GETHIN GRIFFITHS
Dydi Ceri Cunnington a Gai Toms erioed wedi cuddio eu daliadau gwleidyddol rhag y genedl. Er mai ar ffurf reggae a ska Anweledig y bu i ni glywed eu sylwadaeth gymdeithasol y tro cyntaf, maent erbyn hyn wedi troi at roc trwm pyncaidd fel cyfrwng i’w rhwystredigaeth. Mae ‘Pinc Tu Mewn’ yn un o’r caneuon hynny sydd yn hollol syml, ond eto’n gwbl effeithiol, a hynny’n ganlyniad o uniongyrchedd eu neges.
Wrth i hiliaeth yn ein cymdeithasau gynyddu o ganlyniad i refferendwm Brexit ac etholiadau tebyg, mae’r gân hon yn hynod amserol. Mae’r ailadrodd syml, gwbl amlwg yn y gytgan yn ein gorfodi i lyncu’r neges a sylweddoli nad oes gwahaniaeth rhwng dau berson o hîl wahanol yn y bôn. NID yw unrhyw ganlyniad gwleidyddol yn ddigon o esgus i droi yn erbyn unrhyw berson o gymuned wahanol i chi. Mae hynny’n hiliol – a does dim modd dadlau yn erbyn hynny.
Mae rhai unigolion yn derbyn camdriniaeth gan rai, a hynny’n seiliedig ar ragfarn ethnig YN UNIG. Nid unrhyw bolisi, deddf nag etholiad sy’n gyfrifol am hynny, ond methiant sylfaenol ein cymdeithas i addysgu ein plant nad oes angen gwahaniaethu i’r fath raddau. Does neb yn cael eu geni i feddwl hyn. Beth am beidio troi yn erbyn ein cyd-ddyn pan mae pethau’n mynd yn anodd, fel yr ydym wedi ei wneud droeon yn hanesyddol? Beth am ddysgu o hynny rwan? Beth am sylweddoli bod pawb, wir yr, yn binc tu mewn?