Podlediad ychydig yn wahanol y mis yma, yn cynnwys cyfweliadau gyda’r bandiau oedd yn chwarae yn Focus Wales eleni!
Mae Chris a Geth wrth eu boddau hefo’r ŵyl, ac mi gafodd y ddau ohonyn nhw amser i drafod gydag Adwaith, Alffa, Chroma, Elis Derby, Gwilym, I Fight Lions, Papur Wal a Vrï. Fel ‘tasa hynny ddim yn ddigon, mae ‘na gyfweliad hefo Bethan Elfyn a Huw Stephens hefyd, yn sôn am ugain mlynedd ers eu rhaglen gyntaf ar Radio 1!