GETHIN GRIFFITHS
Er bod sianel Ffarout wedi hwyluso pethau wrth edrych am gerddoriaeth Gymraeg o’r amser a fu, mae’n amlwg bod yna ambell berl yn parhau i fod yn cuddio o dan y rwbel. Ar ôl iddi gael ei darganfod yn gynharach eleni, bydd rhaglen Huw Stephens yn darlledu opera roc ar Radio Cymru am y tro cyntaf ers 1982, ac nid opera roc arferol mohoni.
Un o brif ffurfiau cerddorol y genhedlaeth honno o fandiau cenedlaetholgar a gododd yn ystod y saithdegau oedd yr ‘opera roc’, oedd yn gyfle gwych i gyfuno hen chwedlau Cymraeg â cherddoriaeth roc gwerinol ei naws, ac mae’r cyfuniad hwnnw wedi dod yn chwedlonol ei hun erbyn hyn. Drwy ail ymweld â hen straeon y Cymry, a’u cyfuno â gweledigaeth gerddorol newydd, roedd modd ail ystyried yr hyn yr oedd cenedlaetholdeb yn ei olygu i genhedlaeth newydd o Gymry ifanc. Fodd bynnag, mae un opera roc, na chlywyd ers 35 o flynyddoedd, wedi cael ei darganfod eleni mewn archif, ac nid yw’n opera roc arferol, o gwbl. Y tro hwn, nid yw’r neges genedlaetholgar mor glir, ac mae’n ymddangos mai dyfodoliaeth Islwyn Ffowc Elis ac Owain Owain oedd y prif ddylanwad y tu ôl i’r opera hon. Fel Gwenno flynyddoedd cyn Gwenno, a Back to the Future 2 cyn Back to the Future 2, mae’n anodd credu bod GADEWAIST, rhywsut, wedi syrthio drwy fysedd haneswyr diwylliannol Cymru.
Rydym wedi clywed droeon am Endaf Emlyn a’i allu blaengar i ysgrifennu campweithiau fel Melltith ar y Nyth. Ond, ydym ni’n trafod Elfed Saunders Jones ar yr un anadl? Yr ateb, wrth gwrs, yw nac ydym. Fodd bynnag, mae Elfed yn sicr yn haeddu llawer mwy o glod. Efallai bod ambell ran o GADEWAIST yn swnio’n union fel cerddoriaeth Edward H. a bandiau’r degawd a fu, ond ambell dro, mae’r defnydd celfydd o dechnoleg y cyfnod, a synau syntheseisiedig, yn rhagflaenu’r sain amlwg hwnnw ddaeth i nodweddu’r wythdegau. Efallai mai dyma’n union pam na dderbyniwyd yr opera fel y bu i’r genedl dderbyn Nia Ben Aur a Melltith ar y Nyth.
Efallai nad oedd Cymru’n barod am neges yr opera, ‘chwaith. Ceir yma hanes Deiniol, mathemategydd o Brifysgol Bangor, a’i deithiau drwy amser. Er mwyn newid ffawd y genedl, mae Deiniol yn mynd yn ôl i 1282 i achub Llywelyn Ein Llyw Olaf rhag cael ei ladd. Wedi iddo ddychwelyd i’r fersiwn newydd o 1982, y mae Deiniol yn sylweddoli nad oedd y dyfodol yr hyn yr oedd yn ei ddisgwyl, o gwbl. Ni chafodd Cymru ei threchu, ac felly crëwyd ymerodraeth Gymraeg, Cymru Fawr, sef y wlad mwyaf pwerus yn y byd. Ar ôl sylweddoli bod yr hen 1982 yn well na’r hyn a greodd drwy newid cwrs hanes, mae’n rhaid iddo fynd yn ôl i ddadwneud ei gamgymeriad.
Os oes gennych chi unrhyw ddiddordeb mewn hanes cerddoriaeth Gymraeg, mae’n rhaid i chi glywed hon. Mae’n bosib mynd mor bell â honni, efallai, mai dyma oedd yr opera roc orau i gael ei chyfansoddi erioed yn yr iaith Gymraeg. Ac o hyn ymlaen, oes modd i ni wneud yn siŵr nad yw’r darnau anhygoel hyn o gelfyddyd byth yn mynd yn angof?
Bydd rhaglen Huw Stephens yn darlledu’r opera roc yn ei chyfanrwydd nos Iau yma rhwng 7 a 10. Gwrandewch yn fyw, neu yma ar iPlayer.