Ar ôl mwynhau gymaint flwyddyn diwethaf, aeth Chris a Geth draw i Gaerdydd ar gyfer Gŵyl Sŵn 2019!
Tra’r oeddan nhw yno, mi’r oedd ‘na gyfle iddyn nhw siarad hefo rhai o’r artistiaid oedd yn perfformio yn yr ŵyl – Casi, Eadyth, Hyll ac Ynys, yn ogystal â chael sgwrs gydag un o’r trefnwyr, Elan Evans.