wedi bod yn eitha tawel ar social media – mai’n braf cael amser i ffwrdd weithia achos mae o’n eitha full on gennai ar adegau. Rhwng chdi a fi dwi wedi bod yn ofnadwy o gynhyrchiol!

Cyffrous! Rhwng yr holl gynhyrchu a’r cymysgu, dwi’n tybio bod yr elfen o foddhad yn eitha’ pwysig i dy waith?

Gyda perfformiadau byw, ti’n cael instant feedback a dwi’n methu’r elfen yna ar hyn o bryd. Ond, mae cynhyrchu tracs yn dod a mwy o satisfaction imi – bosib achos yr holl amser sy’n mynd mewn i orffen trac a’i rhyddhau hi wedyn. Y teimlad gora ydi pan dwi’n cael chwarae un o’n tracs newydd i mewn DJ set.

Law yn llaw â’r creu, es di ati ‘llynedd i sefydlu label dy hun. I le mae’r label wedi mynd a chdi?

High Grade Grooves ydi enw’r label a mae’r syniad wedi bod yna ers blynyddoedd ond neshi take the plunge blwyddyn dwytha. Y bwriad ydi rhyddhau tracs fy hun a chynhyrchwyr eraill o Gymru ‘dan enw’r label. Dechreuodd HGG fel ‘club night’ lle fyddai’n bwcio DJ’s gwahanol i chwarae a mae o wedi mynd a fi i glwbiau nos ym mhobman – a dwi dal yn ffeindio rhai newydd hyd heddiw.

Sut brofiad ydi hyrwyddo dy gerddoriaeth dy hun?
Mi oedd hyrwyddo fy hun yn awkward i ddechrau ond dwi wedi dod dros hynna bellach. Dibynnu ar yn mood i, dwi rhwng introvert ac extrovert dwi’n meddwl felly mae’n haws ar adegau ac yn anoddach ar adegau eraill! Mae defnyddio’r enw High Grade Grooves yn helpu hefyd achos ma’n rhoi dipyn o annonymity i fi.

Dwi’n cofio gweld dy glip ‘Trac mewn 10 munud’ ambell i flwyddyn yn ôl – ers hynny dwi ‘di bod yn cadw llygad ar y traciau ti’n bwydo i mewn i Soundcloud. Faint o chwant arbrofi sydd gen ti?

Fedrai’m helpu fy’n hyn a deud y gwir. Hanner y pleser o greu creddoriaeth ydi arbrofi efo synnau, gêr a plug ins newydd.  Mae’n set up i wedi tyfu eitha dipyn ers hynny a’r prif reswm oedd imi gallu chwarae’n fyw yn ogystal a DJo. Gymerodd o fisoedd i fi greu a programmio’r ‘Live Set’ lle dwi’n defnyddio Drum Machine, Synths, Samplers, Sequencers, Effects a MIDI Controllers – lot gormod o cables! Dwi’n dipin o geek pan maeo’n dod i betha felma.

Mae gan BBC Gorwelion enw da am gefnogi bob mathau o artistiaid a ges di dy gynnwys ymysg y deuddeg ar y prosiect eleni. O ran effaith ar dy waith, faint o hwb mae Gorwelion wedi bod?

Oni’n gwybod am Gorwelion achos cwpwl o flynyddoed cynt geshi’r Launchpad Fund i helpu fi brynu kit i’r stiwdio. Mae Bethan Elfyn wedi bod yn cefnogi ‘ngherddoriaeth am rhai blynyddoedd ‘fyd felly neshi rhoi jyst cais i mewn a croesi bysedd.  Mae’r cynllun wedi bod awesome – y gigs, cynadleddau a’r cysylltiadau dwi wedi ei wneud yn class, ond yn fwy na dim, trwy Gorwelion neshi ffeindio’r hyder i adael fy swydd llawn amser er mwyn imi ganolbwyntio ar yrfa mewn cerddoriaeth.  Roedd hynny yn game changer go iawn!

Da! Dwi’n clywed dylanwadau Flume, FKJ a Cosmo’s Midnight yn dy stwff diweddar – yw rhai o’r artistiaid hyn yn dy ysbrydoli di yn uniongyrchol o gwbl?

100%. Dwi’n gwrando ar yr artistiad yma fflat out deud gwir! Ers i fi gychwyn y set byw dwi’n trio canolbwyntio ar gerddoriaeth mwy upbeat ar gyfer y clwb ac un peth sy’n gyson rhwng y traciau i gyd ydi’r elfen o jazz – chords a synau tebyg i FKJ. Dwi’n trio neud tracs fedri di ddanwsio iddyn nhw yn y clwb ond hefyd mwynhau adref.

Elfen ddiddorol i dy waith di ydi’r gwahaniaeth amlwg sy’n perthyn i dy gasgliad. O lonyddwch ‘Rest of Me’ i’r stwff mwy electronig/house yn ‘Feel It Now’ er enghraifft. Wyt ti’n credu ei fod yn bwysig i beidio a chyfyngu dy hun i arddull penodol?

Dwi wrth fy modd yn creu mathau gwahanol o gerddoriaeth ond yn ddiweddar dwi wedi bod yn canolbwyntio ar y stwff House / Electronic achos dyma’r math o beth fyddai’n chwarae pan dwi’n Djo. Mae’n set byw i wedi galluogi i fi ail-gymysgu traciau chilled gyda rhai mwy House & Electronic. Fydd ‘na un neu ddau newydd yn dod allan cyn hir felly cadwch lygad!

Mae’n eitha prin gweld remixes yn y Gymraeg – sut brofiad oedd hi i weithio ar y sengl ‘Disgwyl’ gyda’r dyn ei hun, Ifan Dafydd?

Dwi’n ffan mawr o Ifan Dafydd, ac wedi bod ers imi ddarganfod ei gerddoriaeth o felly on’i’n chuffed i gal o draw i’r stiwdio efo fi i weithio ar ‘Disgwyl’. Be sy’n braf ydi ei fod o’n hawdd i weithio efo – fo nath chwara’r synth chords a’r guitar fas ar y trac. Oni’n gwybod yn syth ar ol iddo adael bod y trac am fod yn class! Gobeithio alla’i weithio efo fo eto yn y dyfodol!

Y sengl ddiweddara – Dan Dy Draed efo Ifan Pritchard. Pwy welodd honna’n dod! Be alli di ddeud wrthym ni am y broses o’i chreu?

Neshi glicio efo Ifan yn syth pan nes i ei gyfarfod o drwy Gorwelion. Mae be mae o’n neud mor wahanol i fi ond oni’n gallu deud ei fod o’n greadigol o’r munud cynta’. Fel cynhyrchydd neshi nodyn i fi fy hun ar y diwrnod cyntaf o’i gyfarfod – ‘dwi angen neud trac efo’r boi ma!’  So dyma fo’r trac ar fin dod allan, a ‘da ni’n rili hapus efo’r canlyniad.  Hawdd gweithio efo Ifan, neshi yrru’r trac draw idda fo a’r wythnos wedyn, oedd o yn y stiwdio yn recordio’r vocals, no messing!

Diolch Endaf!

Ifan Pritchard yw prif leisydd un o’r bandiau mwyaf poblogaidd yn Nghymru ar hyn o bryd, Gwilym. Mae’n siarad hefo ni am y broses o weithio ar drac ychydig yn wahanol i’r arfer

Felly Ifan, sut beth oedd hi i weithio gyda Endaf?

Ma’ Endaf yn genius. Mae o wasdad mor hawdd gweithio hefo cerddorion sydd yn hollol glir i ba gyfeiriad mae eu creadigrwydd nhw’n mynd.

Mae ‘Dan Dy Draed’ yn drywydd cwbl wahanol i bop pur dy fand felly sut brofiad oedd hi i arbrofi gydag hon?

Oedd sgwennu ar gyfer trac sydd ddim yn cynnwys oleia’ un guitar yn wahanol brofiad imi, ond unwaith neshi gyrraedd y sdiwdio nath bob dim jysd clicio. Y nod oedd sgwennu alaw a geiria’ oedd yn ffitio o amgylch y trac offerynnol, yn hytrach na’r ffor’ arall rownd. Rhwng gwybodaeth Endaf o arddull top-liners ar traciau house, a fy ngallu i falu cachu hefo alawon a geiria’ tan ma’ wbath yn sticio, ma’r trac ‘di troi allan i fod yn rwbath sbeshal iawn ‘uda i!

Ar hynny felly, a’i profiad hollol newydd oedd hi i weithio ar drac lle gafodd y gerddoriaeth ei ‘sgwennu yn barod?

Pan ma’n dod i sgwennu’r geiria’, ia fi nath’u sgwennu nhw, ond eto, ma’r geiria yn sicr yn ymateb uniongyrchol i’r gerddoriaeth. Wrth sgwennu i Gwilym, fel arfer ma’r ddau yn dod law yn llaw, ond ar gyfer ‘Dan Dy Draed’ oedd o’n braf arbrofi hefo arddullia’ canu electronig, a meddwl be fysa’n gneud i’r gynulleidfa ddeffro’n ganol nôs yn canu un llinell o’r alaw a mynd “o be ma hwnna?”.

Deffinet! Mae’n glir gweld bod brawdoliaeth wedi’i magu yn y broses o ysgrifennu’r sengl. .

Fedrai’m diolch i Endaf ddigon am y profiad, a gewchi ddisgwyl mwy genna ni yn y dyfodol yn sicr!

Diolch am y sgwrs a phob hwyl gyda’r ymateb i’r sengl!

Edrych ymlaen i bawb ei chlywed hi!

A dyma eich cyfle! Ffrydiwch Dan Dy Draed gan Endaf a Ifan Pritchard fan hyn!

Endaf · Dan Dy Draed – Endaf & Ifan Pritchard

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s