Yr enigma y tu ôl i Pys Melyn…

OWAIN WILLIAMS

Mae Owain wrth ei fodd yn dod o hyd i artistiaid sy’n bodoli islaw’r arwyneb cyffredin ac mae’n dyheu am ddod i wybod mwy am eu crefft. Ers i Radio Cymru chwalu dirgelwch Pys Melyn y llynedd, mae wedi bod yn ysu cael gwybod mwy am bwy a beth sydd tu ôl i’r prosiect. Dyma’r enigma, Ceiri Humphreys, yn taflu goleuni ar ei grefft.

Mae gan bob artist lwybr unigryw o ran eu datblygiad creadigol. Eglura sut es di i’r cyfeiriad cerddorol lo-fi yma yn y lle cyntaf – gan ystyried ei fod yn fath o gynhyrchu sy’n hynod o brin yma yng Nghymru…

Diffyg profiad a mixio cachu odd brif ffynhonell y sŵn lo-fi‘ma, dwi’n meddwl. Do’ni ddim yn ymwybodol o unrhyw gyfeiriad penodol, oherwydd ar y pryd, roedd pysmelyn yn riw fath o ‘dump’ o bob syniad a bob arbrawf. Oedd y ffor’ yna o weithio’n rili liberating. Does ‘na byth nod penodol efo unrhyw syniad, unwaith ma rhywun yn trio roi llwybr ar drac, mae o’n cael ei gyfyngu ac yn swnio’n forced. Felly mae meddwl amdano fo fel dewis bwriadol o un steil fel lo-fi yn rong, dyna di’r swn naturiol ar y diwrnod.

Ydi’r sŵn lo-fi felly yn ganlyniad naturiol o ddefnyddio technegau cynhyrchu mwy arbrofol?

Mae gormod o fandiau Cymraeg yn defnyddio yr un stiwdios ac yn rhyddhau’r un fath o gerddoriaeth, yn enwedig yn y gogledd lle mae cyfleoedd i weithio efo pobl gwahanol a creu sŵn gwahanol yn fwy cyfyng achos demographic y lle. Mae’n rywbeth ‘naeth weithio yn dda cyn yr oes ddigidol ond wan ma pawb yn iwsio’r un production methods a mae bob dim yn swnio’n rhy lân, refineda ‘Radio Cymru Friendly’. Mae gweithio ar stwff dy hyn mewn stiwdio personol yn rhoi mwy o rhyddid i chdi ddod fyny hefo stwff mwy arbrofol. Mae’r swn lo-fi yn dod o iwsio gêr sydd ella ddim y gora’ ar gael a’r cyfyngiadau ma hynny’n ei roi. Mae synau a stwff newydd yn dod o ffeindio ffyrdd o gwmpas y problemau yna.

Mae’n rwbath eitha’ prin, gallu deud dy fod yn rhan o ddau brosiect mor wrthgyferbyniol eu natur mor fuan yn dy lwybr fel cerddor. Lle mae’r ffin rhwng FFRACAS a Pys Melyn?

I ni, mae FFRACAS wedi dod yn broject rhwystredig ‘chos ‘da ni ‘di bod yn chwara yr un caneuon ers dipyn, ac mae’r ysgol a ballu wedi ein rhwystro ni rhag gweithio ar set newydd. Da ni’n teimlo bod y ffaith ein bod ni wedi cychwyn mor ifanc, wedi rhoi sail i ni ddatblygu a dechrau prosiectau newydd. Yn yr un ffordd, mae’n amlwg bod newid mewn sŵn wrth i ni dyfu a datblygu am ddigwydd. Oedd pysmelyn i fi just yn ffordd o sort of ventio’r creadigrwydd, a just rhoi caneuon ar ei hanner i fyny heb feddwl pwy oedd am eu licio. Mae sŵn FFRACAS ‘chydig yn drymach, ac mae hynna’n dod o’r ffaith bod y caneuon yn dod o jamio fel grŵp yn fyw.

Felly, roedd y caneuon yn haws i chwarae yn fyw, ac o hynny – yn well recordio mewn stiwdios proffesiynol. Wrth i fi wella fy recordio, mae’r ffordd o greu cerddoriaeth wedi datblygu o jamio mewn room efo amps a stwff, i ddau neu dri (neu un ar adegau) ohona ni’n recordio ar y Mac. Mae’n beth naturiol felly bod y sŵn am fod mwy chilled.

Mae’n rhoi cyfle hefyd i ni ychwanegu offerynnau heblaw gitâr, bas a dryms, achos mae bod yn greadigol wrth jamio yn fyw yn cyfyngu pob aelod o’r band I’w offeryn ei hun. Mae ’na sŵn, proses recordio ac arddull hollol wahanol rhwng y ddau broject ond di hynny ddim yn golygu eu bod nhw hollol ar wahân. Er ei bod yn gwneud synnwyr i ganolbwyntio ar un peth ar y tro, mae wedi datblygu i fod yn brosiect i weddill y band hefyd bellach.

Bydd un o gigs prin Pys Melyn eleni yng Ngŵyl Y Dyn Gwyrdd – Wyt ti’n rhagweld unrhyw sialensiau wrth geisio perfformio’r math yma o gerddoriaeth yn fyw? Soniodd Griff Lynch yn ddiweddar am yr anhawsterau y mae creu miwsig o’r fath yma’n ei greu – oes barn tebyg gen ti?

Dwi ‘di siarad efo hogia 3 Hŵr Doeth i drio cael perfformiad byw o ‘Paradox (Grym Grim II)’, ond heblaw am hynny dwi’n eitha clueless. Dwi’n cymyd pwynt Mr Lynch, mae o’n anodd, yn enwedig i bobol skint a phobl sydd ddim isio defnyddio backing tracks (sydd bron yn waeth na meimio), ond doedd ein gig cynta’ ni ddim yn bad, mi oedd gena’ ni’r synau cywir diolch i midi keyboard a ‘chydig o cues ar Roland SPX, ballsy ar adegau, ond dal yn bearable.

Wrth ddarllen rhwng y llinellau, ydw i’n gywir i ddeud dy fod yn edrych ar berfformiadau byw (fel da ‘ni wedi’n cyflyru i feddwl) yn faich ychwanegol ac mai’r ochr cynhyrchu sy’n dwyn dy ddychymyg fwyaf?

Ma perfformio yn fyw yn gymaint o boen yn dîn i fi, ‘cos dwin canu pan dwi adra, ond dwi erioed di canu’n fyw. Tro dwytha i fi neud odd yn steddfod Nefyn pan oni tua 6/7 a nath hen bobl chwerthin arnai so neshi gerad off. Ma’n frustrating ond dwi wastad wedi isho rhoi lot mwy i’r gynulleidfa na just gig shit arall. Dwi’n meddwl fysa film screening yn well syniad. Dwisho datblygu’r syniad o ‘gig Cymraeg’ mewn ffor’ hollol newydd, os fysa amsar a pres yn caniatau fi. Pam ma bob dim yn mynd yn iawn ma gigs yn dda ond tan i ni ddod yn gyfforddus efo’r set newydd, fydd na bob tro wbath bach yn mynd yn rong i neu ni gerad off yn teimlo’n furstrated.

Ma’ yna archif nyyyts o hir ar dudalen eich SoundCloud sy’n cynnwys dros 70 trac, yn ymestyn dros sawl genre gwahanol o electronic i R&B i jazz; ydi hyn yn fwriadol?

Dw i ‘di bod yn gweithio ar albym ers Gaeaf 2017 a dwi’n gwella bob wsos, sy’n gret, ond pan ma standards fi’n codi, ma’n g’neud i bob cân arall swnio ddim cystal. Dyma di’r tro cynta’ i fi drio perffeithio rwbath tan dwi’m yn gallu meddwl am ddim byd arall. Ma’r SoundCloud mwy fatha cyfres o appetisers. Ond ma labelu miwsig, er bod hyn mor cliché, just yn confusiofi. Dwi ‘di cal fy rhoi o dan lot o labeli gwahanol ond dwi fy hun ddim yn gwbod sud ffwc i ddisgrifio fo. Alternative am wn i? Ma “synth-based” yn bach o broad brush, alli di ddisgrifio unrhyw dwat efo keyboard felna!

Gydag artistiaid arbrofol yn brin yng Nghymru a’r cyfleoedd ar gael iddynt yn llai prin fyth, eglura’r ‘ins and outs’ o fod yn ddafad ddu yn y cylch cerddorol Cymraeg…

Mae bywyd yr artist arbrofol Cymraeg yn gallu bod yn un unig. Does ‘na definitely ddim digon o gyfleoedd, ond fela ma’i. Dydy rhan fwyaf o’r cyhoedd Cymraeg ddim isio gwrando ar ddim byd rhy exciting ne’ maen nhw’n dechrau colli arni a ddim yn deall beth sy’n mynd ymlaen. Mae’r mwyafrif o bobol sy’n cefnogi fi yn artistiaid o rhyw fath, ond dwi’m yn meindio hynny. Ma meddwl am drio apelio i un demographic yn benodol, neu trio sgwennu cân ‘catchy’ yn methu’r pwynt o neud music yn y lle cynta ag yn inauthentic mewn ffordd.

Ydych chi am ddilyn trywydd sy’n rhoi mwy o ystyriaeth i ffilm a ffotograffiaeth?

Dwi rili isio gwneud ffilm i gyd-fynd hefo’r album nesa (yr un ar ôl yr un sydd ddim allan eto) ag ella arddangosiad o rhyw fath, ac mae gen I lwyth o syniadau’n floatioo gwmpas. Dwi just isho creu. Ma peidio gorfod ffeindio job yn uchelgais fwy long-term ‘fyd probs.

SkiiWhiff – enw rili cŵl am label gyda llaw! O ble ddaeth y syniad o greulabel i ryddhau’r cynnyrch?

Dwi’n ffeindio bo’ chdi’n cael lot mwy o foddhad pan ti’n gwneud pethau dy hun, ac os ti’n gallu neud o, pam ddim. Doedd na ddim byd mwy soundi fi ‘na gallu rhyddhau unrhyw beth unrhyw bryd (o fewn rheswm). Mae’r enw’n golygu wbath giami, simsan, a nod y cwmni ydi rhoi’r iaith Gymraeg mewn cyd-destunau ‘dio erioed wedi ffeindio’i hun o’r blaen.

Oes artistiaid penodol ymysg dy ddylanwadau ta oes tueddiad o gymryd ysbrydoliaeth gan ystod eang o bobl yn dy isymwybod?

Ma tâst fi mewn music wedi newid gymaint – pan o’n I’n fach, o’n I’n gwrando ar rwtsh ‘tha Nickelback neu Simple Plan a pan oni’n blwyddyn chwech oni’n licio petha mwy shite‘fatha Skrillex a Deadmau5. Wedyn, o’n i mewn i Arctic Monkeys, a WEDYN trwy soundtracks films neshi ddechra gwrando ar unrhyw fath o music diddorol – Erik Satie, Ravel; stwff Jazz neu funkfatha Art Tatum, Sun Ra, Brian Eno ac Al Green. Ma Thundercat a Steve Lacy’n ddylanwadau, ac yn fwy ddiweddar Earl Sweatshirt, Solange ac Yves Tumor.

Symud ymlaen i’r fideos, ac i’r cynhyrchiad newydd o ‘Bywyd Llonydd’ yn benodol – ai Billy Bagilhole sydd y tu ôl i honna hefyd (fel Cosmig)?

Nesi ei wneud o fy hun, ar ben fy hun mewn garage. Nes i ddefnyddio hên slide projector fel golau, a dwi’n rili hapus hefo sut oedd o’n edrych yn y diwedd.

Fel nes di egluro wrth Y Selar, roedd y gân ‘Bywyd Llonydd’ yn dwyn ysbrydoliaeth o sefyllfa hollol annisgwyl – ydi pob syniad yn dod atat ti yn yr un modd?

Ia, allan o nunlla fel arfar, dwi’n rili casau y syniad o isda lawr a meddwl “reit dwi am sgwennu cân am hyn” chos mae o bob tro’n troi allan yn un gachfa ffug. Dwi just yn gadal iddo fo ddigwydd yn slo’ bach. Mae o mwy ‘tha jig-so o wahanol betha sydd efo chydig o ringiddynhw. Ma Jac a Siôn yn dod i fewn efo sdwff ma’ nhw ‘di meddwl amdanyn nhw weithia’ a sgwennu stwff i lawr yn random a wedyn rhoi petha at ei gilydd yn y pen draw.

Cŵl, diolch am y sgwrs! Cyn i chdi fynd, oes awydd arna’ ti i ryddhau copiau caled ar ffurf cassette/vinyl bosib?

Dim byd eto, gawni weld be ddaw. Diolch ti!

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s