Trac y Dydd #7 – Llenyddiaeth gan Cpt. Smith

CHRIS ROBERTS

cover

Fe ddaw Trac y Dydd heddiw gan un o fandiau ifanc mwyaf cyffrous y Sîn Roc Gymraeg – Cpt. Smith. Un o senglau cyntaf y band o Sir Gaerfyrddin ydi Llenyddiaeth. Fe gafodd ei rhyddhau gan label I KA Ching yn gynharach yn y flwyddyn a’i chynnwys ar y albym aml-gyfrannog I KA Ching 5.

Mae’r trac yn cychwyn yn ddigon ddiymhongar gyda bassline ffynci cyn i gweddill yr offerynau gicio mewn. Mae cyflymder y gân yn adeiladu yn eithaf cyflym wrth i’r band ein arwain ni tuag at eu tempo nhw. Mae’r gân i gyd yn adeiladu tuag at crescendo y breakdown anhygoel tua’r diwedd gyda’r offerynau i gyd yn sgerchian ar y grandawr a creu sŵn byddarol, hyfryd.  Mae’n ffrwydriad o egni ac yn datgan bwriad y band i wneud pobl wrando arnynt.

‘Da ni’n clywed lot o fandiau yn creu pop pynci, bachog yn y sîn ar hyn o bryd, ond mae stwff Cpt.Smith yn fwy amrwd na llawer o’r petha’ sydd allan yna ac mae hyn yn gwneud iddynt sefyll allan. Dwi’n cael y teimlad fod gan y band yma rhywbeth i ddweud wrthym ni a ‘dw i’n edrych ymlaen i ffeindio allan be’! Mae eu EP cynta nhw, Propellor allan ar y 11ed o’r mis yma, cadwch glust allan amdani!

Mae’r gân yma wedi ei gynnwys ar albym aml-gyfrannog arbennig #MoreInCommon sydd ar gael i lawrlwytho oddi ar bandcamp rwan. Mae yno 95(!!) cân ar yr albym, i gyd gan gerddorion a bandiau cyfoes o Gymru. Fe allwch chi ei lawrlwytho hi am ddim ond £5, gyda’r arian yn mynd i’r elusen Hope not Hate. Mae’n ffordd ffantastig o gael gafael ar llwyth o ganeuon Cymraeg gwych ac efallai ffeindio eich hoff fand newydd! Mae yna wir amrywiaeth ar yr albym o indie i werin, i gerddoriaeth electroneg – rhywbeth at ddant pawb dwi’n siwr. Mwynhewch!

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s