Golwg ar… Elis Derby!

OWAIN WILLIAMS

Yn dilyn ei gyfweliad â Lewys, Owain Williams sydd yn gofyn Pam? Sut? Pwy? Pryd? Ble? wrth Elis Derby. Ers i Frwydr y Bandiau 2018 gynnig platfform naturiol iddo arbrofi gyda’i sŵn synth-gitâr, mae Elis wedi profi cryn dipyn o lwyddiant cynnar…

elis derby 2

Diolch am gytuno i gymryd hoe byr o’r gitâr ac i rannu ambell beth gyda SaS! Yn dilyn cyflwyno’r band i’r Selar ym mis Hydref, oes gan y band gyfeiriad cysyniadol penodol bellach?

Ar ddiwedd y dydd – dwi jest yn joio cyfansoddi/perfformio! Gyda Chwalfa yn cyrraedd diwedd naturiol llynedd, roedd dod a’r band yma at ei gilydd yn esgus go dda i allu bod nôl ar lwyfan yn gneud be dwi’n licio fwya’. Dyna oedd yr unig hwb ar y dechrau beth bynnag! O ran cerddoriaeth, dwi wastad wedi bod yn ffan o dechnegau ysgrifennu glam/alternative rock- drwy fod fymryn mwy cymhleth na chaneuon ‘pop’ cyffredinol, ac yn croesi’r ffin bob hyn a hyn- felly amwni, just bod fymryn yn wahanol i be sy’n mynd ymlaen yng nghanol bwrlwm cerddoriaeth Cymraeg ar y funud yw’r nod. Dwi’n dal i weithio ar y hynny…

Er bod y prosiect yn gymharol newydd, mae’r arwyddion cynnar yn awgrymu y gallai 2019 fod yn flwyddyn lwyddiannus iawn i’r band. Dim ond tair wythnos o’r flwyddyn sydd wedi bod, ac mae wedi llwyddo cael Trac yr Wythnos ar BBC Radio Cymru, sesiwn fyw ar Ochr 1, yn ogystal â chyrraedd rhestrau byrion ‘Artist Newydd Gorau’ a ‘Fideo Cerddoriaeth Orau yng Ngwobrau’r Selar.

Ydy hi’n afresymol i honni bod yr ‘awgrymiadau’ hyn yn dy glymu i’r prosiect er mwyn sicrhau llwyddiant hir dymor?

Mewn gwirionedd, y gynulleidfa gyffredinol dwi’n ceisio uniaethu hefo fwyaf. Mae clywed pobl yn gwybod geiriau dy ganeuon ac yn mwynhau dy waith yn wefr dwi’n gaeth iddo! Yn sicr, mae hi’n gyffrous iawn cael y cyfleoedd i wneud sesiynnau acwstig, gigs, a gweld dy enw ar restrau enwebu Gwobrau’r Selar, ond mae o hefyd yn hwb anferthol i rywun sydd yn dechrau allan. Dwi’n meddwl mai gwraidd pob llwyddiant yw gwaith caled. Gan nad wyf yn rhyddhau fy ngherddoriaeth trwy label cerddoriaeth, dwi’n ffeindio’n hun yn gwneud y gwaith hyrwyddo i gyd (hefo help ambell gyfaill ar Facebook..), felly mae unrhyw help i gael dy enw allan ‘na yn cael ei werthfawrogi yn fawr iawn!

Yn bersonol, credaf bod sain unigryw Elis wedi ynysu o weddill cerddoriaeth Gymraeg. Yn glywedol ac yn weledol, mae dylanwad Mac DeMarco yn amlwg ond gellir hefyd glywed atseiniau cynnil o gerddoriaeth artistiaid megis Hers, Underwater Boys a Banes World yn ei ddeunydd diweddaraf.

Wrth dyrchu drwy stwff  o dy dudalen SoundCloud, a’i gymharu â’r deunydd mwy adnabyddus, wyt ti’n cytuno bod dy gynnyrch yn genre-crossing?

Dwi’n gwrando ar nifer o wahanol genres, a felly yn isymwybodol yn cael fy nylanwadu ganddynt amwni. Dio ddim syndod clywed bod gwrandawyr yn clywed cymysgedd o genres yn fy ngwaith! Rwy’n cofio ystod eang o gerddoriaeth yn cael ei chwarae ar y stereo o gwmpas y tŷ pan roni’n tyfu fyny- dwi’n tybio mai o fanno mae’r amrywiaeth o ddylanwadau yn dod. Digwydd bod, ffeindiais hen gasette yn ddiweddar a recordiwyd gan mam a dad 20 mlynedd yn ôl, ohona i’n siarad am be fues i’n gwneud yn ystod y dydd aballu ( mwydro ‘di’r rhan fwyaf )- ond erbyn y diwedd dwi’n gwneud perfformiad byr o ganu cerddoriaeth rhaglenni plant bach y pryd- ‘Pingu’ a ‘Sam Tan’ aballu, a roni reit impressed hefo fi fy hun am ba mor dda oni’n gallu cofio alawon a geiriau, i gysidro mai dim ond dwy oed oeddwn i ar y pryd! Felly yn amlwg, roedd geni ddiddordeb mewn melodi a rhythm o oedran cynnar iawn.

Gellir gategoreiddio Elis Derby dan deitl hynod o ramantus, hypnagogic pop, neu i fi – cymysgedd cŵl o roc-slac, jangle-pop a jizz-jazz. [Mae’r math amhenodol yma o gerddoriaeth yn agor y drws i drafodaeth ehangach erthygl SaS!]. Wyt ti wedi mynd ar ôl yr estheteg yma yn fwriadol?

Heb os, mae Mac Demarco yn ddylanwad enfawr ar fy nghaneuon. Dwi’n edmygu ei dechnegau recordio, ei allu fel cerddor, a safon ei ganeuon- yn ogystal â’r ffaith fy mod wedi cael sgwrs hamddenol iawn gydag ef un tro – lle bu ddigon ffeind i arwyddo fy nghopi vinyl o’i albwm Salad Days. Pan roeddwn yn ysgrifennu fy sengl ddiweddara’, roedd ei albwm ‘Another One’ yn ysbrydoliaeth fawr (gydag un trac yn benodol yn swnio’n hynod debyg i ‘Prysur yn Gneud Dim Byd’- cerwch i ddarganfod eich hunain am ba un dwi’n son!). Mae’r dylanwadau eraill yn cynnwys artistiaid megis David Bowie, The Strokes, The Velvet Underground, The Beatles, yn ogystal â llond llaw o fandiau indie modern. Dwi hefyd yn meddwl bod lyrics yn destun pwysig iawn sy’n cael ei anwybyddu yn aml erbyn hyn- a dwi’n licio ysgrifennu am stwff mwy difyr na’r cysyniad o gariad neu gasineb cyffredinol. Weithiau dwi’n sgwennu caneuon hefo’r bwriad o swnio fel rhywun arall- ond weithiau dwi’n sgwennu stwff just er mwyn plesio fy hun, felly i ateb dy gwestiwn, mae o’n amrywio’n ddyddiol.

Gan dy fod di wedi mynd i’r Brifysgol a bellach yn byw ym Manceinion, i ba raddau mae dy ddylanwadau wedi ehangu yn sgil bod mewn awyrgylch lle mae gigs yn nosweithiol?

Roedd bod yng nghanol cerddorion o bob math o ddydd i ddydd yn hwb mawr i mi o ran fy herio i gyraedd lefel cystal a fy ffrindiau coleg – a cefais fy nghyflwyno i artistiaid a caneuon o bob math. Ac i unrhywun sydd wedi byw yn Manceinion, sanw’n siwr o gytuno ei fod yn amhosib osgoi y cefndir cerddorol sydd i’r ddinas. Pe taswn heb symud i’r ddinas yn 2015- swni o bosib heb gymryd gymaint o ddiddordeb mewn bandiau o’r ddinas megis The Smiths neu The Stone Roses- sydd yn enghreifftiau pellach o fandiau sydd yn dylanwadu ar fy sŵn!

Rwyt ar fin dechrau taith fer o amgylch Cymru yn gigio’r gogledd a’r de, ond yn dechrau’r cwbl, bydd gig yn y Night and Day Café ym Manceinion. Sut brofiad yw perfformio y tu hwnt i’r ffin?

Ffantastig! Perfformiais yno nôl ym mis Hydref, lle cefais ymateb da iawn, er mai canu’n Gymraeg fues i’r holl amser! Dwi’m yn meddwl bod iaith y caneuon yn broblem mewn gigs – y gerddoriaeth sy’n bwysig! Mae Manceinion yn rhan fawr o fy natblygiad fel cerddor – gan fod gigs wastad yn mynd ymlaen yno, gyda nosweithiau meic agored yn gyfle da i ymarfer cynnyrch newydd (roedd ‘Sut Allai Gadw Ffwrdd’ yn gan Saesneg yn wreiddiol, a gafodd ei ysgrifennu i’r perfformiadau hyn).

Mae ambell i gig ysgol yn rhan o’r daith, pa mor bwysig yw digwyddiadau fel hyn?

Pwysig iawn – mewn nifer o achosion, dyma brofiad cyntaf pobl ifanc o weld band cymraeg byw, gyda’r potensial o’u dennu i gigs pellach yn y dyfodol. Sgen i’m cof o fand yn dod i berfformio yn yr ysgol lle bues I – heblaw am Y Bandana yn 2015 ar eu taith ysgolion- ac erbyn hynny roni ‘di bod yn mynd i gigs Cymraeg ers blynyddoedd!

Pa mor anodd yw trosglwyddo’r naws nostalgic a crisp sy’n perthyn ir recordiau cynnar i dy berfformiadau byw?

Un peth roeddwn yn benderfynol o beidio gwneud oedd mynd dros ben llestri yn y stiwdio, gan ei fod wedyn yn sialens ail greu’r naws hwnnw ar lwyfan. Er enghraifft, roeddwn wedi bwriadu cael mymryn o ‘backwards guitar’ ar ‘Sut Allai Gadw Ffwrdd’ (sef recordio darn gitâr arferol, ac wedyn ei chwarae am i nôl yn ystod y broses cynhyrchu- sy’n creu swn anhygoel!) – mi fuasai hyn yn amhosib yn fyw – felly cafodd y syniad ei sgrapio. Roeddwn yn eithaf awyddus o gael teimlad amrwd/stripped back ar fy nghaneuon- gan fy mod yn meddwl weithiau bod cerddoriaeth fodern yn gallu bod yn over-produced, gyda gormod o effeithiau arbennig yn cuddio talent naturiol y cerddorion. Roedd hynny’n un rheswm; y rheswm arall ydi modi’n ffan enfawr o swn The Velvet Underground! Ar y cyfan mae’n hawdd trosglwyddo hyn i berfformiadau byw, gan fy mod mwy neu lai yn chwarae yn union beth sydd ar y record (er mae rhaid cyfaddef bod gitar solo ‘Myfyrio’ yn hen fasdad i chwarae’n fyw!).

Yn Stiwdio Drwm recordiwyd y traciau hyd yma, ai’r gobaith yw dychwelyd i Lanllyfni yn fuan i baratoi am y don nesaf o draciau iw rhyddhau?

Mae gen i lwythi o ganeuon sydd wedi eu cwblhau – yr unig beth sydd rhaid gwneud rwan ydi dewis y goreuon! Dani’n cydweithio yn dda hefo Ifan Emlyn (y cynhyrchydd), felly i Drwm swni’n hoffi mynd i recordio yn y dyfodol. Dyma exclusive bach i chi – dani’n recordio sesiwn one off yn stiwio y New Adelphi yn Salford rhywbryd ym mis Chwefror, i greu EP bach o berfformiadau byw a fydd ar gael ar lein. Nai’m deud dim mwy am rwan!

I gloi, nodyn bach am waith celf trawiadol Efa Lois. Oes yna neges neu naratif ir gwaith?

Cyn i mi ddechrau – swni’n argymell i bawb fynd i weld tudalen instagram Efa Lois, gan fod ei gwaith hi’n anhygoel, yn ogystal â’r ffaith ei bod yn hawdd iawn cydweithio hefo. Dwi’n ysgrifennu yn aml am bobl- felly roedd cael person ar y clawr yn opsiwn reit amlwg, a dyma’r unig friff gafodd Efa o ran dylunio- hi ddoth fyny hefo’r holl syniadau felly dim ond hi sy’n haeddu clod! Toni’m ffansi cael llun ohonof i ar y clawr yn sefyll yng nghanol coedwig yn cydio gitâr neu unrhyw beth naff felly ( nai arbed cloriau felly at pan fyddai’n 60 oed ac yn gwneud albums Country and Western )- felly cael gwaith celf oedd yr opsiwn nesaf. Roni’n ffodus i ddod ar draws gwaith Efa ar rwydwaith cymdeithasol, felly cysylltais yn sydyn i ofyn pe tai ganddi hi ddiddordeb bod yn rhan o’r broses ryddhau- a diolch byth, roedd hi’n awyddus!

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s