GETHIN GRIFFITHS
Mae enw HMS Morris wedi bod o gwmpas ers tipyn erbyn hyn – yn enwedig gan iddynt fod yn rhan o brosiect Gorwelion llynedd. Mae rhai wedi disgwyl yn hir, felly, am Interior Design. Cawn yma gasgliad quirky, ychydig yn wahanol, sydd yn gadael i Heledd Watkins serennu – yn enwedig wrth iddi gynnig lleisiau cefndirol iddi hi ei hun.
Byddaf yn adolygu’r albwm hon ar raglen Lisa Gwilym heno – felly dydw i ddim am ddatgelu gormod o fy nheimladau! Ond, dyma i chi un o’r caneuon unigol gorau ar yr albwm, a’r mwyaf bachog. O gri cychwynol y grŵp – ‘There might be a way’!, hyd at ddiwedd y gân – cewch yma siwrna reit wahanol, sy’n gymysg o bop electronig a gwaith lleisiol trawiadol.
Lisa Gwilym, Radio Cymru – tua 8 heno!