Mirores: Sgwrs hefo Ani Glass!

OWAIN WILLIAMS

Cawsom ragflas o ​MIRORES​ yn yr EP ‘Ffrwydrad Tawel’ yn 2017. Bellach, mae’r cnewyllyn artistig hwnnw wedi blaguro. Dyma’r Dyfodol, Dyma Ani Glass.

Ani

Sut deimlad yw rhyddhau corff hynod o waith i’r byd ar ôl i ti berchnogi, datblygu a pherffeithio’r sain?
Mae’n deimlad hynod braf, rhaid dweud. Y Pencadlys wnaeth gynhyrchu fy EP cyntaf felly mae’r sain wedi datblygu eithaf tipyn ers hynny gan taw fi wnaeth gynhyrchu’r albwm. Er bod naws electronig cryf i Mirores, mae yna gymysg pwrpasol o dempo a synau i adlewyrchu’r profiad o fyw mewn dinas.

Mae’r sôn am gynhyrchu albym yn ei chyfanrwydd yn dyddio yn ôl ambell i flwyddyn, yw natur y casgliad wedi addasu ar hyd ei chwrs?
Dim mewn gwirionedd, mi ydw i wedi bod yn eithaf cyson o ran fy ngweledigaeth ac er bod yna ambell gân wedi mynd a dod oddi ar yr albwm, mae’r cyfeiriad o ran teimlad a naws wedi bod yn gwbl glir yn fy mhen.

Mae elfen amlgelfyddydol gref yn perthyn i’r casgliad, gan ystyried mewnbwn artist/ffotograffydd Carys Huws, a’r defnydd o interludes i greu ymdeimlad dynamig o fyw yng nghanol prysurdeb y Ddinas. Sut wyt ti’n treuddio dy greadigrwydd – boed yn weledol neu’n gerddorol i mewn i dy gerddoriaeth ac o le y daw’r ysbrydoliaeth?

Fe wnes i astudio ffasiwn yn y coleg felly mae’r hyn a ddysges i ynglŷn â lliw, siapau a delwedd yn dal i gael dylanwad arna i. Felly pan fyddai’n cyfansoddi caneuon fe fydd yr elfen weledol yma yn aml yn dod ar yr un pryd. Mi oedd yn grêt gweithio gyda Carys achos er bod gen i syniadau clir o ran lliwiau, steil, delwedd a’r cyfeiriad artistig, nid ydw i’n un sy’n deall ffilm a strwythuro fideo yn dda iawn felly roedd gallu gwireddi’r holl syniadau hyn trwy gydweithio ag artist arall yn brofiad gwbl ffantastig. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mi ydw i wedi dechrau teimlo mwy o ryddid creadigol i arbrofi. Mae lot o hyn yn ymwneud gyda hyder ac oedran wrth i mi ddysgu sut i ymateb yn ymarferol at y teimlad o ofn a methiant. Mae gweld eraill yn mentro yn rhoi gymaint o hwb i mi felly’r gobaith yw y gallaf basio’r teimlad yma ymlaen rhywsut.

Mae’n deg dweud bod y byd wedi newid eitha’ tipyn ers iti gyflwyno Ffôl / Little Things yn 2015 a’r EP yn 2017 – datblygiadau gwleidyddol, yr Ewros a’r hinsawdd i enwi llond llaw… Faint o effaith y mae materion o’r fath yn eu cael ar dy waith a dy weledigaeth i greu?

Mi fuaswn i’n tybio bod yr holl bethau hyn yn cael cryn ddylanwad ar waith pawb. Does dim o angenrheidrwydd angen canu yn uniongyrchol am wleidyddiaeth neu drafod materion cyfoes yn llythrennol i adlewyrchu’r gymdeithas o’n cwmpas. Er fy mod yn ymddiddori’n fawr yn y pethau hyn, fy mwriad bob tro yw ceisio cyfleu’r materion hyn trwy naws a theimlad y caneuon mewn modd mwy cysyniadol a haniaethol. Yn fy marn i, mewn cyfnodau annod fel hyn, mae creu a dychmygu bydoedd bach eraill a ffyrdd gwahanol a gwell o fyw yn ffordd ymarferol a phositif iawn o ymateb i’r dryswch o’n cwmpas – dyna pam fod y celfyddydau mor bwysig.

A’i arsylwad gwrthrychol o’r byd sydd ohoni yw’r albym?

Nes i ymuno â Gorsedh Kernow yn 2013 ar ôl i mi ddychwelyd adre i Gymru ar ôl cyfnod hir o fyw yn Lloegr. Dyma, mewn gwirionedd, oedd dechrau fy siwrnai at ddarganfod, deall a pherchnogi fy hunaniaeth. Fy enw barddol yng Ngorsedd Cernyw yw Mirores ac fe wnes i weithio gyda Dad i’w chreu – mae’n gyfuniad o enw un o fy hoff artistiaid – Joan Miró – a’r gair Cernyweg am edrych sef ‘miras’. Felly mae’r enw barddol a theitl yr albwm yn cynrychioli’r profiad o ail-ddarganfod dy hunaniaeth a’r effaith mae hyn yn ei gael ar dy weledigaeth.

Ani Glass Taith

 

Faint o ddylanwad creadigol mae bod yn amlieithog yn ei gael wrth lywio dy hunaniaeth arbennig?

Mae Dad yn fardd Cernyweg ac felly mae’r cysyniad o weithio’n greadigol gyda’r iaith wedi bod yno erioed ond mae wedi cymryd peth amser i mi ddod o hyd i’r cyfrwng cywir. Mae’n iaith hynod o hardd ac fe ellir clywed ei gwreiddiau Celtaidd hynafol yn atseinio’n glir yn y geiriau – braint yw gallu ei defnyddio.

Mi wnes di benderfynu gwneud yr holl waith ysgrifennu a chynhyrchu dy hun – faint o hwb fuodd hyn i gyfeiriad yr albym?

Rydw i wedi bod yn awyddus i ddeall pob rhan o’r broses o greu cerddoriaeth ers amser maith ond, yn y gorffennol, wedi peidio mentro yn llawer pellach nag ysgrifennu’r caneuon. Rhaid dweud hefyd fod lot o hyn yn ymwneud â hyder a’r ffaith mod i wastad wedi fy narbwyllo fod rhywun arall yn gwybod yn well. Fe gymrodd lot o amser i gyrraedd pwynt lle roeddwn â digon o ffydd yn yr hyn yr oeddwn wedi ei greu i allu ei rhannu ag unrhyw un. Y tu hwnt i hyn, yn ymarferol, mae’n llawer haws peidio gorfod bod yn or-ddibynnol ar bobl eraill.

Gyda chynyrchiadau tyner, er pwerus, mae elfen o nostalgia yn perthyn i’r pop electronig – y Peirianwaith Perffaith wedi’r cwbl. A faset ti’n cytuno yn hyn o beth?

Yn bendant. Y bobl gyntaf i mi weithio gydag yn fy ngyrfa gerddorol oedd Andy McKluskey o’r band OMD a Martin Rushent sef un o gynhyrchwyr electronig mwyaf dylanwadol yr 80au. Felly mae’r profiadau hyn, heb os, wedi cal dylanwad mawr iawn arna i. Dwi hefyd yn hoff iawn o gerddoriaeth electronig y cyfnod yn cynnwys pobl fel Jean-Michel Jarre a’r Pet Shop Boys a chynhyrchwyr fel Giorgio Moroder a Trevor Horn.

Ges i’r cyfle i weld dy set hyfryd yn Sound City ac yn Future Yard y llynedd – oes gwyliau ar y gweill eleni i ddilyn dy daith o amgylch Cymru?

Mi fyddai’n chwarae mewn ambell ŵyl dros yr haf ac yn gobeithio datblygu’r set wrth i mi wneud mwy o gigs. Roedd yn hyfryd cae sawl cyfle i chwarae yn Lerpwl y llynedd – es i i’r coleg yno felly mae gen i gysylltiad personol ac agos iawn gyda’r lle a’r bobl (a’r tîm pêl droed wrth gwrs!).

Allet ti grynhoi’r albym mewn brawddeg…

Byd bach cyflawn yn llawn golau a gobaith.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s