Lewys – Y Dyn, y Band, y Dyfodol

OWAIN WILLIAMS

Lewys

Nid fi yw’r cyntaf, ac yn sicr nid yr olaf, i ddatgan fy nghyffro am Lewys fel un o artistiaid mwyaf blaenllaw y sîn Gymraeg ar hyn o bryd. Wedi rhannu sawl ‘DM’ dros wefannau cymdeithasol, teimlais ei fod yn naturiol i holi pensaer y prosiect, Lewys Meredydd, am eu deunydd hyd yma. Er mai deunaw oed yn unig yw’r gŵr chwilfrydig o Ddolgellau, mae’n amlwg  ei fod yn ei elfen yn trafod elfennau artistig gwahanol sydd ynghlwm â’i gynnyrch.  

I ddechrau, diolch am gytuno i rannu dy gyfrinachau a dy syniadau hefo fi! Er mai’r enw ‘Lewys’ sy’n cael ei ddefnyddio, bosib bod rhai yn ymwybodol bellach mai band ydych chi! Lle da i ddechrau felly yw cyflwyno gweddill y band…

Mae ‘na 6 aelod o’r band erbyn hyn, gyda phwy bynnag sy’n cymryd rhan yn y gigs yn cylchdroi yn dibynnu ar argaeledd. Ond, ar gyfer ein gigs diweddar – Iestyn sy’ ar y dryms, Owain ar y bas, Ioan ar y gitâr flaen, a minnau wrth gwrs yn canu ac yn chwarae’r gitâr.

Cŵl. Ti’n amlwg yn gwario llawer o amser yn perffeithio’r strwythur a’r synau sydd i’w clywed ar y senglau. Sut wyt ti’n mynd o’i chwmpas hi i ‘sgwennu trac newydd?

Dwi fel arfer yn gwario lot o amser yn loopio gwahanol syniadau tan dwi’n dod ar draws wbath cŵl. Ar ol hynny, dwi’n creu demo bach munud a hannar yn fy stafall wely, cyn ei ddatblygu i fod yn gân gyflawn o fewn mis neu ddau (yn dibynnu ar faint o amser sbar ‘sgenai!). Dwi’n gyrru’r demo i Yws (Gwynedd) Côsh ac mae o’n trefnu dyddiadau i’w recordio hi’n iawn efo Rich Roberts yn Stiwdio Ferlas, Penrhyndeudraeth.

O ran y trefniant cynhyrchu yn y stiwdio, oes yna fformiwla benodol?

‘Mond fi a Iestyn sydd yn mynd. Ma’ Iestyn yn ddiawl o ddrymar da a dwi’n lwcus iawn i’w gael o yn y band. Wrth gwrs dwi’n creu rhyw fath o amlinelliad o ran pa fath o drac dryms dwisho ar y gân, ond mae gynno fo’r ddawn i’w datblygu hi a chynnig syniadau eraill, gwell. Unwaith mae’r trac drymiau ‘di gorffen, dwi’n tracio popeth arall dachi’n glywed ar y senglau – bas, gitâr, llais, lleisiau cefndir, synth.

Symud ymlaen o’r elfen gyfansoddi, ydi’r geiriau’n llifo yn yr un modd?

Dwi’n hoff iawn o ysgrifennu’r gerddoriaeth ar gyfer y caneuon, ond fy mhroblem i ydi ysgrifennu geiria’ mewn amser call! Geshi bach o help gan Yws ar y sengl ddwytha’ ‘Camu’n Ôl’ – ddaeth o draw i Dŷ Siamas, Dolgellau am sesiwn ‘sgwennu bach. Pan dwi’n ‘sgwennu ar ben fy hun, dwi’m yn dueddol o ‘sgwennu am unrhywbeth yn benodol – os oes ‘na rywbeth bach yn dod i’r meddwl, nai ‘sgwennu fo lawr, tan dwi’n cyrraedd y pwynt lle allai roi’r holl linellau at ei gilydd i greu cân!

Er mai tair sengl yn unig sydd allan ar hyn o bryd, bosib bod eich dilynwyr yn gyfarwydd gyda’r sain indie yn barod. Sut hwb ydi o i weithio efo label Côsh?

Mae bod yn rhan o deulu Côsh wrth gwrs wedi bod yn help mawr i mi dros y flwyddyn ddiwethaf. Hebddynt, mi fuaswn i dal yn fy ystafell wely yn neud beats bach fel hobi! Mae Côsh wedi galluogi i mi dyfu a chryfhau fel artist, a dwi’n hynod ddiolchgar am y gefnogaeth. Mae gan Yws ffydd go gryf yndda i a bandiau ifanc eraill y sîn – boi da ‘dio!

Awn ni yn ôl i’r sengl gyntaf gafodd ei rhyddhau ym mis Chwefror, ‘Yn Fy Mhen’. Fe gafodd hi ymateb gwallgo’ yn nhermau ffrydiau Spotify ac ati. Oedd hyn yn ddisgwyliedig?

Doeddwn i wir ddim yn disgwyl yr ymateb ges i pan gafodd ‘Yn Fy Mhen’ ei ryddhau ar ddechrau’r flwyddyn. O ystyried mai fy sengl gyntaf oedd hi, roedd y gefnogaeth a’r ganmoliaeth ges i yn wych, ac mae hi’n well byth ei bod hi’n ffefryn gan y gynulleidfa mewn perfformiadau byw erbyn hyn!

Gyda’r ail sengl ‘Gwres’ yn denu sylw’r blog ‘comeherefloyd’ a’r sengl diweddara’ ‘Camu’n Ôl’ yn hawlio trac yr wythnos ar Radio Cymru (yn ogystal â chefnogaeth Estrons ar Twitter!) – cafodd hyn wared ar unrhyw bryderon ynglŷn â dilyniant i ‘Yn Fy Mhen’?

Felly, roeddwn i wastad wedi meddwl fod gan ‘Gwres’, yr ail sengl, job fawr i’w wneud – roedd hi’n sŵn gwahanol iawn i’r cyntaf, ac roedd llawer o gystadleuaeth pan gafodd hi ei ryddhau ym mis Gorffennaf. Ond, i’n syndod i (dwi’n dueddol o fod yn pessimistic iawn wrth feddwl am fy ngherddoriaeth!), fe gafodd y gân lawer iawn o sylw – gan flogiau di-Gymraeg, a chynhyrchwyr Radio Cymru. Pwrpas ei sgwennu hi rili oedd cael bangar gwylia’ haf i gystadlu yn erbyn y gweddill! I mi, roedd Camu’n Ôl yn drywydd gwahanol eto – ambient a chill – ac o bosib oedd hi’n bach o risg i’w rhyddhau hi fel sengl. Ond roedd yr ymateb ges i yn wych eto.

Mae’n wir dweud bod y traciau hyd yma yn dilyn yr un naws – melodïau chwareus math rock sy’n rhannu elfennau tebyg i Antidotes, Foals neu albwm Wolfgang Amadeus, Phoenix. O ran dy ddylanwadau, yng Nghymru a thu hwnt, pwy sy’n dy ysbrydoli?

Foals, yn enwedig eu halbwm ‘Antidotes’, yw un o fy nylanwadau pennaf – ‘Yn Fy Mhen’ yw’r enghraifft fwyaf amlwg o hyn efallai! Ti’n iawn hefyd fy mod i’n hoff iawn o sŵn a rhythmau bandiau math rock tebyg i Totorro neu American Football. Dwi’n trio plethu petha’ fel’na efo fy niddordeb mewn artistiaid eraill o wahanol arddulliau megis Ben Khan, Thundercat, Tom Misch, a Rage Against The Machine. Mae rhythm, i mi, yn elfen bwysig o’r broses ‘sgwennu – dwisho gallu neud i bobol ddawnsio! O ran dylanwadau o Gymru, dwi’n hoff iawn o Mellt, Boy Azooga, ac Estrons – tri band sydd efo sŵn amrwd, ond tynn iawn. Mae cynhyrchiad eu caneuon nhw yn siwtio eu delwedd a’u cymeriad i’r dim.

Wrth ddilyn dy gyfrifon cymdeithasol, awgrymir mai eich set yng Ngŵyl Sŵn eleni yw uchafbwynt y band hyd yma, cytuno?

Oedd hi’n ffocin class! Na, siriys, oddo’n anhygoel – a gwych i weld y dorf yn raddol yn tyfu wrth i’n set fynd yn ei flaen. Roedd hi’n brofiad bythgofiadwy, gobeithio awn ni lawr i Gaerdydd eto’n fuan!

Ynglŷn â’r set byw bellach, w’ti’n barod i rannu ambell o gyfrinach gyda’r rhai sydd heb dy weld eto?!

I ddeud y gwir, dwi’n uffernol o araf yn sgwennu caneuon! Mae ‘na lot o demos wedi eu recordio, ond mae’n stori arall trio cael y band at ei gilydd i ddysgu’r stwff! Mae ‘na flas bach o gan ychydig yn drymach i gloi’r set, fyddech chi’n falch o glywed! Wrth gwrs dani’n chwarae’r caneuon sydd allan yn barod, ond hefyd dani’n chwarae’r gan gynta’ neshi ‘sgwennu sef ‘Adnabod’ reit ar y diwedd. Dani’n edrych ‘mlaen at chwarae honno yn Wrecsam! Mae’r band a finna’ yn joio chwarae cwpl o cyfyrs hefyd tra dwi’n brysur yn sgwennu caneuon i gymryd eu lle! Gallwch chi weld blas o’n fersiwn ni o Two Steps Twice gan Foals ar Twitter (@LMeredydd).

Neis neis. Ar dy dudalen SoundCloud, mae awgrym dy fod yn arbrofi a’r sain indie, lo-fi sy’n boblogaidd ar y blogiau cerddorol heddiw – ydi hyn yn fwriadol ac yn awgrym o newid cyfeiriad bosib?

Gellir dweud hynny. Mae ‘na lot o lwybrau allai gymryd efo’r holl beats byr dwi’n gynhyrchu adra yn fy amser sbâr… Mae Yws wedi cynnig y syniad o ryddhau EP lo-fi hip-hop o dan enw arall neu mae’n bosib eu cynnwys nhw ar albwm ‘Lewys’ fel math o interludes. Mae hi’n rhy gynnar i ddweud ar hyn o bryd. Os bydd fy sŵn cyffredinol i yn datblygu i fod yn fwy lo-fi, bydd hynny’n digwydd yn ei amser ei hun!

Oes yna unrhyw gigs ar y gorwel?

Ma’n gig nesa’ ni yn Nhŷ Pawb yn Wrecsam, ar y 1af o Ragfyr. Dani di bod yn edrych ymlaen yn arw at y gig yma, gan mai ein gig gyntaf yn y gogledd yw hi mewn gwirionedd! Dwi wastad yn chwilio am lefydd newydd i gigio ac i ymestyn ein cynulleidfa ac mae hyn yn gyfle da i wneud hynny. Yr wythnos ar ôl hynny, ar y seithfed o Ragfyr, dani adra yn Nolgellau yn chwarae set fach yn noson siopa hwyr y dre’. Da ni’n gobeithio gigio’n aml wedi hynny ond yn y dyfodol pell, byddem yn dychwelyd i Wrecsam fel rhan o ŵyl FOCUS Wales (Saith Seren Wrecsam, 9:50pm, Mai 17eg).

Ac yn ola’, y cwestiwn mae pawb isho’r ateb iddo: Oes yna fwriad i ryddhau albwm?!

Wrth gwrs! Mis Mai 2019 yw’r dyddiad sydd gennym mewn cof ar hyn o bryd felly gwyliwch y gofod am gyhoeddiad bach dechrau flwyddyn nesaf!

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s