Pop Cymraeg a’r Welsh Pops

GETHIN GRIFFITHS

13680325_1111856008895807_5277575430855978203_o

Llun: Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Ydy’r Sîn Roc Gymraeg yn tyfu fyny? Yn sicr, mae wedi aeddfedu yn ystod 2016. Ac eithrio operâu roc y saithdegau a pherfformiad Meic Stevens â Cherddorfa’r BBC, nid yw’r sîn erioed wedi gweld cymaint o gymysgu rhwng genres poblogaidd a rhai clasurol. Efallai eich bod yn buryddion ac yn credu’n gryf na ddylai cerddoriaeth boblogaidd – cerddoriaeth brotest yr ugeinfed ganrif, cyfrwng angst yr ifanc a mwynhad y wêr gyfoes, fynd yn agos at yr un cerddorfa, ond mae’n rhaid i mi anghytuno’n gryf.

Fel aelod o ‘Clwb Cariadon’, prosiect achlysurol a sefydlwyd fel rhan o gyfres Sesiynau Unnos BBC Radio Cymru, mi’r oeddwn i’n ddigon ffodus o fod ymysg cerddorion hynod ddawnus a oedd â’r bwriad i ddod â’r cymysg hwn o genres yn fyw. Roedd Owain Llwyd a Casi Wyn wedi gweithio â’u gilydd eisoes ar brosiectau tebyg, gydag Owain yn trefnu caneuon Casi ar gyfer cerddorfa’r BBC ac ar gyfer pedwarawd llinynnol. Yn naturiol, roedd cynnwys Owain fel rhan o’n tîm yn golygu bod yna flas clasurol/ffilmaidd yn sicr o fod yn rhan o’r canlyniadau – a dyma’n union a gafwyd. Rhaid dweud, fodd bynnag, mai nid dewis cydwybodol o gymysgu genres oedd y bwriad – ond yn hytrach, darganfyddwyd fod nifer helaeth o ein dylanwadau cerddorol Eingl-Americanaidd yn gwneud defnydd o gerddorfa a phedwarawdau llinynnol yn barod. Does dim ond rhaid gwrando ar Florence and the Machine neu First Aid Kit i glywed defnydd o’r fath o linynnau byw. Doedd hyn ddim yn newydd, o bell ffordd, felly – gwrandewch ar unrhyw gân disco, neu unrhyw sampl hip-hop – mae llinynnau’n holl bresennol. Yr hyn oedd yn wahanol y tro hwn, oedd ein bod yn defnyddio’r offerynniaeth ehangach hwn fel rhan greiddiol o’r broses o ysgrifennu cân. Efallai fod diffyg cyllid artistiaid Cymraeg yn golygu nad yw’n bosib iddynt dderbyn cefnogaeth cerddorfa neu offerynniaeth o’r fath, ac felly roedd y sain a grëwyd yn gwbl newydd. A dyma yw’r pwynt.

Mae’n digwydd o hyd – mae’r sîn yn ffynnu, ac yna’n distewi, ac yna’n ffynnu eto, o ganlyniad i’r ffaith fod grwpiau ac artistiaid yn tueddu i gyrraedd uchafbwynt yn eu poblogrwydd tua’r un pryd, ac nid oes digon o artistiaid eraill i gymryd eu lle wrth iddynt syrthio o’r brig. Ond nid oes yn rhaid i’r uchafbwynt hwnnw fod yr un fath bob tro. Nid oes rhaid i ‘hedleinio’ Maes B fod yn uchafbwynt. Nid oes rhaid ennill gwobr Selar i gyrraedd uchafbwynt. Rwan, mae na uchafbwynt newydd – chwarae â’r Welsh Pops Orchestra.

Unwaith eto, i buryddion clasurol, efallai bod arddull ffilmaidd y Welsh Pops yn gwneud i chi wingo drwy eich harpsichords mewnol, ond digwyddodd rhywbeth arbennig iawn wrth iddynt gynnig cyfeiliant i dri o grwpiau mwyaf ein cyfnod ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol. Ers i Geraint Bowen, taid Gwilym Bowen Rhys a llywydd pwyllgor Pabell Lên a Drama Eisteddfod Genedlaethol 1967 roi’r Blew ar lwyfan y babell y flwyddyn honno, ni fu i’r Eisteddfod fentro i gofleidio ein sîn roc i’r graddau hyn o’r blaen. Mae Maes B yn cynnig ghetto o gerddoriaeth boblogaidd Gymraeg bob blwyddyn ers 1997, a gigs Cymdeithas yr Iaith yn holl bresennol ers tro byd, ond dyma i chi foment – moment pan roddwyd ein hoff grwpiau ar lwyfan y PAFILIWN. Llwyfan y pafiliwn… NEWYDD.

Oes, mae arwyddion yn dod i’r amlwg sy’n datgan fod yr Eisteddfod yn barod i symud ymlaen i’r unfed ganrif ar hugain. Nid oedd modd anwybyddu llwyddiant a phoblogrwydd ysgubol grwpiau fel Swnami, Yr Ods a Candelas mwyach – roedd yn rhaid eu cofleidio, a hynny mewn steil. Unwaith eto, bu galw ar Owain Llwyd, cyfansoddwr a darlithydd ym Mhrifysgol Bangor i gamu i’r adwy gerddorol, a throi caneuon y grwpiau hyn yn gampweithiau arallfydol.

Mae’n debyg mai caneuon Yr Ods oedd yn rhoi’r sgôp cerddorol ehangaf i Owain a’i drefniannau – roedd y caneuon arafach yn galluogi iddo arbrofi. Roedd perfformiad dynamig arferol Candelas yn cyd-fynd â choreograffi naturiol y gerddorfa yn anhygoel (ac yn bennaf drawiadol am mai Osian ei hun oedd wedi gwneud y trefniannau). Ond, i mi, yr uchafbwynt oedd set Swnami. Eu perfformiad nhw oedd yn agor y noson, a’u perfformiad nhw a gododd y gynulleidfa ar eu traed a gwneud i ni fod eisiau mynd i lawr i’r tu blaen. Mae’n rhaid i mi gyfaddef – fi oedd y cyntaf ar fy nhraed, a hynny dim ond ar ôl rhagarweiniad y gerddorfa… Cymysgedd o edmygedd ac ambell beint. A i ddim i fanylder cerddorol, ond mi ‘nath yr adran bres yn rhagarweiniad Gwenwyn chwalu fy mhen i. Mi nes i, a channoedd o bobl eraill, brofi rhywbeth nad ydw i erioed wedi ei brofi o’r blaen – ein hoff ganeuon Cymraeg wedi eu troi yn drac sain byw o gymhlethdod cerddorol o’r safon uchaf. Mae’n saff dweud fy mod yn un o’r pobl mwyaf cenfigennus yn y byd am ychydig funudau – ond mi’r o’n i hefyd mor falch fod y grwpiau hyn, sydd wedi gweithio’n galed dros y blynyddoedd diwethaf i gyrraedd safon uchel iawn, yn cael cydnabyddiaeth i’r fath raddau. Ac mi’r oeddan nhw’n sicr yn mwynhau eu hunain. Moment hanesyddol – heb os.

Ac yna, ar nos Sadwrn olaf yr Eisteddfod, mi gawsom ni berfformiad clywedol a gweledol drawiadol gan Fand Pres mwya’r foment – Band Pres Llareggub. Roedd y grŵp a oedd yn hedleinio Maes B y tro hwn… yn FAND PRES! Os nad yw hyn yn brawf mai 2016 yw blwyddyn y crossover, ‘dwn i ddim be’ sydd. Mae cerddoriaeth boblogaidd Gymraeg yn tyfu i fyny y flwyddyn yma, ac yn cyrraedd uchelfannau na welwyd o’r blaen. Efallai nad yw’n cyflawni ein obsesiwn o dderbyn cydnabyddiaeth y tu hwnt i’r ffin, ac rwy’n gwybod, mae pawb wrth eu boddau yn clodfori’r SRG (a hynny oherwydd eu bod ofn ei cholli’n gyfan gwbl), ond ga’ i plis awgrymu ein bod ni wedi gweld rhywbeth anhygoel y flwyddyn yma?

Mae na safon newydd rwan. Safon gwbl newydd. Ac efallai mai electronig fydd y dyfodol, efallai mai grwpiau Ôl-ôl-bync hollol syml yw’r dyfodol – ond yn sicr, mae’r bar wedi codi, ac mae’n rhaid neidio’n uchel iawn i guro’r wefr a deimlwyd ym Mhafiliwn y Fenni nos Iau diwethaf. Fandiau ifanc, gyfansoddwyr ifanc, gerddorion ifanc, ydych chi’n barod am yr her?

7 thoughts on “Pop Cymraeg a’r Welsh Pops

  1. Ti’m yn gwybod am Ariannu Byw mae’n amlwg. Y Pafiliwn yn ffrwydrad o egni roc a rôl am oriau lawer. Ian Gill â Dinas Naw yn arwain y gad a’r cyfan yn fodd i fyw i lencyn fel fi yn yr 80au.

    Like

  2. Wn i ddim a ydw i’n cytuno a dy farn mai dyma fydd pinacl gyrfa i grwpiau pop o hyn ymlaen. Roeddwn yn y cyngerdd nos Iau, a chefais fy swyno gan yr awyrgylch cyn clywed nodyn o’r llwyfan, roedd y disgwyliad yn drydannol, ac yn wir cafwyd perfformiadau proffesiynnol gan y bandiau, ac hefyd wrth gwrs gan y WPO, ac aeth pawb o’na wedi cael llond boliad o adloniant.
    Mae grwpiau a cherddorion yn y sin yng nghymru wedi defnyddio trefniadau llinynnol erioed, dyw hynny ddim byd newydd. yr hyn oedd yn wir wahannol nos iau oedd y ddelweddiaeth. Goleuadau, mwg, sgriniau fidio enfawr, rhengoedd o ferched ifanc yn chwarae feiolins yn unffyrf yn eu gwyn a du (blaw am un bachgen) delweddau rydym yn gyfarwydd a nhw ar y teledu ar raglenni megis X-Factor a The Voice, yn wir, gyda ymddangosiad Alice Williams i berfformio efo Candelas, bron bu rhaid i mi binsio fy hun! Wrth gwrs bod lle i bob math o adloniant (nid bloedd gwrth showbis yw hon), ond “one off” oedd y cyngerdd hwn, nid adlewyrchiad o ble mae’r sin wedi ei gyrraedd, nac yn mynd. Un noson yn y Steddfod, fel y cyngerdd gwerin gynhyrfodd ffolkies ein gwlad y llynedd, un tric showbis gan y steddfod i lenwi seddau, un gig a chydig iawn yn gyffredin a beth sy’n digwydd weddill y flwyddyn. Y flwyddyn nesaf fe fydd yr eisteddfod wedi meddwl am dric arall i’n swyno, i’n twyllo (yn fwriadol neu ddim) i gredu bod ein diwylliant yn gryfach nag ydi o go iawn. dydi gigs gwerin ar y cyfan ddim yn llenwi ein neuaddau a’n bariau, bum yn gwylio Sian James ynghyd a dim ond pymtheg arall mewn noson 4a6, dydi gigs y SRG ddim yn ffynnu, bum yn gwylio Cowbois mewn Llangollen wag yn Bethesda. Mae’r eisteddfod yn wych am wneud i ni gredu bod yr ardd yn wledd o liwiau, pan nad yw ond “vase” o flodau go iawn.
    Digwyddiad llwyddianus yn sicr. Hanesyddol? falle. Uchafbwynt Blynyddol/rheolaidd? Gawn ni weld

    Like

    • Diolch am y sylw. Dydw i’n sicr ddim yn meddwl mai dyma yw’r pinacl, o gwbl. Rwy’n deall fod cerddorion llinynnol ar lawer o draciau – yn enwedig yn y byd gwerin, yn naturiol, ac ar recordiadau pop hefyd. Ond mae ‘na ryw ymdeimlad rwan fod bandiau ifanc pedair blynedd yn ôl yn cael cyfle i arbrofi â cherddoriaeth yn ehangach – GYDA chefnogaeth cerddorfeydd proffesiynol a chydnabyddiaeth gan yr Eisteddfod. Mae hynny’n beth da, yn sicr. Dy bwynt am y gigs bychain yn wir – dydw i ddim yn honni am unwaith ein bod mewn cyfnod hynod lewyrchus (fel ‘dwi’n ei ddweud yn y blog), ond dw i wirioneddol yn teimlo fod y bandiau hyn wedi cael cyfle nad yw aml i fandiau gwych eraill dros y blynyddoedd wedi ei gael. Diolch am dy sylw unwaith eto – anghytuno rhwng cenedlaethau yma efallai!

      Like

  3. Pingback: Trac y Dydd – Anifail gan Candelas | Sôn am Sîn

  4. Pingback: Trac y Dydd #31 – Trwmgwsg gan Sŵnami | Sôn am Sîn

  5. Pingback: Pam y bydd Gig y Pafiliwn 2017 yn well na llynedd… | Sôn am Sîn

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

w

Connecting to %s