Mae trac y dydd heddiw yn un nad ydych wedi ei glywed o’r blaen. Mae’n debyg. Mae’n un na fuaswn i wedi ei glywed oni bai am fotwm Shuffle ar Spotify.
Mae gen i soft spot am y cyfansoddwyr hynny o’r 60au/70au oedd yn mynnu chwalu ffiniau genres. Simon, Cohen, Endaf Emlyn. I mi, mae Endaf Emlyn yn un o’r cyfansoddwyr mwyaf hyblyg a mwyaf creadigol erioed. Ac mae Glaw yn brawf o hyn. Mae pob cyfansoddwr o’r cyfnod yn cael ei ‘foment 3AM’ – Simon gyda Still Crazy, Endaf Emlyn gyda Glaw. Os gwrandewch, neu PAN wrandewch arni – bydd yr oriau canol nos yn dod i’ch meddwl yn syth, yr oriau ‘na lle mae’ch meddwl chi wedi bod yn troi am gyhyd, rydych yn creu rhyw high naturiol, arallfydol, i chi eich hunain.
Mae’n fy atgoffa i o’r Nos Yng Nghaer Arianrhod, Bando, yn y modd y mae’n arafu bywyd, a phwysleisio pwysigrwydd yr ennyd hon. Mae’n jazz, mae’n bop hawdd-i-wrando-arno, mae’n gyfle i chi fyfyrio yng nghwmni’r Endaf ddiymhongar.
Heb y botwm shuffle ‘na…