Beth yw ‘Cerddoriaeth Amgen’ i ni?

Ar y 18fed o Ragfyr eleni, bydd rhaglen Recordiau Rhys Mwyn yn cyhoeddi eu ‘Siart Amgen’ flynyddol. Mae Gethin Griffiths yn gweld cyfle perffaith yma i feddwl ychydig yn ddyfnach ac ystyried beth yw ‘amgen’ yn union?
Datblygu

Datblygu: Ymddangosodd y band dadleuol a blaengar deirgwaith yn siart y llynedd.

GETHIN GRIFFITHS

Mae llawer o sôn wedi bod ar y blog yn ddiweddar am gyflwr a thueddiadau cyffredinol cerddoriaeth Gymraeg yn 2017. Mae rhywun yn pendroni sut y bydd Cymru, ugain mlynedd o rwan, yn cofio’r flwyddyn gerddorol hon? Pa mor bwysig oedd 2017 i’r sîn? Er mwyn ceisio ateb y cwestiwn hwn, mae’n rhaid gosod fframwaith ar yr hyn sydd wedi bod yn digwydd dros y blynyddoedd diwethaf. Rydw i’n hoff (yn or-hoff, efallai) o roi pethau mewn cyfnodau. Mae’n duedd academaidd a newyddiadurol, sydd yn gallu codi mwy o broblemau yn aml na’r hyn y mae’n ei ddatrys, ond er mwyn deall beth sydd wedi digwydd yn ystod y flwyddyn hon, rhaid edrych arni mewn cymhariaeth â’r blynyddoedd a fu.

Er nad ydw i’n hoffi pwysleisio pwysigrwydd yr Eisteddfod i’r sîn yn ormodol, gellir dadlau bod dwy Eisteddfod yn gweithio’n berffaith fel dau ben i gyfnod pwysig yn hanes cerddoriaeth yng Nghymru. Er i’r diwylliant fod yn bragu’n dawel ers tua 2009, mi ddigwyddodd yna rywbeth yn Eisteddfod Dinbych 2013, ddaeth a phopeth ynghyd. Heb os, roedd Sŵnami a Candelas wedi creu cynnwrf newydd yn y sîn, er eu bod yn gweithio ar sylfeini Yr Ods, Hud a’r Bandana. Ar ôl i Gymru ddygymod â dirywiad ‘Cŵl Cymru’ yn negawd cyntaf y mileniwm, roedd cenhedlaeth newydd o fandiau’n codi, nad oedd erioed wedi derbyn sachau o arian PRS, a oedd yn troi at fandiau fel yr Arctic Monkeys a Two Door Cinema Club yn hytrach na’r Super Furries a’r Gorky’s fel eu prif ddylanwadau. Denodd y bandiau hyn lawer o griwiau ifanc i’w gigs, a daeth wynebau newydd drwy ddrysau gigs ar hyd a lled y wlad.
Wedi tair mlynedd o ryddhau cynnyrch o safon eithriadol o uchel, fel Bodoli’n Ddistaw (2014) a Sŵnami (2015), ac ar ôl i ambell artist, fel Yws Gwynedd a’r Eira, wneud y mwyaf o’r hinsawdd newydd hwn, daeth sîn yr indie kids Cymraeg i oed mewn un digwyddiad yn Eisteddfod y Fenni, 2016. Wrth i’r bandiau hyn gael cyfle i chwarae ar lwyfan y Pafiliwn, gyda cherddorfa, roedd yn symbol clir i mi mai dyma oedd y norm rwan, ac mai dyma oedd ein ‘prif lif’ ni.

Erbyn Eisteddfod 2016, roedd yr artistiaid hyn, yn enwedig Sŵnami, yn tawelu yn sylweddol o ran rhyddhau cynnyrch a pherfformio’n fyw, a chafwyd yr ymdeimlad cyfarwydd hwnnw fod y bandiau hyn wedi cyrraedd brig y sîn, a dyna ni. Fodd bynnag, yr hyn nad oeddwn i’n ei sylweddoli ar y pryd, oedd bod rhywbeth newydd ar droed. Gosodwyd y llawr. Ie, y llawr. Roedd cryfder diwylliant yr indie kids (neu’r ‘indie boys’, yn hytrach), yn lawr ddigon cadarn i gynnal diwylliant newydd, tanddaearol, a oedd yn prysur wasgu eu bysedd drwy’r tyllau yn y pren. Roedd gan y criw a oedd yn bloeddio o dan y trawstiau gwestiynau i’w gofyn, materion i’w codi â’r math o ddiwylliant a grëwyd dros y blynyddoedd diwethaf. Pam indie? Ydi riffs ar y gitârs yn hanfodol bwysig? Oes angen i bawb wisgo catalog Topman a River Island? Ac wrth gwrs, Ble Mae’r Merched?…

2017 oedd y flwyddyn lle y chwalwyd y llawr hwnnw. Daeth labeli fel Libertino a JigCal i herio’r tresi ac i gyflwyno meddylfryd gwbl wahanol. Wrth iddynt wrthwynebu rhywbeth, boed yn fwriadol neu beidio, roedd modd eu cymharu. Wrth eu cymharu, gellir dweud eu bod nhw’n ‘rywbeth arall’, neu yn syml, yn ‘Amgen’.


Beth yw ‘Amgen’?

Ond ydy’r term hwn yn golygu unrhywbeth, go iawn? Mae’r term, yn ei hanfod, yn broblemus. Mae’n derm hynod gymharol, sydd yn dibynnu ar ffactorau eraill o’i gwmpas. Os yw cerddoriaeth yn amgen, neu os yw’r diwylliant yn danddaearol, rhaid cael ‘norm’ i wthio yn ei erbyn, a rhaid cael rhywbeth sydd uwchben y ddaear. Er mwyn diffinio’r amgen, felly, rhaid diffinio’r ‘norm’ a’r ‘prif lif’.

Yn nhermau’r cyfnod a drafodwyd ynghynt, Sŵnami, Candelas ac Yws Gwynedd yw’r prif lif. Ond, mae hynny’n trin y Sîn Roc Gymraeg fel ffenomen sydd yn gweithio’n annibynnol heb unrhyw ddylanwad arall arni. Nid oes unrhyw ffan o’r sîn hyd y gwn i yn gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg yn unig drwy gydol y flwyddyn, ac felly, rhaid cydnabod y diwydiant Eingl-Americanaidd mawr, brawychus hwnnw sydd yn cuddio’n y cefndir. Os mai’r diwylliant hwnnw, neu gerddoriaeth y siartiau Prydeinig yw’r prif lif, ydy holl gynnyrch cerddorol Cymraeg ei iaith yn ‘amgen’? Ydy Bryn Fôn yn canu am blwyf Llanllyfni yn ei iaith ei hun yn weithred radical, rwan, gan nad yw’n cyd-fynd â’r norm? Nac ydy siŵr, ‘dw i’n clywed hipsters y wlad yn ei ddweud.

Oes angen trafodaeth am genre yma felly? Ai canon roc clasurol, y dynion a’r gitârs yw’r norm? Ai cerddoriaeth radio-gyfeillgar Calfari a Fleur de Lys yw’r brif afon sy’n llifo drwy ein sîn? Rhaid darganfod rhyw fath o ddynodydd seinyddol sy’n galluogi i ni wahaniaethu rhwng y prif lif a’r amgen, ond mae’n hynod anodd gwneud hynny. Heb os, ni fuasai unrhyw un yn mentro cyhuddo Adwaith o fod yn rhan o unrhyw brif lif, ond eto, caneuon ag offeryniaeth draddodiadol, a chaneuon pop tri munud â nifer cyfyngedig o gordiau ydyn nhw i bob pwrpas. Nid oes modd tynnu’r gerddoriaeth allan o’i gyd-destun, fodd bynnag, ac mae’r geiriau a’r neges a chaiff ei chyfleu yn gymaint o ran o’r pecyn â’r nodweddion cerddorol hyn. Ond, rydym yn parhau i fethu ateb y cwestiwn.

Oes rhaid meddwl yn all-gerddorol, felly? Oes rhaid neilltuo’r hyn yr ydym ni yn ei glywed a chanolbwyntio ar bwrpas a gwerth y gerddoriaeth? Mae’n gwbl rhesymol i awgrymu bod cerddorion amgen yn barod iawn i gysylltu eu hunain â’r term hwnnw. Mae cerddor ‘amgen’, yn aml, yn llawer mwy parod i ddatgan ei phwrpas/ei bwrpas o fewn sîn, ac mewn ffordd, yn gorfodi’r gynulleidfa i’w gosod/i’w osod yn y math hwnnw o gategori. Er enghraifft, un o’r cwynion mwyaf oedd gan Datblygu yn ystod eu dyddiau cynnar oedd y ffaith nad oedd BBC Radio Cymru yn rhoi sylw haeddiannol iddynt. Ond y gwirionedd yw, roedd hynny’n siwtio’r grŵp a’u meddylfryd, gan eu bod yn gosod eu hunain ar wahân i ddiwylliant traddodiadol y wlad. Ydy grŵp yn gorfod datgan eu bod yn ‘amgen’, rhywsut, iddynt gael eu hadnabod felly?

Gellir mynd i siarad am ‘ddilysrwydd’ [‘authenticity’], wedyn. Mae’n rhaid cael cydnabyddiaeth gan gyd-gerddorion a’r wasg amgen er mwyn cadarnhau lle’r artist yn y byd hwnnw. Gyda hyn, daw y perygl o ‘werthu allan’, pe bai’r artist hwnnw’n mynd yn rhy boblogaidd, neu’n bradychu unrhyw elfen o’r byd tanddaearol.


Yr ateb, mewn gwirionedd, yw bod y term cymharol hwn yn gwbl ddi-werth wrth geisio ei ddefnyddio yn rhy gyffredinol. Rhaid cael rhywbeth penodol, rhyw ddynodydd amlwg, i gymharu ag ef er mwyn deall yr ‘arall’, neu’r ‘amgen’. Mi ddywedodd rhywun wrthaf i, sydd yn ffan mawr o gerddoriaeth Gymraeg, mai gair 2017 yw ‘amgen’, ac rwy’n gweld yn union beth mae’n ei olygu. Iddo fo, mae grwpiau newydd 2017 yn gwrthwynebu neu’n cynnig rhywbeth gwahanol i’r hyn ddaeth ynghynt. Iddo fo, felly, cerddoriaeth cyfnod yr indie kids yw’r prif lif, a cherddoriaeth 2017 yw’r ‘amgen’. Yn syml – er mwyn diffinio’r amgen, rhaid diffinio’r prif lif yn gyntaf.


Y ‘Siart Amgen’

RHys

Llun: BBC

Mae Siart Amgen Rhys Mwyn yn amlwg yn rhyw fath o gefnder mwy ‘edgy’ i’r 40 Mawr, y siart a gyhoeddir yn flynyddol ym mis Awst. Pwrpas y 40 Mawr yw i ddarganfod hoff gerddoriaeth Gymraeg y boblogaeth, a thrwy annog pobl i bleidleisio am dair o’u hoff ganeuon, ceir yma adlewyrchiad o dueddiadau gwrando cyffredinol y pleidleiswyr hyn. Er y gellid dadlau nad yw gosod canolfannau mewn dwy Eisteddfod a’r Sioe Frenhinol yn adlewyrchu Cymry Cymraeg o bob math, dyma yw’r prif lif y mae Rhys Mwyn yn gosod ei hun yn ei erbyn yn yr achos hwn.

Gan nad ydym ni wedi gosod diffiniad pendant i ‘gerddoriaeth amgen’, mae rhywun yn pendroni sut mae penderfynu ar amodau’r siart hwn. Ni allai unrhyw un honni mai ‘unrhywbeth sydd ddim yn y 40 mawr’ yw’r amod – roedd ennillwyr siart y llynedd, sef Y Cyrff, yn rhif 25 yn y 40 mawr hefyd. Felly, ydym ni’n gorfod dechrau siarad am ‘gerddoriaeth dda’ (‘good music’), yma? Ai’r gwybodusion, y ‘cerddorion a’r gwrandawyr go iawn’ sydd yn gyfrifol am y siart amgen hon? Er ei bod yn ceisio tynnu’n erbyn y graen, ac er y ddelwedd werinol, gwrthsefydliadol, ydy hyn, yn eironig, yn weithred uchel ael?

Mae’r prif lif, sef y 40 Mawr a’r hyn a geir ei chwarae ar Radio Cymru yn ystod y dydd, yn gwbl amlwg ac eglur. Fodd bynnag, mae penderfynu ar ddilysrwydd cynnwys cerddorol y Siart Amgen ei hun yn llawer mwy amwys. Does dim ond rhaid gwrando ar ddewisiadau Ani Glass ar y rhaglen, yma, i ddod i ddeall hyn. Mae’r drafodaeth i gyd, bron, am ddiffinio’r prif lif, yn hytrach na’r amgen. Yn wir, mae hi’n dewis fersiwn Llwybr Llaethog o un o ganeuon Meic Stevens, ac er bod cerddoriaeth y ‘swynwr o Solfach’ yn anodd i ddiffinio ei hun, mae’n deg i awgrymu bod Llwybr Llaethog yn agosach o lawer at y pegwn ‘amgen’ hwn. Defnyddir yr un gân, yr un geiriau a’r un alawon, ond rŵan, caiff y gân ei gosod mewn amgylchedd, sefyllfa a chyd-destun gwbl wahanol. Llwybr Llaethog, eu hideoleg a’u raison d’être hwy sydd yn gyfrifol am osod y rheolau yma, rŵan, nid Meic Stevens, ac felly caiff yr ‘amgen’ ei ail ddiffinio unwaith eto.


Y Siglen

I gadw’r cydbwysedd cosmig hwn sydd mor anodd i’w weld, ei ddiffinio a’i werthuso, mae’n rhaid i’r prif lif a’r amgen gario ymlaen i wthio yn erbyn ei gilydd, a chreu siglen fregus. Dim ond gronyn bach o egni sydd ei angen i wyro’r siglen tuag at un pegwn neu’i gilydd, ond eto, mae darganfod y siglen hwnnw yn y lle cyntaf bron yn amhosib. Oes mwy nac un siglen, yn dibynnu ar yr amgylchedd a’r cyd-destun?

Yr hyn y mae’r erthygl hon yn ceisio ei brofi, yw’r ffaith bod hynny’n ddewis unigolyddol, ac yn ddewis sydd yn dibynnu ar nifer fawr o ffactorau. Bydd y siart amgen yn creu ei gofod ei hun, ei chyd-destun ei hun a’i reolau ei hun, felly, fydd yn creu diffiniad newydd o’r gair ‘Amgen’ ar ei chyfer. Er mai mwynhau’r tiwns fyddwn ni, does dim byd yn bod mewn ceisio meddwl ychydig yn athronyddol cyn y Nadolig fel hyn!

Er mwyn sicrhau y bydd y siart yn deg ac yn adlewyrchu amrywiaeth mewn meddylfryd, amrywiaeth yng nghefndiroedd y pleidleiswyr, a hefyd, amrywiaeth yn y gerddoriaeth ei hun, mae’n rhaid i ni gyd bleidleisio. Gallwch wneud hynny drwy ebostio rhysmwyn@bbc.co.uk.

Gwyliwch allan hefyd am ddewisiadau amgen a phleidleisiau cyfranwyr SaS, fydd yn cael eu cyhoeddi wythnos i heddiw!

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s