O’r Llwybr Llaethog: Beth yw ‘Space Pop’?

GETHIN GRIFFITHS

Yn dilyn rhyddhau ail sengl Serol Serol, ‘Aelwyd’, mae cyfnod ‘Space Pop’ ein sîn yn parhau. Gethin Griffiths sydd yn archwilio ystyr y term a’r hyn y mae yn ei olygu i ni. 

Yn aml, dwi’n meddwl mai cryfder mwyaf ffuglen wyddonol yw ei allu i adlewyrchu realiti. Er i’r ffeithiau, y dechnoleg, a gwyddoniaeth yr holl beth fod yn gwbl ddychmygol ac afrealistig, mae yna neges, yn aml, sydd yn taro deuddeg i ni feidrolion y ddaear. Rhyw fath o rybudd ydyw mewn gwirionedd, ac er ein bod ni i gyd yn hoffi dianc i ryw fydysawd paralel neu’i gilydd ar brydiau, cawn yn aml ein saethu’n ôl i bresennol y blaned las ar ein pennau.

Mae hynny’n wir am y gofod sydd yn bodoli uwch ein pennau go iawn hefyd, i bob pwrpas. Mae’n hawdd rhamantu am yr hyn sydd y tu hwnt i’r wybren, yn aml gan bod y llonyddwch hwnnw’n antidot heddychlon i frwydrau’r byd sydd ohoni. Mae nhw’n dweud yn aml mai nid y lleuad oedd prif ddarganfyddiad prosiect Apollo, ond y ddaear, ac mai’r peth mwyaf trawiadol i’r gofodwyr hynny oedd gweld y blaned o’r tu allan am y tro cyntaf. Gall y rhai sydd yn poeni am argyfwng ein amgylchedd gyfeirio at y profiad hwn, ac amlygu pa mor fregus yw’r belen hon sydd yn gwbl hanfodol i’n bodolaeth. Mae’n holl ddealltwriaeth ni o’r gofod a’r hyn sydd yn digwydd y tu hwnt i’n dychymyg yn cadarnhau ein dealltwriaeth ni o’n hunain, ac nid ein dealltwriaeth ni o’r bydysawd yn unig.


A dyma pam mae dyfodiad ‘Space Pop’ fel genre yn y sîn eleni o ddiddordeb i mi. Pam y mae’r artistiaid hyn sydd yn ei greu mor barod i’w arddel a’i ddefnyddio fel cefndir i’w celfyddyd?

Mewn gwirionedd, mae diwylliant daearol, cyfalafol, sydd yn seiliedig ar y gofod yn bodoli ers dros hanner canrif. Yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, yn enwedig ar ôl gollwng dau fom niwclear ar Siapan, roedd ein byd yn paratoi ei hun am newidiadau enfawr. Roedd technoleg yr ugeinfed ganrif wedi galluogi i ddynoliaeth gynnal dau gyfnod erchyll o waedlyd yn ystod ei degawdau cynnar, a doedd dim stop ar y datblygiad.

Yn wir, erbyn troad y pumdegau, roedd bygythiad gwirioneddol am drydydd cyfnod o’r fath, ond roedd gallu erbyn hyn i ddifa dynoliaeth gyfan ag arfau mwy pwerus na welwyd erioed o’r blaen. Roedd y pris dynol hwnnw i dalu yn ormod o lawer i ddau brif bŵer y byd, yr UDA a’r Undeb Sofietaidd, ac felly cafwyd brwydr o fath gwahanol iawn. Bygythiadau oedd popeth erbyn hyn – pwyntia di dy arfau tuag ata i, ac fe bwyntiau innau fy rhai i yn ôl. Parhaodd hyn am flynyddoedd maith, a phawb yn symud eu ffigyrau’n ofalus iawn ar hyd y bwrdd gwyddbwyll.

Un o brif elfennau’r gêm honno oedd datblygu technoleg wyddonol. Gan gychwyn ym 1955, gyrrodd y ddwy wlad eu lloerennau cyntaf i’r gofod, gan ddatgan eu bod mewn ‘Ras i’r Gofod’, neu i ddefnyddio’r term Saesneg llawer mwy bachog, y Space Race. Rwsia lwyddodd i yrru’r dyn cyntaf, Yuri Gagarin, i’r gofod ym 1961, ond erbyn 1969, roedd gan America ddyn ar y lleuad. Boed eich bod yn gredwr o hynny neu beidio, does dim dwywaith amdani bod yr uchelgais a’r holl daith yn gwbl gyffrous.

Ni ellir disgwyl i hynny beidio treiddio i ddiwylliant y cyfnod. Erbyn y chwedegau, roedd NASA yn frand yn ogystal ag asiantaeth, ac roedd plant y byd i gyd eisiau bod yn ofodwyr wedi iddynt dyfu i fyny. Nid ffuglen wyddonol oedd teithio i’r gofod mwyach, ond realiti, ac roedd hynny’n chwa o awyr iach i lawer, er gwaethaf gwreiddiau sinistr yr holl ymgyrch. Roedd cerddoriaeth yn adlewyrchu hefyd, gydag artistiaid fel David Bowie yn arddel y cysyniadau gwyddonol hyn yn aml yn ei gerddoriaeth. Mae pawb yn ‘nabod ‘Space Oddity’ – cân am Major Tom yn gadael y byd, a hwyrach, yn methu â dychwelyd, a beth am ‘Life on Mars’? A holl albwm Ziggy Stardust and the Spiders from Mars?

Mi allwn ni sôn am gerddoriaeth gelf hefyd, beth am finimaliaeth a cherddoriaeth ambient Brian Eno? Mae mwynder maith y gofod, lle nad yw amser yn bodoli yn yr un ystyr ag yma ar y ddaear, yn annog i rywun feddwl am lonyddwch, am synau mawr, eang, sydd yn newid yn araf. Mae trefniannau llinynnol enfawr Bowie yn gwneud yr un peth – adlewyrchu’r gofod yn seinyddol.

Ceisia rai alw cerddoriaeth prog rock Pink Floyd yn ‘Space Rock’, hefyd. Beth am Dark Side of the Moon? Beth am ganeuon fel ‘Us and Them’, neu’r ‘Great Gig in the Sky’? Mae popeth yn edrych am allan, er mwyn deall beth sydd yn digwydd i ni ar y tu mewn.


Sut mae cerddoriaeth Omaloma, Serol Serol, ac efallai Griff Lynch, yn ffitio i’r llinach hwn, felly? Mae Oes y Gofod ar ben ers hanner canrif, felly sut y mae hyn yn berthnasol i ni heddiw?

Mae’r ateb, i mi, yn bodoli ym mharagraff cyntaf yr erthygl. Mae synau syntheseisiedig, retro, yr artistiaid hyn yn mynd â ni yn ôl i’r cyfnod hwn lle’r oedd pobl yn chwilio am ystyr, ac yn ysu i gael gwybod lle’r oedden nhw’n ffitio yn y gofod. Beth oedd ein pwrpas ni yma, fel pinau bach yn y das wair anferth o ‘ddim byd’ oedd o’n cwmpas ni? Ac mae hynny’n ein tynnu ni i’r ddaear.

Mae ‘Aros o Gwmpas’, er enghraifft, yn swnio fel taith arallfydol i ryw fyd o liwiau a siapiau a llongau gofod yn hedfan o gwmpas. Ond ymgorfforiad o deimlad person wrth ddatblygu teimladau am berson arall nad ydyn nhw’n ei adnabod go iawn yw’r gân i bob pwrpas. Onid yw hynny’n beth hynod ddynol? Mewn unrhyw ddarn o ffuglen wyddoniaeth sydd wedi cydio – y pethau bach dynol hyn sydd yn ein atynnu ni tuag atynt yn y bôn.

A dyma pam yr ydym ni’n caru Space Pop. Mae’n dweud mwy amdanom ni ein hunain nac y mae am unrhywbeth sydd y tu hwnt i’n ffurfafen. Dewch, awn ni ar daith hefo’r artistiaid hyn, ond peidiwch â phoeni, ewch chi’m yn rhy bell.


Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s