Hana2k: O’r ystafell wely i’r tonfeddi…

OWAIN WILLIAMS
Wedi iddi gipio Gwobr Triskel yng Ngwobrau’r Gerddoriaeth Gymraeg wythnos diwethaf, roedd rhaid bachu’r cyfle i gael darganfod mwy am yr optimistiaeth a’r sylwedd sy’n cuddio tu ôl i’w electro-pop prydferth – dyma HANA2K yn rhannu ei meddyliau am ei chreadigrwydd, ei hunaniaeth a’r rhwystrau sy’n parhau i fodoli yn y diwydiant cerddorol…

Hana 2k 1.png

Mae’n ddiddorol gweld dy fod wedi rhyddhau cyfres o senglau yn 2019, pa mor gyffrous yw hyn? 

Y ffocws i mi flwyddyn yma oedd jest i ddechrau rhyddhau mwy o’r caneuon ‘dwi wedi bod yn gweithio arnynt, i arbrofi ac i weld beth sy’n gweithio a gweld beth sy’n cael ymateb. Pan ti’n dechrau allan fel artist ma’ rhyddhau senglau yn caniatáu ychydig o arbrofi, lle mae albwm yn commitment llwyr i un cyfeiriad penodol – dwi ddim yn meddwl ‘mod i yn y sefyllfa yna eto. Ma’r byd pop yn genre yn ei hun, er mod i’n ymwybodol o’r dylanwadau cyfredol, dyw e ddim yn rhywbeth conscious, mae’n reddfol i fi greu caneuon yn y genre pop. Fi’n cael fy nghyflyru gan gerddoriaeth fel ‘ma, felly’n naturiol fy mod i’n creu cerddoriaeth fel ‘ma.

Gyda bron i 20,000 o wrandawyr misol ar Spotify, pam wyt ti’n meddwl bod y gerddoriaeth yn cysylltu efo gymaint o bobl?

Mae’n anodd rhoi fy mys ar unrhyw beth penodol pan mae cân yn dod yn boblogaidd. Fi byth yn meddwl am hyn wrth ysgrifennu, ti jest methu, neu os ti’n ysgrifennu cân yn meddwl am beth ma pobol yn mynd i licio, mae’n lladd pob creadigrwydd. Yn bersonol dwi’n ysgrifennu am fy nheimladau a fy mhrofiadau personol – unrhyw beth dwi’n teimlo’n angerddol amdano. Fi’n ysgrifennu er mwyn delio gyda fy nheimladau. I guess mae’n gwneud synnwyr bod pobol sy’n gwrando yn gallu uniaethu gyda’r syniadau yma. Mae’r profiadau dwi’n ysgrifennu amdanynt yn rhai ma’ pawb yn delio gyda nhw, felly falle mai hyn sy’n cysylltu pobl efo fy nghaneuon i?

Y sengl diweddara ‘Daydreaming’ – mae’r sain yn amlwg yn hafaidd ac yn fwy breuddwydiol na’r arfer. Sut nes di ddatblygu’r gân fel ‘ma?

Diolch! ‘Nath y gân ddatblygu o syniad cychwynol o freuddwydio, ac o ni’n gweithio gyda Tom Stafford ar y pryd – cynhyrchydd ifanc anhygoel. Fe wnaethom ni drafod y syniad o gyfleu teimlad hafaidd yn y cynhyrchiad, a thrio creu cân bop ysgafn hapus o ran naws. Mae’n grêt pan ti’n gweithio gyda rhywun sy’n gallu cydweithio, a gweld syniad a’r sain yn datblygu yn organig. Mae mor bwysig imi fod y cynhyrchu yn atseinio ystyr a theimlad y gân.

Nid yn unig wyt ti’n cynnig dy arddull unigryw yn ysgrifenedig, rydym ni’n gwybod dy fod yn cynhyrchu’r miwsig adref dy hun hefyd… 

Ie, nes i ddechrau cynhyrchu stwff adre, mwy na dim allan o frustration o orfod aros am demos nôl gan bobol eraill, a hefyd er mwyn dangos syniadau newydd i bobl. Nes i gynhyrchu “Jealousy’ a “Too Close” yn yr ystafell wely. Mae’n deimlad da rheoli popeth. Er hynny, mae’n dda pan fi’n cydweithio gyda chynhyrchydd a ddim yn gorfod meddwl am yr ochr technegol fi’n gallu ysgrifennu a chanolbwyntio ar y geiriau yn llwyr a dim yr EQ!

Sut ges di dy gyflwyno i’r gerddoriaeth yma?

Fy mhrif ddylanwadau yn sicr yw artistiaid o’r 2000s era– Britney Spears, Katy Perry, Christina Aguilera! Rwy’n tame’ bach o nerd pan mae’n dod i pop music yn y noughties. Fi erioed wedi gwrando ac ymchwilio lot yn y maes yma. Fi’n ymwybodol o bwy sy’ wedi ysgrifennu pa gân a phwy sy’ wedi cynhyrchu ar gyfer yr artistiaid. Fi’n meddwl am bobol fel Xenomania a Max Martin, fe yw’r cysywllt rhwng yr artistiaid yma, a fe yw brenin y byd pop!

‘Nes di ddefnyddio Soundcloud fel platfform i ryddhau dy gerddoriaeth o oedran cynnar. Sut mae hyn wedi arwain at ble wyt ti rŵan?

Do, oedd Souncloud yn cŵl ar y pryd, i fod yn onest. Heb label dyna’r unig ffordd oedd i ryddhau fy ngherddoriaeth ar y pryd. Fi’n meddwl mai MySpace oedd hi cyn hynny. Oedd yna lot o A&R’s yn defnyddio Soundlcoud i wrando ac i weld pwy oedd allan yna a ges i dipyn o sylw gan flogiau gwahanol yn gofyn am lincs i ganeuon trwy Soundcloud. Fi’n cofio lan lwytho i Soundcloud ac i BBC Introducing trwy app y BBC ond o’ni hefyd yn anfon lincs i flogiau a gwefannau o bobman –  o’ nhw wastad yn dod ‘nôl ag adborth positif, oedd e’n lot o hwyl. Mae pethau wedi newid erbyn hyn, ma’ rhyddhau cerddoriaeth lot haws, ond lot anoddach hefyd o ran torri trwodd a chysylltu gyda chynulleidfa yn uniongyrchol. Mae byd Spotify yn gymhleth, ac ma’ playlists wedi lladd lot o greadigrwydd a chyfleoedd i unigolion dorri trwodd. Ma pobl yn gwrando ar automatic pilot a ddim yn mynd i chwilio am artistiaid yn annibynnol. Mae fel petai’r labeli mawr yn rheoli eto, fel yng nghyfnod y 70/80/90au gyda radio!

Yn amlwg mi allai’r rhyngrwyd fod yn le negyddol ond wti’n teimlo bod y byd digidol wedi dy gyflwyno i gynulleidfaoedd gwahanol?

Yn sicr ma cerddoriaeth yn gallu teithio ymhellach, fi’n mwynhau edrych ar ystadegau Spotify a gweld pwy sy’n gwrando ar fy ngherddoriaeth. Ar y foment ma lot o fy ngwrandawyr yn dod o Awstralia, ma’ fe’n rhyfedd!

Hana 2k 2

Mae cynrychiolaeth bandiau gitâr y sîn Gymraeg yn gryf iawn heddiw, sut mae bod yn rhan o gylch ychydig llai amlwg a pha ddrysau mae hyn wedi’i agor?

Eto fi heb feddwl am hyn o’r blaen, ond fi’n meddwl bod pawb yn tueddu i gylchdroi mewn cylchoedd sy’n adlewyrchu eu taste personol. Drwy ryddhau caneuon pop, dwi wedi bod yn ffodus i ddal sylw cerddorion a chynhyrchwyr y byd pop. Dwi wedi cael profiadau gwych o weithio gyda chynhyrchwyr cŵl ac wedi dysgu lot ar hyd y blynyddoedd. Dim ond dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf dwi’n teimlo fy mod wedi bod yn rhan o sîn bop Caerdydd. Fi wedi cael y cyfle drwy bethau fel “Forte Music Project” a “Horizons / Gorwelion” i berfformio yn lleol. Mae yma sîn bach newydd o artistiaid, ysgrifenwyr a chynhyrchwyr pop yma yn ddiweddar a dwi wedi gweithio gyda hanner dwsin o fewn fy milltir sgwâr, a ma nhw wedi cydweithio gyda artistsiaid llwyddiannus iawn – pwy bydde’n meddwl bod nhw’n byw yn lleol! Fi’n meddwl bod yna lot mwy o barch tuag at y genre pop yn ddiweddar, fi’n credu bod pawb yn sylweddoli bod ysgrifennu can bop da yn anodd anodd iawn, fi dal i ddysgu!

Ti’n crybwyll ar brosiect Gorwelion sy’n amlwg yn cydlynnu rhestr faith o berfformiadau, gweithdai a chyfleoedd i rwydweithio gyda phobl dylanwadol y diwydiant. Faint o ysgogiad oedd hyn i ti?

O ni wastod wedi bod yn ymwybodol o Gorwelion, a gweld bands yn cael cyfleoedd da, felly nes i roi cais mewn eleni a llwyddo i gael fy nghynnwys fel un o’r 12. Mae yna lwyth o gyfleoedd gigio yn sicr, ac ma Gorwelion yn gwneud gwaith gwych wrth neud yn siŵr dy fod yn cael dy dalu’n deg! Ond hefyd fi’n gweld bod pobol yn cymryd ti fwy seriouspan ti ar Horizons, mae’n fath o accreditation bod pobol yn credu yno ti, a ma hynny yn help mawr wrth edrych am gyfleoedd newydd.

Ai dyma o ble ddaeth y cysylltiad efo PRS Women Make Music?

Nes i weld y cyfle PRS ar ôl bod mewn cynhadledd, a nes i lwyddo i gael grant ganddyn nhw i helpu gyda fy ngherddoriaeth. Mae’n enghraifft berffaith o annog merched i greu cerddoriaeth a rhoi hyder i ni fwrw ymlaen.

O ran cynrychiolaeth menywod yn y byd miwsig yn gyffredinol, yw’r rhwystrau yn parhau i fodoli? 

Mae’n anodd, fi’n meddwl bod merched yn lot fwy self-critical na dynion. Os dim ni yw’r gorau mewn rhywbeth, newn ni ddim rhoi ein hunain ymlaen – ni’n self-critical iawn ac mae hyder yn broblem wedyn. Fi’n credu bod cyfrifoldeb ar y diwydiant i annog merched i neud mwy ac i helpu yn ystod y cyfnod cyfredol. Unwaith ti’n dechrau gweld cynhyrchwyr sy’n fenywod  yn llwyddo ar y lefel uchaf, bydd mwy yn dilyn. Ma’ yna lwythi o artistiaid sy’n fenywod wedi llwyddo yn ddiweddar ac mae yna dwf enfawr sy’n ffab i weld.

Es di draw i Sweden yn ddiweddar i weithio ar gynnyrch newydd – gafodd hyn effaith ar dy greadigrwydd?

Mae’n debyg i Gymru ond odd e’n grêt cael bod mewn sîn newydd, sîn ffres, oedd y caneuon oni’n gweithio arno felly yn swnio’n ffres ac yn wahanol. Nath fy rheolwr gael cynnig imi ysgrifennu gyda’r bois yma o Sweden oedd draw yn Llundain gan fod rhywun oedd I  fod i weithio hefo nhw wedi tynnu allan munud ola. Ma hyn yn digwydd eitha’ aml a fi wastad lan am gyfle i greu rhywbeth newydd. Felly bant a fi i Lundain ac mi ‘naethon ni gyd gael laugh ac ysgrifennu lot o stwff. Felly ges wahoddiad i fynd allan i Stockholm. Mi wnes i wir syrthio mewn cariad gyda Stockholm – a mwy na dim y sîn bop yna. Ma’ pawb yn cŵl, ma’ pawb yn gwybod popeth am gerddoriaeth ac yn ‘nabod pawb. Fi methu aros am gyfle arall i fynd allan yna!

I ba raddau mae gweithio gyda chynhyrchwyr eraill wedi cael dylanwad arnat a sut brofiad oedd hi i gynhyrchu gyda’r aml-offerynnwr uchel-ei-barch John Calvert (Nao, Kwabs, Billie Black)?

Odd gweithio gyda John yn brofiad gwych, nath fy rheolwr anfon linc o fy nhraciau iddo fo, ac oedd e’n keen i gydweithio. Mae’n gynhyrchydd eitha cŵl. Nes i weithio gyda fe ar un gân ac oedd hi’n really arbrofol – nes i bron ysgrifennu albwm cyfan gyda fe. Dwi’n gweithio mewn lot o ffurfiau gwahanol i fod yn onest, ‘sdim set rules. Weithiau dwi’n gweithio gyda chynhyrchydd wrth rannu voice note yn unig fel cnewyllyn syniad. Ar adegau eraill mae’r gân wedi’i hysgrifennu yn barod ac mae’r cynhyrchydd yn cyflwyno beat a ‘dan ni’n mynd o fana…

Mae’n cŵl gweld dy fod yn ymddangos ar sengl newydd Yxng Jamz – sut gododd y cyfle yma?

Nath fi a Jamz gwrdd pan odd e’n gweithio mewn stiwdio drws nesaf i fi yn Llundain a nath e ofyn os o ni am ymuno’r sesiwn! Naethon ni wedyn fynd ati i greu’r gân. Nes i wir fwynhau’r profiad o ysgrifennu mewn genre gwahanol i’r hyn fi’n arfer â hi.

O ‘Off The Record’ ym Manceinion i gig yng Nghlwb Ifor Bach yn ddiweddar – be allwn ni ddisgwyl o set byw Hana2k? 

Dwi wedi ffurfio band ar gyfer sioeau byw yn ddiweddar – eto, arbrofi gyda’r setup a gweld sut ma’ hynny’n gallu newid a sut ma pobl yn gwrando ar fy nghaneuon. Beth bynnag a ddaw, mae’n hwyl bod ar lwyfan gyda band byw, ma’r egni yn hollol wahanol i neud stwff electroneg!

Ac yn olaf oll, dy obeithion ar gyfer 2020?

Mae’n mynd i fod yn gyfle i rannu cerddoriaeth, falle trio creu casgliad o ganeuon, rhai sy’n fwy pop na’i gilydd, falle stwff acwstig, neud jyst fi a’r piano, mae’n agored ar hyn o bryd!

Merci x

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s