Alffa- Amen

Cyn i’r albym Rhyddid o’r Cysgodion Gwenwynig / Freedom from the Poisonous Shadows ddod allan ddydd Gwener… dyma gyfle cyntaf i ffrydio Amen’, fydd yn ymddangos arni!

Alffa Clawr.jpg

Ddwy flynedd yn ôl roedd Alffa yn ymarfer mewn festri eglwys yn Llanrug ger Caernarfon. Ers hynny, mae’r band wedi derbyn llif cyson o lwyddiant – ennill Brwydr y Bandiau ‘Maes B’ Eisteddfod Genedlaethol Cymru, ymuno â label Recordiau Côsh a derbyn cefnogaeth aruthrol gan Spotify. Maent wythnos yma ar drothwy rhywbeth mawr – rhyddhau eu albym cyntaf!

Alffa – enw addas ar gyfer band sydd wedi cyflawni cymaint o gampau mewn cyfnod mor fyr. Dal yn eu harddegau, nhw oedd yr artist cyntaf i gael trac yn yr iaith Gymraeg wedi ei ffrydio filiwn o weithiau ar Spotify. Ar hyn o bryd, mae ‘Gwenwyn’ wedi cyrraedd 3 miliwn, ac mae sengl Gymraeg arall y band a ryddhawyd wedi hynny o’r enw ‘Pla’ hefyd wedi cyrraedd y miliwn. Rhyddhawyd eu sengl Saesneg 1af ‘Full Moon Vulture’ ym mis Gorffennaf, ac mae honno hefyd wedi profi cryn lwyddiant ar Spotify wrth hawlio’i lle ar rhestrau fel Walk Like a Badass ochr yn ochr â Arctic Monkeys, Black Keys a Foals!

Mae Rhyddid o’r Cysgodion Gwenwynig / Freedom from the Poisonous Shadows yn baradwys o riffs cyfarwydd, roc trwm, mor syml a mor syfrdanol. Mae curiadau’r drymiau fel tarannau sy’n ategu at synau gitâr tew sy’n eich taro fel dwrn. Ond, er mai’r sŵn sydd yn eich taro chi gyntaf, gwrandewch yn agosach a mae’r band yn delio ag amryw o themau o gariad i ddial, gydag un o’r uchafbwyntiau’n dod wrth iddynt ddelio â iechyd meddwl mewn ffordd cofiadwy, di-flewyn-ar-dafod.

Mae Dion a Siôn wedi bod yn awyddus iawn i ryddhau eu halbwm, prin yn gallu aros nes bod y torfeydd sy’n dod i’w gweld yn eu sioeau byw niferus yn clywed y traciau newydd. Mae’r band wedi cael blwyddyn ffrwythlon o gigio, yn cynnwys sioeau cofiadwy yn The Great Escape, noson hyfryd gyda’u ffan enfawr Michael Sheen yng Nghwpan y Byd Digartref, set bythgofiadwy yn Maes B, cyn gorffen yr haf yn chwarae i ystafell lawn yng Ngŵyl Sŵn Caerdydd. Mae dipyn o gyffro i glywed yr albym yn fyw ac mae ‘chydig o gyfleoedd i wneud hynny cyn diwedd y flwyddyn. Dani’n edrych ymlaen yn arbennig i’r gig yn Tŷ Glyndŵr Nos Wener – Mi fyddwn ni yno, yn holi’r hogia ac yn troelli tiwns rhwng setiau acwstig ganddyn nhw a Dienw! Welwn ni chi yna!

29/11 – Tŷ Glyndŵr, Caernarfon 
11/12 – Clwb Ifor Bach, Caerdydd / Cardiff (https://www.ticketweb.uk/event/alffa-clwb-ifor-bach-tickets/10035165?pl=clwb)
19/12 – The Fiddler, Llundain / London (https://www.seetickets.com/event/alffa/the-fiddler/1455944) 

Bydd Rhyddid o’r Cysgodion Gwenwynig / Freedom from the Poisonous Shadows allan ddydd Gwener a gallwch ragarchebu copi ar CD neu Finyl o www.alffaband.com. Gallwch chi glywed ein sgwrs ni efo Dion a Sion am yr albym ar y bennod nesaf o Y Sôn – allan yn fuan!

Ond cyn hynny i gyd, gwrandewch ar Amen:

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s