CHRIS ROBERTS
Cefais yr albym Troi a Throsi yn anrheg Nadolig yn 2011 ac fe wirionais arno yn syth. Pan mae nosweithiau tywyll y gaeaf yn cau amdanai fyddai bob amser yn troi yn ôl at yr albym yma. Mae Yr Ods yn fand sydd byth yn aros yn yr unfan, bob amser yn barod i arfbrofi a newid eu sain ychydig bach. Ar Troi a Throsi mae eu sŵn nhw fwyaf accessible. Gellir yn hawdd ddychmygu clywed y caneuon yma yn cael eu chwara’ ar Radio 2 neu Absolute. Mae’n debyg i sŵn pop / roc o’r 80au, rhywbeth sy’n bodloni clustiau o bob oedran. Mae’r albym yn fy atgoffa i o Fleetwood Mac o’r adeg Rumours mewn sawl ffordd. Mae’r themâu o fod mewn perthynas cenfigennus, paranoid, anhapus yn debygolrwydd amlwg, ond mae hefyd ychydig o gymhariaethau i’w wneud yn y gerddoriaeth yn enwedig y ffordd y mae’r gwahanol leisiau yn plethu hefo’i gilydd.
Mae’r gymhariaeth hefo Fleetwood Mac ar ei fwyaf amlwg yn Dadansoddi. Mae’r geiriau yn ddi-flewyn ar dafod a phwerus “Rwyt ti angen gwybod fod rhywbeth am newid. Rydw i angen gwybod bob dim.” Mae’n creu darlun clir o’r berthynas sydd ar ddymchwel i’r gwrandawr. Mae’r geiriau yma llawn paranoia a di-obaith am y berthynas yna’n cael ei wrthgyferbynnu hefo synths bachog, hapus sydd yn cyfleu sut all popeth fod i weld yn iawn ar yr arwyneb ond bod tensiynnau yn adeiladu o dan hynny.
Mae aelodau Yr Ods i gyd yn gweithio ar borsiectau cerddorol cyffrous ar hyn o bryd sydd yn destament i’r talent sydd yn y band, ond dwi’n gobeithio’n arw y daw nhw nôl at eu gilydd rhyw ben yn y flwyddyn newydd achos mae be’ mae’n nhw’n ei wneud fel band yn arbennig!