CHRIS ROBERTS
Mae’n cael ei ddweud yn aml fod y Sîn Roc Gymraeg mewn cyflwr da iawn ar hyn o bryd. Dwi’n tueddu i gytuno efo hynny, ond, mae yna un man gwan amlwg yn sîn. Hynny ydi’r cyn lleied o ferched sydd yn rhan ohoni. O edrych ar line-up Maes B eleni doedd dim merched o gwbl yn perfformio Nos Fercher na Nos Wener, ag eithrio Elan a Mari yn DJio, a dim ond llond llaw ar y ddwy noson arall. (Nid yw hyn yn feirniadaeth ar drefnwyr Maes B gyda’r llaw, mae stori tebyg mewn gwyliau ar hyd y wlad).
Mae’r sefyllfa i weld yn gwella yn ara’ bach gyda Chroma yn curo Brwydr y Bandiau eleni, Glain Rhys, Magi Tudur a Pyroclastig yn recordio a gigi yn aml, a’r band sy’n cael ein sylw ni heddiw, Cadno yn brysur iawn yn ddiweddar.
Dwi wrth fy modd hefo’r gân Ludagretz, mae yno rywbeth ofnadwy o ffilmic am sŵn seicadelic y band, mae’n rhoi darlun clir yn fy mhen i o ferch ifanc gobeithiol yn rhoi neges mewn potel, gan ddyheu iddo gyrraedd y derbynydd ac yntau yn mynd ar goll yn y môr. Mae llais y prif leisydd, Rebecca Hayes, yn sefyll allan yn y gân, mae’n hollol hudol ac yn fy ngwneud i fynd yn ôl at y trac yma dro ar ôl tro. Allaim disgwyl clywed mwy gan Cadno, a gobeithio y bydden nhw’n hynod brysur yn 2017 yn gigio ar hyd y wlad!