Lewys – Dan Y Tonnau

Dyma cyfle cyntaf i glywed sengl newydd Lewys – Dan Y Tonnau

Dan y Tonnau Art

Yn ein gwobrau blynyddol, rydym ni’n edrych tua’r dyfodol a cheisio dyfalu pa fand fydd yn dod i amlygrwydd dros y 12 mis canlynol. Ar ôl eu gweld yn perfformio’n fyw ambell waith y llynedd, a hwythau ‘mond wedi cychwyn gigio ers ychydig fisoedd, roedd yn amlwg i ni y byddai Lewys yn fand i’w gwylio yn 2019….

Gan osgoi canmol ein hunain yn ormodol… felly y mae hi! Mae eu perfformiadau byw wedi denu llawer o sylw cadarnhaol yn ddiweddar, yn cynnwys perfformiad cofiadwy yn gig Cymdeithas yr Iaith yn Eisteddfod yr Urdd, Caerdydd a pherfformiad yn Sesiwn Fawr Dolgellau oedd yn nodi eu pen-blwydd cyntaf. Ble bynnag y maen nhw’n mynd, mae eu seiniau bywiog a’u rhythmau cymhleth yn denu ymateb egnïol gan y gynulleidfa.

Ond, nid drwy berfformiadau byw yn unig mae ennill dilynwyr. Mae’r dilynwyr hynny wedi bod yn disgwyl yn eiddgar am bedwaredd sengl y band, ond does dim rhaid oedi ymhellach! Yma, ar flog Sôn am Sîn, cewch glywed ‘Dan y Tonnau’ am y tro cyntaf!

Mi gymrodd y sengl dros ddeufis i’w recordio yn dilyn sesiynau o berffeithio’r cynhyrchu gyda Rich James Roberts. O ganlyniad i hynny, mae sain aeddfetach i hon o’i chymharu â’u senglau blaenorol. Bron iawn, mae’n gwneud i chi anghofio pa mor ifanc yw’r band, sydd ar fin dechrau eu blwyddyn gyntaf yn y Brifysgol. Mae pob un ohonyn nhw’n mynd i astudio cerddoriaeth, wrth gwrs, gyda Lewys Meredydd a Gethin Meilir yn mynd i astudio’r pwnc yn gyffredinol, a Iestyn Huw a Ioan Bryn yn mynd i astudio’r dryms a’r gitâr, yn y drefn honno.

Yn hytrach na bod yn brosiect unigol i’r prif leisydd, mae’r pwyslais erbyn hyn ar y pedwar fel band, ac mae sain y sengl newydd yn adlewyrchu’r ffordd y maen nhw wedi datblygu drwy chwarae’n fyw. Mae Dan y Tonnau yn llawn alawon bachog, a’r breakdown yw ymgais mwyaf llwyddiannus y band i gipio egni eu perfformiadau byw ar record hyd yma.

Yr arlunydd talentog Ellie Owen sy’n gyfrifol am y gwaith celf trawiadol sydd ynghlwm â’r sengl, a hynny mewn cyfnod lle y mae cerddorion yn tueddu i droi at artistiaid gweledol i gydweithio gyda hwy.

Daw hyn hefyd gyda’r newyddion cyffrous y bydd y band yn rhyddhau albwm cyn diwedd yr haf!

Bydd cyfle i chi weld Lewys yn gigio yn fan hyn yn ystod wythnos yr Eisteddfod:

6/8 – Llwyfan y Maes Eisteddfod Llanrwst

8/8 – Maes B Eisteddfod Llanrwst

9/8 – Caffi Maes B Eisteddfod Llanrwst

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s