CHRIS ROBERTS
Roedd be wnaeth Gorky’s Zygotic Mynci ei gyflawni fel band yn wirioneddol arbennig – band ifanc, wedi ffurfio mewn ysgol uwchradd Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin, yn creu cerddoriaeth ar eu termau eu hunain. Roedd y band yn chwalu holl reolau a confensiynau canu pop. Roeddent yn newid rhwng y Saesneg a’r Gymraeg yng nghanol caneuon, yn newid tempo yn ddramatig, ac roedd pawb o’r band yn chwara’ ‘popeth o bob dim’. Dipyn o hunlle’ i swyddogion marchnata y byd cerddoriaeth, mae’n debyg, ond fe gafodd y band gryn lwyddiant; cael eu chwara’ ar Radio 1, perfformio ar Later with Jools Holland a theithio’r byd! Mae pobl sydd yn ffans o Gorky’s yn wirioneddol frwdfrydig am y band ac mae’n hawdd gweld pam, mae’n debyg fod y band wedi newid bywydau!
Mae Trac y Dydd heddiw, Patio Song yn llwyddo i ddal pob dim sydd yn arbennig am y band mewn un cân dwi’n meddwl, y defnydd o’r ddwy iaith, y newid tempo, y gerddoriaeth pop hyfryd a geiriau ffraeth i godi gwên.
Yn ddiweddar fe ddaru Recordiau Prin ryddhau Iechyd Da – albym deyrnged i Gorky’s Zygotic Mynci gyda cerddorion yn gwneud eu fersiynau eu hunain o ganeuon y band (tebyg i ABBAmania, cofio hwnnw?!). Mae pob math o artistiaid, o bop i werin, ac o R’n’B i electroneg, yn ymddangos ar yr albwm ac mae hyn yn dweud dau beth wrthym am y band. Yn gyntaf, cymaint eu dylanwad ar bob math o gerddorion o Gymru ac, yn ail, chwedl Rhys Mwyn, mai ‘Cân dda ‘di Cân dda’, a bod modd gwneud gymaint hefo caneuon gwych y band – mae’n werth gwrando ar yr albwm os gewchi gyfle.
Sôn am Rhys Mwyn, wythnos yma ar ei raglen radio fe ddaru Elis James a Ian James Johnson ymuno hefo’r cyflwynydd i drin a thrafod Gorky’s – trafodaeth ddifyr fel arfer!