Y Beatles a’r Bandana | Dylanwad Fab Four Glannau Mersi ar Ffab Ffôr Glannau’r Fenai

GETHIN GRIFFITHS

I ddathlu hanner canrif ers rhyddhau’r albwm, ail ryddhaodd y Beatles eu campwaith arloesol ‘Sgt. Pepper’s Lonely Hearts Club Band’ wythnos diwethaf. Nid oes amheuaeth bod yr albwm hwn wedi agor drysau, nid yn unig i’r Beatles eu hunain, ond i brif artistiaid y degawdau a ddaeth i ddilyn. Naturiol yw disgwyl i’r dylanwadau hynny dreiddio yma i Gymru, ac felly, er mwyn dathlu pen-blwydd albwm na ellid dychmygu bywyd cyfoes hebddi, dyma ymgais Gethin i amlygu lle y dylai’r pedwarawd enwog o lannau’r Fenai ddiolch i Fab Four glannau Mersi. 

Ers i gynulleidfa eiddgar 1967 glywed cord cyntaf y mellotron yn Strawberry Fields Forever, roedd yn gwbl amlwg bod cerddoriaeth boblogaidd ar fin troedio tir gwbl newydd. Er i Englebert Humperdinck a’i faled grwneraidd ‘Please Release Me’ atal y sengl (a ymddangosodd fel dwbl-A, ochr yn ochr â Penny Lane) rhag cyrraedd brig y siartiau, roedd yn amlwg i’w cefnogwyr bod mwy i’w hoff bedwarawd na charisma heintus a genynnau hael. Er na ymddangosodd y ddwy gân ar yr albwm, roeddent yn ddwy gampwaith yn arwydd clir o’r hyn oedd i ddod. Ers penderfynu peidio â chynnal unrhyw berfformiadau byw mwyach, roedd mwy o amser ganddynt i ganolbwyntio ar yr hyn a wnaed yn y stiwdio. Roedd y canlyniad yn un syfrdanol, i ddweud y lleiaf.

Gallwn draethu am wythnosau am bob cân ar Sgt. Pepper yn unigol. Yn sicr, nid yw’n bosib trafod yr albwm heb gydnabod dylanwad Rubber Soul (1965) a’r gampwaith, Revolver (1966). Wedi dweud hynny, mae Sgt. Pepper yn arwydd cryf o gyfeiriad newydd i’r grŵp, ac yn brosiect llawer mwy bwriadol a hunanymwybodol na’r ddwy albwm flaenorol. O ganlyniad i’w heiddigedd o albymau fel Pet Sounds (1966) gan y Beach Boys, eu perthynas glòs â’u hathrylith o gynhyrchydd, George Martin, a’r arloesedd gerddorol oedd yn berwi yn eu perfeddion, roedd bwriad yma i greu campwaith.

Ceir yma gymysgedd arbennig o nostalgia glasurol a vaudeville Paul McCartney (When I’m Sixty Four, Fixing a Hole, She’s Leaving Home), sinigiaeth a seicadelia John Lennon (A Day in the Life, Lucy in the Sky with Diamonds, Being for the Benefit of Mr Kite), ac enghraifft gynnar o berthynas agos George Harrison â diwylliant y dwyrain pell (Within You Without You). Cyn i’r dylanwadau amrywiol hyn dynnu’r pedwar yn bellach oddi wrth ei gilydd yn ddiweddarach, ceir yn y cyfnod hwn blethiad perffaith rhyngddynt.

Fel ffan enfawr o’r grŵp ers yn ifanc, nid yw’n cymryd llawer o amser i mi adnabod unrhyw ymgais gan unrhyw grŵp cyfoes i adlewyrchu neu ddefnyddio dylanwad y Beatles. Gellid dadlau bod pob band wedi cael eu dylanwadu gan weledigaeth gerddorol y Beatles mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, ond mae’r Bandana, yn sicr, yn fand sydd yn arddangos y dylanwadau hyn yn amlwg yn eu cerddoriaeth. Heb os, gellid dweud mai yn eu halbwm gyntaf, Y Bandana (2011), y clywir y dylanwadau hyn ar eu hamlycaf. Fel pedwarawd ifanc, brwd, roedd Gwilym a’i berfformiadau dynamig, Siôn a’i linellau bâs melodig, Robin a’i guriadau tynn a Tomos a’i synau synth adnabyddus, yn ogystal â’u lleisiau cefndirol cyfoethog, yn adlewyrchiad cyfoes o rai o elfennau amlycaf y Beatles fel grŵp.

Yn dilyn albwm aeddfetach yn Bywyd Gwyn (2013), nad oedd yn arddangos y dylanwadau hyn mor amlwg, ceir ambell enghraifft arall yn eu halbwm olaf, Fel Tôn Gron (2016). Dyma i chi restr o rai o’r caneuon hynny sydd yn fy atgoffa’n gerddorol o seiniau’r grŵp pop gorau a welodd y byd erioed.

ANTURIAETHAU SALI MALI Y Bandana (2011) / BEING FOR THE BENEFIT OF MR KITESgt. Pepper (1967)

O ganlyniad i berthynas agos seicadelia’r chwedegau â chyffuriau, yn ogystal ag athroniaethau fel y gwelwyd yn llyfr Timothy Leary, ‘The Psychadelic Experience’, mae’n arferol i eiriau caneuon dilynwyr y symudiad fod yn nonsens llwyr. Roedd Lennon, yn benodol, wedi gwirioni â defnyddio geiriau oedd heb synnwyr, ond â seiniau diddorol iddynt. Er ei fod, ers cyfarfod Bob Dylan flynyddoedd ynghynt, yn gwbl fedrus wrth ysgrifennu geiriau grymus, gwleidyddol a sinigaidd, gellir dadlau mae ei ddelweddau seicadelig, dychmygus oedd fwyaf pwerus yn y cyfnod hwn. Does dim ond rhaid gwrando ar Lucy in the Sky with Diamonds i gael eich hudo i fyd dychmygol yn llawn o flodau seloffen a choed tanjarîns.

Prif themâu’r Bandana ar y pryd oedd serch anobeithiol, a’r stereoteip hwnnw o fachgen yn chwilio am ferch heb llawer o lwc ganddo. Ond, am un gân, mae’r grŵp yn edrych tuag at gyfeiriad mwy plentynaidd, mwy haniaethol, sydd yn eironig yn swnio ychydig yn aeddfetach na’r gweddill. Y gân hon yw ‘Anturiaethau Sali Mali’. Gan gymryd yn ganiataol nad oedd y pedwar yn gyfarwydd â thripiau asid, mae’r geiriau hyn yn gynnyrch o’r dychymyg yn unig, ac yn cyflwyno delweddau hynod o ddiddorol a doniol ar brydiau. Pwy feddyliodd am roi brenin Bermuda a’r Bwda mewn Jac Codi Baw? Os mai dwyn ar eu hatgofion o Alice in Wonderland y gwna Lennon a McCartney yn Sgt. Pepper, Sali Mali yw cymeriad cyfatebol y Bandana, er iddynt sôn unwaith am Alice ei hun.

Pam nad ydw i wedi dewis Lucy in the Sky With Diamonds fel cân yma felly? Mae’r darluniau yma’n llawer mwy gwasgaredig na darluniau Lucy, ac yn llawer tebycach i ddryswch pur Being For The Benefit of Mr Kite. Nid yw posib anwybyddu’r effaith sain a ddefnyddiwyd gan y Bandana yn 0:58, chwaith, sydd yn gyfeiriad gwbl amlwg i Henry the Horse a’i walts yn Mr Kite.


DŴR, TÂN, CÂN Fel Tôn Gron (2016) / BECAUSE Abbey Road (1969)

Fel y soniwyd uchod, un o lwyddiannau’r Beatles oedd eu lleisiau cefndirol. Penderfynodd y grŵp arddangos eu harbenigedd yn gwbl amlwg yn eu halbwm olaf a recordiwyd ganddynt, ac mae’r gân ‘Because’ yn cynnwys harmonïau cyfoethog gan Lennon, McCartney a Harrison drwyddi, heb brif lais amlwg. Er iddi gymryd pum awr i recordio’r lleisiau hyn, mae’r canlyniad yn gwbl arbennig ac yn arddangos eu gallu i greu un sain mawr cyfoethog gyda’u galluoedd lleisiol unigol.

Yn yr un modd, mae Dŵr, Tân, Cân o albwm olaf y Bandana yn defnyddio’r un dechneg. Nid yw llais Gwilym yn gwbl amlwg fel ym mwyafrif helaeth eu caneuon, ac mae pob llais unigol yn chwarae rhan hafal. Mae’n chwarae rôl llawer tebycach yma i’r hyn y mae’n ei wneud wrth blethu i harmonïau Plu.

Mae yna ryw eironi trist yn perthyn i ‘Because’ o ganlyniad i’r ffaith bod y grŵp eu hunain yn gwybod eu bod yn dod tuag at eu terfyn fel pedwarawd. Roedd Abbey Road yn ymgais fwriadol i greu un albwm lwyddiannus arall cyn iddynt wahanu (yn benodol o ganlyniad i’w hatgasedd tuag at sesiynau Get Back/Let it Be). Mae Fel Tôn Gron, yn yr un modd, yn croniclo cyfnod olaf y grŵp. Er nad yw’r broses honno o wahanu mor gyffrous a blêr a’r Beatles, mae clywed eu lleisiau yn cyd ganu yn y modd hwn yn annog yr un math o ddelwedd yn ein pennau o ddiwedd cyfnod.

Er i’r gerddoriaeth gefndirol ymdebygu’n fwy i ‘Sun King’ o’r un albwm, neu i ‘Albatross’ gan Fleetwood Mac i’r un perwyl, ‘Dŵr, Tân, Cân’ yw ‘Because’ y Bandana.


DANT Y LLEW Fel Tôn Gron (2016) / GETTING BETTER Sgt. Pepper (1967)

Un o brif gryfderau Y Bandana fel grŵp oedd eu gallu i ysgrifennu caneuon bachog, hawdd i’w canu. Er mai’r alawon lleisiol oedd yn bennaf gyfrifol am hyn, rhaid peidio anghofio am y riffiau heintus ar y gitâr. Roedd sain indie’r gitâr, oedd yn atgoffa rhywun yn fwy o’r Kooks na riffiau Harrison, efallai, yn bresennol y mwyafrif eu caneuon.

Wedi dweud hynny, mae’n rhaid cyfeirio at ragarweiniad ‘Dant y Llew’, sydd yn defnyddio’r un math o gord a ddefnyddiai Harrison ar ddechrau ‘Getting Better’. Roedd Harrison a’r Beatles yn hoff iawn o ddefnyddio cordiau ychydig yn od ar y gitâr ers rhagarweiniad enwog ‘A Hard Day’s Night’, a dyma’n union a geir yma. Ni ellir dadlau bod y cord ‘sus2’ yma yn drawiadol, ac mae’n sicr yn un o’r caneuon hynny lle nad ydych angen clywed ond un eiliad ohoni i’w hadnabod.

Yn yr un modd, mae Dant y Llew yn hawdd i’w hadnabod o’r un cord ‘sus2’ yma, sydd mewn arddull rhythmig tebyg i’r hyn a glywid gan Harrison.


WYT TI’N NABOD MR PEI? Y Bandana (2011) / I WANT YOU (SHE’S SO HEAVY) Abbey Road (1969)

Mae hon i’r gîcs. Er nad oedd rhythmau reggae trawsacennog ‘Wyt Ti’n Nabod Mr Pei’ yn ymddangos yng ngwaith y Beatles yn y cyfnod hwn, mae’r gymhariaeth hon yn gyfeiriad at berfformiadau byw cynnar y Bandana.

I’r rhai ohonoch oedd yn mynychu eu gigs yn rheolaidd yn ystod cyfnod rhyddhau eu halbwm cyntaf, byddwch yn cofio, efallai, nad oedd y grŵp yn gorffen ‘Mr Pei’ yn y modd arferol. Sylweddolodd y grŵp bod y gân yn cynnig ei hun i outro epig a oedd yn parhau am lawer o funudau. Pa ffordd well i orffen na defnyddio outro ‘I Want You’, o’r albwm Abbey Road, felly?

Mae’r gân yn 7:47 o hyd, ac mae’r mwyafrif helaeth o’r gân yn cynnwys y prif riff, gyda chordiau arpeggio ar gitâr arall. Wrth iddi adeiladu i’r diwedd, ac yna’n gorffen yn gwbl annisgwyl, ceir yma un o fomentau mwyaf epig y Beatles wrth iddynt arbrofi â ffurf gynnar o roc blaengar (prog rock).

Efallai bod y cysylltiad yn un hirwyntog, ond mae’r cyfle i’ch cyflwyno i ‘I Want You’, os nad ydych wedi ei chlywed o’r blaen, yn gyfle rhy euraidd i’w golli.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s