Llun: Nadine Ballantyne
CHRIS ROBERTS
Nos Wener y 6ed o Hydref, ymysg bwrlwm mis prysur o gerddoriaeth yn y brifddinas, a’r tîm pêl-droed wedi ein hudo i freuddwydio “be os”, roedd hi yn mynd i fod yn dasg anodd i ddenu cynulleidfa i Clwb Ifor Bach ond roedd criw bach, parod i wrando, wedi ymgynnull ar lawr gwaelod y clwb eiconig am noson o gerddoriaeth werin Gymraeg.
Fe gyrhaeddon ni hanner ffordd drwy set Glain Rhys ond o be welais i roedd hi’n wych. Gyda Carwyn a Marged yn fand tu ôl iddi roedd Glain yn edrych yn llawer mwy cyfforddus a hyderus na pan welais i hi ar ei phen ei hun yng Nghaernarfon ychydig fisoedd yn ôl. Mae gan Glain lais a phresenoldeb sydd yn hawlio sylw, roedd ‘Gêm o Genfigen’ o’r albwm Sesiynau Stiwdio Sain yn sefyll allan yn y set, ac yn swnio fel ei bod hi wedi ei chodi’n syth allan o ffilm western. Wrth iddi gario ‘mlaen gigio a thyfu mewn hyder ac i gynulleidfaoedd ddod i adnabod ei chaneuon gall Glain fod yn un o sêr y sîn yn ystod y blynyddoedd nesa.
Nesaf, daw Patrobas. Mae Patrobas yn fand prysur iawn yn gigio ar hyd a lled y wlad ac mae hynny yn dangos. Maent yn dynn ac yn broffesiynol. Mae arddull y set yn symud o Calan i Cowbois Rhos Botwnnog i John ac Alun ac yn ôl. Tra bod y band yn perfformio’r holl ganeuon yn wych ar brydiau, mae’n anodd iddynt fynd a’r gynulleidfa ar y daith honno hefo nhw wrth iddynt gynnal y fath amrywiaeth yn eu set. Caneuon oddi ar eu halbwm cyntaf, ‘Creithiau’ a ‘Paid Rhoi Fyny’ sydd yn sefyll allan heno. Mae yno ddawn ysgrifennu arbennig yn y band ac mae’r caneuon yma yn swnio fel y gallent aros yn ffefrynnau am amser hir.
Yr olaf i’r llwyfan ydi Gwilym Bowen Rhys, ac fel Patrobas, mae’n amlwg pa mor aml mae Gwilym a’i fand yn gigio gyda’i gilydd gan eu bod yn dynn ofnadwy, a’r perthynas cryf rhyngddynt yn amlwg. Doedd dim oedi o gwbl wrth i’r band orfod byrfyfyrio tra bod Gwilym yn trwsio llinyn eu gitâr yng nghanol y set, roedd bron fel eu bod nhw’n gallu cyfathrebu yn telepathic! Mae Gwilym yn un o ddynion blaen gorau’r sîn, mae ganddo lais anhygoel ac mae’n siarad yn naturiol a hyderus hefo’r gynulleidfa heb or-wneud. Mae set Gwilym yn gymysgedd o ganeuon gwerin traddodiadol, ffefrynnau modern a chaneuon gwreiddiol, rhai sydd bellach yn hawlio eu hunain fel ffefrynnau. Un siom i mi oedd clywed ‘Bachgen bach o dincer’ am yr ail waith y noson honno yn ystod set Gwilym ar ôl i Patrobas ei pherfformio hi ynghynt. Nid dyma’r tro cyntaf i mi weld y ddau fand yn perfformio’r ‘run caneuon ar yr un noson chwaith yn anffodus. Dylai bod gwell cyfathrebu rhwng y bandiau cyn y sioe, a gyda chatalog mor eang ac sydd gan Gwilym a’i fand efallai y gallent hwy fod wedi newid eu cynlluniau ar ôl set Patrobas. Er hynny roedd y gynulleidfa wrth ein boddau yn cyd-ganu i ganeuon y band. Fe wnaeth cerddoriaeth gwerin wir gadael ei farc ar TWRW’r noson yma!