Parti Lansio Map Meddwl – Yr Eira

Map Meddwl

Mi fydd Yr Eira yn rhyddhau eu hail albym ‘Map Meddwl’ Dydd Gwener 15fed o Fai. I ddathlu’r albym yn cyrraedd y byd mi fydd y band yn ymuno a Sôn am Sîn ar gyfer parti lansio arbennig Dydd Iau’r 14eg!

Am 20:15 mi fydd yna gyfle cyntaf i wrando ar yr albym a chyfle i gyd-wrando a dysgu mwy amdani wrth i ni gynnal ‘Parti Gwrando’ ar Twitter. Dilynwch a chyfrannwch i’r hashnod #MapMeddwl

Yna am 21:00 mi awni’n fyw ar dudalen Facebook Sôn am Sîn. Fe fydd Chris Roberts a Gethin Griffiths yn holi’r band, ac ambell i westai arbennig, am y broses o greu a rhyddhau’r albym.

Dani yn hynod gyffrous i gael bod yn rhan o’r dathliad arbennig yma! Er fod petha ychydig yn wahanol ar hyn o bryd mae’n gyfle da i ni ddod at ein gilydd i ddathlu albym newydd gan un o’n hoff fandiau!  Albym gyntaf Yr Eira, Toddi, oedd ein Albym y Flwyddyn yn Gwobrau SAS 2017 felly dani’n falch iawn o weld Map Meddwl yn cael ei ryddhau!

Gallwch archebu’r albym a llwyth o nwyddau arbennig o https://yreira.bigcartel.com/

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s