EP Newydd Hyll

Mae Hyll wedi rhyddhau eu EP newydd nhw, ‘RHAMANT’. Cyfle i wrando am y tro cyntaf yma ar Sôn am Sîn!

hyllrhamant

Dros gyfnod y Nadolig yn 2017, mi aeth Chris a Geth yn fyw ar Facebook er mwyn cyhoeddi pwy oedd enillwyr Gwobrau SaS – eich hoff wobrau di-nod di-sail di-banel. Digwydd bod, yn ystod y flwyddyn honno, roedd un band wedi rhyddhau EP adawodd farc gwirioneddol ar y ddau ohonom ni, a digon oedd y marc hwnnw i gyfiawnhau rhoi dwy wobr iddyn nhw – un i’r EP, a’r llall i’r lyric yma – ‘Mae gen i ddeg sigaret i bara am byth os da chi’n credu mewn hud a lletchwith’. Byth ers hynny, mae enw Hyll wedi bod ar flaen ein tafodau ni, ac wedi’n gadael ni ddisgwyl yn eiddgar am fwy o gynnyrch ganddyn nhw.

Os nad oeddech chi ddigon blaengar i ddal y sengl ‘Diwedd Gwanwyn Tragwyddol Max Rockatansky’ ‘nôl yn 2016, mae’n debyg mai’r EP hwnnw oedd y tro cyntaf i chi glywed y band o Gaerdydd, pan y bu iddyn nhw ddatgan nad oes yna unrhyw beth tebyg i Ganja Cartref Mam. Os nad oedd Efrog Newydd, Efrog Newydd yn rhan o’ch rhestrau chwarae chi’n fuan wedyn, mae angen i ni eistedd i lawr i siarad.

Ar wahân i’r sengl Womanby, ddaeth allan yn gynharach eleni, dydan ni heb gael clywed rhyw lawer ganddyn nhw, ond peidiwch â phoeni – rydan ni’n cael o wefr o newid hynny, gan mai yma, ar Sôn am Sîn, ar y dudalen yma, y mae’r ffrwd cyntaf o’r EP newydd yn cael ei ryddhau!

Beth allwch chi ddisgwyl ar Rhamant? Mwy o lyrics craff dros riffs gitâr bachog? Cywir. Mae’r sain indie ysgafn yn parhau yn ‘Sai’n Siŵr’ ac yn ‘Gwrthgymdeithasu’, ac yn cynnig rhywbeth bach mwy myfyriol ar gyfer ‘Dydd a Nos’. Wedi dweud hynny, os ydych chi’n chwilio am rhywbeth ychydig yn wahanol, maen nhw’n mentro i fyd blŵs-roc trymach ar gyfer ‘Dyn Sbwriel’. A hithau’n ddwy flynedd ers yr EP cyntaf, cofnod o hanes pobl ifanc ychydig yn hŷn sydd yma, ond maen nhw’n parhau i fod yn ffres ac yn gyfredol, yn wirion ac yn ddifrifol.

Os ydych chi’n mwynhau beth ydych chi’n ei glywed ar y dudalen hon – pam na ewch chi i’w gweld nhw’n lansio’r EP draw yng Nghlwb Ifor Bach yng Nghaerdydd ar y 12fed o Orffennaf? Mae band cyffrous arall o’r ddinas, Sybs, yn ymuno â nhw, yn ogystal â’r band newydd Haze. Wrth gwrs, Garmon fydd yn darparu’r tiwns.

 

Bydd Rhamant ar gael o’r holl lefydd arferol ar y 12fed o Orffennaf.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s