Mi fydd Yr Eira yn rhyddhau eu hail albym ‘Map Meddwl’ Dydd Gwener 15fed o Fai. I ddathlu’r albym yn cyrraedd y byd mi fydd y band yn ymuno a Sôn am Sîn ar gyfer parti lansio arbennig Dydd Iau’r 14eg!
Am 20:15 mi fydd yna gyfle cyntaf i wrando ar yr albym a chyfle i gyd-wrando a dysgu mwy amdani wrth i ni gynnal ‘Parti Gwrando’ ar Twitter. Dilynwch a chyfrannwch i’r hashnod #MapMeddwl
Yna am 21:00 mi awni’n fyw ar dudalen Facebook Sôn am Sîn. Fe fydd Chris Roberts a Gethin Griffiths yn holi’r band, ac ambell i westai arbennig, am y broses o greu a rhyddhau’r albym.
Dani yn hynod gyffrous i gael bod yn rhan o’r dathliad arbennig yma! Er fod petha ychydig yn wahanol ar hyn o bryd mae’n gyfle da i ni ddod at ein gilydd i ddathlu albym newydd gan un o’n hoff fandiau! Albym gyntaf Yr Eira, Toddi, oedd ein Albym y Flwyddyn yn Gwobrau SAS 2017 felly dani’n falch iawn o weld Map Meddwl yn cael ei ryddhau!
Gallwch archebu’r albym a llwyth o nwyddau arbennig o https://yreira.bigcartel.com/