CHRIS ROBERTS
Band ifanc o Gaerdydd sydd yn cael ein sylw ni heddiw, Hyll. Mae’r hogiau o yn un o nifer sydd yn sgwennu pop-pync bachog yn y sîn ar hyn o bryd, sŵn rydw i yn hoff iawn ohono. Maent wedi rhyddhau dwy sengl hyd yn hyn ar label JigCal, yr ail ohonynt, Ysgol, yn sengl ddwbwl hefo Camau Gwag gan Cadno.
Mae’r gân yn dechrau hefo sŵn hudol, araf bach sydd yn denu’r gwrandawr mewn, ac yno, yn di-rybydd mae’r riffs yn ein taro. Mae’r sŵn yn hwyliog, ifanc a ychydig bach yn camp! Allaim meddwl am lawer o fandiau Cymraeg eraill sydd yn fy atgoffa i o Electric Six ond mae’r riffs dros ben llestri a’r lyrics syth i’r pwynt yn y gân yma yn! Mae dylanwad Gorky’s hefyd i’w glywed yma wrth i’r tempo arafu a ymdeimlad y lyrics newid ar ddiwedd y gân. Mae’r lyrics yn cyfleu teimladau a rhwystredigaeth y canwr yn glir. Dwi’n siwr bod pawb yn gallu uniaethu efo rhai o’r pethau tydi Hyll ddim yn hoffi am yr ysgol, ond hefyd y teimlad fod dwy ochr i bopeth ac yn aml nad ydyn ni’n gwerthfawrogi be’ sydd gennym tan ei fod o wedi mynd.
Dwi’n edrych ymlaen i glywed mwy gan Hyll. Er fod y sŵn pop-pync yn un poblogaidd yn y sîn ar hyn o bryd, mae’r holl fandiau hefo eu take nhw’u hunain arno ac efallai mai Hyll yw’r mwyaf hwyl allan ohonyn nhw i gyd.
HW – HA HUFEN IA!