GETHIN GRIFFITHS
Un o ffefrynnau mawr y corau yw ‘O Gymru’ gan y diweddar Rhys Jones. Rydym wedi arfer clywed y gân ar ei ffurf gorawl, a’r cyfeiliant piano dramatig – ond faint ohonoch sydd yn gwybod ei bod yn faled roc penigamp?
Mae llais Eleri Llwyd yn hynod nodedig ac yn nodweddiadol o ganu pop Cymraeg yn y chwedegau a’r saithdegau. Mae ‘na elfen glasurol i’w llais, ac mae ganddi range sydd yn gwneud yn siŵr bod y nodau isel, dwfn, yr un mor effeithiol a’r nodau uchel.
Fodd bynnag, mae’r trefniant yma’n gwrthgyferbynnu’n gryf â’r naws glasurol yn y llais. Mae’r drymiau a’r gitâr yn awgrymu rhyw fath o faled roc am serch. Mewn ffordd – cân o gariad at Gymru ydi ‘O Gymru’, yn yr un modd â chân serch am unigolyn arall.
Mae’r geiriau’n bwerus heb fod yn areithiol, yn wladgarol heb fod yn or-wleidyddol, ac yn serchus heb golli urddas.
Chwiliwch allan am fwy o draciau’r dydd wythnos nesaf!!