Yws Gwynedd a Awen Schiavone sydd yn ymuno a Chris Roberts a Gethin Griffiths i drafod y gerddoriaeth a’r datblygiadau sydd yn diffinio’r degawd ddiwethaf mewn cerddoriaeth cyfoes Cymraeg. Recordiwyd y podlediad yma yn fyw o flaen cynulleidfa yn Clwb Canol Dre, Caernarfon fel rhan o Gŵyl Ddewi Arall 2020.