Pedwar i’w Gwylio – Focus Wales 2018

CHRIS ROBERTS

logo focues

Fyddai bob amser yn edrych ymlaen at Fis Mai; cychwyn tymor y gwyliau! Ac un o’r rhai cyntaf yn y calendr yng Nghymru ydi FOCUS Wales yn Wrecsam. Gan ddefnyddio lleoliadau ar hyd y dref mae dros 200 o artistiaid yn mynd i fod yn perfformio dros dridiau’r ŵyl. Gyda phwyslais mawr ar fod yn ŵyl i ddarganfod cerddoriaeth newydd mae’n gallu bod yn anodd gwybod lle i ddechrau wrth ddewis pwy i’w gweld, ond, peidiwch â phoeni, mae Sôn am Sîn yma i helpu a dyma bedwar o ein pigion ni.


Chroma

Central Station / Dydd Iau 10fed o Fai / 20:15

Mae’r triawd roc o Bontypridd yn denu dilynwyr newydd gyda phob gig. Maent yn fand byw tynn ofnadwy gyda dealltwriaeth amlwg rhwng y cerddorion. Mae carisma Katie Hall y prif leisydd yn gryfder amlwg iddynt ond mae Liam a Zac, y gitarydd a’r drymiwr hefyd yn cael eu cyfle i fod yn ganolbwynt Chroma yn ystod eu set. Bydd Mis Mai yn gweld y band yn mynd ymlaen i chwarae yn Great Escape Festival a BBC Music’s Biggest Weekend sydd yn arwydd da eu bod nhw’n yn creu argraff ar bobl ddylanwadol yn y byd cerddoriaeth!


Virgin Kola

Un Deg Un / Dydd Gwener 11eg o Fai / 18:10

Dwi’n dipyn o sucker am fandiau sydd yn defnyddio hiwmor yn eu lyrics. Dim syndod felly fod sengl diweddaraf Virgin Kola am goginio wyau i ddarpar gariad wedi dal fy sylw. Mae’r ddeuawd o Wrecsam, sydd yn disgrifio eu cerddoriaeth fel pop amgen, yn siŵr o’ch gneud chi ddawnsio a gwenu, rheswm da i’w dal nhw yn Un Deg Un Nos Wener felly!


Boy Azooga

Central Station / Dydd Gwener 11eg o Fai / 00:00

Band y foment o blith line-yp y gwŷl, efallai, ydi Boy Azooga. Gyda’r senglau, Face Behind her Cigarette a Loner Boogie yn atynnu llawer o sylw i’r band, bydd yr hype train yn tynnu mewn i Central Station yn Wrecsam nos Wener. Bydd cyfle yn FOCUS Wales i gael rhagflas ar albym cyntaf y band 1,2 Kung Fu, cyn iddo ddod allan fis Mehefin. Mae’n debyg fydd pawb yn siarad amdanynt wythnos nesaf gydag ymddangosiad ar Later..with Jools Holland ar y gweill. Byddwch yn siŵr o edrych yn cŵl o flaen eich ffrindiau os allwch chi ddweud eich bod wedi eu gweld nhw’n barod! Yn ôl y sôn Boy Azooga oedd y band oedd pawb eisiau cael mewn i’w gweld nhw yn Diwrnod Darganfod Sŵn llynedd ac roedd eu gìg diweddar yn Clwb Ifor Bach wedi gwerthu allan, felly ewch draw mewn da bryd i osgoi siom.


Hana 2K

Tŷ Pawb / Dydd Sadwrn 12fed o Fai / 13:30

Pop ffres a cyfoes o Benarth yw’r ffordd berffaith i gychwyn eich diwrnod olaf yn Focus Wales. Mae cerddoriaeth Hana am berthnasau a phŵer merched yn swnio fel Spice Girls a Britney Spears wedi eu llusgo i 2018 drwy Calvin Harris a MK. Mi fydd Hana2K yn perfformio yn Tŷ Pawb, lleoliad newydd i’r ŵyl. Fe agorodd y ganolfan gelfyddydau newydd yn gynharach eleni felly mae’n gyfle da i gael busnesu o gwmpas hefyd!

I weld rhestr cyflawn o pwy sydd yn chwarae, pryd a lle, ewch draw i www.focuswales.com

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

w

Connecting to %s