Pedwar i’w Gwylio – Gŵyl Arall 2017

CHRIS ROBERTS

logoGA

Dros y penwythnos, bydd Gŵyl Arall yn digwydd mewn amryw leoliadau ar draws tref Caernarfon. Mae Gŵyl Arall yn benwythnos llawn o lenyddiaeth, celf, comedi, ac wrth gwrs, cerddoriaeth. Mae llawer o ddigwyddiadau gwahanol yn apelio atom, ond am resymau amlwg, y digwyddiadau cerddorol sydd yn cymryd ein sylw ni!. Dyma pedwar peth ‘da ni’n credu y ddylech chi drio eu gweld ymysg amserlen prysyr Gŵyl Arall.

Yr Eira

Neuadd y Farchnad / Nos Wener 7fed o Orffenaf / 22:45

Mae’n teimlo fel bod Yr Eira wedi bod o gwmpas y sîn ers amser maith, ac yn sicr mae eu halbwm cyntaf yn un hir ddisgwyliedig.  Ar ddiwrnod lansio Toddi bydd y gynulleidfa yn Neuadd y Farchnad yn cael cyfle i glywed rhai o’r caneuon newydd yn fyw am y tro cyntaf. Mae Sôn am Sîn wedi bod yn ddigon lwcus i gael gwrando ar yr albwm yn barod (mae adolygiad i ddod!) ac mi rydw i yn gobeithio bydd perfformiad Yr Eira yn adlewyrchu sŵn hyderus yr albwm.

Patrobas

Neuadd y Farchnad / Dydd Sadwrn 8fed o Orffenaf / 13:45

Band arall sydd hefo albwm newydd allan ydi Patrobas. Maent ar ganol taith anferth o Gymru yn hyrwyddo Lle Awn Ni Nesa. Dwi’n credu’n gryf fod bandiau yn swnio’n well pan maen nhw’n chwarae’n fyw yn aml, maent yn tynhau yn eu sain ac yn cychwyn cael hwyl ac ymlacio ar y llwyfan. Dwi’n siŵr fod Patrobas yn cychwyn gwneud hynny rŵan. Mae’r albwm yn gymysgedd o wahanol arddulliau felly dwi’n siŵr bydd rhywbeth yn set y band i blesio pawb p’nawn Sadwrn.

 

Rhywbeth I’w ddweud – Dyl Mei

Gerddi’r Emporiwm / Dydd Sul 9fed o Orffenaf / 13:30

Er fy mod i wedi ymrwymo i ganolbwyntio ar y gerddoriaeth does dim dianc rhag llenyddiaeth yn gyfan gwbl yn Gŵyl Arall. Mae sesiynau ‘Rhywbeth I’w Ddweud’ yn cyfuno’r gelfyddyd honno â cerddoriaeth yn berffaith. Llyfr newydd ydi Rhywbeth I’w Ddweud, wedi ei olygu gan Elis Dafydd a Marged Tudur, sydd yn cynnwys 10 traethawd gan wahanol ysgrifenwyr yn dadansoddi caneuon gwleidyddol. Mae nifer o sesiynau wedi eu trefnu dros Gŵyl Arall i’r ysgrifenwyr a’r artistiaid drafod y caneuon sydd wedi eu cynnwys yn y llyfr. Bydd Dyl Mei yng ngardd Palas Print pnawn Sul i drafod ei ddewis o ‘Talu Bills’ gan Rodney Evans.

Ani Glass

Neuadd y Farchnad / Dydd Sul 9fed o Orffenaf / 16:30

Bu i Gethin Griffiths roi cryn ganmoliaeth i EP cyntaf Ani Glass yn ei adolygiad i’r blog yma, ac mae’r artist electronig amgen yn ennill ffans newydd pob man y mae hi’n chwarae, wrth iddi gadw’n brysur iawn ar hyd a lled Cymru dros 2017. Yn dod â phrynhawn o gerddoriaeth electronig Gŵyl Arall i ben, edrychaf ymlaen at weld sut y mae Ani yn cyfleu haenau cyfoethog y caneuon sydd ar ei EP mewn perfformiad unigol ar lwyfan.

I weld rhestr cyflawn o pwy sydd yn chwarae, pryd a lle, ewch draw i gwylarall.com

2 thoughts on “Pedwar i’w Gwylio – Gŵyl Arall 2017

  1. Greetings I am so thrilled I found your blog, I really
    found you by error, while I was researching on Google for something
    else, Regardless I am here now and would just like to say
    kudos for a incredible post and a all round thrilling blog (I also love the
    theme/design), I don’t have time to read through it all at the minute but I have bookmarked it and also added
    in your RSS feeds, so when I have time I will be back to read
    more, Please do keep up the awesome work.

    Like

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

w

Connecting to %s